skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH

Cyswllt: Rhonwen Jones  01286 679780

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd i’r pwyllgor hwn am y flwyddyn 2019-20

Cofnod:

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd Elin Walker Jones yn Gadeirydd am y cyfnod 2019/2020.

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd i’r pwyllgor hwn am y flwyddyn 2019-20.

Cofnod:

 

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd Cai Larsen yn Is Gadeirydd am y cyfnod 2019/20. 

 

Diolchwyd i’r cyn gadeirydd y Cynghorydd Alwyn Gruffydd am gadeirio dros y ddwy flynedd diwethaf.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Judith Humphreys, Elin Walker Jones a John Pughe Roberts.

 

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

 

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw faterion brys.

 

 

6.

COFNODION pdf eicon PDF 88 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y 1af o Fai 2019 yn gywir.  (atodir)

Cofnod:

 

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y 1af o Fai 2019 fel rhai cywir.  

 

Gwiriodd y Cynghorydd Alwyn Gruffydd benderfyniad ar eitem saith (7) ‘Hunaniaith - Menter Iaith Gwynedd - (Targedu Pobl Ifanc oedran 15+’, ynglŷn â llythyr i gymryd camau pellach i ennyn diddordeb ac ymrwymiad tiwtoriaid Grŵp Llandrillo Menai.  Ymatebodd y Swyddog Datblygu Iaith yn y Gweithle, ei bod wedi gyrru llythyr i’r Grŵp, ond nad oedd adborth wedi ei dderbyn.  Penderfynwyd yn y pwyllgor diwethaf bod aelod o’r pwyllgor am ysgrifennu hefyd, nid yw hyn wedi ei gyflawni.

 

 

7.

YMGYNGHORIAD CSGA LLYWODRAETH CYMRU pdf eicon PDF 87 KB

Cyflwniad gan Debbie A W Jones (Swyddog Gwasanaethau Corfforaethol Addysg).

 

 

Adroddiad ar ran y Cynghorydd Cemlyn Rees Williams (Aelod Cabinet)

 

YmgynghoriadRheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (Cymru) 2019 a ChanllawiauDrafft.

 

Pwrpasi rannu gwybodaeth ac ystyried sylwadau’r aelodau fel rhan o’r broses o lunio ymateb ffurfiol i’r ymgynghoriad.

 

 

*10:10 – 10:50

(amcangyfrif amseru)

Cofnod:

Derbyniwyd cyflwyniad gan y Swyddog Gwasanaethau Corfforaethol Addysg ar yr Ymgynghoriad Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (Cymru) 2019 a chanllawiau drafft (CSGA).

 

Gofynnwyd i’r aelodau gyflwyno unrhyw sylwadau i’w cynnwys fel rhan o ymateb ffurfiol Gwynedd i’r ymgynghoriad.  Nodwyd fod angen ymateb i’r ymgynghoriad erbyn dechrau Medi 2019.

 

Sylwadau gan Aelodau:

·         Cyflwyniad diddorol.

·         Nodwyd pryder pam nad ydym yn datblygu addysg Gymraeg yn barod?

·         Croesawu bod y ffactor dileu mesur a galw yn cael ei gyflwyno.

·         Cwestiynwyd lle mae’r Canolfannau Iaith â’r Siarter Iaith yn yr ymgynghoriad?

·         Cwestiynwyd a yw’r ymgynghoriad hyn yn cyfeirio at Addysg Gymraeg ynteu addysg ddwyieithog?

·         Cwestiynwyd beth mae “trochi'r Gymraeg” yn ei olygu?

·         Nodwyd siom nad oes sôn am adnoddau ychwanegol i gefnogi'r ymgynghoriad hwn.

·         Nodwyd bod angen i’r ymgynghoriad ymdrin â’r iaith chwarae yn yr ysgol a gweithgareddau ar ôl ysgol.  Mae lle hefyd i sicrhau rôl i lywodraethwyr, cyfeillion yr ysgol.

·         Awgrymwyd fod cyfle i sefydlu pencampwyr Cymraeg.

·         Nodwyd pryder am faint o siaradwyr Cymraeg sydd yng Ngwynedd, a phryder am gynnydd addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghymru.

·         Yn ogystal, codwyd yr angen am weithlu ac athrawon Cymraeg gan addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.

Manylodd y Swyddog Gwasanaethau Corfforaethol Addysg ar y sylwadau.  Cadarnhaodd mai drafft yw'r ymgynghoriad ar hyn o bryd ac mae croeso i unrhyw un roi eu hadborth ar yr ymgynghoriad erbyn dechrau Medi 2019.

Ymhelaethodd ar bwyntiau penodol.

·         Mae’r Canolfannau Iaith yn cael eu cyfarch dan y deilliannau a’r dilyniant a throchi. 

·         Nid yw’r CSGA a’r rheoliadau newydd yn newid Polisi Iaith Gwynedd

·         Nid oes diffiniad penodol ar drochi addysg, mae trochi yn digwydd mewn ffyrdd gwahanol yn siroedd Cymru.  Yng Ngwynedd rydym yn ystyried y cyfnod sylfaen, oherwydd mae yn trochi plant tair i saith oed trwy gyfrwng y Gymraeg; plant rhwng saith a 14 yn cael mynediad i ganolfannau iaith i gael eu trochi yn y Gymraeg er mwyn ymdopi mewn ysgolion prif ffrwd.

·         Mae CSGA yn eu cyfanrwydd a Llywodraeth Cymru yn gosod yr holl ddyletswydd statudol ar yr awdurdodau lleol yn ymwneud â’r maes yma.  Rhaid meddwl am bwy sydd yn recriwtio staff yn ysgolion Gwynedd, y Llywodraethwyr yw'r rhain, ac fell mae’r pwynt atebol yn cyflwyno bod gennym waith arfogi i’w wneud gyda’r Llywodraethwyr, fel codi ymwybyddiaeth o'r disgwyliadau.

·         Defnydd anffurfiol o ddefnyddio'r Gymraeg tu allan i oriau ysgol, mae posib llunio canllawiau ar sut fyddai rhywun yn annog defnydd partneriaeth iaith, mae yn rhan newydd o ddialog canllawiau CSGA, ynglŷn â gweithio mewn partneriaeth gyda mudiadau o amgylch yr ysgol o fewn y cymunedau.  Felly rhaid meddwl beth yw adnodd o weithio mewn partneriaeth gyda Menter Iaith, yr Urdd, Ffermwyr Ifanc a mudiadau eraill. Pryder sydd yn wynebu'r ysgolion ac sydd yn codi'r cwestiwn ydyw’r mudiadau yma yn mynd i bwyso yn ariannol / adnoddau ar yr ysgolion, rhaid meddwl pa gyfraniad mae’r mudiadau yma yn gallu cyfrannu a pwy fydd yn cydlynu?

·         Gwaith manylu ar yr ymgynghoriad yn dechrau yng Ngwynedd fis Medi 2019 ymlaen. Gan fod yr amserlen  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

ADRODDIAD AELOD CABINET pdf eicon PDF 68 KB

Cyflwyniad gan y Cynghorydd Nia Jeffreys (Aelod Cabinet).

 

Rhoi diweddariad ar y prif ddatblygiadau ym maes y Gymraeg ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor.

 

 

 

*10:50 – 11:30

(amcangyfrif amseru)

Cofnod:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ddiweddariad ar y prif ddatblygiadau ym maes y Gymraeg ers cyfarfod diwethaf y pwyllgor.

 

Sylwadau: Mynegodd y Cynghorydd Alwyn Gruffydd, buasai o werth rhoi gwahoddiad i Aled Roberts, y Comisiynydd newydd i fynychu'r Pwyllgor nesaf.  Aelod Cabinet dros addysg yn mynd i gysylltu ag ef.

 

PENDERFYNWYD:

Derbyn yr adroddiad.

 

9.

ADRODDIAD BLYNYDDOL AR WEITHREDIAD SAFONAU IAITH 2018-19 pdf eicon PDF 64 KB

Cyflwyniad gan Gwenllian Mair Williams (Swyddog Datblygu Iaith Gwynedd).

 

Cyflwyno’r adroddiad blynyddol i sylw’r aelodau a thynnu sylw at faterion sydd yn codi er mwyn i’r aelodau gael trafodaeth bellach a chynnig argymhellion ar gyfer unrhyw gamau datblygol.

 

 

*11:30 – 12:10

(amcangyfrif amseru)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Adroddiad sydd yn cael ei gyhoeddi yn flynyddol. Cyflwynir yr adroddiad gan y Swyddog Datblygu Iaith Gweithle, a Swyddog Dysgu a Datblygu Iaith Gymraeg, gan adrodd ar hyfforddiant cyfrwng Cymraeg i staff y Cyngor a sut i ddatblygu eu sgiliau iaith,

Cyflwynwyd yr adroddiad i’r Cabinet Mehefin 2019 i gael ei gymeradwyo ac i’w llwytho ar wefan y Cyngor yn gyhoeddus.

Adroddiad sydd yn adrodd ar safonau penodol ar sgiliau gweithwyr yn yr iaith Gymraeg. Cwestiwn sydd yn codi yn aml, beth yw sefyllfa hyfforddiant o ran staff pob adran o’r Cyngor heblaw adran addysg ar hyn o bryd?  Rhaid pwysleisio nid yw’r adroddiad yn cynnwys GWE nag Asiantaeth Cefnffyrdd gan eu bod yn bartneriaid rhanbarthol.

Eleni mae’r adran wedi gallu edrych yn ôl ar bedair (4) blynedd o ddata ynglŷn â safonau cyflenwi gwasanaeth, safonau gosodwyd ar y Cyngor gan y Comisiynydd yn y Gymraeg.  Gweler linc ar y wefan: <https://www.gwynedd.llyw.cymru/cy/Cyngor/Dogfennau-Cyngor/Strategaethau-a-pholisiau/Cynllun-iaith/Cynllun-Hybu%27r-Gymraeg-yng-Ngwynedd-2018-2023.pdf> ar y Cynllun Hybu’r Gymraeg yng Ngwynedd 2018-2023, ymgais i adnabod y prif heriau a chyfleoedd sydd yn wynebu’r Gymraeg.

Sylwadau gan yr Aelodau:

·         Ydyw ymgeiswyr yn rhoi eu gwir ymateb i’r cwestiwn a ofynnir yn y ffurflen ymgeisio am swydd, ar siarad a deall yr iaith Gymraeg?

·         Sut mae asesu effaith a data?

·         Data gweithwyr Cefnogol – rhai ddim yn siarad Cymraeg?

·         Canolfannau Hamdden?

·         Beth yw diffiniad iaith hyfforddiant?

·         Posib cynnig darpariaeth cyfieithu?

 

Mewn ymateb i’r sylwadau uchod gan y Swyddog Datblygu Iaith Gweithle, a Swyddog Dysgu a Datblygu Iaith Gymraeg, dengys bod modd i chwi fel aelodau o’r pwyllgor hwn rhoi mewnbwn gydag awgrymiadau / argymhellion i wella ar yr adroddiad flwyddyn nesa.

Wrth gyfweld yr ymgeiswyr, mae posib cymharu eu sgiliau ieithyddol ar eu safon cyfweld gan feirniadu ar eu hymatebion ieithyddol wrth gymharu'r canlyniadau gyda’r sydd swydd ddisgrifiad.

Mynegwyd bod yr uned yn gweithio ar y cyd gyda’r Swyddog Cydraddoldeb yn ystod y misoedd diwethaf ar asesu effaith data.  Mae nifer o ffactorau wedi arwain at beth rydym yn ceisio’i gyflawni a sut i wella’r asesiadau. 

Ychwanegwyd pan ddaeth y safonau i rym ynglŷn â diffiniad iaith ag hyfforddiant, roedd nifer yn cyfeirio at lunio polisi, teimlad y swyddogion ar y pryd oedd gweithio ar y ffordd orau o fodloni’r safonau.  Daethpwyd adroddiad sicrwydd y Comisiynydd o flaen y pwyllgor Iaith yr Haf diwethaf i dynnu sylw at y mater o fodloni'r asesiadau iaith a chydraddoldeb, gan feddwl am y ffordd orau i weithredu.  Nid oedd modd gweithio i’r rhaglen o ran y gofyn, a gofynnwyd i chwi fel aelodau ystyried y polisi ar effaith orau ar yr iaith.

Yn ddiweddar mae Cynllun Cydraddoldeb yn edrych yn ôl ar yr asesiadau er mwyn gweld os oes gwelliannau i wneud ac os ydyw'r asesiadau yma yn cael eu cynnal yn y ffordd gywir, mae hyn yn waith datblygol wedi ei ymrwymo gyda phenaethiaid a rheolwyr y Cyngor.

Nodwyd bod data gweithwyr Cefnogol yn yr adran addysg a gofal sydd yn siarad Cymraeg wedi codi.  Rhaid ystyried y ffaith mai’r adrannau yma sydd yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

10.

ADRODDIAD CANMOLIAETH A CHWYNION MAES Y GYMRAEG pdf eicon PDF 66 KB

Adroddiad gan Gwenllian Mair Williams (Swyddog Datblygu Iaith).

 

Cyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf i’r pwyllgor am gwynion ac engreifftiau o lwyddiant wrth hybu defnydd o’r Gymraeg yng ngwasanaethau’r Cyngor.

 

 

*12:10 – 12:50

(amcangyfrif amseru)

Cofnod:

Cyflwynwyd y wybodaeth ddiweddaraf i’r pwyllgor am gwynion ac enghreifftiau o lwyddiant wrth hybu defnydd o’r Gymraeg yng ngwasanaethau’r Cyngor gan y Swyddog Datblygu Iaith yn y Gweithle.

 

Pwysleisiwyd y pwysigrwydd o gydnabod llwyddiannau gweithwyr y Cyngor, sydd wedi mynd y tu hwnt i’r gofyn wrth harwyddo’r Gymraeg ac yn sicrhau bod trigolion Gwynedd yn derbyn gwasanaeth uchel drwy gyfrwng yr iaith. 

 

Mynegwyd bod rheolwyr unedau yn cymryd y cyfrifoldeb i fagu hyder eu gweithwyr wrth iddynt weithio drwy gyfrwng y Gymraeg.

 

Darllenwyd ar y cwynion ac ymholiadau ar y gwasanaeth yn ymwneud â Pholisi Iaith Y Cyngor. 

1.    Ffurflen etholiad Ewrop wedi mynd allan yn uniaith Saesneg.  Eglurwyd bod y taflenni wedi eu hanfon allan gan gwmni allanol.  Mae'r Cyngor yn edrych i mewn i hyn.

2.    Aelod o staff wedi cyflwyno gwybodaeth mewn sesiwn yn Saesneg.  Codwyd y mater gyda rheolwr y gwasanaeth a chadarnhawyd mai diffyg hyder yr unigolyn oedd wedi arwain at y sefyllfa.  Mae’r rheolwr wedi cynnal trafodaeth gyda’r uned Iaith i gynnig hyfforddiant gan rannu linciau i dermau perthnasol o fewn y maes.

 

SYLWADAU:

 

Croesawyd y datblygiad gan fynegi bod angen cadw golwg ar y sefyllfa a dim llithro

 

PENDERFYNWYD:

Derbyn yr adroddiad.