Lleoliad: Ystafell Gwyrfai, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriad gan Mr Aled Jones. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw
ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd
datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu
hystyried. Cofnod: Ni chodwyd unrhyw
faterion brys. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol
o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 4 Tachwedd, 2019 fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a
gynhaliwyd ar 4 Tachwedd, 2019 fel rhai cywir. |
|
ADRODDIADAU AR SAFONAU MOESEG MEWN TREFNIADAU ALLANOLI A CHYDWEITHIO PDF 58 KB Ystyried
adroddiad y Swyddog Monitro (i ddilyn). Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad
y Swyddog Monitro yn rhoi trosolwg o’r ystod o drefniadau llywodraethu gwahanol
sy’n rhan o gyd-weithio’r Cyngor ar draws ystod o brosiectau mewn amryw o
feysydd, ac yn esbonio sut mae materion priodoldeb yn cael eu cyfarch. Nododd y Swyddog
Monitro, gan fod hanes o gydweithio agos rhwng swyddogion monitro Gogledd
Cymru, bod llawer o waith cydgordio yn digwydd y tu ôl i’r llen ac yn ei gwneud
yn hawdd cael consensws ar wahanol faterion. Cyfeiriwyd yn benodol
at:- ·
Y tabl yn Atodiad 1 i’r adroddiad, oedd yn rhoi
trosolwg bras o’r mathau o fodelau o gydweithio ac
allanoli oedd yn cael eu defnyddio amlaf. ·
Y Cod Ymddygiad ar gyfer Ymgynghorwyr Bwrdd Uchelgais
Gogledd Cymru. Holwyd sut roedd
hyn i gyd yn cael ei roi o flaen y cynghorwyr fel eu bod yn glir beth oedd y
gofynion. Mewn ymateb, eglurwyd bod
rhaid ymdrin â hyn ar sail pob achos yn unigol. E.e. roedd y swyddogion monitro
yn cynghori aelodau o ran cydbwyllgorau.
Roedd yna brotocol ar gyfer y Bwrdd Uchelgais oedd yn sôn am y
trefniadau, ac yn achos cwmnïau megis Cwmni Byw’n Iach, roedd y bwrdd
cyfarwyddwyr wedi derbyn cyfarwyddyd i fynd dros y gofynion gyda’r
cynghorwyr. Mewn ymateb i
gwestiwn pellach, nodwyd nad oedd problem wedi codi o ran datgan buddiant mewn
sefyllfa o gydweithio, boed hynny drwy gamddealltwriaeth neu dramgwydd. Roedd y materion yn eithaf amlwg fel rheol ac
roedd modd cael sgwrs aeddfed a chall ble bynnag roedd y sefyllfa’n codi. Roedd hefyd yn bwysig cael y sgwrs honno’n
ddigon buan. PENDERFYNWYD nodi a derbyn cynnwys yr adroddiad. |
|
COFRESTR BUDDIANNAU AELODAU PDF 58 KB Ystyried
adroddiad Yr Uwch Gyfreithiwr
(Corfforaethol) (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd –
adroddiad yr Uwch Gyfreithiwr (Corfforaethol) yn manylu ar y drefn o ran
cofrestru buddiannau aelodau ac yn gwahodd y pwyllgor i gynnig unrhyw sylwadau
ar gamau y gellid eu cymryd mewn perthynas â hyn. Nodwyd bod rhai
sefydliadau yn ail-ddosbarthu ffurflenni datgan buddiannau ymlaen llaw yn
flynyddol, ac y gellid ystyried hyn yn hytrach nag anfon neges atgoffa yn
unig. Awgrymwyd y dylid dweud wrth y
cynghorau cymuned bod cofrestru ymlaen llaw yn angenrheidiol, yn hytrach nag yn
ymarfer da yn unig. Mewn ymateb,
eglurwyd na ellid gorfodi’r cynghorau cymuned i wneud hynny gan nad oedd
rheidrwydd ar eu haelodau i gofrestru buddiannau ymlaen llaw. Nodwyd, wrth
geisio creu awyrgylch anffurfiol / cartrefol mewn cyfarfodydd cynghorau
cymuned, bod tueddiad i ddweud wrth aelodau sydd â buddiant nad oes raid iddynt
adael y stafell yn ystod y drafodaeth ar y mater dan sylw. Awgrymodd y
Swyddog Monitro efallai bod darn o waith i’w wneud o ran sut mae buddiannau yn
cael eu cofrestru. Waeth beth oedd yr
hinsawdd o ran gorfodi, roedd aelodau’n cydymffurfio oherwydd bod hynny’r peth
iawn i’w wneud, ac nid oherwydd bod yna orfodaeth arnynt. Hefyd, roedd yn creu delwedd well os oedd
aelod sydd â buddiant yn gadael yr ystafell. Nodwyd, bod
cynghorwyr Gwynedd yn cael eu hannog i fynd i weld y Swyddog Monitro neu’r Uwch
Gyfreithiwr (Corfforaethol) ymlaen llaw i wirio os oedd ganddynt fuddiant mewn
eitem ar raglen pwyllgor ai peidio. Nodwyd nad oedd
clercod cynghorau cymuned yn datgan buddiannau.
Mewn ymateb, eglurwyd nad oedd y Cod Ymddygiad yn berthnasol i’r staff,
ac fel yr unig swyddog yn gweithio i gyngor cymuned, gallai fod yn anodd i’r clerc
gamu o’r neilltu. Er hynny, byddai modd
rhoi trefniadau mewn lle i reoli sefyllfa o’r fath gan fod hyn i gyd yn ymwneud
â delwedd gyhoeddus. Awgrymwyd y gellid
cynnwys hyn yn yr hyfforddiant i’r clercod. Canmolwyd yr
hyfforddiant a drefnwyd yn Nhywyn yn ddiweddar a diolchwyd i’r Swyddog Monitro
am ddod yno. Nodwyd nad oedd y
ffurflen yn amlygu’n glir bod buddiannau partneriaid, ac ati, yn berthnasol
hefyd. Gofynnwyd i’r
aelodau, fel defnyddwyr, fwrw golwg dros y ffurflen cofrestru ymlaen llaw a’r
ffurflen cofrestru datganiadau a wneir mewn cyfarfodydd, a chysylltu â’r
Swyddog Monitro gydag unrhyw awgrymiadau o ran sut i’w gwella. PENDERFYNWYD
nodi a derbyn cynnwys yr adroddiad. |
|
HONIADAU YN ERBYN AELODAU PDF 47 KB Ystyried
adroddiad yr Uwch Gyfreithiwr (ynghlwm). Cofnod: Cyflwynwyd, er
gwybodaeth, adroddiad yr Uwch Gyfreithiwr (Corfforaethol) yn cyflwyno
gwybodaeth am benderfyniadau’r Ombwdsmon ar gwynion ffurfiol yn erbyn aelodau.
Nodwyd bod un cwyn y mae’r Ombwdsmon yn cynnal ymchwiliad iddi ac un lle mae’n
ystyried os dylai ymchwilio. Sylwadau yn codi o’r
drafodaeth: ·
Nodwyd ei bod yn galonogol gweld cyn lleied o gwynion
ond bod gan rai aelodau bryderon ynglŷn â’r amser mae’n cymryd i gael
ymateb gan yr Ombwdsmon. Nodwyd bod hwn yn fater sydd wedi ei godi yn y Cyngor
llawn hefyd. ·
Esboniodd y Swyddog Monitro fod angen i’r gŵyn fod yn un
sylweddol i’r Ombwdsmon ymchwilio a gweithredu. PENDERFYNWYD nodi a derbyn
cynnwys yr adroddiad. |