SWYDDOGAETH
|
ASESIAD
(1/2/3/4)
|
Tystiolaeth
|
Camau pellach
|
Hyrwyddo
a chynnal safonau ymddygiad uchel gan aelodau
|
1
|
Mae’r
Cadeirydd ac Is Gadeirydd wedi mynychu Fforwm
Safonau Gogledd Cymru i rannu profiadau hefo pwyllgorau safonau
eraill.
Cynhaliwyd
cyfres o gyrsiau anwytho i aelodau ynghyd a chyrsiau manwl ar sail templed
CLllC.
Adolygu
Protocolau Rhoddion a Lletygarwch a Chyswllt Aelodau Swyddogion.
Cyflwyno
adroddiad blynyddol i’r Cyngor Llawn
Nifer
y cwynion a dderbynnir yn isel.
|
Parhau
i fynychu a chefnogi
|
Cynorthwyo’r
aelodau i gadw at y Cod Ymddygiad
|
1
|
Cefnogi
rhaglen anwytho ar gyfer y Cyngor newydd.
Swyddog
Monitro a’i dim yn darparu cyngor ac arweiniad mewn cyfarfodydd ac ar sail un
i aelodau.
Drws
y Cyngor bob amser yn agored i’r aelodau.
|
Ystyried
adborth Hyfforddiant a rhaglen hyfforddi newydd
Aelodau’r
Pwyllgor Safonau i fynychu’r sesiynau hyfforddiant ar y Cod.
|
Cynghori’r
Cyngor ynglŷn â mabwysiadu neu ddiwygio’r Cod Ymddygiad
|
1
|
Dim
achlysur wedi codi i ddiwygio’r Cod.
|
|
Monitro
gweithrediad y Cod Ymddygiad
|
1
|
Derbyn
adroddiadau rheolaidd o honiadau yn erbyn aelodau
Derbyn
adroddiadau blynyddol yr Ombwdsman a Phanel Dyfarnu Cymru
Derbynnir
adroddiadau blynyddol am y gofrestr buddiannau a datganiadau a wneir
Derbynnir
adroddiadau blynyddol am y gofrestr buddiannau a lletygarwch.
|
Parhau
i fonitro ystyried dulliau amgen o dderbyn gwybodaeth
Ystyried
y diwygiadau i’r Cod ymddygiad a sut i rannu’r newid.
Cynnwys
buddiannau aelodau annibynnol y Pwyllgor Safonau ar wefan y Cyngor gan hefyd
ystyried dulliau eraill o godi proffil y Pwyllgor Safonau ar y wefan.
Gofyn
i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ystyried dulliau o godi proffil y
Pwyllgor Safonau ar y Porth Aelodau.
|
Cynghori,
hyfforddi neu drefnu i hyfforddi aelodau ar faterion yn ymwneud a’r Cod
Ymddygiad
|
1
|
Cynhaliwyd
cyfres o gyrsiau anwytho i aelodau ynghyd a chyrsiau manwl ar sail templed
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
|
Rhaglen
Hyfforddiant newydd a chynnwys hyn fel eitem ar raglen waith 2018/19
|
Rhoi
goddefebau i aelodau
|
1
|
Ymdriniwyd
â cheisiadau am oddefebau gan weithredu ar sail wrthrychol a phriodol.
|
|
Ymdrin
ag adroddiadau o dribiwnlys achos ac unrhyw adroddiadau gan y Swyddog Monitro
ar faterion a gyfeiriwyd gan yr Ombwdsmon
|
1
|
Ni
chyfyd angen am wrandawiadau yn ystod y flwyddyn
|
|
Awdurdodi’r
Swyddog Monitro i dalu lwfansau i bersonau a gynorthwyodd gydag ymchwiliad
|
1
|
Ni
fu achlysur i dalu lwfans o’r fath
|
|
Ymarfer
y swyddogaethau uchod mewn perthynas â chynghorau cymuned
|
3
|
Swyddog
Monitro a’i dim yn darparu cyngor ac
arweiniad i gynghorau, clercod ac aelodau.
Mabwysiadu
peilot ar gyfer hyfforddi Cod Ymddygiad.
.
Hyrwyddo
trefn datrys leol Unllais Cymru I Gynghorau Cymuned
|
Rhaglen
Hyfforddiant newydd.
Cydnabyddir
bod mwy o waith cenhadu i’w wneud gan fod cynghorau cymuned a thref yn dal i
gynhyrchu cwynion i’r Ombwdson, er bod y rhiniog ar gyfer ymchwilio i gwynion
wedi codi. Mae angen lledaenu’r neges
mewn ymgais i newid y diwylliant ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.
|
7. |
PROTOCOL AR GYSYLLTIADAU AELODAU SWYDDOGION PDF 177 KB
Ystyried adroddiad
y Swyddog Monitro (ynghlwm).
Cofnod:
Cyflwynwyd –
adroddiad y Swyddog Monitro yn gwahodd y pwyllgor i:-
·
ystyried
cyfres o newidiadau arfaethedig i’r Protocol ar Gysylltiadau Aelodau Swyddogion
yn sgil dymuniad yr aelodau i adolygu’r Protocol ac ymgynghoriad gyda’r Pwyllgor
Gwasanaethau Democrataidd, penaethiaid adran ac uwch reolwyr y Cyngor; ac
·
argymell
i’r Cyngor fabwysiadu’r Protocol.
Rhannwyd copïau o
Atodiad 2 i’r adroddiad (sef eitem 6 o gofnodion y Pwyllgor Gwasanaethau
Democrataidd 12 Ebrill 2018) yn y cyfarfod gan i’r ddogfen gael ei hepgor o’r
rhaglen drwy amryfusedd.
Canmolwyd y
Protocol ar y sail ei fod yn rhoi arweiniad clir i aelodau a swyddogion o ran
eu cysylltiadau â’i gilydd.
Gan gyfeirio at
adran 21.6 (a) o’r protocol, sy’n cyfeirio at yr egwyddor y dylai fod cyfle
cyfartal i bawb, nodwyd bod Deddf Cydraddoldeb 2010 yn rhestru 9 nodwedd
warchodedig o gymharu â’r 6 a restrwyd yma.
Eglurodd y Swyddog Monitro fod y nodweddion yn unol â’r hyn sydd yn y
Cod Ymddygiad, ond y byddai’n gwirio rhag ofn bod angen diwygio’r Cod.
PENDERFYNWYD
argymell i’r Cyngor llawn ar 4 Hydref fabwysiadu’r diwygiadau i’r Protocol
Cysylltiadau Aelodau a Swyddogion, gyda’r ychwanegiad a ganlyn:-
·
Adran 21.9.3 – Bwlio
neu harasio – nodi bod modd
cyfeirio at Bolisi Bwlio mewnol y Cyngor am ragor o wybodaeth.
|
8. |
CANLLAWIAU COD YMDDYGIAD AELODAU PDF 40 KB
Ystyried
adroddiad y Swyddog Monitro (ynghlwm).
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Cyflwynwyd –
adroddiad y Swyddog Monitro yn gwahodd y pwyllgor i ystyried a chymeradwyo
drafftiau o ddau ganllaw i gynorthwyo aelodau gyda’r Cod Ymddygiad, sef:-
·
Canllaw
Datgan Buddiannau;
·
Canllaw
Cyswllt Aelod â’r Cyngor fel Unigolyn
Nodwyd
y byddai’r Canllaw Datgan Buddiannau yn ddefnyddiol i gynghorau cymuned hefyd.
PENDERFYNWYD
(a) Cymeradwyo’r
drafft o’r Canllaw Datgan Buddiannau, yn amodol ar gynnwys manylion cyswllt ar
gyfer y Swyddog Monitro, yr Uwch Gyfreithiwr (Dirprwy Swyddog Monitro) a’r Uwch
Gyfreithiwr.
(b) Cynhyrchu’r
Canllaw ar ffurf taflen fechan liwgar a deniadol ar gyfer yr aelodau ac hefyd
ar ffurf poster i’w osod ar y wal yn ystafelloedd cyfarfod y Cyngor.
(c) Cymeradwyo’r
drafft o Ganllaw Cyswllt Aelod â’r Cyngor fel unigolyn.
|
9. |
HONIADAU YN ERBYN AELODAU PDF 52 KB
Ystyried adroddiad y Swyddog Monitro (ynghlwm).
Cofnod:
Cyflwynwyd – adroddiad y Swyddog Monitro yn cyflwyno
gwybodaeth am benderfyniadau’r Ombwdsmon ar gwynion ffurfiol yn erbyn aelodau.
Gan gyfeirio at y dadansoddiad o natur y
cwynion hyd yn hyn eleni, nodwyd y byddai’n fuddiol cynnwys y ffigurau cronnus
yn yr adroddiadau i’r pwyllgor dros weddill y flwyddyn.
PENDERFYNWYD
nodi’r adroddiad.
|
10. |
CYNHADLEDD SAFONAU CYMRU 2018 PDF 45 KB
Ystyried adroddiad y Swyddog Monitro (ynghlwm).
Cofnod:
Cyflwynwyd –
adroddiad y Swyddog Monitro yn amlinellu’r trefniadau ar gyfer Cynhadledd
Safonau Cymru a gynhelir yn Aberystwyth ar ddydd Gwener, 14 Medi, 2018 ac yn
gwahodd y pwyllgor i gytuno ar cynrychiolwyr i fynd yno.
PENDERFYNWYD
rhoi enwau’r Cynghorwyr Anne Lloyd Jones a Beth Lawton ymlaen i fynd i’r
gynhadledd.
|
11. |
FFORWM PWYLLGORAU SAFONAU GOGLEDD CYMRU PDF 34 KB
Cyflwyno,
er gwybodaeth, gofnodion cyfarfod o Fforwm Pwyllgorau Safonau Gogledd Cymru a
gynhaliwyd ar 24 Tachwedd, 2017
(ynghlwm).
Cofnod:
Cyflwynwyd, er gwybodaeth – cofnodion
cyfarfod o Fforwm Pwyllgorau Safonau Gogledd Cymru a gynhaliwyd ar 24 Tachwedd,
2017.
Nododd y Cadeirydd iddi gael ei phlesio
gyda’r cyfarfod o’r Fforwm a gynhaliwyd yng Nghaernarfon ar 29 Mehefin. Cyflwynir cofnodion y cyfarfod hwnnw i’r
pwyllgor hwn er gwybodaeth maes o law.
PENDERFYNWYD
nodi’r adroddiad.
|