Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH

Cyswllt: Rhonwen Jones  01286 679780

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn ymddiheuriadau.

Cofnod:

Croesawyd yr Aelod Cabinet a swyddogion i’r cyfarfod.

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Elin Walker Jones

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I ddatgan unrhyw fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

I nodi unrhyw faterion brys sydd wedi codi.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw faterion brys.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 96 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor hwn, a gynhaliwyd ar 17 Ionawr 2019, fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y 17eg Ionawr, 2019 fel rhai cywir.

 

5.

ADRODDIAD YR AELOD CABINET pdf eicon PDF 660 KB

Rhoi diweddariad ar y prif ddatblygiadau ym maes y Gymraeg ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet dros Iaith.

 

Esboniwyd y rhoddir dwy wobr flynyddol yn Seremoni gwobrwyo'r Cyngor ar ei Orau, fel a ganlyn:

  • I gydnabod unigolyn o fewn y Cyngor sydd yn dysgu’r Gymraeg, ac yn ail,
  • Unigolion neu dimau sydd yn gwneud ymdrech arbennig, neu yn mynd y tu hwnt i’w swyddi arferol, i hybu’r Gymraeg i sicrhau bod posib i drigolion a defnyddwyr gwasanaethau ddefnyddio’r Gymraeg yn ddi-rwystr.

 

Dyfarnwyd y gwobrau eleni i Nancy Wilkinson (Swyddog Amgylchedd yn Ymgynghoriaeth Gwynedd) a Gwasanaeth Iechyd, Diogelwch a Llesiant (am eu gwaith i sicrhau adnoddau Cymraeg ar gyfer hyfforddiant 'The Institution of Occupational Safety and Health' (IOSH).

 

Cyflwynwyd dau fideo o’r seremoni wobrwyo ar ddiwedd y cyfarfod yn dangos yr enillwyr.

           

Tynnwyd sylw gan aelod at eitem 5.4 (Datblygiadau Eraill), Canllaw Cynllunio Atodol.  Awgrymodd yr Aelod Cabinet iddi gyfarfod gyda’r Aelod i drafod ymhellach.

 

Penderfynwyd:

Derbyn yr adroddiad.

6.

ADRODDIAD CANMOLIAETH A CHWYNION MAES Y GYMRAEG pdf eicon PDF 537 KB

Cyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am gwynion ac engreifftiau o lwyddiant wrth hybu defnydd o’r Gymraeg yng ngwasanaethau’r Cyngor.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Swyddog Datblygu Iaith a nodwyd ei fod yn edrych ar gwynion a chanmoliaeth law yn llaw, er mwyn gallu adnabod tueddiadau a rhoi darlun llawn i’r aelodau o’r hyn sydd yn digwydd o fewn y Cyngor o safbwynt cydymffurfio gyda’r Safonau a’r Polisi Iaith.

 

Canmoliaeth

Esboniwyd fod yr adroddiad yn dangos dau achos penodol sydd wedi dod i sylw dros y misoedd diwethaf lle mae swyddogion y Cyngor wedi mynd y tu hwnt i’r gofyn i hyrwyddo’r Gymraeg ac i sicrhau bod trigolion yn cael gwasanaeth cyfrwng Cymraeg o safon:

 

1.    Hyfforddiant diogelwch (IOSH): Cafodd y Gwasanaeth Iechyd, Diogelwch a Llesiant eu cydnabod yng ngwobrau’r Cyngor ar ei Orau yn ddiweddar am eu gwaith i sicrhau bod modd cael hyfforddiant IOSH yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg. Ers cryn amser, roedd staff y Cyngor wedi bod yn cynnal sesiynau hyfforddi cyfrwng Cymraeg yn y maes hwn, ond yn gorfod defnyddio deunyddiau Saesneg yn unig gan nad oedd y corff siartredig yn darparu deunyddiau dwyieithog. Roedd y mater wedi ei gyfeirio at y Comisiynydd er mwyn cael eu cefnogaeth nhw i ddwyn pwysau ar y darparwyr, ond yn y pen draw, ymdrechion swyddogion y Cyngor, dynnodd sylw at ofynion y safonau a galwadau gan staff am ddeunyddiau Cymraeg,

 

2.    Ffurflen ar-lein newydd direct.gov ar gyfer Bathodyn Glas

Nodwyd bod Rheolwr Siopau Gwynedd a Galw Gwynedd a’i swyddogion yn gweithio’n galed ar hyn o bryd i sicrhau bod y ffurflen ar-lein newydd ar gyfer ceisiadau Bathodyn Glas yn cwrdd â gofynion y Safonau a Pholisi’r Cyngor. Roedd y swyddogion wedi sylwi wrth brofi’r system (cyn mynd yn fyw) bod nifer o wallau a chamgymeriadau gyda’r fersiwn Gymraeg, ac mae’r Cyngor wedi gwrthod trosglwyddo i’r system ar-lein newydd heb i’r newidiadau gael eu gwneud i gyrraedd y safon ddisgwyliedig. Maent wedi bod yn cydweithio gyda’r uned gyfieithu a thîm y we i wirio’r system, ac wedi codi’r mater efo’r darparwr gan gynnwys Llywodraeth Cymru. Mae trafodaethau yn parhau ar hyn o bryd a’r system yn dal heb fynd yn fyw.

 

Cwynion

Ers dechrau 2019, derbyniwyd gohebiaeth gan Gomisiynydd y Gymraeg am dair cwyn yn ymwneud efo’r Safonau Iaith.

 

Penderfynodd y Comisiynydd beidio ag ymchwilio ymhellach i’r cwynion ar sail yr esboniadau isod:

 

1.    E-bost safonol Saesneg yn unig wedi ei anfon mewn ymateb i e-bost Cymraeg anfonwyd at GwE.  Penderfynwyd peidio ag ymchwilio wedi i’r Comisiynydd dderbyn gohebiaeth gan uned Gyfreithiol y Cyngor oedd yn tynnu sylw at y ffaith nad oedd Safonau’r Cyngor yn berthnasol i GwE oherwydd eu statws fel cydbwyllgor.

2.    Derbynneb uniaith Saesneg wedi ei hanfon gan Bartneriaeth Prosesau Cosb Cymru.  Esboniwyd bod hyn wedi digwydd o ganlyniad i nam technegol ar ôl i’r gweinyddwyr wneud diweddariadau i’r system dalu. Roedd y mater eisoes wedi dod i sylw’r Cyngor ac wedi ei ddatrys erbyn derbyn y gŵyn gan y Comisiynydd, a chytunodd y Comisiynydd bod y Cyngor eisoes wedi delio gyda’r mater yn briodol.

3.    Gwasanaeth cynnal asesiadau a phrosesu ceisiadau  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

HUNANIAITH - MENTER IAITH GWYNEDD pdf eicon PDF 994 KB

Cyflwynir yr adorddiad hwn er mwyn rhoi cefndir i aelodau’r Pwyllgor am waith a blaenoriaethau cyfredol y fenter.

Cofnod:

Mewn ymateb i gais y Cadeirydd cyflwynwyd diweddariad ar waith Hunaniaith, gan amlinellu llwyddiannau, gwersi a ddysgwyd, a chymryd y cyfle i godi ymwybyddiaeth yr Aelodau o’r gwaith.

 

Trosolwg o waith 2018-19

Adroddwyd fod 2018-19 wedi bod yn flwyddyn dda o ran parhau i ddatblygu rhai partneriaethau allweddol, megis gyda Chymraeg i Blant a Grŵp Llandrillo Menai, a’i bod yn ymddangos bod y buddsoddiad amser i gyd-gynllunio a chydweithio yn dechrau talu. 

 

Yn ogystal, nodwyd bod y cydweithio ar draws y Mentrau Iaith yn gyffredinol wedi datblygu ymhellach, gyda Mentrau Iaith Cymru (y sefydliad ambarél sy’n cefnogi gwaith y mentrau ar draws Cymru) yn arwain at sawl prosiect cenedlaethol.  Mae cyfleoedd hefyd ar gyfer mwy o gydweithio rhwng mentrau iaith rhanbarth y Gogledd yn y dyfodol.

 

 

Cafwyd dau gyflwyniad gan y Swyddogion Iaith:

 

Blynyddoedd Cynnar

Esboniwyd fod seminarau wedi eu cynnal er mwyn arfogi gweithlu’r blynyddoedd cynnar a darparwyr gweithgareddau gyda’r wybodaeth i fynd a’r neges am werth dwyieithrwydd at deuluoedd.  Nodwyd fod yr adborth o’r seminarau wedi bod yn gadarnhaol iawn, ac er na lwyddwyd i ddenu rhai o’r busnesau a mudiadau sy’n darparu gweithgareddau teuluol oedd wedi eu targedu, teimlai’r Swyddog bod y digwyddiadau wedi bod yn llwyddiant, ac y bwriedir parhau i gydweithio gyda Chymraeg i Blant a Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar y Cyngor ar ddigwyddiadau tebyg yn y dyfodol.

 

 

Targedu Pobl Ifanc oedran 15+:

Cynhaliwyd cynhadledd i bobl ifanc i drafod gwerth y Gymraeg fel sgil ar gyfer byd gwaith, gan gyflwyno arfer da a modelau rôl o feysydd proffesiynol a galwedigaethol.  Nod y gynadle oedd annog pobl ifanc i feddwl am eu dewisiadau gyrfaol gan roi sylw penodol i ystyried y Gymraeg yn eu dewisiadau.

 

Cynhaliwyd y gynhadledd ar y cyd gyda swyddogion Grŵp Llandrillo Menai, a chanolbwyntiwyd ar fyfyrwyr Grŵp Llandrillo Menai gyda sectorau Adeiladwaith, Gwallt a Harddwch a Lletygarwch a Thwristiaeth. Cafwyd adborth da a chytunwyd bod cynnwys y sesiynau yn fuddiol a phriodol ond bod angen ambell fireiniad megis symleiddio geirfa, a chynnwys llai o gwestiynau agored, fel modd i hwyluso cyfranogiad a thrafodaethau.

 

Cynhaliwyd cyfarfod cloriannu ar ôl y digwyddiadau a chytundeb ymysg y swyddogion bod y gynhadledd wedi llwyddo o ran y trefniadau a chynnwys, er bod angen ambell fireiniad a man addasiadau os am gynnal digwyddiad tebyg yn y dyfodol.  Un pryder a fynegwyd oedd y trafferthion a gafwyd wrth ennyn diddordeb ac ymrwymiad tiwtoriaid y grŵp.

 

Mynegodd yr Aelodau siom yn hyn, gan nodi awydd i gymryd camau pellach.  Nododd Swyddog Datblygu Iaith Gwynedd ei bod am ysgrifennu yn swyddogol at Grŵp Llandrillo Menai i rannu’r adborth ar werthusiad am y cynadleddau er mwyn rhannu’r pryderon.

Cynigodd Aelod y pwyllgor y byddai yn fodlon ysgrifennu llythyr at Grŵp Llandrillo Menai, ar ran y pwyllgor.

 

Derbyniwyd y cynnig.

 

Rhoddwyd cyfle i’r Aelodau godi cwestiynau cyffredinol am waith Hunaniaith, gofynnwyd yr Aelodau sut roedd Hunaniaith yn dewis yr ardaloedd i dargedu.  Mewn ymateb, nodwyd bod yr ardaloedd oedd wedi derbyn sylw dros y tair blynedd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

CYFARFODYDD PWYLLGOR IAITH pdf eicon PDF 55 KB

Amcan yr adroddiad yw ystyried nifer o gyfarfodydd cyffredin y Pwyllgor a gynhelir yn ystod y flwyddyn fwrdeistrefol.

Cofnod:

 

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Democratiaeth ac Iaith, er mwyn ceisio barn Aelodau’r Pwyllgor ar amlder a nifer cyfarfodydd y Pwyllgor mewn blwyddyn.

Nodwyd barn yr Aelodau fod angen cadw at y niferoedd presennol o gyfarfodydd, gan ddatgan pwysigrwydd yr Iaith Gymraeg i bawb.

 

PENDERFYNWYD:

 

Parhau gyda’r drefn gyfredol o gynnal pedwar cyfarfod o’r pwyllgor mewn blwyddyn.