skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH

Cyswllt: Ann Roberts  01286 679780

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

Cofnod:

Y Cynghorwyr Craig ab Iago, Thomas G. Ellis, Alan Jones Evans, Gareth Thomas a John Wyn Williams.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw fuddiant personol

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried

Cofnod:

Dim.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 75 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfodydd o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 13 Hydref 2016 a 22 Tachwedd 2016 fel rhai cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfodydd blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 13 Hydref a 22 Tachwedd 2016 fel rhai cywir.

 

5.

ADRODDIAD YR AELOD CABINET - Y GYMRAEG

I gyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet – Y Gymraeg

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad llafar yr Aelod Cabinet – Y Gymraeg, yn manylu ar ddatblygiadau diweddar o fewn y maes, gan gynnwys y canlynol:-

 

·         Cafwyd cyfarfod buddiol ac adeiladol gydag Alun Davies AC i drafod trefniant Hunaniaith yn y Cyngor a’r bwriad i ddatblygu cynlluniau perthnasol i Wynedd.  Cydnabuwyd bod sefyllfa Gwynedd yn dra gwahanol.

·         Bwriedir cynnal seminar ym mis Mai/Mehefin yng Ngwynedd a fydd yn cynnig cymorth i gymunedau i hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg yn eu hardaloedd.

·         Cafwyd yr ail gyfarfod o’r Bwrdd Hunaniaith gyda Swyddogion Iaith y cyrff cyhoeddus erailli drafod sut y gallant gyfrannu tuag at ein Strategaeth.  Disgwylir i’r Bwrdd fabwysiadu’r Cynllun Llesiant newydd a rhoi ymrwymiad i’r Gymraeg.

·         Y gweithgareddau lleol amrywiol i hyrwyddo’r Gymraeg ar draws y sir yn cynnwys gweithgareddau ym Mangor a gwaith da Y Popty.

·         Gwaith y Siarter Iaith – gweithgor yn cyfarfod i drafod cynnydd y gwaith yn yr Ysgolion Uwchradd.

·         .

 

Mewn ymateb i sylw bod trafodaethau yn digwydd yn y Saesneg yng nghyfarfodydd tu allan i’r Cyngor, adroddwyd bod prosiect ar y gweill gyda’r gwasanaethau cyhoeddus er ceisio cael y gwasanaethau normaleiddio’r Gymraeg trwy ymrwymo i’r cyswllt cyntaf fod yn y Gymraeg bob tro i.

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad.

 

6.

CYFLWYNIAD PRIF AMCANION STRATEGAETH IAITH UWCHRADD (DRAFFT)

I dderbyn sylwadau aelodau’r Pwyllgor Iaith

Cofnod:

Derbyniwyd y cefndir gan y Swyddog Addysg Ardal.  Nodwyd bod plant Ysgolion Cynradd wedi eu trochi yn y Siarter Iaith ers tair blynedd a’r bwriad ydi adeiladu ar hynny.    Mae’r gwaith o greu strategaeth erbyn 31 Mawrth 2017 yn mynd rhagddo, gyda gweithrediad y strategaeth i ddigwydd o 1 Ebrill 2017 ymlaen.

 

Croesawyd Carys Lake, Arweinydd Canolfan Iaith Ysgol Eifionydd i’r cyfarfod ac eglurwyd ei bod yn gweithio am gyfnod ar gomisiwn i i greu’r strategaeth ar y cyd â’r Adran Addysg.

 

Cyflwynodd Arweinydd Canolfan Iaith Ysgol Eifionydd prif amcanion y Strategaeth Iaith Uwchradd (drafft) a rhoddodd y cyd-destun lleol i’r gwaith:

 

          Adroddiad Trywydd

          Adroddiad Ymchwiliad Craffu Addysg Gymraeg

          Adroddiad Alun Charles

          Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg

          Strategaeth Iaith Gwynedd 2014-17

          Cynllun Strategol Y Cyngor

 

Nodwyd bod yr adroddiadau uchod i gyd yn nodi bod angen sicrhau dilyniant o’r gwaith gyda’r Gymraeg yn y Cynradd i’r Uwchradd. 

 

O ran y cyd-destun cenedlaethol ac i gyrraedd y ‘Miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050’ ac i sicrhau bod y Gymraeg yn ffynnu rhaid cael yr holl randdeiliaid ynghlwm â’r Cynllun e.e. y staff i gyd.

 

Nod Strategaeth Iaith Uwchradd yw hyrwyddo defnydd cymdeithasol plant a phobl ifanc o’r Gymraeg a’i datblygu fel cyfrwng effeithiol ar gyfer bywyd yr ysgol yn ei holl agweddau.  Nodwyd bod dwy elfen i’r nod, sef y cwricwlwm a chymdeithasol.  Mae profiadau mewn gwersi yn dylanwadu ar yr elfen gymdeithasol.

 

Y cam nesaf fydd rhoi cyflwyniad i weithgor o gynrychiolwyr o blith Penaethiaid sydd wedi cyfarfod dwywaith i drafod yr amcanion drafft.  Cytunwyd ar yr wyth amcan canlynol:

 

                   i.        Arweinyddiaeth a disgwyliadau

                  ii.        Ethos

                 iii.        Llais a pherchnogaeth pobl ifanc

                iv.        Anghenion hyfforddiant

                 v.        Rôl yr Adran Iaith a’r Ysgol (arweiniad gan yr Adran Iaith a chael pobl ifanc i allu gwneud pynciau trwy gyfrwng y Gymraeg)

                vi.        Profiadau cwricwlaidd

               vii.        Dysgwyr pontio (troi dysgwyr yn Gymru i’w galluogi i ddysgu trwy’r Gymraeg)

              viii.        Yr Ysgol a’r Gymuned (cyswllt yr ysgol efo busnesau a’r gymuned)

 

Adroddwyd y bwriedir defnyddio’r wyth amcan uchod i osod meini prawf i fonitro llwybrau cynnydd.  Bydd y meini prawf yn gofyn am dystiolaeth i brofi cyrhaeddiad.  Adroddwyd bod gwaith yn mynd ymlaen i osod y meini prawf ynghyd â’r gofynion tystiolaeth a chydnabuwyd bod angen bod yn uchelgeisiol. 

 

Nodwyd bod Cyngor Gwynedd yn arwain yn y maes yma a bod gweddill Cymru yn edrych ar beth sydd yn digwydd yma yng Ngwynedd i gael arweiniad ar y ffordd ymlaen.  Yn ogystal, nodwyd bod Swyddogion Cyngor yn cyfarfod Llywodraeth Cymru yn gyson i drafod y ffordd ymlaen.

 

Derbyniwyd sylw aelod nad oedd yr ysgolion yn gyfarwydd neu ddim yn adnabod y broblem bod plant a phobl ifanc yn siarad Saesneg tu allan i’r ysgol.  Mewn ymateb adroddwyd bod angen gweithio efo pobl ifanc i genhadu yn gymdeithasol.  Gwnaed y sylw bod Clybiau Chwaraeon yn greiddiol i’r ateb o gael plant a phobl ifanc yn defnyddio’r Gymraeg yn gymdeithasol.  Nodwyd bod y cyfryngau cymdeithasol yn her a  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

ADRODDIAD YMCHWILIAD IAITH - GWELEDEDD Y GYMRAEG YNG NGWYNEDD pdf eicon PDF 57 KB

I gyflwyno adroddiad gan Gadeirydd yr Ymchwiliad

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Rheolwr Cynllunio Strategol, Perfformiad a Phrosiectau ar ran Cadeirydd yr Ymchwiliad gan nad oedd yn gallu bod yn bresennol.

 

          Eglurwyd y bu i aelodau’r ymchwiliad ganolbwyntio ar beth mae’r Cyngor yn gallu gwneud a’i wella o safbwynt gwelededd y Gymraeg yng Ngwynedd e.e. caffael, ynghyd â diwylliant ac ethos y Cyngor.  Ymchwiliwyd y meysydd canlynol

 

·         Rheolaeth y Cyngor o’r eiddo a’i diroedd ei hun

·         Trefniadau caffael y Cyngor

·         Amodau grantiau a chymorth y mae’r Cyngor yn ei ddyrannu

·         Y graddau o ddylanwad sydd gan y Cyngor ar arwyddion a osodir ar ymylon ffyrdd

·         Enwau tai a lleoedd

 

          Adroddwyd ar y cymorth a’r dystiolaeth a dderbyniwyd gan Dr Rhian Hodges a Dr Cynog Prys, Prifysgol Cymru, Bangor a Durk Gorter, Athro Ymchwil ac arbenigwr ym maes tirwedd ieithyddol o Ikerbasque.net, sef sefydliad o Wlad y Basg

 

          Nodwyd y prif bwynt sef bod angen bod yn rhagweithiol a pheidio â chymryd materion yn ganiataol.  Dylai’r Cyngor normaleiddio defnyddio’r Gymraeg yn gyntaf, fod yn rhagweithiol a hybu’r Gymraeg a bod yn uchelgeisiol a gwthio ffiniau. 

 

          Cyflwynwyd argymhellion drafft i’r Aelod Cabinet ac awgrymwyd bod lle i rannu ymarfer da efo eraill gan ystyried denu incwm ar yr un pryd. 

 

Adroddwyd bod materion amlwg yn yr argymhellion y gellir cyd-blethu efo cynlluniau Awdit Iaith.

 

          Adroddodd yr Aelod Cabinet – Y Gymraeg nad oedd yn gweld anhawster i weithredu ar yr argymhellion a bod gwaith wedi cychwyn ar wella gwelededd y Gymraeg drwy osod arwyddion Cymraeg yng nghynteddau’r Cyngor.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet – Y Gymraeg am y gwaith wnaed gan yr aelodau a’r swyddogion.

 

PENDERFYNWYD  derbyn argymhellion yr ymchwiliad a’u cyflwyno’n ffurfiol i’r Aelod Cabinet.

 

8.

GWEITHREDU SAFONAU IAITH pdf eicon PDF 271 KB

Cyflwyno’r profiad o baratoi a gweithredu safonau y Gymraeg, rôl Comisiynydd y Gymraeg a threfniadau i hybu a hyrwyddo defnydd y Gymraeg mewn ymateb i’r galwad am dystiolaethParatoi ar gyfer Bil y Gymraeggan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes.

Cofnod:

Cyflwynwyd crynodeb drafft o ymateb arfaethedig Cyngor Gwynedd i ddatganiad Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes ‘Paratoi ar gyfer Bil y Gymraeg – Cais am dystiolaeth’ gan y Rheolwr Gwasanaethau Iaith Gymraeg. 

 

Eglurwyd bod y Prif Weinidog a Gweinidog y Gymraeg  a Dysgu Gydol Oes wedi cyhoeddi eu bwriad i ystyried diwygio Mesur y Gymraeg 2011 yn sgil pasio’r Mesur pum mlynedd yn ôl.  Y bwriad yw cyflwyno gwelliannau i’r Mesur er mwyn cyflawni’r uchelgais o filiwn o siaradwyr erbyn 2050.

 

          Adroddwyd bod y Gweinidog yn gofyn tri chwestiwn yn ei ddatganiad.  Adroddwyd bod y Safonau Iaith yn ceisio dod â chysondeb ar draws Cymru ond bod y safonau yn feichus ac yn agored i ddehongliad.

 

          Cyflwynwyd ymatebion arfaethedig y Cyngor a gofynnwyd am sylwadau’r aelodau. 

          Diolchwyd am yr adroddiad cynhwysol a gwnaed y sylw bod safonau yn iawn fel maent ond nad ydynt yn berthnasol i Gyngor Gwynedd.  Gofynnwyd a oedd amserlen gan y Llywodraeth ac a oes bwriad i ymestyn i’r banciau, cwmnïau trydan, dŵr ac ati?  Nodwyd bod angen y Safonau.  Gwnaed y sylw bod gan Fwrdd Iaith arbenigedd yn y maes ac yn cynnig cefnogaeth ond y collwyd hynny gyda dyfodiad Swyddfa’r Comisiynydd.

 

Diolchwyd i’r Rheolwr Gwasanaethau Iaith Gymraeg am yr adroddiad a nodwyd pwynt pwysig yr aelod bod angen pwyso am yr arbenigedd yn y Bwrdd Iaith.

 

           PENDERFYNWYD cymeradwyo cynnwys yr adroddiad.

 

9.

AWDIT IAITH pdf eicon PDF 334 KB

I dderbyn diweddariad gan y Swyddog Datblygu Iaith - Gweithle

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad y Swyddog Datblygu Iaith yn crynhoi canfyddiadau’r Awdit Iaith a chynnig camau gweithredu pellach.

 

Diweddarwyd yr aelodau ar y datblygiadau yn y pedair adran dan sylw.  Adroddwyd ar y bwriad i geisio cael yr Adrannau i gymryd cyfrifoldeb am y cynlluniau gweithredu. 

 

Nodwyd bod

·         cynlluniau gweithredu mewn lle ar gyfer yr Adran Ymgynghoriaeth a’r Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant a bod angen cytuno ar amserlen.

·         cynllun gweithredu drafft wedi ei gynllunio gyda’r Adran Economi a phenderfynwyd ei ddal yn ôl nes y gellid gweld canfyddiadau’r Ymchwiliad Iaith.  Er hynny, nodwyd bod gwaith ymlaen gan y Gwasanaeth Twristiaeth i wella’r berthynas efo trefnwyr digwyddiadau i geisio dylanwadu ar y digwyddiadau a gynhelir yn y Sir.  Yn ogystal, nodwyd bod sylw penodol wedi ei roi i’r Gwasanaeth Hamdden drwy ail sefydlu sesiynau gwella’r iaith Gymraeg gyda’r staff.

·         y gwaith gyda’r Adran Rheoleiddio i gychwyn cyn bo hir.

·         y Swyddog Iaith yn ceisio sicrhau perchnogaeth yr Adrannau o’r cynlluniau gweithredu.

·         cynllun cyfathrebu yn gosod canllawiau ar sut i annog staff i fod yn fwy rhagweithiol ac i hybu siarad drwy’r Gymraeg bob amser.

·         mwy o staff wedi bod yn holi am y cortynnau Cymraeg yn ddiweddar a bod ceisiadau wedi dod gan staff i gael cymorth i greu arwyddion.

 

Yn dilyn sylw gan aelod bod amryw o staff di-gymraeg yn gweithio yng Nghanolfan Ail-gylchu cytunwyd i ymchwilio’r mater.

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad.

 

10.

CWYNION IAITH pdf eicon PDF 281 KB

I dderbyn diweddariad gan y Swyddog Datblygu Iaith - Gweithle

Cofnod:

Cyflwynwyd - adroddiad y Swyddog Datblygu Iaith yn manylu ar y tri chŵyn iaith ddiweddaraf i law a’r ymatebion.

 

Yn dilyn trafodaeth am arwyddion strydoedd adroddwyd y byddir yn edrych ar y polisïau ac yn adrodd i’r Pwyllgor Iaith yn ystod y flwyddyn wleidyddol nesaf.

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad.