skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 201 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfodydd o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y dyddiadau isod fel rhai cywir:-

 

·         14 Mehefin, 2021

·         7 Gorffennaf, 2021  (Cyfarfod Arbennig)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfodydd o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 14 Mehefin a 7 Gorffennaf, 2021 fel rhai cywir.

 

5.

ADOLYGIAD O'R FFRAMWAITH SAFONAU MOESEGOL I GYMRU pdf eicon PDF 322 KB

Ystyried adroddiad y Swyddog Monitro.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad er gwybodaeth, a sefydlu Grŵp Tasg a Gorffen, yn cynnwys Cadeirydd y Pwyllgor Safonau, ynghyd ag un aelod etholedig (Y Cynghorydd Anne Lloyd Jones), un aelod annibynnol (Mr Dave Wareing) a’r Aelod Pwyllgor Cymuned (Mr Richard Parry Hughes) gyda chefnogaeth yr Uwch Gyfreithiwr (Corfforaethol), i drafod canfyddiadau’r Adolygiad Annibynnol o’r Fframwaith Safonau Moesegol yng Nghymru, gan roi sylw penodol i’r materion isod, a chyflwyno argymhellion i gyfarfod nesaf y Pwyllgor Safonau ar 14 Chwefror, 2022:-

·         Ffurf y Pwyllgor Safonau i’r dyfodol;

·         Sut y gellir gwneud y pwyllgor yn fwy gweledol ac yn fwy gweithredol o fewn y Cyngor; a

·         Sut y gellir cryfhau a gwneud y cysylltiad rhwng y pwyllgor a gwahanol wasanaethau’r Cyngor, megis y Gwasanaethau Democratiaeth, yn fwy amlwg.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad y Swyddog Monitro yn cyflwyno gwybodaeth i’r pwyllgor ar yr Adolygiad o’r Fframwaith Safonau Moesegol i Gymru.

 

Tynnwyd sylw gan y Swyddog Monitro at ambell bwynt yn yr adroddiad, fel a ganlyn:-

 

·         Er yr ymgynghorwyd ag Unllais Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fel rhan o’r adolygiad, ei bod yn syndod na fu mwy o ymgynghori gyda grŵp o aelodau etholedig, gan y byddai’r persbectif yma wedi bod yn gyfraniad pwysig at greu’r adroddiad.

·         Na ragwelid y byddai’r gwaith deddfu yn dechrau ar y newidiadau statudol, ayb, tan ar ôl yr Etholiadau ym Mai 2022, gan fod cymaint yn digwydd ym maes deddfwriaeth llywodraeth leol ar hyn o bryd.

·         Er y croesawid yr argymhelliad bod hyfforddiant ar y Cod Ymddygiad yn dod yn orfodol i holl aelodau prif gynghorau a chynghorau cymuned, bod cwestiwn yn codi ynglŷn ag ymarferoldeb hynny, o ystyried bod tua 750 o aelodau cynghorau cymuned a thref ar draws Gwynedd, a tua 7,500 ar draws Cymru gyfan.

·         Er bod yr argymhelliad y dylid datrys mwy o gwynion yn lleol yn edrych yn synhwyrol ar un lefel, bod trefn o’r fath yn anorfod yn galw am adnoddau ac amser i ymchwilio i’r materion hynny.  Roedd hynny’n wir am faterion mewnol Gwynedd a materion cynghorau cymuned, gan gofio hefyd nad oedd gan bob cyngor cymuned yr adnodd proffesiynol i ymgymryd â’r gwaith.

·         Gan fod yr adroddiad yn amlygu’r amrywiol ffyrdd y mae pwyllgorau safonau ar draws Cymru yn gweithredu, o ran lle mae’r pwyllgor yn eistedd o fewn yr awdurdod, ei rôl a pha mor rhagweithiol ydyw, ayb, efallai bod yna faterion yma y dylai’r pwyllgor hwn adlewyrchu arnynt, waeth beth fyddai’n dod allan o’r ddeddfwriaeth.

·         Bod cyfrifoldeb statudol arweinyddion grwpiau gwleidyddol am ymddygiad eu haelodau (dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021) yn cydblethu ag elfennau o’r hyn sydd yn yr adroddiad hwn, ac yn creu platfform i gael proffil uwch i’r Pwyllgor Safonau, gan roi iddo rôl fwy amlwg dydd i ddydd ym materion ymddygiad aelodau.

 

Trafodwyd y prif faterion canlynol yn codi o’r adolygiad:-

 

Hyfforddiant

 

·         Nodwyd y gellid trefnu hyfforddiant ar-lein ar gyfer aelodau cynghorau cymuned a thref, neu hyfforddiant ar bapur i unrhyw un sydd heb gyfrifiadur.  Yn ogystal â gwneud i ffwrdd â’r angen i drefnu hyfforddiant wyneb yn wyneb gyda chynifer o aelodau, byddai hynny hefyd yn fodd o ganiatáu i bawb gyflawni’r hyfforddiant ar adeg sy’n hwylus iddynt o fewn ffenest’ amser penodol.  Nodwyd, fodd bynnag, bod angen yr adnoddau i sicrhau ei fod yr hyfforddiant cywir a’i fod yn cael ei farcio’n gywir.

·         Holwyd a oedd modd i gynghorau gydweithio i lunio hyfforddiant fel bod pawb yn derbyn yr un hyfforddiant, a bod yr adnoddau’n cael eu pwlio i roi hyn at ei gilydd.  Mewn ymateb, nododd y Swyddog Monitro fod hynny’n hanfodol, ac ar gyfer Etholiadau Mai 2022, roedd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ynghyd â grŵp o swyddogion monitro eisoes yn gweithio ar becyn hyfforddiant cyson ar draws Cymru. 

 

Rôl clercod cynghorau  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

HONIADAU YN ERBYN AELODAU pdf eicon PDF 257 KB

Ystyried adroddiad yr Uwch Gyfreithiwr (Corfforaethol).

Penderfyniad:

Nodi’r wybodaeth.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd - adroddiad yr Uwch Gyfreithiwr (Corfforaethol) yn cyflwyno gwybodaeth am benderfyniadau’r Ombwdsmon ar gwynion ffurfiol yn erbyn aelodau.

 

PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth.

 

7.

ADRODDIAD BLYNYDDOL YR OMBWDSMON 2020-21 pdf eicon PDF 209 KB

Ystyried adroddiad y Swyddog Monitro.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodi’r adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad y Swyddog Monitro yn amgáu Adroddiad Blynyddol yr Ombwdsmon 2020-21 er gwybodaeth.

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-

 

·         Sylwyd o’r tabl oedd yn dangos cyfran y cwynion a dderbyniwyd o dan bob egwyddor o’i gymharu â 2019/20 (tudalen 101 o’r rhaglen) bod nifer y cwynion hyrwyddo cydraddoldeb a pharch wedi cynyddu’n sylweddol, a phwysleisiwyd yr angen i ganolbwyntio ar y maes yma wrth gynnal yr hyfforddiant.  Sylwyd hefyd bod nifer y cwynion datgelu a chofrestru budd wedi gostwng, oedd yn awgrymu bod y neges ynglŷn â hynny yn dechrau treiddio drwodd.

·         Nodwyd bod paragraff 3.2.1 o’r Adolygiad Annibynnol o’r Fframwaith Safonau Moesegol yn nodi bod cydraddoldeb a pharch at eraill wedi eu hychwanegu at Egwyddorion Nolan gan Lywodraeth Cymru, ond nad oedd yr egwyddorion hyn wedi’u cynnwys yn y Cod Ymddygiad Enghreifftiol.  Gan hynny, nid oedd peidio cydymffurfio gyda chydraddoldeb a pharch yn dynodi torri’r Cod ynddo’i hun, er ei bod yn debygol y byddai methu â glynu wrth yr egwyddor ynghylch cydraddoldeb a pharch yn gyfystyr â thorri’r gofynion a nodir ym mharagraffau 4(a) a 4(b) o’r Cod.

·         Sylwyd mai ond 10 allan o 500 o gwynion oedd wedi’u cyfeirio at bwyllgorau safonau dros y flwyddyn gyfan.  Awgrymwyd y gallai hyn fod yn bwynt i’w nodi yn y Cyngor llawn, er derbyn y byddai’r ymdeimlad o rwystredigaeth yn parhau.  Mewn ymateb, nododd y Swyddog Monitro, er cydnabod y feirniadaeth o’r drefn, ayb, y gallai’r nifer isel o gyfeiriadau fod yn beth cadarnhaol hefyd, gan ei fod yn awgrymu nad oedd mwyafrif y cwynion yn rhai digon difrifol i gyfiawnhau ymchwiliad.

·         Awgrymwyd, petai pobl yn fwy parod i ymddiheuro, y byddai llawer o’r materion hyn wedi’u hanghofio cyn pen fawr o dro.

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.