Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cynghorydd
Anne Lloyd Jones. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw
ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o
fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n
fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Ni chodwyd unrhyw faterion brys. |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 18C, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd ei fod yn ymwneud â thrafodion y Pwyllgor Safonau wrth ddod i benderfyniad ar fater a gyfeiriwyd ato gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Credir na ddylid datgelu’r wybodaeth rhag ofn i unrhyw gyhoeddusrwydd ynglŷn â’r achos ragfarnu sefyllfa’r cynghorydd cyn unrhyw wrandawiad. Fel canlyniad mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu. Cofnod: PENDERFYNWYD y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan
o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod yn debygol y
datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 18C, Rhan 4,
Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972.
Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd ei fod yn ymwneud â
thrafodion y Pwyllgor Safonau wrth ddod i benderfyniad ar fater a gyfeiriwyd
ato gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
Credir na ddylid datgelu’r wybodaeth rhag ofn i unrhyw gyhoeddusrwydd
ynglŷn â’r achos ragfarnu sefyllfa’r cynghorydd cyn unrhyw
wrandawiad. Fel canlyniad mae’r budd
cyhoeddus o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i
datgelu. |
|
ADRODDIAD OMBWDSMON GWASANAETHAU CYHOEDDUS CYMRU AR YMCHWILIAD I GWYN YN ERBYN CYNGHORYDD Ystyried adroddiad
yr Uwch Gyfreithiwr (Corfforaethol) (copi ar wahân ar gyfer aelodau’r pwyllgor
yn unig). Penderfyniad: (a) Gwahodd y person sy’n destun yr ymchwiliad i gyflwyno sylwadau,
naill ai ar lafar neu’n ysgrifenedig, mewn perthynas â chasgliadau’r ymchwiliad
ac unrhyw honiad ei fod ef / hi wedi methu â chydymffurfio â chod
ymddygiad yr awdurdod perthnasol. (b) Galw cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Safonau i ystyried a
phenderfynu ar y mater. (c) Gwahodd yr Ombwdsmon i’r gwrandawiad i gyflwyno’r adroddiad a /
neu egluro unrhyw faterion sydd ynddo. (ch) Bod y swyddogion, mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd, yn gosod
dyddiad (ynghyd â dau wrth gefn) ar gyfer cynnal y
gwrandawiad. Cofnod: Cyflwynwyd – adroddiad yr Uwch Gyfreithiwr (Corfforaethol) yn gwahodd y
pwyllgor i ystyried adroddiad yr Ombwdsmon ar ymchwiliad i gŵyn yn erbyn
cynghorydd, a dod i benderfyniad yn unol â gofynion y rheoliadau perthnasol. PENDERFYNWYD (a) Gwahodd
y person sy’n destun yr ymchwiliad i gyflwyno sylwadau, naill ai ar lafar neu’n
ysgrifenedig, mewn perthynas â chasgliadau’r ymchwiliad ac unrhyw honiad ei fod
ef / hi wedi methu â chydymffurfio â chod ymddygiad yr awdurdod perthnasol. (b) Galw
cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Safonau i ystyried a phenderfynu ar y mater. (c) Gwahodd
yr Ombwdsmon i’r gwrandawiad i gyflwyno’r adroddiad a / neu egluro unrhyw
faterion sydd ynddo. (ch) Bod
y swyddogion, mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd, yn gosod dyddiad (ynghyd â dau
wrth gefn) ar gyfer cynnal y gwrandawiad. |