skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gwyrfai, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

Cofnod:

Mr David Wareing.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 325 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 10 Gorffennaf, 2017 fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 10 Gorffennaf, 2017 fel rhai cywir yn amodol ar dynnu’r geiriau mewn cromfachau ym mhenderfyniad Eitem 6 (a) Mabwysiadu’r canlynol fel hunan asesiad y pwyllgor o’i waith (ychwanegiadau i’r ddogfen mewn llythrennau italig ac wedi’u tanlinellu).

 

5.

ADOLYGIAD PROTOCOLAU pdf eicon PDF 495 KB

Ystyried adroddiad y Swyddog Monitro.

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad y Swyddog Monitro.  Gwahoddwyd sylwadau a chymeradwyaeth y pwyllgor i’r ddau brotocol penodol ar gyfer cefnogi’r Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau.

 

Cyfeiriwyd at y Protocol ar Gysylltiadau Aelodau / Swyddogion ac yn benodol at

-       bwynt 21.7  Rolau Cyflogeion.  Awgrymwyd bod angen cynnwys geiriad ychwanegol i rôl aelod o ran yr hawl i gynnig polisïau o dan 21.5. 

-       bwynt 21.9.4 Cyfeillgarwch. Nodwyd bod angen datgan cyfeillgarwch rhwng Aelodau a Chyflogeion.  Awgrymwyd

o   cymharu protocol yr Heddlu efo protocol Cyngor Gwynedd.

o   addasu geiriad i gynnwys ‘creu sefyllfa o amrhiodoldeb’.

[EIG(1] 

Eglurwyd y cyflwynir adroddiad pellach i’r Pwyllgor Safonau yn dilyn canfasio Aelodau a swyddogion yn gyffredinol ynglŷn â chynnwys a gweithrediad y protocol.

 

Cyfeiriwyd at y Protocol Rhoddion a Lletygarwch – Aelodau ac yn benodol at bwynt 5.2 ‘Ni ddylech dderbyn cynigion o letygarwch oni bai fod gwir angen i gyfrannu gwybodaeth neu gynrychioli’r Cyngor yn y gymuned’.  Trafodwyd y pwynt yn fanwl ac eglurwyd mai bwriad y pwynt oedd ceisio cael Aelodau i feddwl cyn derbyn gwahoddiadau.  Cytunwyd nad oedd unrhyw angen penodol yn dod i’r amlwg i adolygu’r Polisi. .

 

PENDERFYNWYD derbyn sylwadau fel maent yn cyrraedd.

 


 [EIG(1]Sylw oedd hwn ni fyddwn am iddo fod yn awgrym o’ Pwyllgor

6.

ADRODDIAD BLYNYDDOL YR OMBWDSMON 2016/17 pdf eicon PDF 210 KB

Ystyried adroddiad y Swyddog Monitro.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Swyddog Monitro a thynnwyd sylw at y gostyngiad yn nifer y cwynion. 

 

Tynnwyd sylw at y ffaith fod aelodau o’r Cyngor oedd yn sefyll am ailetholiad yn ddarostyngedig i’r Cod Ymddygiad ond nad oedd ymgeiswyr eraill yn ddarostyngedig i’r un rheolaeth.   Awgrymwyd dylai’r ymgeiswyr hynny sy’n sefyll etholiad a heb fod yn aelod presennol, fod ynghlwm i brotocol ymddygiad oherwydd bod yr aelodau presennol yn gorfod ymddwyn o dan y protocol. Nodwyd fod rhai cyfyngiadau o fewn cyfraith etholiadol ond nad oeddynt yn cyffelybu a’r Cod.

 

Nodwyd bod gwybodaeth eang ar safle we’r Cyngor ar gyfer ymgeiswyr newydd.

 

          PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.

 

7.

HONIADAU YN ERBYN AELODAU pdf eicon PDF 237 KB

Ystyried adroddiad y Swyddog Monitro.

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth – adroddiad y Swyddog Monitro ar gwynion ffurfiol yn erbyn aelodau.

 

Eglurwyd bod fformat yr adroddiad nawr yn cynnwys manylion am yr honiadau sydd wedi cau yn unig.

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.

 

8.

CEISIADAU AM ODDEFEB pdf eicon PDF 260 KB

Ystyried adroddiad y Swyddog Monitro.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd - adroddiad y Swyddog Monitro yn gofyn i’r pwyllgor ystyried a phenderfynu ar dri chais am oddefeb cyffredinol gan aelodau ardal Bangor mewn cysylltiad ag adolygiad o ddarpariaeth addysg yn ardal Bangor y mae’r Cyngor yn ei gynnal.  Cyn ystyried y ceisiadau unigol, rhoddodd y Swyddog Monitro amlinelliad o’r broses trefniadaeth ysgolion. Atgoffodd y Pwyllgor ei fod wedi gosod canllawiau i’w hun ar gyfer ymdrin â cheisiadau o’r fath ac wedi caniatáu goddefebau yn y gorffennol i alluogi aelodau i gymryd rhan mewn trafodaethau lleol.

 

Datganodd Aled Jones (Aelod Annibynnol) fuddiant yn y mater a gadawodd y cyfarfod.

 

Manylwyd ar y tri chais yn unigol, sef:-

 

·         Cais gan y Cynghorydd Dafydd Meurig, yn gofyn am hawl i siarad yn unig oherwydd bod ei chwaer yn gweithio i Feithrinfa Caban y Faenol Cyf, sydd wedi ei leoli ar dir Ysgol y Faenol, Bangor.  Mae yn Aelod Lleol dros Arllechwedd, a bydd yn cynrychioli buddiannau’r ysgol sydd yn ei ward, sef Ysgol Llandygai.  Byddai buddiant yn codi pe bai trafodaeth ar fater a fyddai’n debygol o effeithio ar Feithrinfa Caban y Faenol yn benodol.   

·         Cais gan y Cynghorydd  Elin Walker Jones, yn gofyn am hawl i siarad yn unig oherwydd ei bod yn Llywodraethwraig yn Ysgol y Garnedd ac Ysgol Tryfan (efo cyfrifoldeb am anghenion addysgol arbennig) a hefyd yn rhiant efo dau blentyn yn Ysgol Tryfan, ac yn gyn-riant yn Ysgol y Garnedd. Eglurwyd mai’r ffaith ei bod yn rhiant â phlant yn Ysgol Tryfan oedd yr unig gysylltiad oedd yn arwain at fuddiant sy’n rhagfarnu.

·         Cais gan y Cynghorydd Menna Baines, yn gofyn am hawl i siarad yn unig oherwydd bod ganddi blant sy’n ddisgyblion yn Ysgol Tryfan ac yn gyn-ddisgyblion yn Ysgol y Garnedd.  Mae hefyd yn Llywodraethwr ar Ysgol y Faenol. Eglurwyd mai’r ffaith ei bod yn rhiant â phlant yn Ysgol Tryfan oedd yr unig gysylltiad oedd yn arwain at fuddiant sy’n rhagfarnu.

 

Ystyriwyd a phleidleisiwyd ar y tri fesul un a chafwyd o blaid caniatáu’r tri chais am oddefeb ar yr un telerau ac y caniatawyd ceisiadau o’r fath yn y gorffennol.

 

PENDERFYNWYD

 

1.    Caniatáu goddefeb ynglŷn â’r buddiant i’r Cynghorydd Dafydd Meurig i siarad, ond nid i bleidleisio, mewn cyfarfodydd dan nawdd y Cyngor, mewn perthynas â’r broses o adolygu darpariaeth addysg ardal Bangor, ond na chant siarad, na bod yn bresennol na phleidleisio mewn cyfarfod o’r Cyngor, Cabinet nac unrhyw un o’i bwyllgorau a’i bod yn ofynnol iddynt ddatgan yn glir ymhob cyfarfod y maent yn cymryd rhan ynddo eu bod wedi cael goddefeb, gan egluro union natur y cyfyngiadau arnynt, a bod hynny’n cael ei nodi yng nghofnodion y cyfryw gyfarfodydd.

 

2.    Caniatáu goddefeb ynglŷn â’r buddiant i’r Cynghorydd Elin Walker Jones i siarad, ond nid i bleidleisio, mewn cyfarfodydd dan nawdd y Cyngor, mewn perthynas â’r broses o adolygu darpariaeth addysg ardal Bangor, ond na chant siarad, na bod yn bresennol na phleidleisio mewn cyfarfod o’r Cyngor, Cabinet nac unrhyw un o’i bwyllgorau a’i bod yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.