Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cynghorydd Anne Lloyd Jones. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant
personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn
y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Ni chodwyd
unrhyw faterion brys. |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r
cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol
gan ei fod
yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir
ym mharagraff 18C, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd ei fod yn ymwneud
â thrafodion y Pwyllgor Safonau wrth ddod
i benderfyniad ar fater a gyfeiriwyd ato gan Ombwdsmon
Gwasanaethau Cyhoeddus
Cymru. Credir na ddylid datgelu’r wybodaeth rhag ofn i unrhyw
gyhoeddusrwydd ynglŷn â’r achos ragfarnu
sefyllfa’r cynghorydd cyn unrhyw wrandawiad.
Fel canlyniad mae’r budd cyhoeddus
o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu. Cofnod: PENDERFYNWYD y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan
o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod yn debygol y
datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 18C, Rhan 4,
Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972.
Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd ei fod yn ymwneud â
thrafodion y Pwyllgor Safonau wrth ddod i benderfyniad ar fater a gyfeiriwyd
ato gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
Credir na ddylid datgelu’r wybodaeth rhag ofn i unrhyw gyhoeddusrwydd
ynglŷn â’r achos ragfarnu sefyllfa’r cynghorydd cyn unrhyw
wrandawiad. Fel canlyniad mae’r budd
cyhoeddus o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i
datgelu. |
|
CAIS AM INDEMNIAD GAN GYNGHORYDD O DAN BOLISI'R CYNGOR Ystyried adroddiad yr Uwch Gyfreithiwr (Corfforaethol) (copi
ar wahân i ddilyn ar gyfer aelodau’r pwyllgor yn unig). Penderfyniad: Wedi edrych ar y cais yn ofalus iawn, a gan ystyried Polisi
Indemniad Cyngor Gwynedd, a gynhwyswyd yn Atodiad 1 i’r adroddiad a gyflwynwyd
i’r pwyllgor, bod y Cadeirydd yn ysgrifennu at yr aelod i’w hysbysu nad yw’r
Pwyllgor Safonau mewn sefyllfa i gynnig indemniad iddo mewn perthynas â
chynrychiolaeth gyfreithiol yng ngwrandawiad y Pwyllgor Safonau. Mae’r achos
mae’r cynghorydd yn amddiffyn yn ymwneud yn llwyr â’i rôl fel Cynghorydd Cyngor
Tref. Byddai unrhyw benderfyniad yn effeithio ar y rôl honno’n unig, ac ni
fyddai’n cael unrhyw effaith ar rôl y cynghorydd fel aelod o Gyngor Gwynedd. Cofnod: Cyflwynwyd –
adroddiad yr Uwch Gyfreithiwr (Corfforaethol) yn gwahodd y pwyllgor i
benderfynu ar gais am indemniad gan gynghorydd dan delerau indemniad y Cyngor i
Aelodau a Swyddogion. PENDERFYNWYD wedi edrych ar y cais yn ofalus iawn, a gan
ystyried Polisi Indemniad Cyngor Gwynedd, a gynhwyswyd yn Atodiad 1 i’r adroddiad
a gyflwynwyd i’r pwyllgor, bod y Cadeirydd yn ysgrifennu at yr aelod i’w
hysbysu nad yw’r Pwyllgor Safonau mewn sefyllfa i gynnig indemniad iddo mewn
perthynas â chynrychiolaeth gyfreithiol yng ngwrandawiad y Pwyllgor Safonau. Mae’r achos mae’r cynghorydd yn amddiffyn yn
ymwneud yn llwyr â’i rôl fel Cynghorydd Cyngor Tref. Byddai unrhyw benderfyniad yn effeithio ar y
rôl honno’n unig, ac ni fyddai’n cael unrhyw effaith ar rôl y cynghorydd fel
aelod o Gyngor Gwynedd. |