Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Parlwr Mawr, Theatr y Ddraig, Barmouth Community Centre, Jubilee Road, Barmouth, Gwynedd. LL42 1EF

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679 878

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd ar gyfer 2018/19

Cofnod:

PENDERFYNWYD ail ethol y Cynghorydd Gethin Williams yn Gadeirydd y Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2018/19.

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is Gadeirydd ar gyfer 2018/19

Cofnod:

PENDERFYNWYD ail ethol y Cynghorydd Eryl Jones-Williams yn Is-gadeirydd y Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2018/19.

3.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

 

Cofnod:

Y Cynghorydd Ioan Ceredig Thomas (Aelod Cabinet - Economi), Dr John Smith (Grŵp Mynediad Traphont Abermaw), Mr Martin Parouty (Grŵp Defnyddwyr Harbwr Abermaw) a Mr Mike Ellis (Pwyllgor Ras y Tri Chopa)

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Derbyniwyd datganiad o gysylltiad personol gan yr aelodau isod am y rhesymau a            nodir:  

 

(a)           Cyng. Gethin Williams – aelod o’r Ymddiriedolaeth Cymunedol

(b)           Mrs Wendy Ponsfordaelod o’r Clwb Hwylio, aelod o’r Ymddiriedolaeth   Cymunedol

(c)           Cyng. Rob Triggsaelod o’r Ymddiriedolaeth Cymunedol, aelod o’r Clwb Hwylio

 

          Ni fu i’r Aelodau bleidleisio ar faterion a oedd yn ymwneud â’u buddiant       personol. 

 

5.

COFNODION pdf eicon PDF 106 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 6.03.18 fel rhai cywir  

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 6 Mawrth, 2018, fel rhai cywir.

 

Dymunwyd ymddeoliad hapus i Glynda O’Brien (Swyddog Cefnogi Aelodau) am ei chefnogaeth a’i gwasanaeth i’r Pwyllgor dros y blynyddoedd.

 

Materion yn codi o’r cofnodion:

 

(a)           Cynnal a Chadw
                 Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig i holi’r Uwch Swyddog Harbyrau a                      
            Harbwr Feistr Abermaw am raglen waith cynnal a chadw dros gyfnod y                                      gaeaf.

 

(b)           Digwyddiadau
                
                 Derbyn bod lle i wella’r broses o atgoffa trefnwyr i gysylltu gyda’r Gwasanaeth                         Morwrol yn gyntaf i gael caniatâd i gynnal gweithgareddau a chryfhau trefniadau o                  ddydd i ddydd.

 

                        Adroddwyd bod trafodaethau wedi eu cynnal ynglŷn â digwyddiad Motorcross yn                           gwrthdaro gyda gwyliau Hanner Tymor Gwynedd a’r diffyg cyfathrebu rhwng y                                trefnwyr a Chyngor Tref Abermaw. Nodwyd bod Mr Arnold (trefnwr y Motorcross)               angen cadarnhad o ddyddiadau 2019 cyn mis Rhagfyr er mwyn trefnu’r digwyddiad.                      Ategwyd nad oedd modd newid y dyddiad ar gyfer 2018 gan fod rhaglen                                           digwyddiadau Motorcross ar draws y wlad eisoes wedi ei chyhoeddi. Gwnaed                                 awgrym y dylid osgoi penwythnosau hanner tymor mis Hydref (Gwynedd) a hefyd              rhoi ystyriaeth i ddyddiad Sul y Cofio.


            Awgrymwyd 9/10 neu 16/17 o Dachwedd fel nad oedd gwrthdaro gyda hanner      tymor. Nodwyd bod y digwyddiad yn un pwysig i’r ardal ac nad oedd eisiau ei                    golli. Pwysleisiwyd yr angen i gadarnhau’r dyddiadau gyda Mr Arnold cyn                                   mis Rhagfyr 2018

 

(c)        Ffonau Gwasanaeth Brys Y Friog

                        Amlygwyd, yn dilyn penderfyniad y Pwyllgor i gyfleu i’r Aelod Cabinet perthnasol i                      waredu'r ffonau gwasanaethau brys oherwydd diffyg defnydd, nad oedd hyn wedi             digwydd. Awgrymwyd, cyn gwaredu, y dylid ymgynghori ymhellach gyda Gwylwyr y                      Glannau a Mudiad y Bad Achub o ddefnydd y ffonau.

 

(ch)        Gweithgareddau FLAG (Fisheries Local Action Group)

 

               Adroddwyd bod y gweithgareddau wedi bod yn llwyddiannus a bod bwriad cynyddu'r           fenter i’r dyfodol. Diolchwyd i bawb oedd wedi bod yn rhan o’r trefniadau.

 

               Nododd y Cynghorydd Tref nad oedd wedi gallu mynychu cyfarfodydd Grwp FLAG             yn yr ardal ac awgrymodd y dylid cynnig yr aelodaeth i rywun arall.                                       Cadarnhawyd mai  cynrychiolaeth gan unrhyw un o aelodau Cyngor Tref Abermaw                      oedd dymuniad y Grwp FLAG

 

(d)          Clirio Tywod

 

               Mewn datganiad nad oedd modd gweld y môr o Abermaw, nodwyd yn dilyn                         cyfarfodydd gyda Ymgynghoriaeth Gwynedd nad oedd modd symud tywod. Er                     hynny, amlygwyd bod datganiadau positif wedi eu cynnwys mewn cylchgrawn yn                mynegi bod y traeth yn adnodd bendigedig, y morglawdd yn boblogaidd a’r sianel                         yn glir.

 

(dd)        Carthu

 

               Rhagwelir mai Doc Fictoria a Harbwr Pwllheli  yn unig fydd yn cael ei carthu

 

(e)          Cyngor Cymuned Arthog - rheoli mewn llifiad traffig

 

               Gyda mewnlifiad sylweddol o draffig twristiaeth i’r ardal adroddwyd er bod cyfarfod             wedi ei gynnal gyda’r Adran Trafnidiaeth ymddengys nad oedd pethau yn symud                ymlaen i ymateb i’r cynnydd. Amlygwyd bod Cyngor Cymuned Arthog yn cydweithio                     gyda Grŵp yn Y Friog i geisio adfer rhai o'r materion oedd yn cynnwys camau                              gweithredu  i atal parcio dros nos. Cadarnhawyd bod yr Aelod Cabinet perthnasol yn                    derbyn copi  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

DIOGELWCH HARBWR

I ystyried unrhyw faterion diogelwch yr Harbwr

Cofnod:

 

Nodwyd nad oedd unrhyw fater o ran diogelwch harbwr wedi ei gyflwyno o fewn y cyfnod ond tynnwyd sylw at bryder bod plant ifanc yn dringo ar hyd yr adeiladau, cychod, cewyll ac offer pysgota yn Aberdyfi. Gwnaed sylw bod angen sicrhau bod y safle yn ddiogel a gwneud cais i berchennog unrhyw offer          gwblhau asesiad risg.

 

7.

DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETH YR HARBWR pdf eicon PDF 70 KB

I ystyried adroddiad yr Harbwrfeistr

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(a)          Adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau

                        Cyflwynwyd adroddiad gan yr Uwch Swyddog Harbyrau yn rhoi diweddariad cryno                       ar faterion yr Harbwr am y cyfnod rhwng Mawrth 2018 a Hydref 2018. Yn dilyn Haf                       arbennig gyda chynnydd sylweddol mewn niferoedd yn ymweld a’r ardal, adroddwyd                    nad oedd yr adnoddau’r Gwasanaeth yn ddigonol  i ymateb i’r holl faterion ac                           amlygwyd hyn fel risg uchel. Ategwyd bod un ddamwain angheuol wedi digwydd a                bod ymateb i’r crwner wedi ei weithredu. Nodwyd hefyd bod y staff yn gorfod delio                        gyda sefyllfaoedd anodd iawn ac mewn ymateb i hyn amlygwyd bod cyfarfod wedi ei                        drefnu gyda Gwylwyr y Glannau i drafod y sefyllfa ymhellach. Adroddwyd bod y                         Gwasanaeth dan bwysau.

 

                        Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â nifer yr angorfeydd yn lleihau, adroddwyd bod                          hyn yn batrwm sydd i’w weld mewn harbyrau naturiol. Ategwyd bod y diwydiant ei                        hun yn dioddef, ond er y lleihad nid oedd yn cael effaith ar y budd economaidd wrth                 edrych ar y sefyllfa yn ei gyfanrwydd e.e., gwelwyd cynnydd positif mewn niferodd                   cychod pŵer. Nododd yr Harbwr Feistr mai newid mewn diwylliant yw un rheswm                  dros leihad yn y nifer o gychod hwylio gyda’r angen am bŵer a chyflymdra yn                               cynyddu. Ategwyd bod cwsmeriaid angen ‘prynu adnodd’, megis angorfeydd, fel                                    eitem ac mai proses hirwyntog yw’r broses sydd yn bodoli ar hyn o bryd.

                        I gyfarch hyn, awgrymwyd gwasanaeth hwyluso taliadau a gwnaed cais am                          adroddiad i’r cyfarfod nesaf yn rhestru’r opsiynau posib.

 

                        Ategodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig bod adolygiad yn cael ei wneud                         gan y Gwasanaeth yn holi pam bod perchnogion angorfeydd wedi ymadael ac y                           byddai adroddiad ar y canfyddiadau yn cael ei gyflwyno (i bob Pwyllgor Harbwr ) ym                    mis Mawrth 2019.

 

                        Yng nghyd-destun, gosod angorfeydd, amlygwyd bod Cyngor Tref Abermaw wedi                        ystyried cyllido costau angorfeydd a bod bwriad ganddynt i godi arian ar gyfer                               pontwns. Amlygwyd yr angen i gadarnhau trefniadau perchnogaeth ac awgrymwyd                      y dylai’r Cynghorydd Tref gyfarfod gyda’r Uwch Swyddog Harbyrau a’r Harbwr Feistr                       i drafod ymhellach. O ran carthu, byddai angen trwydded i weithredu. Gyda                                    chyllidebau'r Cyngor yn dynn ac yn wynebu toriadau pellach ni fyddai modd i’r                            Cyngor ariannu carthu’r Harbwr. Awgrymwyd y dylai’r Cynghorydd Tref                                              ymgynghori gyda Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig i gydsynio i ysgrifennu                              llythyr at CNC i gael gweithredu. Awgrymwyd bod y gymuned yn barod i godi’r arian.

 

                        Canmolwyd cymuned Abermaw am eu parodrwydd i gydweithio a cheisio’r gorau i’r                     dref yn wyneb toriadau i gyllidebau Cyngor Gwynedd. Dylid eu cymeradwyo a’u                            llongyfarch am eu gwaith da.

              

               Adroddwyd bod archwilwyr yr Asiantaeth Forwrol a Gwylwyr y Glannau i                               ailymweld a’r gwasanaeth fis Hydref eleni fel dilyniant i’r adolygiad a gynhaliwyd                  2017. Oherwydd amgylchiadau annisgwyl nodwyd y byddai rhaid gohirio’r                            ymweliad tan fis Mawrth 2019. Bydd gwahoddiad i holl Aelodau’r Pwyllgorau                        Ymgynghorol fynychu cyfarfod ym Mhorthmadog.

 

               Tynnwyd sylw'r Aelodau at fwriad y Gwasanaeth i gyflogi cymhorthydd harbwr llawn            amser i weithio yn Harbyrau Abermaw, Aberdyfi a Porthmadog. Mewn ymateb y                  dylai’r gwasanaeth ystyried yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

MATERION I'W HYSTYRIED AR GAIS AELODAU'R PWYLLGOR YMGYNGHOROL

·         I ystyried cynrychiolydd o’r Fairbourne Amenities Trust fel aelod cyfetholedig ar y Pwyllgor

Cofnod:

 

          (a)          Ystyried cynrychiolydd o Ymddiriedolaeth Mwynderau'r Friog fel aelod                        cyfetholedig ar y Pwyllgor.

 

                         Cyfeiriodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig at Gylch Gorchwyl                   y Pwyllgorau Harbwr gan gadarnhau’r Aelodaeth

·         hyd at 4 aelod lleol o Gyngor Gwynedd

·         Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd sydd yn gyfrifol am bortffolio awdurdod harbwr

·         Un aelod o Gyngor Tref

·         Hyd at 7 aelod arall i gynrychioli gwahanol fuddiannau defnyddwyr yr harbwr

 

                        Gyda Aelodaeth bresennol Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Abermaw yn gyflawn                   byddai cais ychwanegol yn mynd tu hwnt i fframwaith gorfodaeth y Cyngor.

 

                        Amlygwyd bod sedd wag gan Cyngor Cymuned Arthog ac awgrymwyd y gellid                     penodi un cynrychiolydd fyddai yn cynrychioli dau gorff.

 

                        Nodwyd bod cynrychiolydd Grŵp Mynediad Traphont Abermaw wedi                                    ymddiswyddo ac mai cyfrifoldeb y Gymdeithas oedd ethol cynrychiolydd newydd.

 

                        Nodwyd bod cynrychiolydd Ras y Tri Chopa hefyd yn dymuno ymddiswyddo                        ac mai cyfrifoldeb y Pwyllgor hwnnw fyddai ethol cynrychiolydd newydd

 

                        Pwysleisiwyd bod cyfrifoldeb ar y cyrff uchod i roi gwybod i’r Swyddog Morwrol a                 Pharciau Gwledig neu’r Swyddog Cefnogi Aelodau o’r enwebiadau newydd.

 

                        Diolchwyd i Mr Mike Ellis (Pwyllgor Ras y Tri Chopa) am ei gyfraniad                                    arbennig i’r Pwyllgor dros y blynyddoedd.

 

 

 

 

9.

DYDDIAD CYFARFOD NESAF

I nodi cynhelir cyfarfod nesaf Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Abermaw ar 26 o Fawrth 2019

 

Cofnod:

Nodwyd y bydd y cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal ar 26ain Mawrth, 2019.