Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Ann Roberts 01286 679780
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Ymddiheuriadau: Y Cynghorydd Owain Williams, Craig ab Iago a
Dyfrig Siencyn (Aelod Cabinet - y Gymraeg). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw fuddiant personol Cofnod: 1. DATGAN
BUDDIANT PERSONOL Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant
personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
CYNLLUN STRATEGOL Y GYMRAEG MEWN ADDYSG - DRAFFT PDF 155 KB I gyflwyno adroddiad y Swyddog Addysg Ardal Gwynedd Dogfennau ychwanegol: Cofnod: 2. CYNLLUN
STRATEGOL Y GYMRAEG MEWN ADDYSG - DRAFFT Diolchodd y
Swyddog Addysg Ardal am y cyfle i drafod ymhellach y drafft o’r Cynllun yn
ystod y cyfnod ymgynghori. Eglurwyd bod
y Pennaeth Addysg wedi gweithio’n agos gyda’r swyddogion i baratoi’r drafft o’r
Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg. Cyflwynwyd yr
adroddiad a gofynnwyd am sylwadau’r aelodau ar y Cynllun drafft. Derbyniwyd sylw
gan aelod nad oedd y Cynllun yn ei gyfanrwydd yn ddigon ymestynnol o ran dysgu
trwy gyfrwng y Gymraeg a bod y Polisi Addysg dwyieithog yn gwaethygu’r sefyllfa
drwy ddysgu un ai yn y Saesneg neu yn ddwyieithog. Adroddwyd bod
Swyddogion yr Adran Addysg yn gweithio ar y cyd ag Ymgynghorydd Allanol i
gyflawni Astudiaeth a fydd yn ymateb i gwestiynau a sylwadau’r aelodau ar
faterion lleol. Disgwylir adroddiad yr
Astudiaeth a fydd yn cynnwys casgliadau ac argymhellion ym mis Ionawr 2017. Derbyniwyd y
sylwadau canlynol gan yr aelodau ar y Nod ac Amcanion a’r saith Deilliant:- Nod ac Amcanion Cryfhau’r trydydd
pwynt bwled i ddarllen: “Yn CA2, parhau
i ddatblygu meistrolaeth disgyblion .....” Deilliant 1 – Mwy
o blant saith oed yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ·
Angen
cryfhau’r trydydd pwynt bwled i sicrhau cyfundrefn sy’n rhoi sylfaen gadarn yn
y Gymraeg cyn cyflwyno Saesneg. ·
Nodwyd
bwriad y cyfarfod oedd i drafod y Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg. Er hynny, awgrymwyd bod angen cryfhau
brawddeg y Polisi Iaith presennol: “nod cyffredinol y Polisi Iaith yw
dwyieithrwydd gan osod sylfaeni a thargedau cadarn”. ·
Angen
targedau mwy heriol os am gyrraedd targed y Llywodraeth o gael miliwn o
siaradwyr Cymraeg yng Nghymru erbyn 2050. ·
Angen
gwersi Cymraeg fel pwnc drwy’r blynyddoedd i gael
continwwm iaith. ·
Cynnwys
yr angen i gynnal astudiaeth ardrawiad iaith cyn cychwyn ad-drefnu ysgolion. ·
Angen i ganiatáu plant o bob oedran i fynychu
Canolfannau Iaith yn ôl yr angen, nid plant Blwyddyn 2 a hŷn yn unig. Deilliant 2 – Mwy
o ddisgyblion yn parhau i wella eu sgiliau Cymraeg wrth drosglwyddo o’r ysgol
gynradd i’r ysgol uwchradd. ·
Angen
targedau mwy heriol ac angen sicrhau cysondeb yn y defnydd o’r diffiniad
‘ail-iaith’ wrth fesur perfformiad yn erbyn y targedau. Mewn ymateb i gwestiynau’r aelodau
ynglŷn â’r targedau eglurwyd bod gan yr Adran
Addysg ffigyrau a thargedau lleol ond bod templed y Llywodraeth yn mynnu targed
cyfansawdd ar gyfer y sir. Deilliant 3 – Mwy
o fyfyrwyr 14-16 oed yn astudio ar gyfer cymwysterau drwy gyfrwng y Gymraeg a Deilliant 4 – Mwy
o fyfyrwyr 14-19 oed yn astudio pynciau drwy gyfrwng y Gymraeg, mewn ysgolion,
colegau a dysgu seiliedig ar waith. Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod
ynglŷn â chyrsiau galwedigaethol cydweithredol ôl 16 a ddarperir gan Goleg
Menai ar gyfer ysgolion ardal Arfon yn unig, eglurwyd bod y Cynllun yn adrodd
ar ysgolion yn hytrach na disgyblion.
Nodwyd bod sefyllfa Coleg Meirion Dwyfor yn wahanol. Deilliant 5 – Mwy
o fyfyrwyr â sgiliau uwch yn y Gymraeg Disgyblion Y Cyfnod sylfaen enillodd ddeilliant 5+ ar gyfer asesiadau athro ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 3. |