skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gwyrfai, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Dr Einir Young (Cadeirydd).

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 73 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 18 Mawrth, 2019 fel rhai cywir  (ynghlwm).

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 18 Mawrth, 2019 fel rhai cywir.

 

5.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR SAFONAU 2018-19 pdf eicon PDF 45 KB

Ystyried adroddiad yr Uwch Gyfreithiwr (Corfforaethol)  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd – drafft o adroddiad blynyddol y pwyllgor ar gyfer 2018-19.  Gwahoddwyd sylwadau a chymeradwyaeth y pwyllgor i’r ddogfen.

 

Gofynnwyd i’r aelodau wirio eu bywgraffiadau a chysylltu â’r Uwch Gyfreithiwr – Corfforaethol gydag unrhyw gywiriadau / diweddariadau.

 

PENDERFYNWYD

(a)       Cymeradwyo’r adroddiad blynyddol i’w gyflwyno i’r Cyngor llawn ar 18 Gorffennaf, yn ddarostyngedig i newid y cyfeiriad at 2016-2017 yn y fersiwn Saesneg o’r prif bennawd ar dudalen 15 i ddarllen ‘2018-2019’.

(b)     Awdurdodi’r Swyddog Monitro i gwblhau’r rhageiriau, mewn ymgynghoriad â’r cadeirydd.

 

6.

CAIS AM ODDEFEB pdf eicon PDF 64 KB

Ystyried adroddiad y Swyddog Monitro  (i ddilyn).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad y Swyddog Monitro yn gofyn i’r pwyllgor ystyried a phenderfynu ar gais gan y Cynghorydd W.Gareth Roberts, Aelod Ward Aberdaron ar Gyngor Gwynedd am oddefeb yn ymwneud â chynllun creu trydan arfaethedig ger Ynys Enlli, oedd yn ei ward, a lle’r oedd hefyd yn ffermio fel tenant.

 

Eglurodd yr Uwch Gyfreithiwr – Corfforaethol:-

·         Petai’r cynllun yn cael ei wireddu, y byddai’r cynghorydd yn elwa yn yr ystyr y byddai yna gyflenwad trydan ar gael iddo ar Ynys Enlli.  Roedd hynny’n creu buddiant oherwydd y byddai penderfyniad y naill ffordd neu’r llall ar y cynllun yn effeithio ar ei les yn bersonol.  Roedd y buddiant hefyd yn un oedd yn rhagfarnu.

·         Bod y cynghorydd yn dymuno cymryd rhan yn y trafodaethau lleol oherwydd ei wybodaeth fel aelod lleol, ond hefyd fel rhywun oedd â gwybodaeth a phrofiad unigryw o Ynys Enlli.  Roedd hefyd yn dymuno cael yr hawl i siarad fel aelod lleol, ond nid i bleidleisio, pan ddeuai’r cynllun gerbron y Cyngor hwn.

 

Ar y pwynt hwn, datganodd y Cynghorydd Dewi Roberts fuddiant personol yn y mater gan ei fod yn aelod o Ymddiriedolaeth Enlli ac wedi bod yn Is-gadeirydd Cyngor Enlli.  Roedd o’r farn bod hwn yn fuddiant oedd yn rhagfarnu a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

Gofynnwyd i’r pwyllgor gydbwyso budd y cyhoedd mewn atal y cynghorydd rhag cymryd rhan yn y trafodaethau oherwydd y buddiant, yn erbyn budd y cyhoedd mewn caniatáu iddo gymryd rhan oherwydd ei wybodaeth a’i brofiad unigryw o Ynys Enlli.  Gofynnwyd hefyd i’r pwyllgor ystyried ymarferoldeb gofyn i aelod arall gamu i mewn i rôl yr aelod lleol yn y cyd-destun hwn.

 

Yn ystod y drafodaeth ar y cais, nodwyd y sylwadau a ganlyn:-

 

·         Na fyddai’r cynghorydd yn elwa’n ariannol o’r cynllun.

·         Gan fod y cynghorydd eisoes yn defnyddio trydan ar yr ynys, na fyddai’r cynllun yn golygu dim mwy iddo na newid y cyflenwad craidd.

·         Bod geiriad ffurflen gais y cynghorydd am oddefiad yn awgrymu bod ganddo farn bendant o blaid dyfodiad cyflenwad trydan i’r ynys.  Serch hynny, roedd yn bosib’ bod rhesymau gan eraill dros wrthwynebu’r datblygiad a byddai angen i’r farn honno gael ei chlywed mewn unrhyw drafodaeth hefyd.

·         Bod mantais y cynllun i’r cynghorydd fel tenant yn amlwg, gan y byddai cael cyflenwad trydan ar yr ynys yn hwyluso pethau iddo.

·         Bod modd i’r cynghorydd siarad ar y mater fel tirfeddiannwr preifat ac y gallai ofyn i aelod cyfagos ei gynrychioli yn ei rôl fel aelod lleol.

 

PENDERFYNWYD gwrthod cais y Cynghorydd W.Gareth Roberts am oddefiad i gymryd rhan fel aelod o Gyngor Gwynedd yn y trafodaethau lleol ac i siarad pan ddaw’r cynllun creu trydan arfaethedig ger Ynys Enlli gerbron y Cyngor hwn ar y sail:-

(a)       Bod y pwyllgor o’r farn bod y cyswllt rhwng y Cynghorydd a’r cynllun a’i denantiaeth ar Ynys Enlli yn golygu y byddai’n anodd, o ystyried hefyd gynnwys ei ffurflen gais am oddefeb, iddo gynrychioli’r budd cyhoeddus cyffredinol gan iddo ddod i gasgliad eisoes  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

HUNAN ARFARNIAD A RHAGLEN WAITH pdf eicon PDF 53 KB

Ystyried adroddiad y Swyddog Monitro  (ynghlwm),

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad y Swyddog Monitro yn gwahodd y pwyllgor i:-

·         gynnal hunan asesiad o waith ac allbynnau’r pwyllgor yn ystod 2018-19; ac

·         ystyried rhaglen waith ddrafft ar gyfer 2019-20.

 

PENDERFYNWYD

(a)     Mabwysiadu’r canlynol fel hunan asesiad y pwyllgor o’i berfformiad yn 2018-19:-

 

SWYDDOGAETH

ASESIAD

(1/2/3/4)

 

Tystiolaeth

Camau pellach

Hyrwyddo a chynnal safonau ymddygiad uchel gan aelodau

 

1

Mae’r Cadeirydd ac Is Gadeirydd wedi mynychu Fforwm Safonau Gogledd Cymru i rannu profiadau hefo pwyllgorau safonau eraill.

 

Cynhaliwyd cyfres o gyrsiau anwytho i aelodau ynghyd a chyrsiau manwl ar sail templed CLllC.

 

Adolygu Protocolau Rhoddion a Lletygarwch a Chyswllt Aelodau Swyddogion.  Cynnig diwygiadau i’r Protocol Cyswllt Aelodau Swyddogion a fabwysiadwyd gan y Cyngor ym mis Gorffennaf 2018.

 

Cyflwyno adroddiad blynyddol i’r Cyngor Llawn

 

Cymeradwyo canllawiau ar ddatgan buddiant a chyswllt aelodau wrth ddefnyddio gwasanaethau’r Cyngor yn eu bywyd preifat.  Maent wedi eu cylchredeg i aelodau.

 

Parhau i fynychu a chefnogi

 

 

 

Cynorthwyo’r aelodau i gadw at y Cod Ymddygiad

 

1

Swyddog Monitro a’i dîm yn darparu cyngor ac arweiniad mewn cyfarfodydd ac ar sail un i aelodau.

 

Pwyllgor Safonau wedi mabwysiadu canllawiau datgan a sut i ymdrin ag amgylchiadau preifat.

 

Cynnal sgwrs ar gyfer aelodau’r Cyngor

Cynghori’r Cyngor ynglŷn â mabwysiadu neu ddiwygio’r Cod Ymddygiad

 

Amherthnasol

Dim achlysur wedi codi i ddiwygio’r Cod.

 

Monitro gweithrediad y Cod Ymddygiad

 

1

Derbyn adroddiadau rheolaidd o honiadau yn erbyn aelodau

 

Derbyn adroddiadau blynyddol yr Ombwdsman a Phanel Dyfarnu Cymru

 

Parhau i fonitro ystyried dulliau amgen o dderbyn gwybodaeth

 

Derbyn adroddiadau rheolaidd o Lyfr Achosion Cod Ymddygiad yr Ombwdsmon.

 

Derbyn adroddiadau blynyddol am y gofrestr buddiannau a lletygarwch.

 

Cynghori, hyfforddi neu drefnu i hyfforddi aelodau ar faterion yn ymwneud a’r Cod Ymddygiad

 

3

Cefnogi rhaglen anwytho ar gyfer y Cyngor newydd.

Hyfforddiant newydd ar gyfer aelodau’r Cyngor ar fin cychwyn.

Rhoi goddefebau i aelodau

 

1

Adolygwyd y drefn goddefebau gan fabwysiadu trefn cyflwyniad gan yr ymgeisydd a gwella ansawdd y wybodaeth a gyflwynir.

 

 

Ymdrin ag adroddiadau o dribiwnlys achos ac unrhyw adroddiadau gan y Swyddog Monitro ar faterion a gyfeiriwyd gan yr Ombwdsmon

 

Amherthnasol

Ni chyfyd angen am wrandawiadau yn ystod y flwyddyn

 

Awdurdodi’r Swyddog Monitro i dalu lwfansau i bersonau a gynorthwyodd gydag ymchwiliad

 

Amherthnasol

Ni fu achlysur i dalu lwfans o’r fath

 

 

Ymarfer y swyddogaethau uchod mewn perthynas â chynghorau cymuned

 

3

Swyddog Monitro a’i dim  yn darparu cyngor ac arweiniad i gynghorau, clercod ac aelodau.

 

Mabwysiadu peilot ar gyfer hyfforddi Cod Ymddygiad.  Wedi cynnwys sesiwn i beilota cynnwys y cwrs.

 

 

Trefnu rhaglen hyfforddiant newydd.

 

Angen symud ymlaen i weithredu’r peilot.

 

(b)     Cymeradwyo’r rhaglen waith a ganlyn ar gyfer 2019/20:-

 

17 Mehefin, 2019

 

Adroddiad Blynyddol

Honiadau yn erbyn Aelodau

Llyfr Achosion yr Ombwdsmon

 

4 Tachwedd, 2019

 

Cofrestr Rhoddion a Lletygarwch

Cofrestr Datgan Buddiant

Adroddiad Blynyddol yr Ombwdsmon

Honiadau yn erbyn Aelodau

 

27 Ionawr, 2020

 

Adroddiad Blynyddol y Panel Dyfarnu

Honiadau yn erbyn Aelodau

Adroddiad ar Safonau Moeseg mewn trefniadau allanoli a chydweithio.

 

8.

ADRODDIAD PWYLLGOR SAFONAU MEWN BYWYD CYHOEDDUS pdf eicon PDF 62 KB

Ystyried adroddiad y Swyddog Monitro  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad y Swyddog Monitro yn gwahodd y pwyllgor i drafod materion a nodwyd yn adroddiad y Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus ar ganfyddiadau ei adolygiad o effeithiolrwydd y trefniadau presennol ar gyfer safonau mewn Llywodraeth Leol yn Lloegr.

 

Nodwyd, er bod yr adolygiad yn ymwneud â gweithredu’r gyfundrefn safonau yn Lloegr yn unig, y byddai’r adroddiad a’i argymhellion o ddiddordeb i aelodau’r Pwyllgor Safonau.

 

Tynnwyd sylw at rai o brif negeseuon yr adroddiad mewn nifer o wahanol feysydd, gan gynnwys datgan buddiannau, honiadau o gamymddwyn, bwlio, rôl swyddogion, trefniadau corfforaethol, arweinyddiaeth a diwylliant ynghyd â threfniadau allanoli a chydweithio.  Awgrymwyd y gallai’r pwyllgor ddod yn ôl at rai o’r materion hyn yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

9.

COFLYFR ACHOSION COD YMDDYGIAD OMBWDSMON pdf eicon PDF 47 KB

Ystyried adroddiad y Swyddog Monitro  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad y Swyddog Monitro yn gwahodd y pwyllgor i drafod materion a nodwyd yng Nghoflyfr Achosion Cod Ymddygiad yr Ombwdsmon – Rhif 20.

 

Yn ystod y drafodaeth, nodwyd:-

 

·         Bod yr achos cyntaf yn y Crynodebau Achosion yn tanlinellu pwysigrwydd cadw’r dystiolaeth.

·         Bod derbyn trosolwg o’r hyn sy’n digwydd mewn llefydd eraill yn ffordd dda o adnabod problemau cyffredin ar draws Gogledd Cymru.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

 

10.

HONIADAU YN ERBYN AELODAU pdf eicon PDF 46 KB

Ystyried adroddiad yr Uwch Gyfreithiwr (Corfforaethol)  (ynghlwm).

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth, adroddiad yr Uwch Gyfreithiwr (Corfforaethol) yn cyflwyno gwybodaeth am benderfyniadau’r Ombwdsmon ar gwynion ffurfiol yn erbyn aelodau.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.