skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH

Cyswllt: Rhonwen Jones  01286 679780

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Aled Evans.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw faterion brys.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 116 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 9fed o Orffennaf 2019 fel rhai cywir  

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y 9fed o Orffennaf 2019 fel rhai cywir yn ddarostyngedig i gywiro penderfyniad ar eitem 6 (cofnodion cyfarfod 1 Mai 2019)

 Hunaniaith - Menter Iaith Gwynedd - (Targedu Pobl Ifanc oedran 15+’, ynglŷn â llythyr i gymryd camau pellach i ennyn diddordeb ac ymrwymiad tiwtoriaid Grŵp Llandrillo Menai Ymatebodd y Swyddog Datblygu Iaith yn y Gweithle, ei bod wedi gyrru llythyr i’r Grŵp, ond nad oedd adborth wedi ei dderbyn. Penderfynwyd yn y pwyllgor diwethaf bod aelod o’r pwyllgor am ysgrifennu hefyd, nid yw hyn wedi ei gyflawni

Nodwyd y dylai’r cofnod nodi mai'r Pwyllgor fel endid a ddylai fod hefyd yn ysgrifennu llythyr ac nid un aelod o’r Pwyllgor. Awgrymwyd y dylai’r llythyr a anfonwyd gael ei adolygu yn y cyfarfod nesaf.

 

Cadarnhawyd bod y Comisiynydd Iaith wedi derbyn gwahoddiad i fynychu’r Pwyllgor.

 

5.

CYNLLUN ARFOR pdf eicon PDF 47 KB

I ystyried yr adroddiad

Cofnod:

Derbyniwyd adroddiad a chyflwyniad ar lafar gan Rheolwr Rhaglen Datblygu Gwynedd Wledig yn rhoi diweddariad ar raglen Arfor. Yn dilyn cytundeb cyllidebol rhwng Llywodraeth Cymru a Plaid Cymru, yn Chwefror 2019 cadarnhaodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates AC, fod £2 filiwn o gyllideb ar gael i Gynghorau Gwynedd, Ynys Môn, Ceredigion a Sir Gâr i dreialu dulliau arloesol o gefnogi’r economi yng nghadarnleoedd y Gymraeg. Nodwyd fod yr arian ar gael hyd at ddiwedd 2020/21 gyda £466,250 i’w fuddsoddi yng Ngwynedd ar weithgareddau fyddai yn arwain at greu swyddi fyddai’n cynnal yr iaith yn ein cymunedau.

Adroddwyd bod dau brosiect trawsffiniol wedi eu sefydlu; Cynllun Strategol / Gwerthuso a Phrosiect Bwrlwm Busnes. Ategwyd bod y Cynllun Strategol yn edrych ar brosiectau unigol ar draws y Sir ac wrthi yn sefydlu cynllun busnes i’w gyflwyno. Mynegwyd bod Bwrlwm Busnes wedi dylunio pecyn croeso yn annog busnesau i weithio drwy’r Gymraeg. Nodwyd bod bwriad comisiynu cwmni i edrych ar ddeunydd digidol ar draws y pedair Sir i geisio gwybodaeth ac adnabod a rhannu ymarfer da.

Cyfeiriwyd at Grŵp Llywio Arfor sydd yn arwain y gwaith yng Ngwynedd ac sydd wedi adnabod pecyn o brosiectau arloesol i’w treialu dros y cyfnod sydd yn cyd-fynd a meini prawf y rhaglen. Ategwyd bod yr Uned Iaith wedi bod yn rhan o’r grŵp ers y dechrau. Nodwyd bod nifer o brosiectau cyffrous wedi eu sefydlu gyda holiadur ieithyddol wedi ei lunio i gofnodi safon defnyddwyr / cefnogwyr prosiectau fel bod modd mesur effaith Arfor.

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Bod cyfnod o ddwy flynedd yn gyfnod rhy fyr i hyrwyddo a datblygu mentrau busnes. Angen pwyso ar y Llywodraeth am gyfnod hirach

·         Nid yw’r arian sydd yn cael ei dderbyn yn ddigonol

·         Angen ymgynghori gyda Menter Busnes i osgoi dyblygu gwaith

·         Bydd angen mesur yr effaith er mwyn sicrhau Arfor 2

·         Angen targedu a chefnogi pobl ifanc sydd yn llai tebygol o ddefnyddio’r Gymraeg mewn busnes

·         Bod angen sicrhau cadw enwau Cymraeg ar y tiroedd

·         Arfor yn syniad arloesol ar y dechrau ond bellach y deilliant yn llawer llai

·         Dim sicrwydd i ddyfodol Arfor. Cynigiwyd bod y Pwyllgor yn ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn sut mae Rhaglen Arfor yn gweithio gyda chynlluniau ehangach y Llywodraeth megis cynlluniau iaith a’r strategaeth Economaidd.

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â sut bydd y cynllun yn parhau ar ôl dwy flynedd, amlygwyd mai bwriad y Cynllun Strategol sydd yn cael ei ddatblygu yw edrych ar sut mae’r prosiectau yn gweithio a mesur yr effaith.

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chyfarwyddyd gan Lywodraeth Cymru, amlygwyd bod pob cynllun yn cael ei drafod gyda’r Llywodraeth

 

PENDERFYNWYD bod y pwyllgor yn ysgrifennu at Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol yn gofyn am ymrwymiad y Llywodraeth i’r cynllun a sut mae cynllun Arfor yn gweithio gyda chynlluniau ehangach y Llywodraeth megis cynlluniau iaith  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

BYW'N IACH

I dderbyn trosolwg o sut mae’r gwasanaeth yn parhau i roi blaenoriaeth i’r Gymraeg

Cofnod:

Derbyniwyd adroddiad ar lafar gan Reolwr Gyfarwyddwr Byw’n Iach ar y gwaith sydd wedi ei wneud gan y cwmni i warchod yr iaith wrth i adrannau o’r Cyngor gael eu hallanoli. Eglurwyd bod Byw’n Iach wedi ei sefydlu yn Ebrill 2019 fel cwmni cyfyngedig trwy warant o dan reolaeth Cyngor Gwynedd yn gweithredu cytundeb ar ran y Cyngor i reoli Canolfannau Hamdden yn y Sir a darparu ystod o wasanaethau Chwaraeon, Iechyd a Ffitrwydd. Fel rhan o’r cytundeb, nodwyd bod cyfrifoldeb dros yr iaith wedi ei gynnwys a bod cydweithio gyda swyddogion datblygu’r iaith wedi sicrhau bod y broses o drosglwyddo wedi ei ffurfioli.

Adroddwyd bod 250 o staff wedi trosglwyddo a bod yr ymateb cychwynnol wedi bod yn un cadarnhaol gyda chanmoliaeth at ymddygiad y staff tuag at newid. Cafwyd lansiad meddal i’r trosglwyddiad gan nad oedd newidiadau amlwg i wasanaethau cwsmer. Amlygwyd mai’r bwriad yw ceisio diwylliant o berchnogaeth i’r holl staff.

Yng nghyd-destun iaith, adroddwyd bod y cwmni wedi creu polisi Iaith gyfatebol i bolisi Cyngor Gwynedd sydd yn berthnasol ac ymarferol i’r maes Hamdden. Amlygwyd bod rhai o amcanion y polisi wedi cadw run fath ond cymalau ychwanegol ar gyfer creu dylanwad o fewn y sector Hamdden. Nodwyd bod gwaith yn cael ei wneud i ddatblygu’r gweithle gyda bwriad o greu swyddi arbenigol i ymgymryd â dyletswyddau penodol.  Ategwyd bod y dynodiadau iaith mewn swydd ddisgrifiadau wedi cael eu herio i fod yn uchelgeisiol wrth fapio’r angen a bod asesiad sgiliau wedi ei gwblhau fel sylfaen i flaenoriaethu rhaglen waith i’r timau.

Ategodd Swyddog Dysgu a Datblygu Iaith Gymraeg y Cyngor bod pob aelod o staff y gwasanaeth Hamdden sydd wedi derbyn hyfforddiant yn cael ei asesu a bod yr aelod staff a’r rheolwr yn sicrhau bod yr hyfforddiant yn gwreiddio. Mynegwyd bod adborth cychwynnol y staff wedi bod yn bositif a chanmolwyd eu hymdrechion a’u parodrwydd i ymateb i’r her.

Diolchwyd am y wybodaeth

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â’r defnydd o gerddoriaeth Gymraeg mewn dosbarthiadau ffitrwydd nodwyd bod y gerddoriaeth wedi ei baratoi gan gwmnïau penodol ac mai cerddoriaeth heb eiriau sydd i’w chwarae. Anodd fyddai creu adnodd Byw’n Iach, ond derbyniwyd bod modd ystyried y sylw.

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â datblygu llwybr gyrfa, amlygwyd bod bwriad creu swyddi penodol fydd yn cynnig arbenigedd mewn meysydd priodol. Bydd hyfforddiant a chefnogaeth yn cael ei gyflwyno gyda’r bwriad o greu mwy o amrywiaeth a chyfleoedd i staff ddatblygu. Nodwyd yr angen i fuddsoddi mewn staff er mwyn sicrhau datblygiad a diwallu’r syniad mai swyddi achlysurol yn unig sydd yn cael eu cynnig yn y maes Hamdden.

Mewn ymateb i sylw ynglŷn ag ystyried cynllun rhannu enillion gyda’r staff nodwyd nad oedd hyn yn bosib ar hyn o bryd ond yn gynllun y gellid ei ystyried i’r dyfodol. Ategwyd bod Cyngor Fflint wedi mabwysiadau cynllun o’r fath, ond  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

DYNODIADAU IAITH pdf eicon PDF 60 KB

I ystyried yr adroddiad

Cofnod:

Derbyniwyd diweddariad ar gynnydd y prosiect Dynodiadau Iaith gan roi cyfle i’r Aelodau ofyn cwestiynau neu gynnig argymhellion ar gyfer unrhyw gamau pellach.

Adroddwyd ar gefndir y prosiect gan amlygu bod y Pwyllgor Iaith (yn 2015) wedi penderfynu edrych ar drefn gofnodi sgiliau iaith staff mewn paratoad ar gyfer dyfodiad Safonau Iaith 2016. Yn mis Ionawr 2016 gwnaed penderfyniad pellach i adolygu gofynion ac amodau iaith swyddi’r Cyngor er mwyn gosod gofynion realistig ochr yn ochr â dyletswyddau’r swydd. Yn 2017 dechreuwyd ail ran y prosiect o sicrhau cefnogaeth i aelodau cyfredol o staff naill ai gadw safon eu sgiliau Cymraeg neu gyrraedd gofynion iaith eu swydd os oedd bwlch yn bodoli.

Tynnwyd sylw at rai gwasanaethau nodedig a weithiwyd a hwy ynghyd â phrif datblygiadau gwaith e.e., holiadur hunanasesu lefel, hyfforddiant, ôl ofal- cyfeillion Cymraeg a llwyddiannau’r prosiect. Y gobaith yw parhau i ymweld â Gwasanaethau, gweithio’n agos gyda chwmni Byw’n Iach a staff cartrefi gofal.

 

Diolchwyd am y wybodaeth ysbrydoledig a chalonogol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â sicrhau parhad i’r prosiect, amlygwyd bod gobaith i benaethiaid a rheolwyr gwasanethau ymgymryd â’r gwaith o ddatblygu a chefnogi eu staff. Ategwyd bod trosiant staff yn amlygu heriau ac nad oedd diweddglo i’r prosiect mewn gwirionedd.

 

8.

ADRODDIAD SICRWYDD COMISIYNYDD GYMRAEG 2018-19 pdf eicon PDF 79 KB

I ystyried adroddiad yr Ymgynghorydd Iaith

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan yr Ymgynghorydd Iaith yn adrodd yn gryno ar ganfyddiadau Adroddiad Sicrwydd Comisiynydd y Gymraeg. Nodwyd bod yr adroddiad yn ganlyniad o waith monitro cwynion, gwaith ymchwil, arsylwi a holi grwpiau ffocws, ac sy’n dangos  canfyddiadau am lwyddiant sefydliadau i weithredu a chydymffurfio gyda’r Safonau.

 

Cyhoeddwyd adroddiad sicrwydd diweddaraf y Comisiynydd dan y teitl Hawlio Cyfleoedd yn ystod haf 2019. Roedd yr adroddiad  yn canolbwyntio rhwng gallu sefydliadau i warantu bod hawl unigolyn i wasanaethau Cymraeg yn cael ei fodloni a defnydd y cyhoedd o’r gwasanaethau hynny.

 

Tynnwyd sylw at y materion perthnasol yn yr adroddiad;

-       Bod angen codi ymwybyddiaeth o ofynion y Safonau

-       Angen sicrhau bod pawb ar draws y Cyngor yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau a’u dyletswyddau o safbwynt y Safonau

-       Bod angen ystyried mwy o weithgarwch i wirio gwasanaethau ar hap

-       Bod angen defnyddio ffurflen hunan-fonitro fel ffordd o gasglu gwybodaeth reolaidd gan adrannau am gydymffurfiaeth

-       Bod amser ac adnoddau staff digonol yn cael ei neilltuo ar gyfer cyflawni’r rôl o gadw golwg ar weithrediad y Safonau.

-       Bod swyddogion gweithredol ac arbenigol yn cael eu cynnwys yn ddigon buan wrth gynllunio a gweithredu prosiectau er mwyn sicrhau gwneud y gorau o bob cyfle i hybu a hyrwyddo’r Gymraeg.

-       Bod angen cymell pobl i ddefnyddio’r Gymraeg a chasglu gwybodaeth ystyrlon o ddefnydd iaith unigolyn.

Diolchwyd am yr adroddiad a chroesawyd y camau gweithredu

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:

-       Bod angen i’r Cyngor gyfathrebu eu disgwyliad i bobl gysylltu â'r Cyngor yn y Gymraeg

-       Angen amlygu mai iaith weinyddol y Cyngor yw’r Gymraeg

-       Angen hyrwyddo bod canran uchel iawn o staff yn siarad Cymraeg

-       Bod angen uchafu defnydd o’r Gymraeg mewn technoleg gwybodaeth

-       Gwahodd penaethiaid adrannau yn eu tro i rannu profiadau / arferion da ar sut y maent yn ymateb i ofynion y Safonau. Awgrym i adrodd ar sefyllfa'r Gymraeg yn eu hadrannau gan gynnig enghreifftiau o lwyddiannau a heriau fel bod y Pwyllgor yn ymwybodol o’r sefyllfa.

-       Cais i’r Aelod Cabinet gyflwyno adroddiad cryno i gyfarfodydd o’r  Pwyllgor fyddai’n rhoi trosolwg strategol ar waith y Cyngor

-       Cais i adroddiad cwynion / canmoliaethau gael ei gynnwys fel eitem sefydlog ar y rhaglen

Penderfynwyd,

·         gwahodd Penaethiaid Adrannau i’r Pwyllgor yn eu tro i roi diweddariad ar y sefyllfa o fewn eu hadrannau.

·         Adfer yr  ymarferiad o gynnwys adroddiad cwynion fel eitem fer, sefydlog ar y rhaglen fyddai hefyd yn cynnwys canmoliaethau

·         Bod yr Aelod Cabinet yn cyflwyno adroddiad byr fyddai’n rhoi trosolwg strategol ar ddatblygiadau ym maes Y Gymraeg o fewn y Cyngor.