Lleoliad: Ystafell Gwyrfai, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Dim. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Ni
dderbyniwyd datganiad o fuddiant gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn
y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid
llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 3
Hydref, 2016, fel rhai cywir (ynghlwm). Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 3
Hydref, 2016 fel rhai cywir. Gan gyfeirio at
eitem 3 o’r cofnodion, Paratoi ar gyfer Etholiadau Llywodraeth Leol 2017,
nododd y Swyddog Monitro iddo ef a’r Uwch Gyfreithiwr fynychu cyfres o
gyfarfodydd codi ymwybyddiaeth darpar ymgeiswyr yn ddiweddar i roi cyflwyniad
byr ar y Cod Ymddygiad Aelodau. |
|
CEISIADAU AM ODDEFEB PDF 260 KB Ystyried adroddiad
y Swyddog Monitro (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd – (1) Adroddiad y Swyddog Monitro yn gofyn i’r pwyllgor ystyried a
phenderfynu ar geisiadau gan y Cynghorydd Dilwyn Morgan, Aelod Y Bala ar Gyngor
Gwynedd am oddefeb mewn cysylltiad ag ad-drefnu ysgolion yn nalgylch Ysgol y
Berwyn, Y Bala. (2) Cais pellach a dderbyniwyd, ar ôl paratoi’r adroddiad, gan y
Cynghorydd Elwyn Edwards, Aelod Llandderfel ar Gyngor Gwynedd am oddefeb mewn
perthynas â’r un mater. Cyn ystyried y ceisiadau, rhoddodd y Swyddog
Monitro amlinelliad o’r broses trefniadaeth ysgolion yn y dalgylch. (1) Cais y Cynghorydd Dilwyn Morgan Nododd y Swyddog Monitro:- ·
Bod
gan y Cynghorydd fuddiant yn y mater oherwydd bod ŵyr iddo’n ddisgybl yn Ysgol Bro Tegid. ·
Y bu
i’r Cynghorydd hefyd nodi ar ei ffurflen ei fod yn Llywodraethwr Ysgol y
Berwyn, ond na fyddai hynny’n ei rwystro rhag cymryd rhan mewn trafodaethau gan
fod y Cod Ymddygiad yn rhoi caniatâd penodol i lywodraethwyr a benodwyd gan y
Cyngor i gymryd rhan, heblaw lle bydd ceisiadau am ganiatâd (e.e. cynllunio) yn
cael eu trafod. ·
Bod y
Cynghorydd yn gofyn am oddefeb gyffredinol, oherwydd ei rôl fel aelod lleol, i gymryd rhan mewn unrhyw gyfarfod lle
byddai gwahoddiad iddo roi sylwadau a mynegi barn ei etholwyr. ·
Na
chredai’r Cynghorydd y byddai ei gyfranogiad yn niweidio hyder y cyhoedd. Cyfeiriwyd at
benderfyniadau blaenorol mewn achosion tebyg ble caniatawyd goddefebau i
aelodau â buddiant gymryd rhan yn y trafodaethau lleol yn unig ac awgrymwyd y
dylid ymlynu at y cynsail a sefydlwyd eisoes fel bod y pwyllgor yn gyson yn ei
benderfyniadau. PENDERFYNWYD caniatáu’r cais am oddefeb i’r
Cynghorydd Dilwyn Morgan siarad, ond nid i bleidleisio, mewn cyfarfodydd dan
nawdd y Cyngor ynglŷn ag ad-drefnu ysgolion yn nalgylch Ysgol y
Berwyn, Y Bala sy’n cael eu
cynnal yn yr ardal, ond na chaiff siarad, na bod yn bresennol na phleidleisio
mewn cyfarfod o’r Cyngor, Cabinet nac unrhyw un o’i bwyllgorau a’i bod yn
ofynnol iddo ddatgan yn glir ymhob cyfarfod y mae’n cymryd rhan ynddo ei fod
wedi cael goddefeb, gan egluro union natur y cyfyngiadau arno, a bod hynny’n
cael ei nodi yng nghofnodion y cyfryw gyfarfodydd. (2) Cais y Cynghorydd Elwyn Edwards Nododd y Swyddog Monitro:- ·
Bod
gan y Cynghorydd fuddiant yn y mater oherwydd bod wyrion ac wyres iddo’n ddisgyblion yn Ysgol y Berwyn. ·
Y
caniatawyd goddefeb yn Nhachwedd 2009 i’r Cynghorydd gyfrannu i drafodaethau yn
y Panel Adolygu Dalgylch, ond gan fod natur y trafodaethau lleol wedi newid ers
y dyddiau hynny, yr argymhellid diweddaru’r oddefeb honno i adlewyrchu’r
sefyllfa bresennol. ·
Bod
cais presennol y Cynghorydd yn gofyn yn benodol am oddefeb i arwyddo deiseb yn
galw am statws cymunedol i Ysgol newydd Gydol Oes y Berwyn ac i gasglu enwau
arni. Wrth ystyried y cais nodwyd mai cais i weithredu mewn capasiti fel aelod o’r Cyngor oedd gerbron, ble ‘roedd Cod Ymddygiad Aelodau Cyngor Gwynedd yn weithredol. Nodwyd hefyd fod gwybodaeth am union natur y gweithredu yn brin yn y cais. ‘Roedd y pwyllgor o’r farn y byddai trefnu deiseb ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
AELODAETH Y PWYLLGOR SAFONAU YN DILYN ETHOLIADAU LLYWODRAETH LEOL 2017 PDF 266 KB Ystyried adroddiad
y Swyddog Monitro (ynghlwm). Cofnod: Cyflwynwyd – adroddiad y Swyddog Monitro yn
gofyn am farn y pwyllgor ar y drefn arfaethedig ar
gyfer penodi aelodau etholedig ac aelod pwyllgor cymunedol i’r Pwyllgor Safonau
yn dilyn etholiadau Llywodraeth Leol 2017. Nododd yr Uwch Gyfreithiwr y bwriadai
ysgrifennu’n uniongyrchol at yr holl gynghorau cymuned a thref cyn yr
etholiadau ym mis Mai, fel y gallent ystyried y mater yn eu cyfarfodydd cyntaf
yn dilyn yr etholiad. Yn ogystal â hyn, ‘roedd yn bwriadu tynnu sylw holl
aelodau Cyngor Gwynedd at yr angen i benodi aelod pwyllgor cymunedol newydd ar
y Pwyllgor Safonau gan ofyn iddynt fynd â’r neges yn ôl i’w cynghorau cymuned a thref. PENDERFYNWYD cymeradwyo’r drefn arfaethedig. |
|
FFORWM PWYLLGORAU SAFONAU GOGLEDD CYMRU PDF 114 KB Ystyried adroddiad
y Swyddog Monitro (ynghlwm). Cofnod: Cyflwynwyd – adroddiad y Swyddog Monitro yn
manylu ar rôl, cylch gorchwyl a
threfniadau Fforwm Pwyllgorau Safonau Gogledd Cymru ac yn gofyn am farn yr aelodau ar ddatblygu’r fforwm. Nododd y Swyddog Monitro fod cais i ymestyn y
fforwm i gynnwys Pwyllgorau Safonau Cynghorau Powys a Cheredigion
wedi cael derbyniad cadarnhaol gan y siroedd eraill yng Ngogledd Cymru. Nododd y Cadeirydd bwysigrwydd sicrhau y
dylai pob cyfarfod o’r fforwm fod i bwrpas a bod yna allbwn yn digwydd. Atgoffwyd yr aelodau o’u hawl i gyfeirio
unrhyw fater i’r fforwm am drafodaeth. PENDERFYNWYD datgan bod y pwyllgor hwn yn gefnogol
i’r cais i ymestyn Fforwm Pwyllgorau Safonau Gogledd Cymru i gynnwys Pwyllgorau Safonau Cynghorau Powys a Cheredigion. |
|
COFRESTR BUDDIANNAU AELODAU PDF 98 KB Ystyried adroddiad y Swyddog Monitro (ynghlwm). Cofnod: Cyflwynwyd, er gwybodaeth – adroddiad y
Swyddog Monitro ar y gwaith paratoi ar gyfer cydymffurfio â’r gofyn i gyhoeddi’r Gofrestr Buddiannau yn electroneg, fel y bydd
datganiadau pob aelod i’w gweld drwy eu tudalennau personol ar wefan y Cyngor. Pwysleisiwyd pwysigrwydd sicrhau bod unrhyw
aelod newydd ar y Cyngor ar ôl yr etholiadau ym mis Mai yn llwyr ymwybodol o’r
drefn a nodwyd y byddai hynny’n rhan o’r sesiynau anwytho
cyntaf ar y Cod Ymddygiad. Nododd yr Uwch Gyfreithiwr fod y gwaith
paratoi ar gyfer cyhoeddi’r gofrestr yn electroneg wedi amlygu’r angen i wella
ffurf a chynnwys y ffurflenni hysbysiad o fuddiant personol. Nodwyd, os yw hefyd yn ofynnol i gynghorau
tref a chymuned gyhoeddi eu cofrestrau buddiannau yn electroneg, y dylai’r
Swyddog Monitro eu hysbysu o hynny pan yn ysgrifennu atynt yn gwahodd
enwebiadau ar y pwyllgor hwn. PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad. |
|
HONIADAU YN ERBYN AELODAU PDF 106 KB Ystyried adroddiad y Swyddog Monitro (ynghlwm). Cofnod: Cyflwynwyd, er gwybodaeth – adroddiad y
Swyddog Monitro ar gwynion ffurfiol yn erbyn aelodau. PENDERFYNWYD
nodi’r adroddiad. |