Lleoliad: Ystafell Gwyrfai, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Mr David Wareing. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Ni
dderbyniwyd datganiad o fuddiant gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu
hystyried. Cofnod: Dim. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 10 Gorffennaf, 2017 fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 10
Gorffennaf, 2017 fel rhai cywir yn amodol ar dynnu’r geiriau mewn cromfachau ym
mhenderfyniad Eitem 6 (a) Mabwysiadu’r canlynol fel hunan asesiad y pwyllgor
o’i waith (ychwanegiadau i’r ddogfen mewn llythrennau italig ac wedi’u
tanlinellu). |
|
ADOLYGIAD PROTOCOLAU PDF 495 KB Ystyried adroddiad y Swyddog Monitro. Cofnod: Cyflwynwyd –
adroddiad y Swyddog Monitro. Gwahoddwyd
sylwadau a chymeradwyaeth y pwyllgor i’r ddau brotocol penodol ar gyfer
cefnogi’r Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau. Cyfeiriwyd at y
Protocol ar Gysylltiadau Aelodau / Swyddogion ac yn benodol at - bwynt 21.7 Rolau Cyflogeion. Awgrymwyd bod angen cynnwys geiriad
ychwanegol i rôl aelod o ran yr hawl i gynnig polisïau o dan 21.5. - bwynt 21.9.4 Cyfeillgarwch. Nodwyd
bod angen datgan cyfeillgarwch rhwng Aelodau a Chyflogeion. Awgrymwyd o cymharu protocol yr Heddlu efo
protocol Cyngor Gwynedd. o addasu geiriad i gynnwys ‘creu
sefyllfa o amrhiodoldeb’. Eglurwyd y cyflwynir
adroddiad pellach i’r Pwyllgor Safonau yn dilyn canfasio Aelodau a swyddogion
yn gyffredinol ynglŷn â chynnwys a gweithrediad y protocol. Cyfeiriwyd at y
Protocol Rhoddion a Lletygarwch – Aelodau ac yn benodol at bwynt 5.2 ‘Ni
ddylech dderbyn cynigion o letygarwch oni bai fod gwir angen i gyfrannu
gwybodaeth neu gynrychioli’r Cyngor yn y gymuned’. Trafodwyd y pwynt yn fanwl ac eglurwyd mai
bwriad y pwynt oedd ceisio cael Aelodau i feddwl cyn derbyn gwahoddiadau. Cytunwyd nad oedd unrhyw angen penodol yn dod
i’r amlwg i adolygu’r Polisi. . PENDERFYNWYD derbyn sylwadau fel maent yn cyrraedd. [EIG(1]Sylw
oedd hwn ni fyddwn am iddo fod yn awgrym o’ Pwyllgor |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL YR OMBWDSMON 2016/17 PDF 210 KB Ystyried adroddiad y Swyddog Monitro. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan y Swyddog Monitro a thynnwyd sylw at y gostyngiad yn nifer y
cwynion. Tynnwyd sylw at y ffaith fod aelodau o’r Cyngor
oedd yn sefyll am ailetholiad yn ddarostyngedig i’r Cod Ymddygiad ond nad oedd
ymgeiswyr eraill yn ddarostyngedig i’r un rheolaeth. Awgrymwyd dylai’r ymgeiswyr hynny sy’n
sefyll etholiad a heb fod yn aelod presennol, fod ynghlwm i brotocol ymddygiad
oherwydd bod yr aelodau presennol yn gorfod ymddwyn o dan y protocol. Nodwyd
fod rhai cyfyngiadau o fewn cyfraith etholiadol ond nad oeddynt yn cyffelybu
a’r Cod. Nodwyd bod gwybodaeth
eang ar safle we’r Cyngor ar gyfer ymgeiswyr newydd. PENDERFYNWYD nodi’r
adroddiad. |
|
HONIADAU YN ERBYN AELODAU PDF 237 KB Ystyried adroddiad y Swyddog Monitro. Cofnod: Cyflwynwyd, er gwybodaeth – adroddiad y
Swyddog Monitro ar gwynion ffurfiol yn erbyn aelodau. Eglurwyd bod fformat yr adroddiad nawr yn
cynnwys manylion am yr honiadau sydd wedi cau yn unig. PENDERFYNWYD
nodi’r adroddiad. |
|
CEISIADAU AM ODDEFEB PDF 260 KB Ystyried adroddiad y Swyddog Monitro. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd - adroddiad y Swyddog Monitro yn
gofyn i’r pwyllgor ystyried a phenderfynu ar dri chais am oddefeb cyffredinol
gan aelodau ardal Bangor mewn cysylltiad ag adolygiad o ddarpariaeth addysg yn
ardal Bangor y mae’r Cyngor yn ei gynnal.
Cyn ystyried y ceisiadau unigol, rhoddodd y Swyddog Monitro amlinelliad
o’r broses trefniadaeth ysgolion. Atgoffodd y Pwyllgor ei fod wedi gosod
canllawiau i’w hun ar gyfer ymdrin â cheisiadau o’r fath ac wedi caniatáu
goddefebau yn y gorffennol i alluogi aelodau i gymryd rhan mewn trafodaethau
lleol. Datganodd Aled Jones (Aelod Annibynnol) fuddiant yn y mater a gadawodd
y cyfarfod. Manylwyd ar y tri chais yn unigol, sef:- ·
Cais gan
y Cynghorydd Dafydd Meurig, yn gofyn am hawl i siarad yn unig oherwydd bod ei
chwaer yn gweithio i Feithrinfa Caban y Faenol Cyf, sydd wedi ei leoli ar dir
Ysgol y Faenol, Bangor. Mae yn Aelod
Lleol dros Arllechwedd, a bydd yn cynrychioli buddiannau’r ysgol sydd yn ei
ward, sef Ysgol Llandygai. Byddai
buddiant yn codi pe bai trafodaeth ar fater a fyddai’n debygol o effeithio ar
Feithrinfa Caban y Faenol yn benodol. ·
Cais gan y Cynghorydd Elin Walker Jones, yn gofyn am hawl i siarad
yn unig oherwydd ei bod yn Llywodraethwraig yn Ysgol y Garnedd ac Ysgol Tryfan
(efo cyfrifoldeb am anghenion addysgol arbennig) a hefyd yn rhiant efo dau blentyn
yn Ysgol Tryfan, ac yn gyn-riant yn Ysgol y Garnedd. Eglurwyd mai’r ffaith ei
bod yn rhiant â phlant yn Ysgol Tryfan oedd yr unig gysylltiad oedd yn arwain
at fuddiant sy’n rhagfarnu. ·
Cais gan y Cynghorydd Menna Baines, yn gofyn am
hawl i siarad yn unig oherwydd bod ganddi blant sy’n ddisgyblion yn Ysgol
Tryfan ac yn gyn-ddisgyblion yn Ysgol y Garnedd. Mae hefyd yn Llywodraethwr ar Ysgol y Faenol.
Eglurwyd mai’r ffaith ei bod yn rhiant â phlant yn Ysgol Tryfan oedd yr unig
gysylltiad oedd yn arwain at fuddiant sy’n rhagfarnu. Ystyriwyd a phleidleisiwyd ar y tri fesul un
a chafwyd o blaid caniatáu’r tri chais am oddefeb ar yr un telerau ac y
caniatawyd ceisiadau o’r fath yn y gorffennol. PENDERFYNWYD 1.
Caniatáu goddefeb ynglŷn â’r buddiant i’r
Cynghorydd Dafydd Meurig i
siarad, ond nid i bleidleisio, mewn cyfarfodydd dan nawdd y Cyngor, mewn
perthynas â’r broses o adolygu darpariaeth addysg ardal Bangor, ond na chant
siarad, na bod yn bresennol na phleidleisio mewn cyfarfod o’r Cyngor, Cabinet
nac unrhyw un o’i bwyllgorau a’i bod yn ofynnol iddynt ddatgan yn glir ymhob
cyfarfod y maent yn cymryd rhan ynddo eu bod wedi cael goddefeb, gan egluro
union natur y cyfyngiadau arnynt, a bod hynny’n cael ei nodi yng nghofnodion y
cyfryw gyfarfodydd. 2. Caniatáu goddefeb ynglŷn â’r buddiant i’r Cynghorydd Elin Walker Jones i siarad, ond nid i bleidleisio, mewn cyfarfodydd dan nawdd y Cyngor, mewn perthynas â’r broses o adolygu darpariaeth addysg ardal Bangor, ond na chant siarad, na bod yn bresennol na phleidleisio mewn cyfarfod o’r Cyngor, Cabinet nac unrhyw un o’i bwyllgorau a’i bod yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |