Lleoliad: Ystafell Gwyrfai, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Y Cynghorydd Dewi
Roberts. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw
ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod
oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu
hystyried. Cofnod: Ni chodwyd unrhyw faterion brys. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol
o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 17 Mehefin, 2019 fel rhai cywir (ynghlwm). Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn
a gynhaliwyd ar 17 Mehefin, 2019 fel rhai cywir. |
|
COFRESTR RHODDION A LLETYGARWCH PDF 44 KB Ystyried
adroddiad yr Uwch Gyfreithiwr (Corfforaethol) (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad
y Swyddog Monitro i’r pwyllgor fel
rhan o’i waith o fonitro safonau o fewn y Cyngor, a gwahoddwyd yr aelodau
i nodi, derbyn
a chynnig unrhyw sylwadau ar gynnwys
yr adroddiad. Yn ystod
y drafodaeth, nodwyd:- ·
Nad
oedd aelodau’n glir pryd i
gofrestru rhodd / lletygarwch ai peidio. Mewn ymateb, eglurwyd,
e.e. nad oedd lluniaeth a ddarperir fel rhan
o gyfarfod arferol corff, megis Bwrdd
Adra (Cartrefi Cymunedol Gwynedd), yn lletygarwch, ond bod lluniaeth a ddarperir, er enghraifft, gan gwmni preifat,
fel rhan o arddangosfa cyn cyflwyno cais cynllunio,
yn fater gwahanol, gan y gall fod ymgais yma
i ddylanwadu ar yr aelod. ·
Bod canfyddiad bod cynghorwyr yn derbyn llawer mwy o
roddion a lletygarwch nag sy’n digwydd mewn gwirionedd. ·
Mai aelodau’r Cabinet sydd â’r hawl i wneud
mwyafrif y penderfyniadau bellach, ac nad oes gan yr aelodau eraill fawr o rôl
penderfynu, ac eithrio ar faterion megis cynllunio. ·
Y dylid cynnwys nodyn yn adroddiad blynyddol nesaf y
Pwyllgor Safonau yn atgoffa’r aelodau o’r angen i gofrestru unrhyw gynnig o
rodd / lletygarwch sy’n werth dros £25, pe derbynnir y cynnig hwnnw ai peidio. PENDERFYNWYD nodi a derbyn cynnwys yr adroddiad
gyda’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod
y drafodaeth. |
|
HONIADAU YN ERBYN AELODAU PDF 49 KB Ystyried adroddiad yr
Uwch Gyfreithiwr (Corfforaethol) (ynghlwm). Cofnod: Cyflwynwyd, er
gwybodaeth, adroddiad yr Uwch Gyfreithiwr
(Corfforaethol) yn cyflwyno gwybodaeth am benderfyniadau’r Ombwdsmon ar gwynion ffurfiol
yn erbyn aelodau. Yn ystod
y drafodaeth, nodwyd:- ·
Bod pryder nad oedd
aelodau’n sylweddoli pa mor bwysig yw
cyflwyno tystiolaeth wrth wneud cŵyn.
Mewn ymateb, nodwyd bod llawer o gwynion yn ymwneud â sylwadau
ar gyfryngau cymdeithasol a phwysleisiwyd pwysigrwydd cymryd ciplun (screen shot) neu argraffiad o’r dystiolaeth yn syth rhag ofn
i’r postiad ddiflannu. Nodwyd hefyd, er
bod y dystiolaeth yn eithaf eglur mewn
rhai achosion, bod yna fathau eraill
o achosion sy’n llawer mwy anodd
eu profi, ac yn ymwneud â phatrwm
ymddygiad sy’n datblygu dros gyfnod
o amser o fod yn rhywbeth yn
ymddangos yn eithaf di-nod ar y cychwyn i fod
yn rhywbeth llawer mwy difrifol. Roedd achosion o’r fath
yn llawer fwy heriol gan
fod casglu tystiolaeth yn golygu cofnodi dros gyfnod. Ychwanegwyd y bwriedid cyfeirio yn yr hyfforddiant
aelodau at bwysigrwydd bod yn fyw i’r
syniad o gadw cofnod o bopeth. ·
Y dylid cynnwys nodyn yn adroddiad blynyddol nesaf y
Pwyllgor Safonau, os bydd hyfforddiant wedi’i gynnal erbyn hynny, yn nodi bod y
pwyllgor wedi ymateb i’r sylwadau a wnaed yng nghyfarfod y Cyngor llawn ar adeg
cyflwyno’r adroddiad blynyddol diwethaf ac wedi cael trafodaeth ar hyn. ·
Nodwyd,
er bod modd gwneud sylwadau eithaf hallt a beirniadol yn erbyn
aelodau heb dorri’r côd, bod yna riniog na ddylid ei groesi. Bwriedid cyflwyno adroddiad i gyfarfod nesaf
y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn manylu ar ffyrdd
o gefnogi aelodau sy’n dioddef aflonyddwch
ar-lein o ba gyfeiriad bynnag. PENDERFYNWYD nodi a derbyn
cynnwys yr adroddiad gyda’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL YR OMBWDSMON PDF 47 KB Ystyried adroddiad y
Swyddog Monitro (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd, er gwybodaeth, adroddiad y Swyddog Monitro yn amgáu
Adroddiad Blynyddol yr Ombwdsmon 2018/19. Yn ystod
y drafodaeth, nodwyd:- ·
Bod yr adroddiad yn amlygu’r pwysau gwaith ar
yr Ombwdsmon a’i dîm, gyda chwynion iechyd, a hefyd cwynion ynghylch cynghorau
cymuned, yn mynd â llawer iawn o’u hamser.
Roedd lle i genhadu a rhoi cefnogaeth i aelodau cynghorau cymuned, ac
mewn achos o anghydfod, roedd cynnal trafodaeth yn gyfrwng i osod cyfeiriad. ·
Cyfeiriwyd at y diffyg adnoddau i ymchwilio i
gwynion a chwestiynwyd perthnasedd y côd cyflawn i
gynghorau bychain. Nodwyd bod cynghorau
cymuned yn amrywio’n aruthrol o ran maint, ac o ystyried natur rhai o’r cwynion
ynghylch y cynghorau lleiaf, awgrymwyd y gallai côd
llai a chliriach fod yn fwy addas ar eu cyfer. ·
Nodwyd bod rhai cynghorau cymuned yn cael eu
rhedeg yn broffesiynol iawn a bod eu holl seddi’n llawn, ond nid oedd hynny’n
wir am bob un. Roedd cyfrifoldeb ar y
clercod i gadw safonau ac roedd dyletswydd ar y clercod ac aelodau’r cynghorau
cymuned i fynychu hyfforddiant a ddarperir ar eu cyfer. ·
Awgrymwyd bod angen cynnal adolygiad o’r
cynghorau cymuned oherwydd bod yna ormod o fwlch rhyngddynt â’r Cyngor
Sir. Adroddwyd y cynhaliwyd ymchwiliad
i’r sector yn ddiweddar ond nad oedd wedi cynhyrchu argymhellion am newid
chwyldroadol. Nodwyd y cyfeiriwyd yng
nghyfarfod diwethaf Fforwm Pwyllgorau Safonau Gogledd Cymru at y ffaith bod
amrywiaeth lefelau’r cynghorau yn heriol. ·
Croesawyd
y cyfeiriad yn yr adroddiad at agor swyddfa ym
Mangor, er na ymhelaethwyd
ar hynny o gwbl, a chwestiynwyd pam bod angen i brif
swyddfa’r Ombwdsmon fod wedi’i lleoli
yng Nghaerdydd. PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad. |
|
FFORWM PWYLLGORAU SAFONAU GOGLEDD CYMRU PDF 104 KB Cyflwyno, er gwybodaeth,
gofnodion cyfarfodydd Fforwm Pwyllgorau Safonau Gogledd Cymru a gynhaliwyd ar y
dyddiadau isod:- (a) 29 Mehefin, 2018 (b) 26 Mehefin, 2019 (cofnodion drafft) Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd, er
gwybodaeth, gofnodion cyfarfodydd Fforwm Pwyllgorau Safonau Gogledd Cymru a gynhaliwyd ar:- (a) 29 Mehefin, 2018 (b) 26 Mehefin, 2019 Nodwyd bod yna ddiddordeb o Dde Cymru i ymuno
â’r Fforwm erbyn hyn. Gan gyfeirio’n benodol at eitem 7 o gofnodion cyfarfod 26 Mehefin, 2019, nodwyd y cafwyd trafodaeth gychwynnol yn y Fforwm ynglŷn
â’r cysyniad o sefydlu Cyd-bwyllgor Safonau yn y Gogledd. Pwysleisiwyd ei bod yn ddyddiau
cynnar iawn ar y funud ac nad oedd yn glir eto
ai dyma’r cyfeiriad cywir ac a fyddai cydbwyllgor o’r fath yn
ychwanegu gwerth ai peidio. Yn ystod
y drafodaeth, nodwyd:- ·
Bod yna heriau ynghlwm â chydweithio, er
ei fod yn swnio’n dda ar bapur. Roedd
Gwynedd yn sir heriol yn ddaearyddol, heb sôn am ychwanegu
gweddill siroedd y Gogledd, a gallai cyd-bwyllgor o’r
fath fynd yn anhylaw gan fod gan bawb eu trefniadau a’u systemau gwahanol eu
hunain. Roedd y Gymraeg yn elfen arall
na ellid ei diystyrru. ·
Y dylid cydweithio o fewn ffiniau Gwynedd yn gyntaf,
e.e. ar y cyd gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, cyn ystyried ymestyn
allan i siroedd eraill. ·
Er bod yna amheuon ynglŷn â chydweithio’n
rhy agos, bod lle i’r cynghorau rannu themâu, arbenigeddau, ac ati, drwy
gyfrwng trefniant ar-lein o bosib’. PENDERFYNWYD nodi cynnwys y cofnodion. |