skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gwyrfai, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriad gan Mr Aled Jones.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

 

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 87 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 4 Tachwedd, 2019 fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 4 Tachwedd, 2019 fel rhai cywir.

 

5.

ADRODDIADAU AR SAFONAU MOESEG MEWN TREFNIADAU ALLANOLI A CHYDWEITHIO pdf eicon PDF 58 KB

Ystyried adroddiad y Swyddog Monitro  (i ddilyn).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad y Swyddog Monitro yn rhoi trosolwg o’r ystod o drefniadau llywodraethu gwahanol sy’n rhan o gyd-weithio’r Cyngor ar draws ystod o brosiectau mewn amryw o feysydd, ac yn esbonio sut mae materion priodoldeb yn cael eu cyfarch.

 

Nododd y Swyddog Monitro, gan fod hanes o gydweithio agos rhwng swyddogion monitro Gogledd Cymru, bod llawer o waith cydgordio yn digwydd y tu ôl i’r llen ac yn ei gwneud yn hawdd cael consensws ar wahanol faterion.

 

Cyfeiriwyd yn benodol at:-

·         Y tabl yn Atodiad 1 i’r adroddiad, oedd yn rhoi trosolwg bras o’r mathau o fodelau o gydweithio ac allanoli oedd yn cael eu defnyddio amlaf.

·         Y Cod Ymddygiad ar gyfer Ymgynghorwyr Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru.

 

Holwyd sut roedd hyn i gyd yn cael ei roi o flaen y cynghorwyr fel eu bod yn glir beth oedd y gofynion.  Mewn ymateb, eglurwyd bod rhaid ymdrin â hyn ar sail pob achos yn unigol. E.e. roedd y swyddogion monitro yn cynghori aelodau o ran cydbwyllgorau.  Roedd yna brotocol ar gyfer y Bwrdd Uchelgais oedd yn sôn am y trefniadau, ac yn achos cwmnïau megis Cwmni Byw’n Iach, roedd y bwrdd cyfarwyddwyr wedi derbyn cyfarwyddyd i fynd dros y gofynion gyda’r cynghorwyr. 

 

Mewn ymateb i gwestiwn pellach, nodwyd nad oedd problem wedi codi o ran datgan buddiant mewn sefyllfa o gydweithio, boed hynny drwy gamddealltwriaeth neu dramgwydd.  Roedd y materion yn eithaf amlwg fel rheol ac roedd modd cael sgwrs aeddfed a chall ble bynnag roedd y sefyllfa’n codi.  Roedd hefyd yn bwysig cael y sgwrs honno’n ddigon buan.

 

PENDERFYNWYD nodi a derbyn cynnwys yr adroddiad.

 

6.

COFRESTR BUDDIANNAU AELODAU pdf eicon PDF 58 KB

Ystyried adroddiad Yr Uwch Gyfreithiwr  (Corfforaethol)  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad yr Uwch Gyfreithiwr (Corfforaethol) yn manylu ar y drefn o ran cofrestru buddiannau aelodau ac yn gwahodd y pwyllgor i gynnig unrhyw sylwadau ar gamau y gellid eu cymryd mewn perthynas â hyn.

 

Nodwyd bod rhai sefydliadau yn ail-ddosbarthu ffurflenni datgan buddiannau ymlaen llaw yn flynyddol, ac y gellid ystyried hyn yn hytrach nag anfon neges atgoffa yn unig.  Awgrymwyd y dylid dweud wrth y cynghorau cymuned bod cofrestru ymlaen llaw yn angenrheidiol, yn hytrach nag yn ymarfer da yn unig.  Mewn ymateb, eglurwyd na ellid gorfodi’r cynghorau cymuned i wneud hynny gan nad oedd rheidrwydd ar eu haelodau i gofrestru buddiannau ymlaen llaw.

 

Nodwyd, wrth geisio creu awyrgylch anffurfiol / cartrefol mewn cyfarfodydd cynghorau cymuned, bod tueddiad i ddweud wrth aelodau sydd â buddiant nad oes raid iddynt adael y stafell yn ystod y drafodaeth ar y mater dan sylw. 

 

Awgrymodd y Swyddog Monitro efallai bod darn o waith i’w wneud o ran sut mae buddiannau yn cael eu cofrestru.  Waeth beth oedd yr hinsawdd o ran gorfodi, roedd aelodau’n cydymffurfio oherwydd bod hynny’r peth iawn i’w wneud, ac nid oherwydd bod yna orfodaeth arnynt.  Hefyd, roedd yn creu delwedd well os oedd aelod sydd â buddiant yn gadael yr ystafell.

 

Nodwyd, bod cynghorwyr Gwynedd yn cael eu hannog i fynd i weld y Swyddog Monitro neu’r Uwch Gyfreithiwr (Corfforaethol) ymlaen llaw i wirio os oedd ganddynt fuddiant mewn eitem ar raglen pwyllgor ai peidio.

 

Nodwyd nad oedd clercod cynghorau cymuned yn datgan buddiannau.  Mewn ymateb, eglurwyd nad oedd y Cod Ymddygiad yn berthnasol i’r staff, ac fel yr unig swyddog yn gweithio i gyngor cymuned, gallai fod yn anodd i’r clerc gamu o’r neilltu.  Er hynny, byddai modd rhoi trefniadau mewn lle i reoli sefyllfa o’r fath gan fod hyn i gyd yn ymwneud â delwedd gyhoeddus.  Awgrymwyd y gellid cynnwys hyn yn yr hyfforddiant i’r clercod.

 

Canmolwyd yr hyfforddiant a drefnwyd yn Nhywyn yn ddiweddar a diolchwyd i’r Swyddog Monitro am ddod yno.

 

Nodwyd nad oedd y ffurflen yn amlygu’n glir bod buddiannau partneriaid, ac ati, yn berthnasol hefyd. 

 

Gofynnwyd i’r aelodau, fel defnyddwyr, fwrw golwg dros y ffurflen cofrestru ymlaen llaw a’r ffurflen cofrestru datganiadau a wneir mewn cyfarfodydd, a chysylltu â’r Swyddog Monitro gydag unrhyw awgrymiadau o ran sut i’w gwella.

 

          PENDERFYNWYD nodi a derbyn cynnwys yr adroddiad.

 

7.

HONIADAU YN ERBYN AELODAU pdf eicon PDF 47 KB

Ystyried adroddiad yr Uwch Gyfreithiwr  (ynghlwm).

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth, adroddiad yr Uwch Gyfreithiwr (Corfforaethol) yn cyflwyno gwybodaeth am benderfyniadau’r Ombwdsmon ar gwynion ffurfiol yn erbyn aelodau. Nodwyd bod un cwyn y mae’r Ombwdsmon yn cynnal ymchwiliad iddi ac un lle mae’n ystyried os dylai ymchwilio. 

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth:

·         Nodwyd ei bod yn galonogol gweld cyn lleied o gwynion ond bod gan rai aelodau bryderon ynglŷn â’r amser mae’n cymryd i gael ymateb gan yr Ombwdsmon. Nodwyd bod hwn yn fater sydd wedi ei godi yn y Cyngor llawn hefyd.

·         Esboniodd y Swyddog Monitro fod angen i’r gŵyn fod yn un sylweddol i’r Ombwdsmon ymchwilio a gweithredu.

 

PENDERFYNWYD nodi a derbyn cynnwys yr adroddiad.