Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb COFNODION: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Gareth Thomas (Aelod
Cabinet Datblygu’r Economi),
Cynghorydd Louise Hughes, Cynghorydd
Eryl Jones-Williams, Cynghorydd Brian Woolley (Cyngor
Cymuned Arthog), Mr John Johnson (Cymdeithas
Bysgota Abermaw a Bae Ceredigion), Cynghorydd Matthew Harris (Grŵp
Gwella Cyrchfannau
Abermaw), Mark James (Cymdeithas y Bad Achub) a Llŷr B Jones (Pennaeth Cynorthwyol Economi a Chymuned) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol COFNODION: Dim i’w nodi |
|
a) Cadarnhau cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn
a gynhaliwyd 23ain Mawrth
2021 fel rhai cywir b) Materion yn codi COFNODION: Derbyniodd y
Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Pwyllgor hwn a gynhaliwyd 23ain Mawrth 2021 Materion yn codi
o’r cofnodion; ·
Astudiaeth Dichonoldeb – amlygodd y Swyddog Morwrol y byddai canlyniad yr
astudiaeth Dichonoldeb i’r gwaith carthu arfaethedig yn yr Harbwr yn rhoi
darlun clir o beth fydd yn bosib i’r dyfodol. ·
Gofynion Deddfwriaeth yng nghyd-destun Cynllun Datblygu Harbwr - amlygodd y Swyddog Morwrol bod Harbwr Abermaw wedi ei sefydlu
fel Harbwr Bwrdeistrefol o dan y Cyngor yn dilyn gofynion Deddf Cadarnhau Gorchmynion Pier a Harbwr (1930).
Nodwyd nad oedd y ddeddfwriaeth yn gorfodi Awdurdod
i ddatblygu harbwr ond ei
gynnal yn unig. Byddai datblygu
Harbwr yn fater dewisol. Yn ychwanegol amlygwyd
bod Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir
2009 yn cynnwys gofynion pellach ar Awdurdod yr
Harbwr a bod angen sicrhau cydymffurfiaeth gyda’r ddeddf yma
cyn ystyried datblygiadau pellach |
|
DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETHOL YR HARBWR PDF 366 KB I ystyried yr adroddiadau Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
1. Bod
y pwyllgor hwn yn cefnogi opsiwn 3, sef llunio deddfwriaeth dan adran 112 o
Ddeddf Diogelwch Rheilffyrdd a Thrafnidiaeth 2003 i ymestyn darpariaethau
perthnasol Deddf Llongau Masnach 1995, a rheoliadau perthnasol, i gynnwys badau
dŵr hamdden a Badau Dwr Personol. 2. Pwysleisio
pwysigrwydd sicrhau hyfforddiant i ddefnyddwyr a galw am godi’r terfyn oedran
ar gyfer gyrru badau dŵr hamdden a Badau Dwr Personol COFNODION: Cyflwynwyd yr
adroddiadau isod a gwahoddwyd yr Aelodau i gynnig sylwadau am eu cynnwys a
gofyn cwestiynau. a)
Adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau yn rhoi diweddariad cryno i’r pwyllgor ar
faterion yr harbwr ar gyfer
y cyfnod rhwng mis Mawrth 2021 a mis Hydref 2021. Nododd yr Uwch
Swyddog Harbyrau mai braf oedd cyhoeddi blwyddyn
lwyddiannus gyda chynnydd yn nifer ymwelwyr a chwsmeriaid yn adlewyrchu llacio
graddol cyfyngiadau covid a rhwystrau teithio tramor. Tynnwyd sylw at y
materion canlynol: Angorfeydd Bod 54 o gychod ar angorfeydd blynyddol yn
Harbwr Abermaw yn 2021 Materion Staffio Canmolwyd yr holl
staff (harbwr a traeth) am eu gwasanaeth yn ystod cyfnod prysur a heriol iawn.
Adroddwyd eu bod wedi ymddwyn gydag agwedd rhagweithiol a braf oedd gweld
cydweithio da a goruchwyliaeth ddiogel dros yr Haf. Nid oedd cwynion wedi eu
derbyn. Ategwyd bod sefyllfa staff yr harbwr wedi cael ei ystyried yn fanwl ac
y bwriad oedd bod yr Harbwr Feistr Cynorthwyol a’r Cymhorthydd Harbwr yn cael
cynnig secondiad i aros ymlaen gyda bwriad o hysbysebu swydd wag yr Harbwrfeistr yn gynnar yn 2022. Yn dilyn adolygiad
diweddar iawn y penderfyniad yw bydd yr Harbwr Feistr Cynorthwyol yn cael
dyrchafiad i swydd Harbwr Feistr ar Secondiad hyd at y 30 Fedi 2022 a bod
cyfnod cyflogaeth a swydd y Cymhorthydd Harbwr hefyd yn cael ei ymestyn hyd at
y 30 Fedi 2022 gyda dyrchafiad ar sail Secondiad. Materion Ariannol Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â chyllid yr Harbwr amlygodd y Swyddog Morwrol y byddai
crynodeb bras o gyllideb yr Harbwr a’r sefyllfa ariannol gyfredol yn cael ei
rannu gyda’r aelodau yn yr wythnosau nesaf. Ategwyd bod gwariant oddeutu £6k
pellach i’w wario ar faterion cynnal a chadw, ond bod y lefel incwm eleni wedi
cyrraedd y targed. O ran ffioedd a thaliadau arfaethedig ar gyfer Harbwr
Abermaw ynghyd a ffioedd lansio ar gyfer Cychod Pŵer a Cychod Dŵr
Personol ar gyfer tymor 2022/23, nodwyd bod y Gwasanaeth yn bwriadu addasu’r
ffioedd yn unol â chyfradd chwyddiant. Nodwyd hefyd yr angen i ystyried costau
ynni. Nid oedd y Gwasanaeth wedi derbyn cadarnhad o’r cyfraddau y dylid eu
gweithredu - awgrymwyd y byddai’r wybodaeth ar gael cyn y Nadolig. Swyddog Morwrol i gylchredeg crynodeb bras o
gyllideb yr Harbwr a’r sefyllfa ariannol gyfredol gyda’r aelodau Astudiaeth Dichonolrwydd Carthu Adroddwyd y bydd angen carthu cyfaint o 70,000m3 os dymunir cael y dyfnder priodol oddi fewn ardal fychan gyferbyn a cei yr harbwr. Atgoffwyd yr Aelodau bod bid ariannol gyda chefnogaeth Grŵp Gweithredu Lleol Pysgodfeydd Bae Ceredigion (FLAG) wedi galluogi’r Cyngor i gomisiynu astudiaeth dichonolrwydd gyda £10k ychwanegol i’r £35k ar gyfer cynllun samplo natur y llaid. Adroddwyd y bydd dadansoddiad a chanlyniadau’r cynllun yn pennu’r opsiynau posib gydag adroddiad drafft i’w ryddhau ddiwedd mis Tachwedd. Diolchwyd i Peter Appleton a gwaith FLAG am eu cefnogaeth. Swyddog Morwrol i gylchredeg yr adroddiad drafft i’r Aelodau. Aelodau i ystyried yr adroddiad drafft a chyflwyno adborth /sylwadau / cwestiynau i’r Swyddog Morwrol gynnig i’r arbenigwyr, ... view the full COFNODION text for item 4. |
|
MATERION I'W HYSTYRIED AR GAIS AELODAU'R PWYLLGOR YMGYNGHOROL I ystyried materion ar gais yr
Aelodau COFNODION: Clwb Hwylio Meirionydd Amlygwyd bod
cynrychiolydd y Clwb, Mrs Wendy Ponsford yn gadael yr ardal ac felly bydd angen
i’r Clwb hwylio enwebu rhywun yn ei lle. Adroddwyd bod Mrs Ponsford wedi bod yn
aelod o’r Pwyllgor ers blynyddoedd a’i chyfraniad bob amser yn frwdfrydig a gwerthfawrogol.
Dymunwyd y gorau iddi yn ei chartref newydd. Swyddog Morwrol i anfon neges
ar ran y Pwyllgor yn diolch i Mrs Wendy Ponsford am ei gwasanaeth. Nododd Mr John Smith y byddai’n adrodd ar weithgareddau’r Clwb hyd nes
bydd cynrychiolydd wedi ei gadarnhau yn ffurfiol. Bwîs ar y traethau Adroddwyd nad oedd
yn ymarferol gosod bwîs i atal cychod pŵer ddod
yn agos i’r traeth gan y byddai’r bwîs eu hunain
yn symud gyda’r llanw ac yn dod at y
lan. Nodwyd yn y gorffennol bod hyd at 40 o fwîs wedi
eu gosod ond nifer wedi eu colli. Gellid dadleu y byddai modd gosod bwîs cryfach / trymach ond bod angen cwch arbenigol i wneud
y gwaith Awgrymwyd wrth i
berchnogion gofrestru y gellid eu hannog i gadw oddeutu 100m o’r traeth. Os na
fydd cydymffurfiaeth, yna dylid nodi rhif cofrestru a dilyn i fyny. Nofio Awyr agored Bod cynnydd yn y
diddordeb o gael adnodd nofio awyr agored yn yr Harbwr - awgrym gan y Clwb
Hwylio i greu parth gwahardd cychod dŵr fel bod modd creu ardal i nofio
drwy’r flwyddyn. Cynigiwyd cynnal trafodaethau lleol i geisio treialu’r
fenter gan bwysleisio petai bwîs yn cael eu
defnyddio, byddai rhaid eu gosod heb ragfarn ac y dylai nofwyr gymryd
cyfrifoldeb a gwisgo yn addas Motor Cross 2021 Adroddwyd bod y digwyddiad wedi bod yn llwyddiannus ond sylw wedi ei
wneud am yr amseriad. Swyddog Morwrol i ysgrifennu at y trefnwyr gan awgrymu
dyddiad ar gyfer 2022. Y dyddiad i’w gylchredeg gydag Aelodau’r Pwyllgor a
Chyngor Tref Abermaw am sylwadau cyn cadarnhau. Tywod ger y compownd Cais i ystyried
pris ar gyfer y gwaith - awgrym i gynnal cyfarfod yn lleol i drafod |
|
DYDDIAD CYFARFOD NESAF Nodi bydd cyfarfod nesaf
y Pwyllgor yn cael ei gynnal
22ain Mawrth 2022
COFNODION: 22 Mawrth 2022. |