Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Courtney Leigh Jones  E-bost: Courtneyleighjones@gwynedd.llyw.cymru

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd ar gyfer y Pwyllgor hwn.

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD ethol Mr Hywel Eifion Jones yn gadeirydd y pwyllgor hwn.

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol Mr Hywel Eifion Jones yn gadeirydd y pwyllgor hwn.

2.

ETHOL IS GADEIRYDD

I ethol Is Gadeirydd ar gyfer y pwyllgor hwn.

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD ethol Mr Mark Jones yn is-gadeirydd y pwyllgor hwn.

 

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol Mr Mark Jones yn is-gadeirydd y pwyllgor hwn.

3.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau.

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi.

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw fater brys ym marn y Cadeirydd.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi.

6.

COFNODION pdf eicon PDF 128 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y 3 Tachwedd 2025, fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar a gynhaliwyd ar y 3 Tachwedd 2025, fel rhai cywir.

7.

AELODAETH Y PWYLLGOR SAFONAU pdf eicon PDF 64 KB

Er gwybodaeth.

Penderfyniad:

 

Nodi’r wybodaeth.

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau.

 

Diolchwyd i Mr Aled Jones am ei waith ar y Pwyllgor dros y blynyddoedd. Nodwyd y bydd y ddwy sedd wag yn cael eu hysbysebu, a bod bwriad i adrodd i’r Cyngor ym mis Mai gydag argymhellion.

 

Tynnwyd sylw at y newid diweddar yn y Rheoliadau, sy’n llacio’r cyfyngiadau i fod yn aelod o’r Pwyllgor Safonau fel aelod annibynnol. Manylwyd ar hyn gan nodi y galluogir y newid i gyn-aelodau a chyn-swyddogion o awdurdod y Pwyllgor ddod yn aelodau annibynnol o’r Pwyllgor Safonau wedi cyfnod o ddwy flynedd o beidio â bod yn aelod/swyddog.

Amlygwyd pwysigrwydd llenwi’r seddi gwag hyn yn brydlon, gan obeithio y bydd cryn ddiddordeb yn y rolau yn sgil y newidiadau yn y Rheoliadau.

 

PENDERFYNIAD

 

Nodi’r wybodaeth.

8.

RHAGLEN WAITH ARFAETHEDIG 2026-27 pdf eicon PDF 102 KB

I ystyried rhaglen waith ddrafft y Pwyllgor ar gyfer 2026-27.

Penderfyniad:

  1. Adolygu’r Rhaglen Arfaethedig a chynnig unrhyw addasiadau.
  2. Yn dilyn trafodaeth gan y Pwyllgor, derbyniwyd y cynnig i ychwanegu eitem i gyfarfodydd y Pwyllgor ym mis Tachwedd a mis Mehefin.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Swyddog Monitro.

 

Datganwyd bod y Rhaglen Waith ddrafft wedi ei gosod allan ar gyfer gwaith y Pwyllgor dros gyfnod 2026-27. Tynnwyd sylw at anghysondeb rhwng y dyddiadau a gaiff eu nodi yn yr adroddiadau Cymraeg a Saesneg, gan gadarnhau mai 8 Mehefin yw dyddiad cywir y cyfarfod.

 

Aethpwyd ymlaen i gynnig ychwanegu eitem at raglen mis Tachwedd, gan amlygu’r arferiad i’r Pwyllgor gyfarfod ag arweinyddion y grwpiau gwleidyddol.

 

Cadarnhawyd bod y Rhaglen Waith yn ddogfen fyw, ac felly bod modd ychwanegu unrhyw eitem sy’n codi ac angen sylw.

 

Soniwyd am gynnal adolygiad o ran y sefyllfa hyfforddiant i gynghorau cymuned a thref, gan ei fod yn fater sydd wedi’i drafod gan y Pwyllgor ers cryn amser bellach. Crybwyllwyd y pwysau ar staffio a olygai nad oedd modd blaenoriaethu’r gwaith hwn, ac ychwanegwyd bod Etholiad y Senedd ym mis Mai hefyd yn cymryd amser y Tîm. Cynhigiwyd y dylid cyflwyno adroddiad ar y mater i’r Pwyllgor hwn ym mis Mehefin. Pwysleisiwyd pwysigrwydd edrych ar yr eitem Trefniadau Anwytho Aelodau Newydd o safbwynt cynghorau tref a chymuned yn ogystal.

 

PENDERFYNIAD

1. Adolygu’r Rhaglen Arfaethedig a chynnig unrhyw addasiadau.

2. Yn dilyn trafodaeth gan y Pwyllgor, derbyniwyd y cynnig i ychwanegu eitem i gyfarfodydd y Pwyllgor ym mis Tachwedd a mis Mehefin.

9.

HONIADAU YN ERBYN AELODAU pdf eicon PDF 230 KB

Er gwybodaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

Nodi’r wybodaeth.

 

Cofnod:

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau.

 

Eglurwyd mai pwrpas yr eitem hon yw rhannu gwybodaeth gyda’r aelodau am benderfyniadau’r Ombwdsmon ar gwynion ffurfiol yn erbyn aelodau.

 

Soniwyd bod mater sy’n ymwneud â chyn-aelod o’r Cyngor hwn wedi bod gerbron Panel Dyfarnu Cymru.

Amlygwyd bod dau achos lle y bu i Erthygl 10 o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol gael ei ystyried, a chyfeiriwyd at yr her wrth ddehongli achosion o’r fath. Nodwyd bod trafodaeth gyson ynglŷn â lle mae Rhyddid Mynegiant yn disgyn, a’r warchodaeth a gaiff ei roi i hynny pan mae cwynion am sylwadau. Amlygwyd bod Rhyddid Mynegiant gwleidyddol yn gysyniad anodd ei gyfleu ar adegau, o ran natur trafodaethau gwleidyddol. Wrth gyfeirio at achos penodol, datganwyd ei fod yn tanlinellu bod dwyn anfri yn berthnasol i fywyd ehangach yn ogystal, ac nid i rôl unigolyn fel Cynghorydd yn unig. Ategwyd bod hyn yn amlygu’r disgwyliadau o ran ymddygiad cyffredinol aelodau.

 

Pwysleisiwyd pwysigrwydd hysbysu’r Swyddog Monitro pe byddai unrhyw fater sy’n torri’r Côd Ymddygiad yn dod i sylw. Ychwanegwyd bod disgwyl i’r aelod sy’n destun yr ymddygiad ddod i gyswllt â’r Swyddog Monitro yn ogystal, er mwyn esbonio’r sefyllfa cyn gynted ag y bo modd.

 

Cyfeiriwyd at anghysondeb rhwng y dyddiadau a nodir ym mhwynt 7.2.11 o’r fersiwn Gymraeg a’r fersiwn Saesneg o adroddiad y Panel Dyfarnu, a chadarnhawyd mai’r adroddiad Cymraeg sy’n nodi’r dyddiad cywir.

 

PENDERFYNIAD

Nodi’r wybodaeth.

10.

DIWYGIADAU EGWYDDORION A CHOD YMDDYGIAD AELODAU pdf eicon PDF 82 KB

Cynghori aelodau am ddiwygiadau arfaethedig i Gôd Ymddygiad yr Aelodau a Pholisi Canu’r Gloch y Cyngor

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodi’r wybodaeth.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Swyddog Monitro.

 

Hysbyswyd y Pwyllgor o newidiadau statudol i Gôd Ymddygiad yr Aelodau, sy’n deillio o'r Rheoliadau newydd a ddaeth i rym ddiwedd mis Ionawr eleni. Amlygwyd bod y newidiadau yn eithaf technegol, a manylwyd ar hyn gan nodi bod newid yr Egwyddorion Ymddygiad a Chôd Ymddygiad yr Aelodau yn debygol o fod o ganlyniad i benderfyniad diweddar y Goruchaf Lys ynglŷn â chydraddoldeb. Adroddwyd bod y newid hwn yn gosod y diffiniad sydd yn Neddf Cydraddoldeb 2010 yn y Côd Ymddygiad, ac felly bod y warchodaeth nawr ar sail Nodweddion Gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Eglurwyd bod hyn yn tacluso’r Côd Ymddygiad, ond nad yw’n newid hawliau na chyfrifoldebau’r aelodau.

 

Yn ogystal, datganwyd bod Cymru wedi dod a’r ddyletswydd i ymdrin yn briodol ag amgylchiadau economaidd-gymdeithasol i rym o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Adnabuwyd felly bod y Côd wedi’i ddiwygio fel bod dyletswydd i beidio â gwahaniaethau ar sail amgylchiadau economaidd-gymdeithasol. Nodwyd ei bod yn ofynnol i’r Cyngor Llawn fabwysiadu’r diwygiadau hyn yn ffurfiol i’r Côd.

 

Cyfeiriwyd at Gynllun Ymateb Cyngor Gwynedd, ac amlygwyd bod y Cabinet wedi mabwysiadu Polisi Canu’r Gloch diwygiedig yn ei gyfarfod fis Ionawr eleni fel rhan o’u hymateb. Gan ei fod yn ddogfen sydd yng Nghyfansoddiad y Cyngor, cadarnhawyd gan y Swyddog Monitro fod dyletswydd arno i adrodd er gwybodaeth i’r Cyngor Llawn fod y ddogfen wedi newid. Crybwyllwyd pwysigrwydd i aelodau’r Pwyllgor Safonau hefyd fod yn ymwybodol o’r newid hwn.

 

Holwyd ynglŷn â gwarchodaeth i’r iaith Gymraeg. Gan nad yw’r iaith yn Nodwedd Warchodedig o dan y Ddeddf Cydraddoldeb 2010, cadarnhawyd mai Mesur y Gymraeg 2011 sy’n rhoi gwarchodaeth i’r Gymraeg.

 

PENDERFYNIAD

Derbyn y wybodaeth.  

11.

COFRESTR RHODDION A LLETYGARWCH AELODAU pdf eicon PDF 87 KB

Er mwyn ystyried cyhoeddi cofrestr Rhoddion a Lletygarwch Aelodau.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

Derbyn y wybodaeth.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau.

 

Datganwyd yr adroddir am y Gofrestr yn rheolaidd i’r Pwyllgor hwn. Cyfeiriwyd at drafodaeth flaenorol ynglŷn â’r ffaith na chaiff y Gofrestr ei chyhoeddi ar wefan y Cyngor ar hyn o bryd.

 

Cadarnhawyd bod y Côd Ymddygiad yn ei gwneud yn ofynnol i Aelodau ddarparu hysbysiad ysgrifenedig i’r Swyddog Monitro o unrhyw gynnig o letygarwch, buddiant materol neu fantais sy'n werth mwy na £25.

 

Aethpwyd ymlaen i drafod y Protocol ar Roddion a Lletygarwch Aelodau sydd wedi’i fabwysiadu gan y Cyngor, sy’n rhoi arweiniad i Aelodau ynglŷn â sut i ddelio gyda chynigion.

Soniwyd am drafodaeth flaenorol y Pwyllgor ynglŷn â phriodoldeb cyhoeddi’r Gofrestr Rhoddion a Lletygarwch ar wefan y Cyngor, a chadarnhawyd ei bod bellach yn statudol ofynnol i gyhoeddi’r Gofrestr Buddiannau Aelodau ar y wefan. Cyfeiriwyd at y Protocol gan nodi y gall y cyhoedd ddod i mewn i weld y Gofrestr Rhoddion a Lletygarwch, ac amlygwyd rhai o’r Egwyddorion sydd wedi eu cynnwys yn y Côd Ymddygiad.

 

Pwysleisiwyd yr angen i fod yn ymwybodol o unrhyw oblygiadau o ran diogelu data, gan gydnabod efallai y bydd rhai achosion arbennig lle na fyddai’n addas i ryddhau’r wybodaeth.

 

Daethpwyd i'r casgliad nad oes rheswm pam na ddylid cyhoeddi’r Gofrestr Rhoddion a Lletygarwch Aelodau ar y wefan, gan nodi ei fod yn rhoi gwarchodaeth i Aelodau ac yn cyfrannu at yr awydd i fod yn dryloyw ac yn agored. Adnabuwyd fod hyn yn fater cadarnhaol.

 

Holwyd am y drefn wrth fynd ymlaen pe bai cymeradwyaeth i’r mater yn y cyfarfod hwn. Mewn ymateb, cadarnhawyd bod yr egwyddor o fod y Gofrestr yn gyhoeddus eisoes wedi’i sefydlu yn y Protocol. Nodwyd felly y bydd yr Aelodau yn cael eu hysbysu o’r newid. Ychwanegwyd y bydd y ffurflen sy’n cael ei defnyddio i nodi unrhyw roddion a lletygarwch yn cael ei haddasu yn ogystal, er mwyn amlygu’r ffaith y caiff ei gyhoeddi ar y wefan.

Nodwyd bod y Gofrestr wedi’i gynnwys yng Nghynllun Cyhoeddi’r Cyngor, sef cynllun i nodi pa ddogfennau fydd ar gael yn gyhoeddus gan y Cyngor. Ategwyd bod y Cyngor yn ceisio gwneud unrhyw wybodaeth sy’n ofynnol i’w gwneud yn gyhoeddus o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, yn gyhoeddus beth bynnag. Datganwyd bod hyn yn arbed yr angen am rai ceisiadau rhyddid gwybodaeth. Gofynnwyd am y budd o’i wneud yn gyhoeddus a pha wahaniaeth yw hyn i’r adroddiad a dderbyniwyd pan fu’n Pwyllgor yn trafod y mater hwn yn flaenorol. Mewn ymateb, amlygwyd y bydd rhoi’r Gofrestr ar y wefan yn golygu y caiff enwau'r aelodau dan sylw eu cyhoeddi yn ogystal. Cadarnhawyd bod y ddogfen eisoes yn gyhoeddus ar ffurf papur, felly mai’r dull o’i wneud yn gyhoeddus yw’r unig newid.

 

Ategwyd y diolch i Mr Aled Jones am ei gyfraniad i waith y Pwyllgor, a dymunwyd yn dda iddo.

 

PENDERFYNIAD

Ystyried y casgliadau sydd yn yr adroddiad.