Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Courtney Leigh Jones E-bost: Courtneyleighjones@gwynedd.llyw.cymru
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriad gan
Ms Sonya Khade (Aelod Annibynnol) |
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw
ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Nid oedd fater brys i’w nodi. |
|
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod
blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 09 Mehefin, 2025 fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd
y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 9 Mehefin
2025 fel rhai cywir. |
|
|
COFRESTR RHODDION A LLETYGARWCH Er
gwybodaeth ac i gyflwyno unrhyw sylwadau ar y trefniadau. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad:
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Reolwr Priodoldeb ac Etholiadau. Cadarnhawyd
bod hwn yn adroddiad rheolaidd i’r Pwyllgor, yn unol â’i raglen waith. Nodwyd ei
fod yn gysylltiedig â Chod Ymddygiad Cynghorwyr, sy’n ei wneud yn ofynnol i
aelodau ddarparu hysbysiad ysgrifenedig i’r Swyddog Monitro o unrhyw gynnig o
letygarwch, buddiant materol neu fantais sy’n werth mwy na £25, fel y swm hicyn
sydd wedi ei bennu gan Gyngor Gwynedd.
Cadarnhawyd bod yr egwyddorion wedi ei amlinellu yn y protocol, sydd yn
rhoi arweiniad i aelodau ynglŷn â beth sydd yn addas i’w dderbyn. Nodwyd
bod rhoddion sydd wedi ei wrthod gan aelodau hefyd yn cael eu cofrestru, er
mwyn dadansoddi patrymau ayyb. Cadarnhawyd
mai nifer isel o gofrestriadau rhoddion sydd wedi bod eleni, sydd yn debyg i’r
flwyddyn flaenorol 2024/25. Sylwyd mai dim ond 3 cofrestr newydd sydd wedi dod
i law ers y cyfarfod diwethaf, a rheiny yn ymwneud a’r un digwyddiad. Diolchwyd
am yr adroddiad a mynegwyd canmoliaeth ynghylch cydymffurfiaeth aelodau’r
Cyngor a’r polisi. Awgrymwyd y dylid ystyried gyhoeddi cofrestr rhoddion a
lletygarwch ar wefan y Cyngor, er mwyn adlewyrchu hyder y cyhoedd a sicrhau
tryloywder. Nodwyd bod materion diogelwch data hefyd yn bwysig a bydd angen i
hyn gael ystyriaeth wrth ystyried opsiynau cyhoeddi gwybodaeth ar-lein.
Penderfynwyd byddai’r Swyddog Monitro yn paratoi adroddiad ynghylch opsiynau ar
gyfer nodi’r wybodaeth ar-lein erbyn cyfarfod nesaf y Pwyllgor. PENDERFYNIAD 1.
Derbyn a nodi cynnwys yr adroddiad 2.
Derbyn cynnig y Swyddog Monitro i baratoi adroddiad ynghylch opsiynau ar
gyfer nodi gwybodaeth ar wefan y Cyngor, i’w gyflwyno i’r Aelodau yng
nghyfarfod nesaf y Pwyllgor hwn, sydd wedi ei raglennu ar gyfer 23 Chwefror
2026. |
|
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL YR OMBWDSMAN Er
gwybodaeth. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Nodi a derbyn cynnwys yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan y Swyddog Monitro. Mynegwyd
pryder bod cryn dipyn o achosion yn mynd ymlaen i’r ombwdsman sydd yn golygu
felly bod yr Ombwdsmon ar ei hol hi efo’u gwaith. Mynegwyd nad ydynt yn
cyrraedd eu targedau, ond hyn yn amlwg gan fod eu llwyth gwaith mor uchel.
Tynnwyd sylw at y llwyth gwaith sydd gan yr Ombwdsmon a mynegwyd sylw y dylid
ystyried Sylwyd bod
315 cwyn yn ymwneud a chod ymddygiad a bod cyn lleied â 49 wedi eu harchwilio.
Awgrymwyd y byddai’n ddefnyddiol ceisio datrys mwy o faterion yn fewnol cyn
iddynt orfod mynd ymlaen i’r ombwdsmon er mwyn gallu rheoli’r llwyth gwaith yn
well a delio a mwy o achosion yn effeithlon. Mewn ymateb i ymholiad gan Aelod ynghylch yr angen am ganfyddiad o
euogrwydd fel sail dystiolaethol er mwyn atal cynghorwyr o’u gwaith,
cadarnhaodd y Swyddog Monitro bod materion troseddol yn ddibynnol ar ganfyddiad
o euogrwydd er mwyn gweithredu yn briodol. PENDERFYNIAD Nodi
a derbyn cynnwys yr adroddiad. |
|
|
HONIADAU YN ERBYN AELODAU Er
gwybodaeth. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Nodi’r wybodaeth.
Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau. Rhoddwyd gwybodaeth i’r
pwyllgor am benderfyniadau’r Ombwdsman ar gwynion ffurfiol yn erbyn aelodau.
Adroddwyd mai crynodeb yw hwn o gwynion sydd wedi cau er mwyn rhoi darlun i’r
Pwyllgor o’r math o bethau sy’n cael eu cyfeirio at yr Ombwdsmon a’r
penderfyniadau a wneir wrth asesu’r cwynion. Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw
hysbysiadau o benderfyniadau oddi wrth yr Ombwdsmon ers yr adroddiad blaenorol.
Mewn ymateb
i ymholiad, cadarnhawyd bod cwyn yn erbyn cyn - aelod o’r Cyngor wedi ei
chyfeirio at Banel Dyfarnu Cymru yn uniongyrchol gan yr Ombwdsmon. Nodwyd y
gobeithiwyd bydd mwy o fanylion ynghylch y mater hwn ar gael erbyn cyfarfod
nesaf y Pwyllgor, felly bydd modd manylu arno bryd hynny. Gofynnwyd
beth yw sefyllfa Aelodau ynghylch datgan buddiant ar gyfer penderfyniadau pan
yn aelod o fyrddau ymddiriedolaeth. Esboniwyd bod y mater hwn yn rhan o’r
dyletswyddau statudol a cyfreithiol tuag at y cwmni neu elusen hwnnw i hyrwyddo
llwyddiant y cwmni perthnasol ond bod angen hefyd ystyried y mater o
wrthdrawiadau buddiannau a bod angen bod yn ofalus i beidio mynd yn erbyn y
naill a’r ddyletswydd. Nodwyd bod angen delio a’r mater unigryw yn unol â’r
gofynion a’r ymddiriedolaeth neu’r cwmni a dilyn y canllawiau priodol. Manylwyd
bod y cod ymddygiad yn nodi yn gyffredinol y dylid dilyn y cod ymddygiad y
mudiad mae’r aelod yn rhan ohono. Eglurwyd ei fod yn bosib cydweithio a’r Tîm
Democratiaeth i greu dynodiad penodol esboniadol yn manylu ar y mater hwn yn y
pecyn anwytho aelodau erbyn cyfnod Etholiadau nesaf yn 2027 er mwyn sicrhau
dealltwriaeth ynglŷn â natur y cod a’r canllawiau perthnasol. PENDERFYNIAD Nodi’r wybodaeth. |
|
|
Er argymell
Trefn Datrys Mewnol diwygiedig i’w fabwysiadu gan y Cyngor Llawn. Mae Atodiad 1 ar wahân ar gyfer Aelodau’r Pwyllgor Safonau
yn unig. Mae’r Atodiad wedi’i eithrio o dan Paragraff 16 o Atodiad 12A o Ddeddf
Llywodraeth Leol 1972 – Gwybodaeth y gallai honiad ynghylch braint broffesiynol
gyfreithiol gael ei gynnal yn ei chylch mewn achos cyfreithiol. Mae’r Atodiad
yn cynnwys barn gyfreithiol a ddarparwyd drwy swyddfa Ombwdsman Gwasanaethau
Cyhoeddus Cymru ac yn ddarostyngedig i fraint gyfreithiol. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: To note the report. Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan y Swyddog Monitro. Eglurwyd bod y Trefn Datrys Mewnol wedi bod
mewn bodolaeth yng Ngwynedd ers 2013, ac yn creu proses anffurfiol ar gyfer
ymdrin a chwynion lefel isel heb yr angen am gŵyn ffurfiol i Ombwdsmon
Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Nodwyd bod yr Ombwdsmon wedi adolygu’r holl
elfennau a phrotocolau datrys lleol yng Nghymru, ac wedi adnabod gwaith Gwynedd
fel ymarfer da yn y maes. Atgoffwyd bod y Pwyllgor hwn wedi addasu trefn datrys
leol Gwynedd tua 2 flynedd yn ôl i roi mwy o rôl i arweinyddion grwpiau ar y
pryd yn y broses o ddatrys mewnol. Nodwyd bod hwn yn hyrwyddo datrysiad mewnol
ac yn atgyfnerthu’r broses. Cyfeiriwyd
at yr heriau sydd yn wynebu cynghorau tref a chymuned a’r pwysau ar swyddogion
monitro i ddatrys honiadau a thoriadau cod ymddygiadau. Nodwyd bod strwythur yn
llafurus, ond ei fod yn tynnu pwysau sylweddol oddi ar yr Ombwdsmon. Amlygwyd
bod hyn yn rhyddhau adnoddau’r Ombwdsman i ddelio a materion yn unol â’r
cyfansoddiad. PENDERFYNIAD Nodi’r adroddiad. |
|
|
COFNODION FFORWM CENEDLAETHOL PWYLLGORAU SAFONAU Er
gwybodaeth. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn y wybodaeth. Cofnod: Cyfeiriwyd at y cofnodion
gan y Cadeirydd. Amlygwyd mai eitem er gwybodaeth yw hon ac felly ni bu
drafodaeth. |