Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

          Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriad gan Mr Mark Jones

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

          Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

 

Cofnod:

         Rhoddodd y Swyddog Monitro ddiweddariad ar y trefniadau ar gyfer penodi aelodau newydd i seddi gwag y Pwyllgor. Nodwyd fod dwy sedd wag ar y pwyllgor erbyn hyn a bod y rhain wedi cael eu hysbysebu yn gyson ar wefan yr awdurdod ers cyfnod, ond yn anffodus eu bod yn cael trafferth llenwi’r seddi. Soniwyd fod ymdrechion i gynyddu cyflymder a dwyster y gwaith yn parhau, i geisio llenwi’r seddi gyda’r bwriad o benodi aelodau newydd yn y Cyngor llawn ym mis Mai.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 140 KB

          Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 4 Tachwedd, 2024 fel rhai cywir.

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 4 o Dachwedd, 2024 fel rhai cywir.

 

5.

DEDDF LLYWODRAETH LEOL AC ETHOLIADU (CYMRU) 2021 ("Y DDEDDF") DYLETSWYDD ARWEINYDDION GRWPIAU GWLEIDYDDOL A'R PWYLLGOR SAFONAU pdf eicon PDF 118 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Adolygu gweithrediad y ddyletswydd a chadarnhau trefniadau adrodd wrth symud ymlaen.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Swyddog Monitro yn manylu ar ddau brif ddyletswydd mae’r ddeddf yn ei osod ar Arweinyddion Grwpiau Gwleidyddol a safonau ymddygiad Aelodau Grwpiau. Nodwyd mai bwriad cyflwyno’r adroddiad yma oedd rhoi cyfle i’r Pwyllgor gyfarfod gydag arweinyddion grwpiau yn ffurfiol i gael trafodaeth o gwmpas y protocol a’i weithrediad. Yn ogystal, rhoddwyd cyfle i osod sut mae’r pwyllgor yn symud ymlaen gyda gweithredu'r ddyletswydd yma.

 

Nododd y Swyddog Monitro mai amcan y protocol yw ymateb i ddyletswydd statudol sydd gan yr arweinyddion grwpiau o gwmpas hyrwyddo ymddygiad da ymhlith aelodau. Esboniwyd bod hyn yn golygu cyd-weithio rhwng y Pwyllgor Safonau a’r  Arweinyddion ac y bydd  hyn yn gam cadarnhaol i gefnogi ymddygiad aelodau ac i ddatrys materion yn gynnar.

 

Soniwyd nad oedd rhai aelodau wedi mynychu’r cyrsiau craidd hyfforddi, fel y cwrs cod ymddygiad a’r cwrs llesiant. Cydnabuwyd y pwynt yma, a nodwyd bod eitem 5 o’r Meini Prawf yn gofyn i’r Arweinyddion Grwpiau i gefnogi presenoldeb mewn digwyddiadau hyfforddi. Gofynnwyd i’r Swyddog Monitro  adael i Arweinwyr y grwpiau  gael rhestr o’r aelodau sydd ddim wedi mynychu’r cyrsiau hyfforddi a gobeithiwyd y gallai’r Arweinwyr rhoi hwb i'r rhai sydd ddim wedi. Mewn ymateb, nododd y Swyddog Monitro bod hyn yn fwriad, ac i atgyfnerthu’r pwynt esboniwyd bod cwrs llawn wedi ei redeg ar y cod ym mis Rhagfyr y flwyddyn ddiwethaf. Nodwyd fod y cwrs wedi cael ei recordio a’i fod ar gael i’r aelodau ei wylio.

 

PENDERFYNIAD

Adolygu gweithrediad y ddyletswydd a chadarnhau trefniadau adrodd wrth symud ymlaen.

 

6.

RHAGLEN WAITH ARFAETHEDIG 2025-26 pdf eicon PDF 102 KB

Penderfyniad:

Nodi a derbyn y Rhaglen Waith Arfaethedig 2025/26.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Swyddog Monitro yn cynnig rhaglen ddrafft ar gyfer gwaith y Pwyllgor ar gyfer 2025-26. Nodwyd fod adolygiad o’r trefniadau hyfforddiant wedi ei gynnwys ar y rhaglen waith, nid yn unig y cyrsiau sydd yn ofynnol rŵan ond unrhyw rai newydd hefyd. Hefyd, soniodd y Swyddog Monitro ei fod eisiau edrych ar gofrestrau buddiannau i weld os oes angen gwneud unrhyw addasiadau.

 

PENDERFYNIAD

Nodi a derbyn y Rhaglen Waith Arfaethedig

 

7.

ADRODDIAD BLYNYDDOL PANEL DYFARNU CYMRU 2023-24 pdf eicon PDF 49 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau yn amgau adroddiad blynyddol Panel Dyfarnu Cymru 2023-2024. Nodwyd nad oedd themâu sylfaenol i’w trafod ac mai lleiafrif bychan o aelodau sydd yn cyrraedd y panel, gyda mwyafrif yr aelodau yn cydymffurfio gyda’r cod.

 

Nododd y Swyddog Monitro fod Cadeirydd newydd wedi ei phenodi i’r panel dyfarnu sef Meleri Tudur, cyfreithwraig o Wynedd.

 

Diolchwyd i’r Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau am ei waith ar y broses apêl gan nodi fod rhesymau’r Pwyllgor Safonau wedi cael eu rhestru fel rhai digon da i’r Llywydd benderfynu nad oedd sail i apêl. Ategwyd hyn gan y Swyddog Monitro a nodwyd fod yn cael ei ddefnyddio fel model ar sut i ddrafftio penderfyniad, a hefyd fel templed gan bwyllgorau safonau eraill.

 

PENDERFYNIAD

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

8.

HONIADAU YN ERBYN AELODAU pdf eicon PDF 96 KB

Penderfyniad:

 

Nodi’r Wybodaeth.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau  yn cyflwyno gwybodaeth i’r pwyllgor am benderfyniadau’r Ombwdsman ar gwynion ffurfiol yn erbyn aelodau.

 

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw hysbysiadau o benderfyniadau oddi wrth yr Ombwdsmon ers yr adroddiad blaenorol.

 

            PENDERFYNIAD

            Nodi’r wybodaeth

 

9.

HYFFORDDIANT I GYNGHORAU CYMUNED pdf eicon PDF 108 KB

Penderfyniad:

Nodi’r wybodaeth.

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau ar hyfforddiant i gynghorau Cymuned. Nodwyd fod hyfforddi cynghorwyr cymuned ar faterion yn ymwneud â’r Cod Ymddygiad yn rhan o swyddogaeth y Pwyllgor Safonau ac mae’r Pwyllgor wedi adnabod yr angen i gynnal hyfforddiant o’r fath.

 

Soniwyd fod sesiwn eisoes wedi ei baratoi a’i dreialu ar gyfer cynghorau cymuned gyda’r amcan i alluogi aelodau a chlercod i gael dealltwriaeth o hanfodion y Cod Ymddygiad, arfogi aelodau i weithredu o fewn y fframwaith ac amlygu lle i gael arweiniad a gwybodaeth bellach. Bydd y sesiynau’n cael eu cynnal yn rhithiol drwy gyfrwng ‘Zoom’ ac mae dau ddyddiad wedi eu trefnu hyd yn hyn. Nodwyd hefyd fod y sesiynau yn cael eu recordio a’u gosod ar wefan y Cyngor ac felly bydd modd eu gwylio ar unrhyw adeg.

 

Mynegwyd pryder gan aelod am yr amserlen, yn benodol faint o rybudd y gellir ei roi ymlaen llaw i allu mynychu’rsesiynau. Cydnabuwyd hyn gan egluro mai’r sesiynau cyntaf yw'r rhain ac os oes yna fwy o alw am y sesiynau yna bydd modd cynnal mwy ohonynt.

 

PENDERFYNIAD

Nodi’r wybodaeth