Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriad gan y Cynghorydd Beth Lawton. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw
ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Dim
i’w nodi. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Nododd
y Swyddog Monitro mai’r bwriad oedd i wahodd arweinyddion y grwpiau gwleidyddol
i’r cyfarfod hwn, ond yn sgil newidiadau yn arweinyddiaeth y Cyngor,
penderfynwyd na fyddai hynny wedi bod yn ymarferol y tro hwn. Eglurwyd mai’r
bwriad yw i symud y cyfarfod gyda’r arweinyddion grwpiau i fis Chwefror 2025.
Yn y cyfamser, pan fydd arweinydd newydd wedi ei benodi, nodwyd y bydd y
Swyddog Monitro a Chadeirydd y Pwyllgor Safonau yn trefnu cyfarfod gyda’r
Arweinydd i amlygu’r ddyletswydd ar arweinyddion i hybu a chynnal safonau
ymddygiad uchel ymhlith aelodau eu grŵp. Gofynnwyd
cwestiwn gan aelod ynglŷn â ble mae’r Cyngor yn sefyll ar hyn o bryd heb
arweinydd. Mewn ateb, eglurodd y Swyddog Monitro bod y broses o adnabod
arweinydd newydd wedi cychwyn a’r disgwyliad yw y bydd yr arweinydd newydd yn
cael ei benodi yng nghyfarfod y Cyngor Llawn ym mis Rhagfyr. Yn y cyfamser,
esboniwyd bod y dirprwy arweinydd yn arwain y Cyngor. Nododd
yr aelod ei fod yn siomedig gyda’r diffyg gwybodaeth am bwy i gysylltu gyda yn
ystod y cyfnod yma. Mynegodd y byddai wedi hoffi cael mwy o arweiniad gan y
Cyngor ynglŷn â’r broses. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol
o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 17 Mehefin, 2024 fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd
y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 17 Mehefin,
2024 fel rhai cywir. |
|
COFRESTR RHODDION A LLETYGARWCH Cyflwyno
adroddiad y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Nodi a
derbyn cynnwys yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd
- adroddiad gan y Swyddog Monitro yn manylu ar y Gofrestr Rhoddion a
Lletygarwch ac yn gwahodd sylwadau’r pwyllgor fel rhan o’r gwaith monitro
safonau o fewn y Cyngor. Nododd
y Swyddog Monitro fod gofyn i aelodau gofrestru unrhyw gynnig o rodd neu
letygarwch sydd werth dros £25.
Atgoffwyd bod y cod ymddygiad yn nodi’n glir bod unrhyw rodd sydd yn rhoi
aelodau mewn sefyllfa amhriodol, beth bynnag ei werth, yn amhriodol. Cyfeiriwyd
at ran 7.2 o’r adroddiad ble nodwyd bod pob cynnig a gofrestrwyd hyd yma yn
fynegiant o ddiolch am gymorth aelod lleol (nid aelod o’r Pwyllgor Cynllunio)
gyda chais cynllunio penodol. Diolchodd
y Cadeirydd i’r Swyddog Monitro am gadarnhau nad oedd yr adroddiad yn cyfeirio
at aelodau’r Pwyllgor Cynllunio. |
|
COFRESTR DATGAN BUDDIANT Cyflwyno
adroddiad y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Nodi a
derbyn cynnwys yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd
- adroddiad gan y Swyddog Monitro yn manylu ar y Gofrestr Buddiannau Aelodau Cyngor
Gwynedd ac yn gwahodd sylwadau’r pwyllgor fel rhan o’r gwaith o fonitro safonau
o fewn y Cyngor. Esboniwyd
mai dyletswydd yr aelodau ydi cofrestru eu buddiannau, ond wrth symud ymlaen
bod bwriad i anfon neges at yr aelodau yn gofyn iddynt wirio’r gofrestr i wneud
yn siŵr ei bod yn gyfredol. Ymhellach, os yw aelodau yn datgan buddiant
mewn cyfarfod rhaid llenwi ffurflen yn nodi
natur y buddiant. Nodwyd bod symud i gyfarfodydd rhithiol wedi golygu
newid y drefn o lenwi’r ffurflen yn y fan a’r lle i drefn o yrru’r
ffurflenni dros e-bost i’r aelodau, ond
nad oedd y system yn rhwydd i’w defnyddio. O achos hyn, eglurwyd bod y Rheolwr
Priodoldeb ac Etholiadau yn y broses o greu ffurflen ar-lein drwy ‘Microsoft
Forms' fel bod aelodau yn gallu cwblhau’r manylion heb orfod dychwelyd ffurflen
dros e-bost. Mewn
ymateb i gwestiwn ynglŷn ag addasrwydd y ffurflen ar-lein ar gyfer aelodau
annibynnol, nad ydynt, o bosib’ yn defnyddio ‘Microsoft’, cadarnhaodd y Swyddog
Monitro ei fod am ofyn i’r Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau gadarnhau os oes
rhaid cael ‘Microsoft’ ar y cyfrifiadur i gwblhau’r ffurflen ar lein ai
peidio.. Awgrymwyd y byddai’n well gan rai aelodau barhau i lenwi ffurflen
bapur os ydynt yn mynychu cyfarfod yn y Siambr, ond eglurodd y Swyddog
Monitro ymhellach mai’r bwriad yw
ceisio cael pob aelod i gwblhau’r
ffurflen ar lein oherwydd ei bod yn haws cloriannu a chadw’r wybodaeth dan un
gyfundrefn. Awgrymwyd o bosib’ bod angen
cydweithio gyda’r Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth ac ymgynghori gyda’r
cynghorwyr ar hyn. Nodwyd,
gan bod aelodau’n rhan o bopeth sy’n digwydd o fewn eu cymunedau, y gall fod yn
anodd iddynt benderfynu a oes ganddynt fuddiant mewn mater ai peidio. Mewn ymateb, nododd y Swyddog Monitro y
cytunai fod hynny’n gallu bod yn anodd, ond bod canllawiau ar gael, a’i fod yn
hapus i drafod y canllawiau hynny gyda’r aelodau. |
|
Cyflwyno
adroddiad y Swyddog Monitro Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Nodi’r
wybodaeth. Cofnod: Cyflwynwyd
- adroddiad gan y Swyddog Monitro ar ganfyddiadau ymchwiliad annibynnol i
brosesau yr Ombwdsmon. Nodwyd
bod straeon wedi ymddangos yn y wasg ym mis Ebrill eleni yn honni bod aelod o
staff yn swyddfa’r Ombwdsmon wedi bod yn ymwneud â datganiadau gwleidyddol iawn
ar y cyfryngau cymdeithasol. Soniwyd bod hyn wedi creu pryder o fewn tîm yr
Ombwdsmon. Pwysleisiwyd bod cyfundrefn yr Ombwdsmon yn greiddiol i’r gyfundrefn
safonau a moesegol yng Nghymru. Nodwyd nad oes system gyffelyb yn Lloegr ac mae
rhinweddau sylweddol o safbwynt cynnal y gyfundrefn i gael corff annibynnol a
chyfrifoldeb am y broses ymchwilio. Tynnwyd
sylw at ran 4.1 o’r adroddiad ble amlygwyd tri argymhelliad o’r adroddiad
annibynnol a fyddai o ddiddordeb i’r aelodau. Gwahoddwyd
sylwadau/cwestiynau gan yr aelodau. Nodwyd,
gan nad oedd nifer o gwynion Ombwdsmon yn mynd ymhellach na’r cam cyntaf, y
byddai'n well petai’r achos yn cael ei gyfyngu i’r cwynwr a’r person sydd dan
ymchwiliad i arbed y pryder mae ei gyhoeddi yn ei achosi. Mewn
ymateb, nododd y Swyddog Monitro fod bodolaeth cŵyn
Ombwdsmon yn gyfrinachol i’r partïon nes bod penderfyniad ar yr ymchwiliad.
Cydnabuwyd, fodd bynnag, y gallai achwynydd hysbysu’r person sydd yn destun y gŵyn o’r gŵyn
yn eu herbyn. Esboniwyd bod profiad yn awgrymu bod y system fel ag y mae
yn cynhyrchu llai o bryder ac ymholiadau ynglŷn â chwynion. Nodwyd
y gall aelod ddisgwyl chwech i naw mis cyn i benderfyniad gael ei wneud a
chredid mai diffyg adnoddau gan yr
Ombwdsmon a’r ffaith bod cyfran sylweddol
o’i amser yn cael ei ffocysu ar gwynion yn erbyn byrddau iechyd oedd yn
gyfrifol am hynny. |
|
HONIADAU YN ERBYN AELODAU Cyflwyno adroddiad
y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Nodi’r
wybodaeth. Cofnod: Cyflwynwyd
- adroddiad gan y Swyddog Monitro ar benderfyniadau’r Ombwdsmon ar gwynion
ffurfiol yn erbyn aelodau. Adroddwyd mai crynodeb yw hwn o gwynion sydd wedi
cau er mwyn rhoi darlun i’r Pwyllgor o’r math o bethau sy’n cael eu cyfeirio at
yr Ombwdsmon a’r penderfyniadau a wneir
wrth asesu’r cwynion. Nodwyd
bod y gwahaniaeth rhwng y nifer o gwynion sydd ddim yn mynd i ymchwiliad o
gymharu â nifer y cwynion sydd yn cael
eu gwneud, yn eithaf trawiadol. Amlygwyd bod elfen o gydymdeimlad gyda’r
Ombwdsmon gan fod pob cŵyn yn gorfod cael sylw.. Nodwyd
mai’r bwriad yn y cyfarfod hwn oedd i adrodd ar drefniadau hyfforddi ar gyfer
cynghorau tref a chymuned ond, yn anffodus, ymddiheurwyd bod y rhaglen wedi
llithro oherwydd pwysau gwaith. Er hyn, llwyddwyd bellach i ail afael yn y
rhaglen ac roedd bwriad i ddechrau cynnig y cyrsiau hyfforddi i’r cynghorau
tref a chymuned yn y dyfodol agos. Esboniwyd bod profiad yn awgrymu bod
hyfforddiant yn bwysig wrth ymdrin â materion fel hyn. Awgrymwyd hefyd bod
angen cynnig llwybr datrys amgen i gwynion lefel isel yn hytrach na darparu
hyfforddiant yn unig. Sylwadau: Diolchwyd
am yr adroddiad. Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhaodd y Swyddog Monitro y bydd
yr adroddiad ar y trefniadau hyfforddi ar gael ar gyfer y cyfarfod nesaf. Holwyd
a yw’r Ombwdsmon yn ystyried defnyddio prawf trothwy ar gyfer cwynion lefel
isel, ac os ydynt, oes proses i gyfeirio’r cwynion lefel isel yn ôl at y
Cyngor. Mewn ymateb, eglurodd y Swyddog Monitro fod Unllais
Cymru wedi datblygu trefn datrys mewnol ar gyfer Cynghorau Tref a Chymuned tua
4 i 5 mlynedd yn ôl. Ymhelaethodd bod y drefn datrys lleol yn anodd i’w
gweithredu gan bod y cynghorau tref a chymuned yn gyrff bychan o ran staff ac
aelodaeth ac felly mae’r elfen ymddiriedaeth i gynnal y broses yn anoddach i’w
greu os oes anghydfod o ddifri’ yn y Cyngor. Diolchwyd
i’r Swyddog Monitro am ei ateb a gofynnwyd ymhellach a fydd yn blaenoriaethu
adnoddau yn y meysydd a allai elwa fwyaf o hyfforddiant cynnar. Nododd y
Swyddog Monitro ei fod o blaid teilwra’r cwrs i ble mae’r pwyslais angen bod
a’i fod yn hapus i basio’r sleidiau o’r
cwrs blaenorol a gyflwynwyd i’r aelodau yn ôl yn Ionawr 2020 ymlaen i’r
aelodau. Derbyniwyd bod prinder amser i gynnal cwrs ond ei bod yn bwysig taro’r
mannau pwysicaf ar gyfer trafodaeth.
Nodwyd hefyd ei bod yn bwysig bod clercod cynghorau tref a chymuned yn
teimlo bod yna gefnogaeth broffesiynol ar gael iddynt. Nododd
Cynrychiolydd y Cynghorau Cymuned y byddai’n hapus i fynd gyda'r Cadeirydd
neu’r Swyddog Monitro i unrhyw gyfarfod i drafod hyfforddiant. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL YR OMBWDSMON Cyflwyno
adroddiad y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: To note the
report. Cofnod: Cyflwynwyd
- adroddiad gan y Swyddog Monitro yn amgáu Adroddiad Blynyddol yr Ombwdsmon ar
gyfer 2023/24.. Sylwadau: Mynegwyd
gobaith y gall datblygiadau technolegol mewn deallusrwydd artiffisial brosesu cwynion yn syth ac yn ddi-oed ymhen
amser gan y credid mai dyma’r datrysiad
hir dymor i arbed oedi hir yn y system. |
|
COFNODION FFORWM CENEDLAETHOL PWYLLGORAU SAFONAU Cyflwyno adroddiad
y Swyddog Monitro. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: To accept
the information. Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan y Swyddog Monitro. Nodwyd
bod Meleri Tudur wedi cael ei phenodi fel Llywydd y Panel Dyfarnu Cenedlaethol
a mynegwyd balchder ei bod hi'n gyfreithwraig o Wynedd gyda chefndir cryf yn y
Sir. |