Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. COFNODION: Dim i’w
nodi. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod
blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 11 Gorffennaf, 2022 fel rhai cywir. COFNODION: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 11
Gorffennaf, 2022 fel rhai cywir. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant
personol. COFNODION: Dim i’w
nodi. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. COFNODION: Ni chodwyd unrhyw faterion
brys. |
|
FFORWM GENEDLAETHOL PWYLLGORAU SAFONAU Cyflwyno
adroddiad y Swyddog Monitro. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad:
COFNODION: Cyflwynwyd – adroddiad y Swyddog Monitro yn gwahodd y
pwyllgor i gymeradwyo’r trefniadau arfaethedig i gefnogi Fforwm Genedlaethol
Pwyllgor Safonau, ac i gytuno ar y Cylch Gorchwyl drafft ar gyfer y Fforwm. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:- ·
Croesawyd y bwriad i
sefydlu Fforwm Genedlaethol er mwyn cael cysondeb o ran y trefniadau ar draws
Cymru. ·
Mewn ymateb i
gwestiwn, nododd y Swyddog Monitro fod bwriad i gynnal cyfarfod cyntaf y Fforwm
ym mis Rhagfyr, petai modd cael dyddiad.
O ran cynrychiolaeth o Wynedd, mae’n debyg y gofynnid i Is-gadeirydd y
pwyllgor hwn fod yn bresennol y tro hwn, gan fod tymor y Cadeirydd yn dod i ben
yn Rhagfyr, ond roedd hynny’n ddibynnol ar union ddyddiad y Fforwm. ·
Awgrymodd y Cadeirydd,
gan na fyddai’r Swyddog Monitro yn mynychu cyfarfodydd y Fforwm yn arferol, y
dylai’r Cadeirydd a’r Swyddog Monitro gyfarfod yn fuan ar ôl pob cyfarfod, er
mwyn i’r Cadeirydd hysbysu’r Swyddog Monitro o’r materion a godwyd, ac fel y
gall y Swyddog Monitro, yn ei dro, roi adborth i’r Pwyllgor Safonau. PENDERFYNWYD 1.
Cytuno
ar y Cylch Gorchwyl drafft, gan gynnwys cynrychiolaeth. 2.
Cymeradwyo’r
trefniadau arfaethedig i gefnogi’r Fforwm Cenedlaethol. |
|
Cyflwyno adroddiad
y Swyddog Monitro. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad:
COFNODION: Cyflwynwyd –
adroddiad y Swyddog Monitro yn gwahodd y pwyllgor i gymeradwyo drafft o
Brotocol Dyletswydd Arweinyddion Grwpiau Gwleidyddol a’r Pwyllgor Safonau. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:- ·
Awgrymwyd
y dylid cryfhau ail bwynt bwled Camau Gweithredu’r Protocol i nodi ‘Mae
disgwyl i aelodau’r grŵp fynychu cyfleoedd datblygu neu hyfforddiant
perthnasol ...’ yn hytrach na’u bod yn cael eu ‘Annog’ i wneud hynny,
fel bod dyletswydd wedyn ar yr arweinyddion grwpiau i wneud hynny’n
flaenoriaeth. Mewn ymateb, nododd y
Swyddog Monitro fod hyn wedi codi yn y trafodaethau gyda’r Arweinyddion
Grwpiau, ac mai’r arweiniad statudol oedd yn awgrymu ‘annog’. Roedd y gweithredu yn cyfeirio at weithio
gyda’r Swyddog Monitro i drefnu fod pob aelod Grŵp wedi mynychu
hyfforddiant Cod Ymddygiad ar gychwyn tymor.
Ni chredid bod y pŵer gorfodaeth gan yr Arweinyddion Grwpiau, ac
awgrymwyd bod y cysyniad o gydweithio yn ffordd fwy ymarferol ac adeiladol o
gael y maen i’r wal. ·
Nodwyd
y gallai fod yn fwy anodd i Arweinydd Grŵp Annibynnol gadw trefn, gan nad
oes ganddynt rym plaid wleidyddol y tu cefn iddynt. Mewn ymateb, nododd y Swyddog Monitro fod hyn
yn ofyn statudol bellach, ond ei fod yn gyfrwng i weithio gydag Arweinyddion i
hyrwyddo safonau da, cyfleu negeseuon allweddol a datrys problemau drwy drafod,
ac ynghynt, cyn iddynt ddwyshau. ·
Gan
gyfeirio at yr argymhelliad i gyflwyno adroddiad pellach ar weithrediad y
Protocol i gyfarfod Mehefin o’r Pwyllgor Safonau, nodwyd y dymunid cael
cadarnhad y bydd y 3 Arweinydd Grŵp wedi arwyddo’r Protocol erbyn
hynny. Mewn ymateb, nododd y Swyddog
Monitro mai’r bwriad oedd cymeradwyo’r Protocol rŵan a chael yr
Arweinyddion i’w arwyddo. ·
Nodwyd
ei bod yn anodd i’r Pwyllgor Safonau fonitro cydymffurfiaeth Arweinyddion, gan
mai 3 yn unig o aelodau’r Pwyllgor sy’n gynghorwyr, a gofynnwyd i’r Swyddog
Monitro hysbysu’r Pwyllgor yn yr adroddiad ym mis Mehefin os bydd unrhyw
broblemau wedi codi. Mewn ymateb, nododd
y Swyddog Monitro nad oedd yn rhagweld y sefyllfa honno, ond yn sicr, petai’n
gweld problem o sylwedd, bod dyletswydd arno i adrodd i’r Pwyllgor Safonau. ·
Mewn
ymateb i bryder a fynegwyd gan aelod ynglŷn â dau fater yn ymwneud ag
ymddygiad oedd wedi codi’n ddiweddar, eglurodd y Swyddog Monitro nad oedd y
Protocol yn disodli’r trefniadau cwynion i’r Ombwdsmon a chwynion dan y drefn
datrysiad lleol, a phe credid bod aelod wedi torri’r Cod Ymddygiad, bod hynny’n
fater i’w ddilyn drwy’r sianelau arferol. PENDERFYNWYD 1.
Cymeradwyo
Protocol Dyletswyddau Arweinyddion Grwpiau Gwleidyddol a’r Pwyllgor Safonau i’w
Arwyddo gan Gadeirydd y Pwyllgor a’r Arweinyddion Grwpiau Gwleidyddol. 2.
Derbyn
adroddiad pellach ar weithrediad y Protocol i gyfarfod Mehefin y Pwyllgor
Safonau. |
|
Cyflwyno adroddiad
y Swyddog Monitro (i ddilyn) Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn
yr adroddiad a gofyn i’r Swyddog Monitro a’r Aelod Pwyllgor Cymunedol baratoi
cynllun gweithredu sy’n adlewyrchu’r hyn sydd yn yr adroddiad. COFNODION: Cyflwynwyd:- ·
Adroddiad gan Gadeirydd y Pwyllgor
Safonau a’r Aelod Pwyllgor Cymunedol yn sgil gwneud darn o waith er mwyn deall
yn well anghenion clercod cynghorau cymuned o safbwynt cefnogaeth yng
nghyd-destun y fframwaith foesegol a swyddogaethau’r Pwyllgor Safonau yn
benodol. ·
Sylwadau’r Swyddog Monitro ar yr
adroddiad. Cloriannodd y Swyddog Monitro gasgliadau’r adroddiad yn erbyn
swyddogaethau statudol y Pwyllgor mewn perthynas â chynghorau cymuned, ac yna
gwahoddwyd yr Aelod Pwyllgor Cymunedol i ddweud gair ynglŷn â’i ganfyddiadau. Nododd yr Aelod Pwyllgor Cymunedol:- ·
Bod y gwaith gyda
detholiad o glercod cynghorau tref a chymuned wedi amlygu bod clercod
weithiau’n cael trafferth cysylltu â’r Cyngor Sir, ac y dylai’r Cyngor Sir
ddarparu llinell gymorth neilltuol ar eu cyfer. ·
Y byddai’n fuddiol
petai Llywodraeth Cymru yn paratoi llyfryn syml ar y Cod Ymddygiad ar gyfer
aelodau cynghorau tref a chymuned, a bod pob aelod o bob cyngor yn derbyn copi
ohono wrth arwyddo i fod yn gynghorydd. ·
Bod aelodau cynghorau
cymuned yn ddryslyd ynglŷn â’u grym a’u pwerau a’u perthynas â’r Cyngor
Sir. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:- ·
Diolchwyd i’r Cadeirydd a’r Aelod
Pwyllgor Cymunedol am eu gwaith sylweddol yn paratoi’r adroddiad, a nodwyd nad
oedd y darlun yn syndod, gan fod yna gymaint o wahaniaeth rhwng cynghorau. ·
Holwyd beth oedd tu
cefn i’r sylw yn y Crynodeb Gweithredol bod y berthynas gyda Chyngor Gwynedd yn
fwy dyrys ac angen sylw. Mewn ymateb,
eglurodd y Cadeirydd fod y clercod yn gwybod i droi at y Swyddog Monitro
ynglŷn â mater safonau, ond yn ei chael yn anodd gwybod at bwy i droi yn y
Cyngor Sir ynglŷn â materion eraill.
Er nad oedd hyn yn ymwneud â safonau’n uniongyrchol, roedd yn fater oedd
wedi codi’n gyson yn ystod y trafodaethau gyda’r clercod. ·
Gofynnwyd i’r Swyddog
Monitro gyflwyno’r awgrym i’r Prif Weithredwr ynglŷn â sefydlu llinell
gymorth neilltuol ar gyfer clercod. Mewn
ymateb, nododd y Swyddog Monitro, er y byddai’n hapus i basio’r genadwri
ymlaen, nad oedd yn glir beth oedd yr achos busnes y tu cefn i hynny, ac roedd
o’r farn y byddai’n anodd symud y syniad yn ei flaen, yn enwedig yn y sefyllfa
ariannol anodd sy’n wynebu’r Cyngor ar hyn o bryd. Nododd hefyd na chredai fod yr adroddiad yn
darparu ochr arall y geiniog o ran sut mae’r Cyngor Sir yn gweithio ar hyn o
bryd gyda chynghorau tref a chymuned, a’i bod yn debyg bod yna sawl cyswllt
amrywiol ar draws y sir ynglŷn â hynny. · Mewn ymateb i’r sylw y byddai’n fuddiol pe gallai Llywodraeth Cymru baratoi llyfryn ar y Cod Ymddygiad i aelodau, nododd y Swyddog Monitro fod yna ganllawiau Cod Ymddygiad penodol ar gyfer cynghorau tref a chymuned ar wefan yr Ombwdsmon. Awgrymodd aelod, er y croesawid y syniad o lyfryn, oni fyddai’n well darparu fideo hyfforddiant ar YouTube, a bod gofyn i bob cynghorydd arwyddo eu bod wedi gwylio’r fideo. Opsiwn arall fyddai darparu hyfforddiant rhithiol i glercod fel man cychwyn. Cyfeiriodd y Cadeirydd at ... view the full COFNODION text for item 7. |
|
HONIADAU YN ERBYN AELODAU Cyflwyno
adroddiad y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau. Penderfyniad: Nodi’r wybodaeth. COFNODION: Cyflwynwyd -
adroddiad y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau yn cyflwyno gwybodaeth am
benderfyniadau’r Ombwdsmon ar gwynion ffurfiol yn erbyn aelodau. PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth. |