Lleoliad: Ystafell Gwyrfai - Pencadlys Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Dr Einir Young a Mr David Clay. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant
personol. Cofnod: Ni
dderbyniwyd datganiad o fuddiant gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn
y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod
blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 5 Hydref, 2015 fel rhai cywir (ynghlwm). Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 5
Hydref, 2015 fel rhai cywir, yn amodol ar gywiro’r cyfeiriad yn eitem 5 at y Ddeddf
Llesiant a Gofal Iechyd a Chymdeithasol Integredig i ddarllen “Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a
Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol Integredig”. |
|
DEDDF LLYWODRAETH LEOL (CYMRU) 2015 RHAN 4 PDF 200 KB Ystyried adroddiad y Swyddog Monitro (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd:- ·
Adroddiad y Swyddog Monitro yn gwahodd
sylwadau’r pwyllgor ar Ran 4 o Fil Llywodraeth Leol (Cymru) 2015, cyn belled â’i fod yn ymwneud â
swyddogaethau’r Pwyllgor Safonau, i’w hystyried fel rhan o baratoi ymateb
corfforaethol i’r Bil. ·
Y drafft o Ran 4 o’r Bil. Eglurodd y Swyddog Monitro:- ·
Y byddai Rhan 4 o’r Bil yn gosod
dyletswyddau newydd ar bwyllgorau safonau i ymdrin â chwynion fod aelodau o’r darpar gynghorau sirol newydd wedi
torri’r dyletswyddau statudol a osodir arnynt o safbwynt perfformiad eu
swyddogaethau, megis mynychu cyfarfodydd, cynnal cymorthfeydd rheolaidd, ateb
gohebiaeth, cwblhau cyrsiau hyfforddiant mandadol a chyhoeddi adroddiad
blynyddol. ·
Y disgwylid hefyd i bwyllgorau safonau
fonitro cydymffurfiaeth arweinyddion y grwpiau gwleidyddol gyda’u dyletswyddau
i gymryd camau rhesymol i hyrwyddo a chynnal safonau uchel o ymddygiad gan
aelodau eu grŵp gan hefyd gynghori a threfnu hyfforddiant perthnasol. ·
Y byddai dyletswydd hefyd ar bwyllgorau
safonau i ddarparu adroddiad blynyddol i’r Cyngor yn disgrifio sut y mae wedi
gweithredu’r swyddogaethau hynny yn ystod y flwyddyn. ·
Bod y weithdrefn ar gyfer ymdrin â chwynion am fethiant honedig gan gynghorydd i gydymffurfio â’r dyletswyddau a
osodir yn disgwyl bod y Swyddog Monitro yn cyfeirio mater i gadeirydd y
Pwyllgor Safonau. Petai’r Swyddog
Monitro a’r cadeirydd yn ystyried na ddylai mater gael ei ymchwilio, ni all
ymchwiliad gymryd lle, ond petai naill ai’r Swyddog Monitro neu’r cadeirydd yn
ystyried y dylai’r mater gael ei ymchwilio, byddai’n rhaid i’r Swyddog Monitro
ei ymchwilio gan ddarparu adroddiad o’r ymchwiliad i’r Pwyllgor Safonau. PENDERFYNWYD cyflwyno’r
sylwadau a ganlyn ar Ran 4 o Fil Llywodraeth Leol (Cymru) 2015, i’w hystyried
fel rhan o baratoi ymateb corfforaethol i’r Bil:- ·
Cefnogir y syniad o gyflwyno dyletswyddau statudol oherwydd
ei fod yn gosod fframwaith y dylid gweithio oddi fewn iddo, ond mae angen mwy o
eglurder ynglŷn â’r elfen o
hyblygrwydd, e.e. a yw’n dderbyniol i aelod egluro nad yw’n cynnal cymorthfeydd
oherwydd ei fod yn gwneud y gwaith mewn ffordd arall, ac oes disgwyl i aelod
gydnabod derbyn gohebiaeth neu ddarparu ymateb llawn o fewn 14 diwrnod? ·
Bydd aelodau o’r darpar gynghorau sirol newydd yn arwyddo
i fyny i’r gyfundrefn hon ac felly’n ymwybodol o’r
hyn sy’n ddisgwyliedig ohonynt. ·
Mae’r drefn ymchwilio a gorfodi yn
mynd â’r Swyddog Monitro
a’r Pwyllgor Safonau i faes rheoli perfformiad aelodau unigol a rhaid cwestiynu
ai’r Pwyllgor Safonau yw’r arf gorau i ymdrin â than berfformiad
o fewn y Cyngor a dylid ystyried dulliau amgen o sicrhau perfformiad, megis y
drefn lwfansau. ·
Mae pryder ynglŷn â goblygiadau adnoddau'r
gyfundrefn arfaethedig, yn enwedig o safbwynt y Swyddog Monitro a Chadeirydd y
Pwyllgor Safonau oherwydd bod y gofynion yn eang iawn a gallai droi swyddogaeth
y Cadeirydd yn swydd llawn amser bron a’i gwneud yn anodd cael pobl i ymgeisio
i ddod ar y Pwyllgor Safonau. |
|
HONIADAU YN ERBYN AELODAU PDF 106 KB Ystyried adroddiad y Swyddog Monitro (ynghlwm). Cofnod: Cyflwynwyd, er gwybodaeth – adroddiad y Swyddog Monitro ar gwynion
ffurfiol yn erbyn aelodau. Ymhellach i’r adroddiad, nododd yr Uwch Gyfreithiwr fod dwy gŵyn
arall i law ers ysgrifennu’r adroddiad ac y byddai’n adrodd arnynt i’r cyfarfod
nesaf. PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad. |
|
CYNHADLEDD SAFONAU CYMRU 2015 PDF 107 KB Ystyried adroddiad y Swyddog Monitro (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd, er gwybodaeth:- ·
Adroddiad y Swyddog Monitro ar Gynhadledd
Safonau Cymru 2015 a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ym mis
Hydref. ·
Adroddiad o’r gynhadledd a baratowyd
gan Gyngor Dinas Caerdydd oedd yn cynnal y digwyddiad. Diolchodd yr aelodau fu yn y Gynhadledd i’r Swyddog Monitro a’i staff
am wneud y trefniadau gan nodi y bu’n fuddiol iawn cael y cyfle i rannu barn
gydag aelodau pwyllgorau safonau eraill. Diolchodd y Swyddog Monitro i’r aelodau am ddod i’r Gynhadledd gan roi
crynodeb o’r prif negeseuon yn deillio o’r cyflwyniadau a’r gweithdai. PENDERFYNWYD derbyn yr
adroddiad gyda diolch. |
|
ARSYLLU CYFARFODYDD Derbyn adborth ar lafar
gan yr aelodau
annibynnol yn dilyn arsyllu cyfarfodydd
Cyngor Gwynedd / cynghorau tref a chymuned. Cofnod: Gwahoddwyd yr aelodau annibynnol i roi adborth ar lafar yn dilyn
arsyllu cyfarfodydd Cyngor Gwynedd neu gynghorau tref / cymuned. Cyfeiriodd Mr David Wareing
at anawsterau a gafodd wrth geisio
mynd i arsyllu cyfarfod o gyngor cymuned gan fod y Cyngor hwnnw’n
gweithredu’n uniaith Gymraeg. Eglurodd,
petai wedi troi i fyny’n ddirybudd, na fyddai wedi
gallu dilyn y drafodaeth a bod pobl ddi-gymraeg yn cael eu heithrio. Mewn ymateb, eglurodd y Swyddog Monitro fod
gofyn i gynghorau cymuned weithredu yn unol â’u
cynlluniau iaith fyddai’n gosod eu trefniadau ar faterion megis cyfieithu ar y
pryd. Fodd bynnag, awgrymodd y dylai
aelodau gadarnhau beth oedd trefniadau’r cynghorau cymuned ymlaen llaw gan ei
fod yn ymwybodol bod amrywiaeth o gyngor i gyngor ynglŷn â phryd a sut y
darperir gwasanaeth cyfieithu.
Ychwanegodd y dylid cyfeirio unrhyw gŵyn
ynglŷn â diffyg darpariaeth at y cyngor cymuned dan sylw. Atgoffwyd yr aelodau annibynnol fod modd iddynt arsyllu nifer o
bwyllgorau a chyfarfod llawn Cyngor Gwynedd ar y gweddarllediad
ar wefan y Cyngor. |