skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd ar gyfer 2018/19.

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD ail ethol y Cynghorydd Alwyn Gruffydd yn Gadeirydd am y cyfnod 2018/2019

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I eithol Is-Gadeirydd ar gyfer 2018/19.

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Elin W Jones yn Is Gadeirydd am y cyfnod 2018/19

 

3.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn ymddiheuriadau

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Aled Evans ac Elwyn Jones

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I ddatgan unrhyw fuddiant personol

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

5.

MATERION BRYS

I nodi unrhyw faterion brys sydd wedi codi

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw faterion brys.

 

6.

COFNODION pdf eicon PDF 99 KB

Y Cadeirydd i gadarnhau cofnodion cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y 24 Ebrill 2018.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y 24ain Ebrill, 2018 fel rhai cywir

7.

ADRODDIAD AELOD CABINET Y GYMRAEG

Cofnod:

Croesawyd y Cynghorydd Nia Jeffreys i’w chyfarfod cyntaf fel Aelod Cabinet y Gymraeg.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet am y cyfle i fod yn bresennol i gael gwrando ar y drafodaeth a chlywed blaenoriaethau’r Pwyllgor. Diolchodd i’r Cynghorydd Mair Rowlands am ei gwaith fel cyn Aelod Cabinet y Gymraeg. Eglurodd ei bod bellach yn y swydd ers dau fis ac yn dymuno gweld Gwynedd yn aros yn gadarn ac yn hyrwyddo’r iaith, er y miri Gwleidyddol sydd yn digwydd yn y Cyd-destun allanol. Cyfeiriodd at y gwaith da, cyffrous sydd yn cael ei wneud gyda Safonau Iaith, Cynllun Hybu’r Iaith a’r Strategaeth Iaith Uwchradd lle mynegodd bod llais plant yn ganolog i’w llwyddiant. Diolchodd i staff yr Uned Hunaniaeth am eu hymroddiad yn ysbrydoli ac yn hybu’r iaith, wyneb yn wyneb mewn digwyddiadau ar draws y sir.

 

I’r dyfodol hoffai weld datblygiadau mewn technoleg ac appiau Cymraeg a’r chael cynllun gweithredu i’r Cynllun Hybu’r Iaith yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus. Dymunai weld y Gymraeg yn iaith fyw ac yn iaith gwaith ac edrychai ymlaen at gydweithio gyda’r Pwyllgor i sicrhau hynny.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau unigol,

·         bod angen rôl oddefol i’r Pwyllgor yn hytrach nag un o graffu. Awgrym i ddatblygu rôl y Pwyllgor yn un i fod gyda mwy o ddylanwad.

·         bod angen datblygu cysylltiadau gyda’r Adran Addysg

·         bod angen cryfhau’r effaith rydym yn gael ar y sector breifat

·         nad yw'r Gymraeg yn fater technegol - angen adlewyrchu ei fod yn rhan ohonom

Cynigiwyd ac eiliwyd cynnal trafodaeth ehangach gyda’r Aelod Cabinet ynglŷn â rôl y Pwyllgor gan ystyried materion cyfansoddiadol a sefydlu pwrpas.

 

PENDERFYNWYD gosod eitem ar raglen y cyfarfod nesaf ‘ Datblygu Rôl y Pwyllgor Iaith’

8.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNGOR GWYNEDD AR WEITHREDIAD Y SAFONAU IAITH pdf eicon PDF 58 KB

Cyflwyno’r Adroddiad Blynyddol i sylw’r Aelodau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad mewn ymateb i ofynion Safonau Iaith lle mae gofyn i’r Cyngor lunio a chyhoeddi adroddiad blynyddol erbyn 30 Mehefin 2018 yn egluro sut yr oeddynt wedi cydymffurfio a’r safonau gweithred yr oedd ganddynt ddyletswydd i gydymffurfio a hwy. (Adran 44 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.

 

Cyfeiriwyd at y Safonau penodol yr oedd gofyn iddynt adrodd arnynt ynghyd ag unrhyw wybodaeth fyddai yn ychwanegu dealltwriaeth o’r camau penodol hyn.

Nodwyd bod yr adroddiad wedi ei gyhoeddi yn unol â’r amserlen yn dilyn cymeradwyaeth Tîm Arweinyddiaeth y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr Adroddiad Blynyddol, er gwybodaeth.

 

9.

YMGYNGHROIAD CYNLLUN HYBU'R GYMRAEG pdf eicon PDF 115 KB

Rhoi diweddariad i’r Aelodau am y broses o greu’r Cynllun Hybu ac adrodd ar ganfyddiadau’r ymgynghori cyhoeddus.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Rhoddwyd diweddariad i’r Aelodau ar y broses o greu’r Cynllun Hybu ynghyd ag adrodd ar ganfyddiadau’r ymgynghoriad cyhoeddus. Adroddwyd bod y strategaeth drafft ‘Cynllun Hybu’r Gymraeg yng Ngwynedd 2018 – 2023’ wedi ei llunio ar sail ymgynghori gydag aelodau a dadansoddiad o strategaethau a chynlluniau perthnasol yn y maes. Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus am gyfnod o chwe wythnos (24ain Ebrill - 5ed o Fehefin 2018) lle rhoddwyd cyfle i drigolion Gwynedd gyfrannu drwy holiadur ar-lein, drwy gysylltu yn uniongyrchol a’r uned Iaith neu drwy fynychu un o dri digwyddiad agored.

 

Nodwyd bod yr ymateb wedi bod yn galonogol (121 wedi cyfrannu) gyda sylwadau adeiladol wedi eu cynnig. Amlygwyd bod cynllun gweithredu ar waith a bod trafodaethau mewnol eisoes wedi eu cynnal. Rhoddwyd crynodeb o’r atebion a dderbyniwyd ynghyd a’r heriau cyffredinol oedd wedi eu hamlygu. Cyfeiriwyd at y cynigion y dylid eu hystyried mewn ymateb i’r sylwadau a rannwyd i feysydd blaenoriaeth.

 

Yng nghyd-destun ‘heriau cyffredinol’, amlygodd yr ymgynghoriad bod;

 

-       cyfleoedd a diffyg defnydd

-       mewnfudo a chefnogi dysgwyr

-       rôl technoleg

Yn ystod y drafodaeth ddilynol ymatebwyd i’r heriau gan aelodau unigol;

 

·         bod angen codi ymwybyddiaeth i’r iaith cyn mewnfudo i’r Sir gan dynnu sylw at y cyfleoedd ymlaen llaw

·         bod angen adnabod symudiad mewnfudo fel bod modd dehongli lle mae ar ei uchaf er mwyn ymateb i’r niferoedd

·         bod rôl benodol i dechnoleg  - angen rhoi mwy o sylw i hyn yn y cynllun

·         angen cyflwyno'r hyn sydd ar gael yn fwy effeithiol

·         angen adnabod cyfleoedd sydd yn addysgu dysgwyr i ddeall mai Cymraeg yw iaith y gymuned

·         rhaid parhau i gynnal sesiynau dysgu Cymraeg – hyrwyddo, codi ymwybyddiaeth, ymgyrchu

·         rhaid creu balchder ymysg Cymry Cymraeg

·         bod cyfrifoldeb ar bawb i roi cefnogaeth i’r rhai sydd eisiau dysgu siarad Cymraeg

·         creu cysylltiadau gyda chymunedau – trefniant mewn addysg bod rhieni yn dysgu’r iaith ochr yn ochr gyda’u plant.

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chynnwys y sylwadau uchod fel ystyriaethau ar gyfer y Cynllun Hybu terfynol.

 

10.

CYMRAEG YN Y GWEITHLE

            Diweddariad ar dynodiadau Iaith a Chefnogaeth Dysgu a Datblygu

Cofnod:

Derbyniwyd cyflwyniad gan Uwch Reolwr Cefnogaeth Gorfforaethol yn egluro sut roedd y Cyngor yn defnyddio’r Polisi Iaith i gryfhau Iaith yn y Gweithle. Eglurwyd bod y Polisi Iaith wedi ei adolygu yn 2016 ac adroddwyd bod gofynion Polisi Iaith Cyngor Gwynedd yn uwch na pholisi’r Safonau Iaith.

 

Adroddwyd bod Gwynedd yn wahanol i bob Cyngor arall yng Nghymru gan mai Cymraeg yw iaith fewnol y Cyngor. I sicrhau bod safonau iaith yn gywir o fewn y Cyngor adolygwyd lefel disgwyliedig ieithyddol swyddi'r Cyngor sydd bellach wedi eu hymgorffori fel rhan o ‘fanylion y person’ wrth hysbysebu swydd. Ategwyd bod cefnogaeth yn cael ei gynnig i lenwi’r bwlch wrth fesur staff cyfredol v dynodiadau iaith. Cyflwynwyd Sïon Elwyn Hughes i’r Pwyllgor fel Swyddog Dysgu a Datblygu Iaith Gymraeg sydd yn gyfrifol am gefnogi staff a hybu iaith o fewn y Cyngor.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau unigol,

 

·         bod y Cyngor yn rhoi statws i’r iaith ac yn dylanwadu ar asiantaethau eraill

·         bod rhywfaint o anwastadedd iaith ‘eglur’ ymysg swyddogion

·         bod angen defnyddio Cymraeg Clir i osgoi jargon a symleiddio’r wybodaeth

·         bod cynnyrch y Cyngor yn cael ei ddefnyddio gan Gynghorau eraill ac felly awgrym i geisio am gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru

·         cais i gyflwyno cwrs ‘darllen cyflym’ yn y Gymraeg

·         Gwynedd yn arwain. Cyfle i sefydlu prosiectau rhanbarthol penodol a cheisio cael Cynghorau eraill yng Nghymru i ddilyn - rhannu ymarfer da

·         Derbyn yr angen i ddefnyddio iaith syml, ond angen sicrhau iaith dechnegol, gywir.

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â chyfleoedd datblygiadau personol i staff neu adrannau o fewn y Cyngor, nodwyd bod cyfle i staff neu unedau gynnig eu hunain am gymorth. Bydd sesiynau yn cael eu darparu yn unol â’r galw.

Derbyniwyd y wybodaeth.

 

11.

MWY NA GEIRIAU pdf eicon PDF 58 KB

Adrodd ar y modd y mae’r Adran a’r Cyngor yn ymateb i ofynion ‘Mwy na Geiriau - Fframwaith Strategol Olynol 2016-2019 ar gyfer gwasanaethau Cymraeg mewn Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan Uwch Reolwr Busnes Gwasanaeth Oedolion  yn adrodd ar y modd mae’r Adran a’r Cyngor yn ymateb i ofynion ‘Mwy na Geiriau’ - Fframwaith Strategol Olynol 2016-2019 gan Lywodraeth Cymru ar gyfer sicrhau gwasanaethau Cymraeg mewn Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol. Lansiwyd y fframwaith strategol olynol ym Mawrth 2016. Ategwyd bod y fframwaith yn cynnwys saith amcan sydd angen gweithredu arnynt erbyn 2019 a chyfeiriwyd at y diweddariadau ar amcanion hynny yn yr adroddiad.

Yn ystod y drafodaeth ddilynol ymatebwyd i’r heriau gan aelodau unigol;

·         Angen adnabod yr anghenion ieithyddol

·         Angen datblygu sgiliau Cymraeg a thargedu’r sector breifat

·         Angen sicrhau bod trosglwyddo gwybodaeth unigolyn yn rhwydd

·         Angen cydweithio gyda darparwyr i’r dyfodol

·         Angen ystyried a chynnig llwybr gyrfa

·         Diwylliant iaith wahanol ymysg gwasanaethau gofal ac felly lle i  feithrin cyfathrebu yn y Gymraeg er mwyn magu diwylliant o ymwybyddiaeth

·         Angen i’r termau fod yn berthnasol i’r gwaith

·         Ystyried defnyddio dysgwyr amlwg fel llysgenhadon i gefnogi’r gwaith

·         Annog darparu gwybodaeth yn ddwyieithog

       Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â phroblemau recriwtio maes gofal, nodwyd             bod gwaith yn cael ei wneud  i gysoni graddfeydd, cynnal treialon a       chomisiynu      ar y cyd.          Ategwyd mai UN strategaeth sydd yn bodoli ac felly Iechyd,    Gwasanaethau           Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol yn mynd i’r un      cyfeiriad.         Nodwyd bod her i weithwyr rheng flaen ddysgu Cymraeg, ond        angen        annog yr hyder bod deall y Gymraeg yn ddigonol a bod angen             adnabod          cyrsiau sydd yn  ymateb i hyn. Ategwyd           bod Fforwm wedi ei    sefydlu ar        draws y Gogledd i rannu a thrafod ymarferion da.

 

       Mewn ymateb i sylw ynglŷn â ‘dewis’ yr unigolyn o dderbyn gwasanaeth yn ei            iaith     ddewisedig, amlygwyd mai cynnig rhagweithiol, naturiol sydd yn             digwydd gyda’r            unigolyn, ond bydd ‘y dewis’ yn cael ei gofnodi ar gyfer      casglu data yn unig. Ategwyd            nad oes ‘dewis’ yn cael ei roi i’r unigolyn        -    rhan o’r broses weinyddol ydyw.

 

       Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â pholisi cyfathrebu'r Cyngor gyda chyrff      cyhoeddus, amlygwyd mai’r iaith Gymraeg sydd yn cael ei defnyddio ar bob        achlysur. Yr arferiad yw cysylltu yn y Gymraeg hyd nes bydd ymateb yn cael   ei         dderbyn yn y Gymraeg. Derbyniwyd bod rhai eithriadau, ond ategwyd bod gwaith        yn cael ei wneud i wella hyn.

 

       Derbyniwyd yr adroddiad a nodwyd bod hwn yn gam mawr i’r cyfeiriad cywir

 

12.

CWYNION IAITH

I ddebyn diweddariad gan Rheolwr Gwasanaethau Iaith Gymraeg

Cofnod:

Adroddwyd nad oedd cwynion wedi eu derbyn.