Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw
ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Gan gyfeirio at eitem 7, nododd y Cadeirydd, Mr Hywel Eifion
Jones, ei fod yn aelod lleyg ar Banel Dyfarnu Cymru. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim
i’w nodi. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfodydd o’r pwyllgor
hwn a gynhaliwyd ar 6 Tachwedd, 2023 a 10 Ionawr, 2024 (Cyfarfod Arbennig) fel
rhai cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y
cyfarfodydd o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 6 Tachwedd, 2023 a 10 Ionawr, 2024
(Cyfarfod Arbennig) fel rhai cywir. |
|
DYLETSWYDDAU ARWEINYDDION GRWPIAU GWLEIDYDDOL A'R PWYLLGOR SAFONAU PDF 119 KB Cyflwyno
adroddiad y Swyddog Monitro. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwyo’r meini
prawf ar gyfer monitro ac adrodd cydymffurfiaeth â’r ddyletswydd ar
Arweinyddion Grwpiau Gwleidyddol mewn perthynas â safonau ymddygiad Aelodau
Grwpiau (Atodiad 1 i’r adroddiad a gyflwynwyd i’r Pwyllgor), ynghyd â’r templed
ffurflen adrodd (Atodiad 2). Cofnod: Cyflwynwyd – adroddiad y Swyddog Monitro yn gwahodd y pwyllgor i
gymeradwyo meini prawf ar gyfer monitro ac adrodd cydymffurfiaeth â’r
ddyletswydd ar Arweinyddion Grwpiau Gwleidyddol mewn perthynas â safonau
ymddygiad Aelodau Grwpiau. Nododd y Swyddog Monitro:- ·
Bod yr argymhelliad i’r pwyllgor yn seiliedig ar
awgrymiadau a ddatblygwyd gan Grŵp Swyddogion Monitro Cymru fel
dangosyddion posib’ ar gyfer meintioli a mesur y ddyletswydd. ·
Bod yr argymhelliad yn caniatáu i’r pwyllgor dderbyn
adroddiad ystyrlon ar ddiwedd y flwyddyn ynglŷn â sut mae’r ddyletswydd
wedi gweithio, a hefyd yn caniatáu iddo yntau, fel Swyddog Monitro, adrodd i’r
pwyllgor mewn cyd-destun lle mae pawb yn deall beth yw’r disgwyliadau, ayb, ar
ei gyfer. ·
Y
cydnabyddiad nad yw’r ddyletswydd yn un sy’n priodoli ei hun i ddata neu
ystadegau’n hawdd, a’i bod fwy i wneud â diwylliant a chloriannu barn. ·
Bod y meini prawf yn cynnwys 8 o faterion y gellid
eu rhoi ymlaen fel man cychwyn i adrodd yn eu herbyn o ran sut mae’r
Arweinyddion wedi cydweithio mewn ffordd ymarferol ar hyrwyddo’r ddyletswydd.
Ø Arweinwyr Grwpiau i sicrhau, lle mae yna benderfyniad polisi gan y
Cyngor, bod aelodau’r Grŵp yn glynu atynt – credid bod y mater hwn yn mynd i dir anodd o ran hawl mynegiant
aelodau a hawl aelodau i anghytuno. Ø Arweinwyr Grwpiau i sicrhau nad yw gwybodaeth anghywir yn cael ei rhoi
allan yn y byd cyhoeddus er osgoi niweidio enw da’r Cyngor – ystyriwyd fod hyn yn agored i ddehongliad a byddai materion megis dwyn
anfri dan y Cod yn fwy perthnasol. Ø Arweinwyr Grwpiau i sicrhau bod gwiriadau DBS yn cymryd lle’n briodol – credid bod y mater hwn, o bosib’, yn priodoli ei hun i amgylchiadau
penodol mewn rhai cynghorau, yn hytrach nag yng Ngwynedd. ·
Iddo gynnal trafodaethau defnyddiol ac adeiladol
gyda’r Arweinyddion Grwpiau yn unigol yn ystod mis Ionawr ynglŷn â
materion sy’n codi ac i gytuno ar gyfeiriad, ayb. ·
Bod y cydweithio hyd yma yn argoeli’n broses
adeiladol a fydd, gobeithio, yn cyfrannu at gynnal safonau ymddygiad yn y
Cyngor, ac efallai’n gyfrwng i drafod materion cyn iddyn nhw ddatblygu. ·
Mai’r un her oedd y cwrs Cod Ymddygiad i aelodau a
bu llai o ddiddordeb na’r disgwyl yn y cwrs i’w gynnal ar 21 Chwefror. Bwriedid ail redeg y cwrs yn ystod mis Ebrill
a byddai’n gyfle hefyd i gael trafodaeth gyda’r Arweinyddion ac i annog
presenoldeb ar y cyrsiau. PENDERFYNWYD cymeradwyo’r meini prawf ar gyfer
monitro ac adrodd cydymffurfiaeth â’r ddyletswydd ar Arweinyddion Grwpiau
Gwleidyddol mewn perthynas â safonau ymddygiad Aelodau Grwpiau (Atodiad 1 i’r
adroddiad a gyflwynwyd i’r Pwyllgor), ynghyd â’r templed ffurflen adrodd
(Atodiad 2). Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhawyd y byddai Arweinyddion y Grwpiau
Gwleidyddol yn derbyn copi o’r ffurflen adrodd yn dilyn y cyfarfod hwn. |
|
HONIADAU YN ERBYN AELODAU PDF 95 KB Cyflwyno
adroddiad y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Nodi’r wybodaeth. Cofnod: Cyflwynwyd – adroddiad y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau yn cyflwyno
gwybodaeth i’r pwyllgor am benderfyniadau’r Ombwdsmon ar gwynion ffurfiol yn
erbyn aelodau. Ar bwynt o eglurder, nododd y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau y dylai’r
fersiwn Gymraeg o frawddeg ddiwethaf y crynodeb i’r ail gŵyn (Atodiad 2
i’r adroddiad) ddarllen ‘Dewisodd yr aelod gyfeirio’r mater at yr Ombwdsmon
i’w ystyried yn hytrach na mynd drwy Drefn Datrys Lleol y Cyngor’. Nododd y Swyddog Monitro fod yr ail gŵyn yn amlygu pa mor anodd yw
tynnu’r ffin rhwng llefaru rhydd a dweud rhywbeth a allai fod yn dramgwyddus i
rai pobl ac roedd yn falch o gefnogaeth yr Ombwdsmon i’r drefn datrys lleol yn
ei sylwadau ar yr achos. Holwyd a oedd yr Ombwdsmon, o bosib’, yn awgrymu bod yna ddiffyg
ymddiriedaeth yn y drefn datrys lleol, ac a ellid bod yn hyderus bod y drefn yn
gadarn ac yn effeithlon. Mewn ymateb,
nododd y Swyddog Monitro:- ·
Bod y drefn mewn lle a bod addasiadau wedi’u gwneud
iddi bellach a thrafodaeth wedi’u cynnal gydag Arweinyddion y Grwpiau
Gwleidyddol hefyd. ·
Ei bod yn naturiol, wrth fynd i drefn fel hyn, bod
cwestiynau’n codi, ond anogid yr aelodau i gael sgwrs gydag ef yn gyntaf
ynglŷn â’r camau a roddir mewn lle i sicrhau bod y broses yn deg ac yn
briodol. PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL PANEL DYFARNU CYMRU 2022-23 PDF 48 KB Cyflwyno
adroddiad y Swyddog Monitro. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Nodi’r adroddiad er gwybodaeth. Cofnod: Cyflwynwyd -
adroddiad y Swyddog Monitro yn atodi adroddiad blynyddol Panel Dyfarnu Cymru ar
gyfer 2022-23 er sylw’r pwyllgor. Nododd y Swyddog
Monitro fod achos APW/008/2021-022/CT ar dudalen 34 o’r rhaglen yn amlwg yn
croesi’r ffin o safbwynt hawl mynegiant, ac yn tanlinellu, er y gall aelodau
feirniadu cysyniadau neu anghytuno â barn rhywun, bod gwneud datganiadau sydd
yn ffeithiol anghywir, ayb, yn golygu bod y warchodaeth yn diflannu’n sydyn. Sylwyd bod y
crynodeb o achos APW/009/2021-022/CT, hefyd ar dudalen 34 o’r rhaglen, yn nodi
ei bod yn ymddangos, ar adeg ysgrifennu’r adroddiad, nad oedd y Cyngor dan sylw
wedi cydymffurfio â’r argymhellion o fewn yr amserlen ofynnol, a holwyd beth
fyddai canlyniad hynny. Mewn ymateb,
nododd y Swyddog Monitro:- ·
Bod
yr adroddiad yn argymell y dylai holl gynghorwyr presennol y Cyngor dan sylw
fynychu hyfforddiant Cod Ymddygiad, ayb, ond nad oedd grym penodol, ar hyn o
bryd, i orfodi materion o’r fath ar gyngor cyfan. Fodd bynnag, petai achos arall yn codi yn yr
un cyngor, byddai’r Ombwdsmon yn cymryd sylw o’r ffaith na ddarparwyd
hyfforddiant ayb. ·
Bod
un o’r trafodaethau yn sgil adolygiad Penn yn ymwneud ag ehangu pŵer, er
enghraifft, Pwyllgor Safonau, i fynnu bod camau penodol, megis mynychu
hyfforddiant, yn cymryd lle. ·
O
ran yr achos dan sylw, petai’r broblem yn parhau a bod yna ganfyddiadau
pellach, o bosib’ y byddai’r mater yn cael ei gyfeirio at yr archwilwyr yn y
pen draw os yw diwylliant y cyngor yn cyrraedd y lefel yna. PENDERFYNWYD
nodi’r adroddiad er gwybodaeth. |