Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriad gan Iwan Evans (Swyddog Monitro)

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

CAIS AM ODDEFEB - CYNGHORYDD MORWENNA PUGH, CYNGOR TREF FFESTINIOG pdf eicon PDF 173 KB

Penderfynu ar y Cais

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Caniatáu goddefeb i siarad ond nid i bleidleisio ar y mater pryd bynnag fydd y mater yn codi.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau yn gofyn i’r pwyllgor ystyried a phenderfynu ar gais am oddefeb gan y Cynghorydd Morwenna Pugh, aelod o Gyngor Tref Ffestiniog. Nodwyd fod yr ymgeisydd wedi cadarnhau na fydd yn medru mynychu’r cyfarfod.

 

Yna manylodd y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau ar y cais dan sylw, gan nodi:-

 

-       Bod Cyngor Tref Ffestiniog angen ystyried os yw’n dymuno derbyn cynnig Barnardo’s i drosglwyddo adeilad i berchnogaeth y Cyngor. Barnardo’s sydd berchen ar yr adeilad ac yn gweithredu o un rhan ohono, tra bod y rhan arall wedi ei osod i feithrinfa ‘O Law i Law’.

-       Fod y Clerc wedi cadarnhau fod y sefyllfa’n gyhoeddus erbyn yn, ac nad yw’r mater bellach yn un cyfrinachol fel sy’n cael ei nodi yn y ffurflen gais.

-       Nad oes gan y Cynghorydd Morwenna Pugh fuddiant yn yr adeilad ei hun, ond mae ganddi gysylltiad personol a rhagfarnus.

-       Bod gan y Cynghorydd wyrion/wyresau sy’n mynychu’r ddarpariaeth gofal plant yn yr adeilad sydd yn cael ei redeg gan un o’r tenantiaid yn yr adeilad.

-       Pe dymunai’r Pwyllgor ganiatáu’r cais, dylai fod yn fodlon bod gan yr aelod rôl neu arbenigedd penodol i’w gyfrannu yn y maes.

 

Cytunodd y Pwyllgor i ganiatáu y cais o dan baragraff (dd) o’r amgylchiadau lle gellir caniatáu goddefebiadau. Nodwyd mai'r Cynghorydd Morwenna Pugh oedd yr unig aelod benywaidd o’r cyngor ac felly roedd y Pwyllgor o’r farn na fyddai’r persbectif unigryw y gall ei gynnig yn amgylchiadau penodol yr achos yma ar gael i’r cyngor fel arall.

 

Golygai hynny felly y bydd angen i’r Cynghorydd Morwenna Pugh ddatgan ei buddiant yn y cyfarfod, egluro ei fod yn fuddiant sy’n rhagfarnu ond ei bod wedi derbyn goddefeb gan y Pwyllgor Safonau i siarad ond nid i bleidleisio. Bydd angen i’r Cynghorydd hefyd adael yr ystafell ar ôl gorffen cyfrannu i’r drafodaeth.

 

PENDERFYNWYD

Caniatáu goddefeb i siarad ond nid i bleidleisio ar y mater pryd bynnag fydd y mater yn codi.