Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Courtney Leigh Jones  E-bost: Courtneyleighjones@gwynedd.llyw.cymru

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriad gan Ms Sonya Khade (Aelod Annibynnol)

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Dim i’w nodi.

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

 

Cofnod:

Nid oedd fater brys i’w nodi.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 143 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 09 Mehefin, 2025 fel rhai cywir.

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 9 Mehefin 2025 fel rhai cywir.

 

5.

COFRESTR RHODDION A LLETYGARWCH pdf eicon PDF 126 KB

Er gwybodaeth ac i gyflwyno unrhyw sylwadau ar y trefniadau.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

  1. Derbyn a nodi cynnwys yr adroddiad.
  2. Derbyn cynnig y Swyddog Monitro i baratoi adroddiad ynghylch opsiynau ar gyfer nodi gwybodaeth ar wefan y Cyngor, i’w gyflwyno i’r Aelodau yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor hwn, sydd wedi ei raglennu ar gyfer 23 Chwefror 2026.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Reolwr Priodoldeb ac Etholiadau. Cadarnhawyd bod hwn yn adroddiad rheolaidd i’r Pwyllgor, yn unol â’i raglen waith. Nodwyd ei fod yn gysylltiedig â Chod Ymddygiad Cynghorwyr, sy’n ei wneud yn ofynnol i aelodau ddarparu hysbysiad ysgrifenedig i’r Swyddog Monitro o unrhyw gynnig o letygarwch, buddiant materol neu fantais sy’n werth mwy na £25, fel y swm hicyn sydd wedi ei bennu gan Gyngor Gwynedd.  Cadarnhawyd bod yr egwyddorion wedi ei amlinellu yn y protocol, sydd yn rhoi arweiniad i aelodau ynglŷn â beth sydd yn addas i’w dderbyn. Nodwyd bod rhoddion sydd wedi ei wrthod gan aelodau hefyd yn cael eu cofrestru, er mwyn dadansoddi patrymau ayyb.

 

Cadarnhawyd mai nifer isel o gofrestriadau rhoddion sydd wedi bod eleni, sydd yn debyg i’r flwyddyn flaenorol 2024/25. Sylwyd mai dim ond 3 cofrestr newydd sydd wedi dod i law ers y cyfarfod diwethaf, a rheiny yn ymwneud a’r un digwyddiad.

 

 

 

 

Diolchwyd am yr adroddiad a mynegwyd canmoliaeth ynghylch cydymffurfiaeth aelodau’r Cyngor a’r polisi. Awgrymwyd y dylid ystyried gyhoeddi cofrestr rhoddion a lletygarwch ar wefan y Cyngor, er mwyn adlewyrchu hyder y cyhoedd a sicrhau tryloywder. Nodwyd bod materion diogelwch data hefyd yn bwysig a bydd angen i hyn gael ystyriaeth wrth ystyried opsiynau cyhoeddi gwybodaeth ar-lein. Penderfynwyd byddai’r Swyddog Monitro yn paratoi adroddiad ynghylch opsiynau ar gyfer nodi’r wybodaeth ar-lein erbyn cyfarfod nesaf y Pwyllgor. 

 

 

PENDERFYNIAD

 

1.    Derbyn a nodi cynnwys yr adroddiad

2.    Derbyn cynnig y Swyddog Monitro i baratoi adroddiad ynghylch opsiynau ar gyfer nodi gwybodaeth ar wefan y Cyngor, i’w gyflwyno i’r Aelodau yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor hwn, sydd wedi ei raglennu ar gyfer 23 Chwefror 2026.

 

 

 

6.

ADRODDIAD BLYNYDDOL YR OMBWDSMAN pdf eicon PDF 117 KB

Er gwybodaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

Nodi a derbyn cynnwys yr adroddiad.

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Swyddog Monitro.

 

Mynegwyd pryder bod cryn dipyn o achosion yn mynd ymlaen i’r ombwdsman sydd yn golygu felly bod yr Ombwdsmon ar ei hol hi efo’u gwaith. Mynegwyd nad ydynt yn cyrraedd eu targedau, ond hyn yn amlwg gan fod eu llwyth gwaith mor uchel. Tynnwyd sylw at y llwyth gwaith sydd gan yr Ombwdsmon a mynegwyd sylw y dylid ystyried

 

Sylwyd bod 315 cwyn yn ymwneud a chod ymddygiad a bod cyn lleied â 49 wedi eu harchwilio. Awgrymwyd y byddai’n ddefnyddiol ceisio datrys mwy o faterion yn fewnol cyn iddynt orfod mynd ymlaen i’r ombwdsmon er mwyn gallu rheoli’r llwyth gwaith yn well a delio a mwy o achosion yn effeithlon.

 

Mewn ymateb i ymholiad gan Aelod ynghylch yr angen am ganfyddiad o euogrwydd fel sail dystiolaethol er mwyn atal cynghorwyr o’u gwaith, cadarnhaodd y Swyddog Monitro bod materion troseddol yn ddibynnol ar ganfyddiad o euogrwydd er mwyn gweithredu yn briodol.

 

 

PENDERFYNIAD

 

Nodi a derbyn cynnwys yr adroddiad.

 

7.

HONIADAU YN ERBYN AELODAU pdf eicon PDF 94 KB

Er gwybodaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

Nodi’r wybodaeth.

 

Cofnod:

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau. Rhoddwyd gwybodaeth i’r pwyllgor am benderfyniadau’r Ombwdsman ar gwynion ffurfiol yn erbyn aelodau. Adroddwyd mai crynodeb yw hwn o gwynion sydd wedi cau er mwyn rhoi darlun i’r Pwyllgor o’r math o bethau sy’n cael eu cyfeirio at yr Ombwdsmon a’r penderfyniadau a wneir wrth asesu’r cwynion. Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw hysbysiadau o benderfyniadau oddi wrth yr Ombwdsmon ers yr adroddiad blaenorol.

Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhawyd bod cwyn yn erbyn cyn - aelod o’r Cyngor wedi ei chyfeirio at Banel Dyfarnu Cymru yn uniongyrchol gan yr Ombwdsmon. Nodwyd y gobeithiwyd bydd mwy o fanylion ynghylch y mater hwn ar gael erbyn cyfarfod nesaf y Pwyllgor, felly bydd modd manylu arno bryd hynny.

 

Gofynnwyd beth yw sefyllfa Aelodau ynghylch datgan buddiant ar gyfer penderfyniadau pan yn aelod o fyrddau ymddiriedolaeth. Esboniwyd bod y mater hwn yn rhan o’r dyletswyddau statudol a cyfreithiol tuag at y cwmni neu elusen hwnnw i hyrwyddo llwyddiant y cwmni perthnasol ond bod angen hefyd ystyried y mater o wrthdrawiadau buddiannau a bod angen bod yn ofalus i beidio mynd yn erbyn y naill a’r ddyletswydd. Nodwyd bod angen delio a’r mater unigryw yn unol â’r gofynion a’r ymddiriedolaeth neu’r cwmni a dilyn y canllawiau priodol. Manylwyd bod y cod ymddygiad yn nodi yn gyffredinol y dylid dilyn y cod ymddygiad y mudiad mae’r aelod yn rhan ohono. Eglurwyd ei fod yn bosib cydweithio a’r Tîm Democratiaeth i greu dynodiad penodol esboniadol yn manylu ar y mater hwn yn y pecyn anwytho aelodau erbyn cyfnod Etholiadau nesaf yn 2027 er mwyn sicrhau dealltwriaeth ynglŷn â natur y cod a’r canllawiau perthnasol.

 

 

PENDERFYNIAD

 

Nodi’r wybodaeth.

8.

TREFN DATRYS MEWNOL pdf eicon PDF 92 KB

Er argymell Trefn Datrys Mewnol diwygiedig i’w fabwysiadu gan y Cyngor Llawn.

 

Mae Atodiad 1 ar wahân ar gyfer Aelodau’r Pwyllgor Safonau yn unig. Mae’r Atodiad wedi’i eithrio o dan Paragraff 16 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 – Gwybodaeth y gallai honiad ynghylch braint broffesiynol gyfreithiol gael ei gynnal yn ei chylch mewn achos cyfreithiol. Mae’r Atodiad yn cynnwys barn gyfreithiol a ddarparwyd drwy swyddfa Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ac yn ddarostyngedig i fraint gyfreithiol.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

To note the report.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Swyddog Monitro. Eglurwyd bod y Trefn Datrys Mewnol wedi bod mewn bodolaeth yng Ngwynedd ers 2013, ac yn creu proses anffurfiol ar gyfer ymdrin a chwynion lefel isel heb yr angen am gŵyn ffurfiol i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Nodwyd bod yr Ombwdsmon wedi adolygu’r holl elfennau a phrotocolau datrys lleol yng Nghymru, ac wedi adnabod gwaith Gwynedd fel ymarfer da yn y maes. Atgoffwyd bod y Pwyllgor hwn wedi addasu trefn datrys leol Gwynedd tua 2 flynedd yn ôl i roi mwy o rôl i arweinyddion grwpiau ar y pryd yn y broses o ddatrys mewnol. Nodwyd bod hwn yn hyrwyddo datrysiad mewnol ac yn atgyfnerthu’r broses.

 

Cyfeiriwyd at yr heriau sydd yn wynebu cynghorau tref a chymuned a’r pwysau ar swyddogion monitro i ddatrys honiadau a thoriadau cod ymddygiadau. Nodwyd bod strwythur yn llafurus, ond ei fod yn tynnu pwysau sylweddol oddi ar yr Ombwdsmon. Amlygwyd bod hyn yn rhyddhau adnoddau’r Ombwdsman i ddelio a materion yn unol â’r cyfansoddiad.

 

PENDERFYNIAD

 

Nodi’r adroddiad.

 

9.

COFNODION FFORWM CENEDLAETHOL PWYLLGORAU SAFONAU pdf eicon PDF 100 KB

Er gwybodaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

Derbyn y wybodaeth.

Cofnod:

 

Cyfeiriwyd at y cofnodion gan y Cadeirydd. Amlygwyd mai eitem er gwybodaeth yw hon ac felly ni bu drafodaeth.