Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Natalie Lloyd Jones  E-bost: NatalieLloydJones@gwynedd.llyw.cymru

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cynghorydd Eirwyn Williams. 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Bu i’r Cynghorydd Aled Lloyd Evans ddatgan buddiant ar eitem 5 gan ei fod yn aelod o bwyllgor Menter y Plu. 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw faterion brys.  

4.

COFNODION pdf eicon PDF 299 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 12 o Dachwedd 2020 fel rhai cywir

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y 12fed o Dachwedd, 2020 fel rhai cywir. 

5.

DIWEDDARIAD AR GYNLLUN ARFOR pdf eicon PDF 430 KB

I roi diweddariad i’r pwyllgor ar gynllun Arfor.

Awdur: Annwen Davies.

Penderfyniad:

-       Derbyn yr adroddiad.

-       Ysgrifennu at Lywodraeth Cymru a Chabinet Cyngor Gwynedd i fynegi cefnogaeth a dymuniadau’r pwyllgor i weld parhad y cynllun Arfor wedi Mawrth 2021.

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad ac fel cam pellach ysgrifennu at Lywodraeth Cymru a Chabinet Cyngor Gwynedd i fynegi cefnogaeth a dymuniadau’r pwyllgor i weld parhad  cynllun Arfor wedi Mawrth 2021. 

 

Cyflwynodd y Rheolwr Rhaglen Datblygu Gwynedd Wledig ei hadroddiad yn diweddaru’r pwyllgor ar raglen Arfor. Eglurodd bod y rhaglen, a oedd â’r nod o hybu pobl i gychwyn a thyfu eu busnesau yn lleol, yn dod i ben eleni. O ganlyniad, awgrymodd ei bod yn  amserol tynnu sylw’r aelodau at y llwyddiannau a heriau a wynebwyd. Amlygodd y prif bwyntiau canlynol ystod ei chyflwyniad:- 

 

·           Nododd bod y rhaglen yn dod i ben fis Mawrth 2021 ac o ganlyniad y byddent yn treulio’r cyfnod nesaf yn sicrhau gwariant. 

·           Tynnodd sylw at bedwar prosiect llwyddiannus ddaeth yn sgil y rhaglen a’r cyllid. Yn gyntaf trafododd ‘Ffiws’, sef gofod gwneud ar y stryd fawr ym Mhorthmadog syn cynnig defnydd i fusnesau lleol o beiriannu megis argraffydd 3D. 

·           Cyfeiriodd at un achos o lwyddiant lle daeth busnes i ddefnyddio’r offer gan symud ymlaen i brynu offer o’r math eu hunain er mwyn datblygu eu busnes ymhellach. 

·           Soniodd am y prosiect ‘Llwyddo’n Lleol’ a ddigwyddodd ar y cyd rhwng Gwynedd a Môn a oedd yn galw am syniadau busnes pobl ifanc lleol. Bwriad y prosiect oedd hyrwyddo’r syniad i bobl ifanc leol aros yng Ngwynedd gan ddangos iddynt y posibiliadau busnes sydd ar gael. 

·           Eglurodd bod diddordeb mawr wedi bod, gyda 10 unigolyn ifanc yn manteisio ar y cyfle. Wedi derbyn cymorth y prosiect, nododd bod oddeutu 80% wedi symud ymlaen i ddatblygu busnes. 

·           Rhoddodd drosolwg o ‘Her Cymunedau Mentrus’ sef her oedd yn ymateb i’r economi leol wrth greu swyddi. Ymhelaethodd ar rai o’r prosiectau fu’n elwa megis gofod gweithio yn Henblas a Menter y Plu. 

·           Pwysleisiodd Rheolwr Rhaglen Datblygu Gwynedd Wledig mai nifer isel o fusnesau oedd wedi dewis gohirio eu cynlluniau oherwydd y cyfnod argyfwng Covid-19. Dengys hyn bod y busnesau wedi manteisio ar y cyfle i ddatblygu eu busnesau er gwaethaf y cyfnod clo. 

·           Ar derfyn y rhaglen, mynegodd nad oedd yn sicr beth oedd y cam nesaf er mwyn sicrhau cyfleoedd i fwy o fusnesau ddatblygu yn lleol.  

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau.  Yn ystod y drafodaeth, nodwyd y canlynol:- 

 

·           Diolchwyd i’r Rheolwr Rhaglen Datblygu Gwynedd Wledig am yr adroddiad a nododd aelod ei brwdfrydedd dros Arfor 

·           Mynegwyd siom nad oes parhad i’r rhaglen a chynigwyd bod angen pwyso ar y Llywodraeth yn wleidyddol i gefnogi parhad y rhaglen. 

·           Cytunwyd â’r cynnig a nodwyd y dylai’r pwyllgor hysbysu’r Cabinet o hyn.  

 

Mewn ymateb i rai o’r sylwadau a’r cwestiynau, nododd y Rheolwr Rhaglen Datblygu Gwynedd Wledig y pwyntiau isod:- 

 

·           Nodwyd y bydd modd datgan nifer y swyddi sydd wedi eu creu wedi i’r gwaith monitro gael ei gwblhau. Dywedodd mai’r  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

ADOLYGIAD BLYNYDDOL CYNLLUN STRATEGOL Y GYMRAEG MEWN ADDYSG pdf eicon PDF 321 KB

I gyflwyno Adroddiad Adolygu Blynyddol Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg (CSGA) i’r pwyllgor.

Awdur: Debbie Anne Williams Jones.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad.

Cofnod:

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad. 

 

Rhoddodd yr Aelod Cabinet ar gyfer Addysg ragymadrodd i’r adroddiad gan dynnu sylw at y cyfnod heriol a wynebodd yr ysgolion dros y cyfnodau clo. Mewn perthynas â’r Gymraeg mewn ysgolion, nododd bod heriau i ddod wrth i blant fethu  ar fod yn rhan o awyrgylch Gymreig o’r ysgol a’r dosbarth. 

 

Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaethau Corfforaethol Addysg drosolwg o’r adroddiablynyddol ar weithrediad yr adran. Ategodd mai ffocws yr adroddiad y tro hwn oedd ar weithdrefnau ac nid ar ddata.  

 

Eglurodd bod cynnwys yr adroddiad yn cwmpasu’r dulliau a ddefnyddiwyd er mwyn ymdopi a’r newidiadau i addysg. Nododd bod y canolfannau iaith wedi wynebu heriau o barhau i  gynnig profiad Cymreig i’r plant, fodd bynnag bachwyd ar y cyfle i arloesi drwy ddefnyddio sesiynau dysgu byw. Nododd yn ychwanegol bod y dulliau yma'n sicrhau bod y Gymraeg yn cyrraedd cartrefi’r dysgwyr er mwyn cynnal eu sgiliau iaith. Yn ogystal â chefnogi dysgwyr, nododd bod gan y Cynllun Strategaeth Gymraeg Mewn Addysg flaenoriaeth arall, sef i gefnogi gweithlu hyderus yn y Gymraeg. 

 

Ategodd y Pennaeth Addysg bod sicrhau defnydd y Gymraeg yn un o brif heriau ysgolion wrth ddychwelyd gan nodi elfen o bryder bod hyn yn dirywio.  

 

Parhaodd i drafod adolygiad thematig Estyn gan bwysleisio bod gweithdrefnau Gwynedd wedi eu cydnabod fel enghraifft o arfer dda. Cyfeiriodd yn uniongyrchol at ddulliau arloesol y canolfannau iaith o ddarparu addysg dros y cyfnod clo a bod hyn yn cael ei adnabod fel cryfder yn genedlaethol. 

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau.  Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion canlynol:- 

 

·  Llongyfarchwyd yr adran ar y dulliau arloesol a ddefnyddir sy’n cael eu cydnabod fel arfer da, a phwysleisiwyd bod mwy o bwysau nag erioed ar yr iaith Gymraeg wrth i addysgu o bell barhau. 

·  Gofynnwyd a fydd camau i asesu’r niwed sydd wedi bod ar ddefnydd yr iaith Gymraeg ag i ddiwallu’r anghenion ychwanegol fydd angen wrth ddychwelyd i’r ysgol. 

·  Mynegwyd bod yr awdurdod yn amlwg wedi cymryd camau gwerthfawr i amddiffyn y Gymraeg mewn sefyllfa anodd. 

·  Atgoffwyd yr aelodau o’u rolau pwysig fel llywodraethwyr ysgol a’u dylanwad hwy ar ymdrechion i gynnal y Gymraeg o fewn y dosbarth a thu hwnt. 

 

 

Mewn ymateb i rai o’r sylwadau a’r cwestiynau uchod, nododd y Rheolwr Gwasanaethau Corfforaethol Addysg :- 

 

·  Ei fod yn galonogol i glywed aelodau etholedig yn gwerthfawrogi a nodi’r gwaith amddiffyn iaith sydd yn digwydd mewn ysgolion a chanolfannau iaith yng Ngwynedd. 

·  Bwriedir sefydlu gwaelodlin i asesu’r sefyllfa iaith wedi i’r holl ddysgwyr ddychwelyd i’r dosbarth. 

·  Ategodd y Pennaeth Addysg y gofynnwyd i’r Adran Addysg arwain ar ddarn o waith ymchwil trawsadrannol gyda phartneriaid megis GwE, Mudiad Meithrin, y Gwasanaeth Iechyd a chanolfannau Addysg Bellach. Ategodd mai bwriad y gwaith fydd adnabod meysydd lle bo gagendor lles wedi ymddangos yn sgil Covid-19. 

·  Nododd mai un  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

CWYNION pdf eicon PDF 280 KB

I hysbusu’r pwyllgor am unrhyw gwyion.

Awdur: Gwenllian Williams.

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad.

Cofnod:

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad. 

 

Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Iaith ei hadroddiad ar y wybodaeth ddiweddaraf am gwynion ac enghreifftiau o lwyddiant ac arfer dda wrth hybu defnydd o’r Gymraeg yng ngwasanaethau’r Cyngor. Amlygodd y prif bwyntiau canlynol yn ystod ei chyflwyniad:- 

 

·  Nododd bod yr amgylchiadau presennol wedi ei gwneud yn anodd cynnal rhai gwasanaethau megis cyfarfodydd a phwyllgorau rhithiol o ganlyniad i ddiffyg cyfleuster cyfieithu ar Teams. Fodd bynnag, erbyn hyn mae’r Cyngor yn defnyddio Zoom er mwyn darparu cyfieithu ar y pryd. 

·  Eglurodd bod y cyfnod presennol wedi hwyluso datblygiad sgiliau staff, er enghraifft gwelwyd cynnydd yn y niferoedd o staff sy’n dysgu Cymraeg a manteisio ar gyrsiau hyfforddiant. 

·  Rhoddodd gyfeiriad uniongyrchol at staff Byw’n Iach, sydd wedi bod yn anodd eu cyrraedd o ran datblygu sgiliau yn y gorffennol. 

·  O ran cwynion am gydymffurfiaeth efo’r Safonau, nododd nad oedd cwynion ffurfiol i adrodd arnynt, ond bod ambell ymholiad wedi eu derbyn lle cafodd y mater ei ddatrys yn sydyn heb gyfeiriad pellach. 

·  O ran polisi iaith, nododd bod dwy gŵyn wedi eu derbyn, un a gafodd ei datrys yn sydyn ac un ychydig yn fwy cymhleth oherwydd mai gwraidd y gwyn oedd argaeledd dewis iaith ar ddyfais dechnolegol. 

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau ar yr adroddiad.  Gan nad oedd amser yn caniatáu rhoi ystyriaeth lawn i’r adroddiad, gwahoddwyd yr aelodau i gysylltu â’r uned Iaith gydag unrhyw gwestiynau neu sylwadau pellach.