Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Iwan Edwards 01286 679018
| Rhif | eitem | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant
personol. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriad gan Sion Huws (Rheolwr Priodoldeb ac
Etholiadau) |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant
personol. Cofnod: Dim i’w nodi. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym mam y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfodydd blaenorol
o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 17 Chwefror 2025 a 7 Ebrill 2025 fel rhai
cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod o’r pwyllgor hwn
a gynhaliwyd ar 7 o Ebrill, 2025 fel rhai cywir. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL 2024/25 Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwyo
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau 2024/25. Cofnod: Cyflwynwyd –
adroddiad blynyddol y Swyddog Monitro a gofyn am unrhyw sylwadau gan y pwyllgor
cyn ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn yn ei cyfarfod nesaf. Nodwyd fod cryn dipyn o
faterion wedi eu cyfarch yn ystod y flwyddyn ac fod y Pwyllgor wedi ymdrin a
cheisiadau am oddefebau mewn meysydd sydd o
bwysigrwydd i’r cynghorau tref ynghyd a Aelodau oedd yn ymgeisio. Esboniwyd fod gan
y pwyllgor safonau rôl bwysig yn hyrwyddo safonau uchel o ymddygiad ac ei fod
yn rhan greiddiol o’r gwaith y pwyllgor. Mae’r pwyllgor yn cyflawni hyn drwy
gyfuniad o gynghori ar gais, cyngor rhagweithiol a hyfforddi ac mae’r
hyfforddiant a dealltwriaeth o’r Cod Ymddygiad yn rhoi sylfaen i aelodau fod yn
gyfarwydd a hanfodion y cod. Nodwyd ei fod yn arbennig o amgylch y
darpariaethau buddiannau personol, lle maen nhw’n codi a sut i ymateb. Mynegwyd
siom gyda’r nifer o aelodau sydd yn parhau heb fynychu’r cyrsiau llawn sydd
wedi eu cynnal. Holwyd os yw’r
aelodau yn gwneud y hyfforddiant dros y lein, a fydd y gwybodaeth yma yn
gyhoeddus. Cadarnhawyd fod hyn yn cael ei nodi ac mae’r wybodaeth yma ar gael
ar lein. PENDERFYNIAD Cymeradwyo
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau 2024/25 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
HONIADAU YN ERBYN AELODAU Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Nodi’r wybodaeth. Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad –
gan y Swyddog Monitro yn rhoi gwybodaeth i’r pwyllgor am Benderfyniadau’r
Ombwdsmon ar gwynion ffurfiol yn erbyn aelodau. Nodwyd fod yr honiadau yma ddim
wedi mynd ymhellach. Tynnwyd sylw at res o
adroddiadau o honiadau a dim tystiolaeth wedi’i gyflwyno. Credwyd fod hyn ddim
yn foddhaol rhoi honiadau i’r Ombwdsmon heb dystiolaeth. Mynegwyd pryder gyda’r
honiadau yma heb dystiolaeth a tynnwyd sylw i’r ffaith fod rhan fwyaf ohonynt
yn dod o’r cyngor tref. Teimlwyd y dylai y clercod y cymuned gael cwrs ar sut i
gynghori aelodau ar safonau a fydd yn help mawr i aelodau mewn cynghorau cymuned.
PENDERFYNIAD Nodi’r wybodaeth. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
Cyflwyno
adroddiad y Swyddog Monitro Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad:
Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad – gan y Swyddog Monitro ar hunan asesiad blynyddol
y Pwyllgor Safonau. Aeth y pwyllgor drwy’r tabl hunanasesiad a’i gwblhau fel yr isod:
PENDERFYNIAD Mabwysiadu’r canlynol fel hunanasesiad y Pwyllgor Safonau o’i
berfformiad yn 2024/25 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
HYFFORDDIANT CYNGHORAU CYMUNED Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Nodi’r
wybodaeth. Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad – gan y Swyddog Monitro
yn rhoi gwybodaeth hyfforddi cynghorwyr ar faterion yn ymwneud a’r cod
ymddygiad sydd yn rhan o swyddogaeth statudol y Pwyllgor Safonau. Nodwyd fod y
Pwyllgor wedi adnabod yr angen i gynnal hyfforddiant o’r fath, ond wedi derbyn bod ei ddarparu
wedi bod yn heriol yn ddiweddar fel canlyniad i ddiffyg adnoddau. Nodwyd fod sesiynau wedi ei baratoi a’i
treialu ar gyfer cynghorau cymuned gyda’r bwriad o alluogi aelodau a chlercod i
gael dealltwriaeth o hanfodion y Cod ymddygiad, arfogi aelodau i weithredu o
fewn y fframwaith ac amlygu lle i gael arweiniad a gwybodaeth bellach. PENDERFYNIAD Nodi’r wybodaeth. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL MEWN CYFARFODYDD Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn a
nodi’r wybodaeth. Cofnod: Adroddiad yn cyflwyno
gwybodaeth cefndir ddatgan a chofrestru buddiannau mewn cyfarfodydd. Nodwyd bod
y cod ymddygiad i Aelodau yn rhoi dyletswydd ar aelodau i ddatgelu ar lafar ger
bron unrhyw gyfarfod, fodolaeth a natur unrhyw fuddiant personol sydd ganddynt
mewn busnes sy’n cael ei ystyried. Esboniwyd bod y dyletswydd pellach i
gofrestru’r buddiant hwnna drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r Swyddog Monitro.
Eglurwyd mai’r arfer yn Cyngor Gwynedd yw pan fydd aelodau yn datgan mewn
cyfarfod Pwyllgor bydd swyddog gwasanaethau democrataidd yn rhoi ffurflen papur
ac yn ei chasglu ar y diwedd. Eglurwyd fod proses
newydd wedi ei ddatblygu bellach gyda’r gwasanaethau democratiaeth a TG sydd yn
creu proses i gofrestru buddiannau ar lein gan ddefnyddio adnodd Microsoft Forms. Nodwyd mai’r bwriad yw i
ddefnyddio’r drefn yma ar gyfer pob aelod sy’n datgan gan gynnwys rhai sy’n
bresennol yn yr ystafell gyfarfod. PENDERFYNIAD Derbyn a nodi’r
wybodaeth. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig
y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd
allan o’r cyfarfod yn ystod
y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod
yn debygol y datgelir gwybodaeh eithriedig fel y’I diffnnir ym
mharagraff 18C, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llwyodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma yn berthnasol
oherwydd ei fod yn ymwneud
â thrafodion y Pwyllgor Safonau wrth ddod
I benderfyniad ar fater a gyfeiriwyd ato gan Ombwdsmon
Gwasanaethau Cyhoeddus
Cymru. Credir na ddylid datgelu’r
wybodaeth rhag ofn i unrhyw
gyhoeddusrwydd ynglyn a’r achos ragfarnu
seffyllfa’r Cynghorydd cyn unrhyw wrandawiad.
Darperir y wybodaeth ar sail gyfrinachol gan yr Ombwdsmon a byddai ei ddatgelu
yn niwediol i weithriad y broses o ymchwilio I gwynion odan Ddeddf Lwyodraeth
Leol 2000. Credwyd y byddai budd cyhoeddus
sylweddol yn cynnal proses ymchwilio mewn modd deg
a phriodol a felly y dylai
y mater fod yn eithriedig. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
PENDERFYNIAD YR OMBWDSMON AR GWYN YN ERBYN AELOD O GYNGOR CYMUNED Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau |