Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol Cadeirydd
ar gyfer 2020/21 Penderfyniad: Ail-ethol y Cynghorydd Gethin Glyn Williams yn Gadeirydd y Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2020/21. COFNODION: PENDERFYNWYD ail ethol y Cynghorydd Gethin Williams yn Gadeirydd y Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2020/21 |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol Is
gadeirydd ar gyfer 2020/21 Penderfyniad: Ail-ethol y Cynghorydd Eryl Jones- Williams yn Is-gadeirydd
y Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2020/21. COFNODION: PENDERFYNWYD ail ethol y Cynghorydd Eryl Jones-Williams yn
Is-gadeirydd y Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2020/21. |
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb COFNODION: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Gareth Thomas (Aelod
Cabinet Datblygu’r Economi),
Cynghorydd Louise Hughes, Cynghorydd
Brian Woolley (Cyngor Cymuned Arthog),
Mr John Johnson (Cymdeithas Bysgota
Abermaw a Bae Ceredigion) a Llŷr
B Jones (Pennaeth Cynorthwyol
Economi a Chymuned) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol COFNODION: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn
cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 22.10.2019
fel rhai cywir COFNODION: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Pwyllgor hwn a gynhaliwyd 22ain Hydref, 2019, fel rhai cywir yn
amodol ar gywiro: 5 (ch) Cyfleuster
penodol ar gyfer beiciau dwr - ‘Adroddwyd nad oedd
beiciau dwr yn dod ag unrhyw
incwm i’r harbwr’ > ‘bod beiciau dwr sydd
wedi eu cofrestru yn dod ac incwm i’r harbwr’ a 8 (a) Cynllun Datblygu Harbwr
Abermaw - ‘Amlygwyd dymuniad i lunio cynllun
datblygu’ > ‘Amlygwyd yr angen i lunio cynllun datblygu’ Materion yn codi o’r cofnodion; ·
Grŵp Tasg Cynllun Datblygu Harbwr Abermaw Ategwyd mai ymarfer da oedd cynnal Pwyllgorau Harbwr Abermaw, Aberdyfi a Pwllheli gan mai Pwyllgor Harbwr Porthmadog oedd yr unig gyfarfod statudol o ran gofynion deddfwriaeth. Nodwyd petai deddfwriaethau yn gorfodi cynlluniau datblygu harbwr, y bwriad fyddai ceisio sicrhau cysondeb ar draws y pedwar Harbwr (Aberdyfi, Abermaw, Porthmadog a Pwllheli.) Gwnaed cais i Swyddog Morwrol ymchwilio i ofynion y Ddeddf sy’n rhoi arweiniad bod cael cynllun dablygu harbwr yn hanfodol. |
|
DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETHOL YR HARBWR PDF 203 KB I ystyried yr
adroddiadau Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Nodi a derbyn
yr adroddiad. COFNODION: Croesawyd
Brigitte Evans (Cymhorthydd Harbwr Abermaw) i’w chyfarfod cyntaf. Diolchwyd i’r
swyddogion ac i staff yr harbwr am eu holl waith yn cynnal y gwasanaeth yn
ystod blwyddyn eithriadol o anodd. (a) Adroddiad
yr Uwch Swyddog Harbyrau Cyflwynwyd
adroddiad gan yr Uwch Swyddog Harbyrau yn rhoi diweddariad cryno ar
faterion yr Harbwr am y cyfnod yn diweddu Mawrth 2021 Angorfeydd Adroddwyd bod
gostyngiad sylweddol yn nifer yr angorfeydd o ganlyniad i gyfyngiadau yn
gysylltiedig â covid 19. Nodwyd bod nifer o berchnogion cychod wedi dewis
peidio defnyddio eu cychod yn 2020 - patrwm a welwyd yn gyffredinol ar draws
Harbyrau Gwynedd. Cod
Diogelwch Morol Porthladdoedd Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â
chydymffurfio gyda’r cod ac os oedd hyn yn rhywbeth anodd ei weithredu, nodwyd
mai’r agweddau diogelwch oedd y prif heriau ynghyd a chynnal asesiadau risg ac
archwiliad allanol. Ategwyd bod y broses o ‘adeiladu’r’ cod yn un oedd yn datblygu yn raddol. Adroddwyd y byddai llythyr y
cael ei anfon gan y Gwasanaeth i’r Asiantaeth Forwrol a Gwylwyr y Glannau ar ôl
cynnal yr archwiliad allanol blynyddol o’r system rheoli diogelwch. Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chawelli pysgotwyr yn
cael eu gadael ar yr harbwr, nodwyd mai trefniant dros dro yn unig ydoedd ac
fel bydd y tymor pysgota yn agosáu bydd y cawelli yn cael eu hail leoli. Materion Staffio Adroddwyd bod
amryw o newidiadau staffio wedi digwydd yn ystod y flwyddyn gyda Mr Glyn Jones
yr Harbwrfeistr wedi gadael i weithio gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru. Amlygwyd
bod Bergitte Evans a Jordan Hewlett wedi eu penodi i gyflawni dyletswyddau yr
Harbwr a’u bod yn parhau i gael eu hyfforddi a’u
datblygu. Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn ag adnoddau digonol i ymdopi
gydag ymwelwyr i’r ardal yn ystod yr Haf, nodwyd bod yr Aelod Cabinet wedi
amlygu pryder o’r sefyllfa a’r mater wedi ei drafod yn y Grŵp Twristiaid,
o dan arweiniad y Prif Weithredwr. Yn dilyn trafodaethau pellach gyda’r Uned
Forwrol, a chynllun effeithiol ar gyfer y gwaith wedi ei gytuno, awgrymwyd y
byddai’r lefel staffio yn ddigonol ar gyfer yr Harbwr a’r traeth. Bydd staff o
adrannau eraill hefyd ar gael i reoli materion yn y
dref. Materion Ariannol Cyflwynwyd
cyllideb yr harbwr i amlygu’r sefyllfa ariannol bresennol hyd at ddiwedd Mawrth
2021. Amcangyfrifwyd gorwariant o £8,061. Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â chyllid gan Lywodraeth Cymru i ddigolledu lleihad mewn
incwm, adroddwyd bod £4,500 wedi ei dderbyn ac wedi ei gynnwys yn y gyllideb.
Nodwyd y byddai ffioedd angorfeydd yn cynyddu yn unol â chwyddiant (2%) ond na fyddai cynnydd mewn ffioedd lansio, cofrestru ac
ailgofrestru. Gwaith Atgyweirio Traphont Abermaw Cafwyd cyflwyniad
gan Steve Richardson (Griffiths Engineering) ar y gwaith atgyweirio fydd yn
cael ei wneud i draphont Abermaw dros y ddwy flynedd nesaf. Cyfeiriwyd at
amserlen y gwaith oedd wedi ei gynnwys yn adroddiad yr Harbwr Feistr. Prif bwyntiau yn
codi o’r drafodaeth: ·
Ni
fydd y bont yn agor – nid yw wedi cael ei ddylunio i agor · Nid ... view the full COFNODION text for item 6. |
|
MATERION I'W HYSTYRIED AR GAIS AELODAU'R PWYLLGOR YMGYNGHOROL I ystyried
materion yn codi COFNODION: Dim i’w nodi |
|
DYDDIAD CYFARFOD NESAF I nodi bydd cyfarfod nesaf yn Pwyllgor yn cael ei gynnal 19 Hydref 2021 COFNODION: Nodwyd bod y cyfarfod nesaf
wedi ei raglennu
ar gyfer 19 Hydref 2021. Gwnaed cais ar ran yr
Aelod Cabinet i ystyried dyddiad ac amser arall gan
fod boreau dydd Mawrth yn
gwrthdaro gyda chyfarfodydd y Tîm Arweinyddiaeth ac felly’n atal yr Aelod
Cabinet rhag mynychu. Gwnaed cais i’r
Aelodau ystyried diwrnod ac
amser arall cyfleus. |