skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Parlwr Mawr, Theatr y Ddraig, Barmouth Community Centre, Jubilee Road, Barmouth, Gwynedd. LL42 1EF

Cyswllt: Glynda O'Brien  01341 424301

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.   

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Y Cynghorwyr Louise Hughes, Mandy Williams-Davies (Aelod Cabinet Economi), Y Cyng. David Richardson (Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi),  Y Cyng. R. A. Williams (BRIG), Mr Llyr Jones, Uwch Reolwr Economi a Chymuned.  

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Derbyniwyd datganiad o gysylltiad personol gan yr aelodau isod am y rhesymau a nodir:

 

(i)            Y Cyng. Gethin Glyn Williams oherwydd ei fod yn aelod o’r Clwb Hwylio

(ii)           Y Cyng. Julian Kirkham oherwydd ei fod yn perthyn i un o weithredwyr yr ysgraff

 

3.

COFNODION pdf eicon PDF 254 KB

I dderbyn cofnodion cyfarfod blaenorol o Bwyllgor Ymgynghorol Harbwr Abermaw a gynhaliwyd ar 15 Hydref 205.

Cofnod:

Cyflwynwyd:               Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Abermaw gynhaliwyd ar y 15 Hydref 2015. 

 

Penderfynwyd:          Derbyn a chymeradwyo’r cofnodion fel rhai cywir.

 

2.1       Materion yn Codi o’r cofnodion:

 

(a)          Gaeafau Cychod

 

Mewn ymateb i ymholiad ynglŷn â gaeafu cychod ar ran o’r maes parcio, nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig yn dilyn trafodaeth gyda Mr Colin Jones, Rheolwr Parcio a Diogelwch bod yr egwyddor yn dderbyniol ond bod angen trafodaethau ar sut i weinyddu’r trefniadau, cyfrifoldeb am y cychod, a.y.b.  Bu trafodaethau ynglŷn â chost ar ffurf “bond” rhwng £300-£500 fel blaendal ar gyfer unrhyw lanhau byddai angen ar ôl symud y cychod.  Fel ffordd ymlaen, awgrymodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig i Aelodau ofyn i’w cymdeithasau os oes diddordeb yn y ddarpariaeth uchod ac iddynt gofnodi eu diddordeb gyda’r Harbwr Feistr ac yna gellir ymrwymo i’r cynllun erbyn gaeaf nesaf.  

 

Penderfynwyd:          Gofyn i’r cymdeithasau gysylltu â’r Harbwr Feistr os oes unrhyw ddiddordeb gan unigolion i aeafu cychod ar ran o’r maes parcio, fel bo modd cwblhau’r trefniadau angenrheidiol ymhellach.

 

(b)          Mynediad i Gadeiriau Olwyn ar y Promenâd

 

Yn deillio o’r drafodaeth ynglŷn â chyflwyno cais am grant i Gronfa’r Loteri ar gyfer darparu mwy o fannau mynediad i gadeiriau olwyn ar y promenad, rhoddwyd diweddariad gan y Cynghorydd Eryl Jones-Williams nad oedd Grŵp Mynediad Meirionnydd  wedi cyflwyno ceisiadau eu hunain ddim ond fel rhan o fudiadau eraill.  Yn ychwanegol, ar hyn o bryd, roedd y Grŵp Mynediad yn brin o Ysgrifennydd a Thrysorydd.  Teimlwyd hefyd pe byddai’r Cyngor Tref yn sefydlu Grŵp Mynediad Abermaw, byddai hyn yn darnio'r grŵp ehangach sef Grŵp Mynediad Meirionnydd.  I ychwanegu at y broblem roedd y Cyngor wedi cael gwared a swydd Swyddog Anabledd.  Deallir mai oddeutu 4 man o’r “Black Patch” i Westy’r Arbour sydd yn anghyraeddadwy i gadair olwyn.

 

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.

 

(c)          Lansio o Bwynt Penrhyn

 

Mewn ymateb i bryder ynglŷn â goruchwyliaeth lansio o Bwynt Penrhyn, esboniodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig nad oedd gan y Gwasanaeth y capasiti i anfon staff i Bwynt Penrhyn ac mewn cydweithrediad a’r gymuned leol bod arwyddion wedi eu gosod yn yr ardal.  O safbwynt potensial i gael gwirfoddolwyr i gynorthwyo, ni ragwelwyd unrhyw broblem pe byddai 3 / 4 unigolyn yn fodlon cynorthwyo o dan adain yr Harbwr Feistr, yn ddibynnol ar gymwysterau o safbwynt telerau yswiriant. Byddai’n fuddiol hefyd pe byddai gweithredwyr yr ysgraff yn gallu hysbysu’r Harbwr Feistr os ydynt yn gweld cychod yn lansio heb gofrestru.  

 

Pwysleisiodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig bod trefn ffurfiol i’w ddilyn sef bod yn ofynnol i unigolion gwblhau ffurflenni PG1 (manylion yr unigolion) a PG2 (asesiad risg).

 

Penderfynwyd:          Gofyn i’r Aelodau wneud ymholiadau gyda’u cymdeithasau er canfod gwirfoddolwyr i gynorthwyo’r Harbwr Feistr gyda lansiadau  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 3.

4.

ADRODDIAD GAN Y SWYDDOG MORWROL A PHARCIAU GWLEDIG pdf eicon PDF 208 KB

I ystyried adroddiad gan y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd:             Adroddiad y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig, Mr Barry Davies ar weithgareddau harbwr Abermaw gyda chyfeiriad penodol at y canlynol:-

 

 

(A)       Cod Diogelwch Harbyrau

 

Atgoffwyd Aelodau nad oedd y Cod Diogelwch yn statudol a byddir yn gwerthfawrogi unrhyw sylwadau sydd gan Aelodau ar faterion iechyd a diogelwch. 

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.

 

(B)       Mordwyo ac Angorfeydd

 

Adroddwyd:

 

(i)            Bod y Gwasanaeth wedi buddsoddi yn sylweddol yn y cymhorthion a oedd yn cynnwys goleuadau, cadwyni, a.y.b. ac o ganlyniad bod pob un ar ei safle priodol ar hyn o bryd.

(ii)           Bod angen gosod goleuadau ar rhai cymhorthyddion ond nid oedd y Gwasanaeth yn orbryderus gan fod gwyliau’r Pasg yn gynnar eleni ac na fyddai efallai lawer o gychod ar y dŵr.  Fodd bynnag sicrhawyd y byddai’r Uwch Swyddog Harbyrau a’r Harbwr Feistr yn eu gosod cyn gynted ag y bo modd. 

(iii)          Y byddir yn ystyried buddsoddiad flwyddyn nesaf i osod bwi starbord ger y morglawdd fel bo modd i gychod ymwelwyr fordwyo i’r Harbwr yn rhwydd

(iv)         Derbyniwyd archwiliad gan Ty’r Drindod ynghyd ag awdit trylwyr ac o ganlyniad pwysleisiwyd i’r trefniadau gweinyddol fod i fyny i safon

(v)          Cytunwyd i beidio gwneud buddsoddiad yn y bwiau traeth heblaw'r porth wrth ymyl pont droed y rheilffordd

(vi)         Bod y Gwasanaeth wedi cysylltu hefo perchnogion angorfeydd ac allan o’r nifer o gwsmeriaid presennol derbyniwyd 60 o geisiadau hyd yma sydd yn lleihad o’i gymharu a’r blynyddoedd blaenorol.  Fodd bynnag, nodwyd bod y trend morwrol yn lleihau ymhob harbwr

(vii)        Pwysleisiwyd na fyddir yn caniatáu cychod angori yn yr harbwr oni bai bod y gwaith gweinyddol ysgrifenedig yn gyflawn a chywir sy’n cynnwys dogfennaeth yswiriant, tystysgrif angorfa, a.y.b.

(viii)       Fe fyddir yn gofyn i’r contractwr lleol dynnu’r angorfeydd sydd ddim mewn defnydd ac ni fydd unigolion yn cael hawlio lleoliadau penodol

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.

 

(C)       Materion Harbwr

 

Adroddwyd:

 

(i)            Bod oddeutu £8,000 wedi ei fuddsoddi i atgyweirio'r pontŵn llynedd ac erbyn hyn wedi bod yn rhan o gyfrifoldeb y Gwasanaeth Harbwr ac ni wyddys pa mor hir y gellir ei gynnal a’i gadw o ystyried yr hinsawdd ariannol sydd ohoni a chyn lleied o incwm yn dod ohono.  Pwysleiswyd mai at ddefnydd ymwelwyr yn unig ydoedd bwriad y pontwn ac y byddai’r Harbwr Feistr yn monitro’r defnydd.  Nodwyd ymhellach y byddir yn trefnu i roi'r bysedd yn ol ar y pontwn yn fuan.

 

Mewn ymateb i ymholiadau gan Aelodau unigol, nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig:

 

·         Bod yn rhaid cael rheolaeth ar gychod lleol sy’n angori ar y pontwn

·         O safbwynt cwch yr Harbwr wedi ei angori ar y pontwn, bod llawer o waith atgyweirio ar y cwch ac fe fyddai’n rhaid ystyried ffyrdd amgen o gyrraedd at y cwch megis trefniadau fel sy’n bodoli yn Aberdyfi sydd wedi angori gyda chwch gweini ar gael i fynd ati  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4.

5.

MATERION I'W HYSTYRIED AR GAIS AELODAU'R PWYLLGOR YMGYNGHOROL pdf eicon PDF 70 KB

I dderbyn adroddiadau llafar gan y swyddogion perthnasol ar y materion canlynol:

 

(a)  Marciau Mordwyol

(b)  Ystyried cael arwyddion i rybuddio y newid yn y dyfnder ger y Clwb Hwylio  

(c)  Cais i ddosbarthu cofnodion ynghynt er mwyn i gynrychiolwyr fedru briffio’r grwpiau maent yn gynrychioli

(d)  Polyn peryglus yng ngwaelod y llithrfa yn Harbwr Aberamffra 

(e)  Tywod?  Beth ellir ei wneud?

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(a)          Marciau Mordwyo

 

Adroddwyd bod yr uchod wedi ei drafod fel rhan o adroddiad y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig.

 

(b)          I ystyried cael arwyddion i rybuddio’r cyhoedd o’r newid yn nyfnder y Sianel ger y Clwb Hwylio

 

Cyfeiriwyd at y ddau lun oedd ynghlwm i’r rhaglen yn dangos cwympiad o 5-6 troedfedd yn y sianel ac fe nodwyd pryder ynglŷn â diogelwch y cyhoedd o ganlyniad i hyn.

 

Penderfynwyd:          Gofyn i’r Harbwr Feistr osod arwyddionGlannau Serth” (Steep Banks) yn ogystal â hysbysebu morwyr o fannau diogel i lansio cychod.

 

(c)          Cais i ddosbarthu cofnodion ynghynt er mwyn i gynrychiolwyr fedru briffio’r grwpiau maent yn cynrychioli

Adroddodd y Swyddog Cefnogi Aelodau y ceisir gosod y cofnodion ar wefan y Cyngor o fewn 15 diwrnod gwaith i ddyddiad y cyfarfod ond bod hyn yn ddibynnol ar lwyth gwaith.  Yn y cyfamser roedd wedi anfon linc o’r safle lle gosodir y rhaglenni/cofnodion i Cyng. Rob Triggs fel bo modd iddo anfon y linc ymlaen i’r unigolion perthnasol.

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.

 

(ch)     Polyn peryglus yng ngwaelod y llithrfa yn Harbwr Aberamffra

 

Gwnaed cais gan gynrychiolydd y Clwb Hwylio i dynnu’r polyn peryglus yn Harbwr Aberamffra.

 

Deallir mai gweddillion hen long ydoedd ac y byddai’n ofynnol i gael 4 aelod o staff i’w dorri.  Roedd gwahaniaeth barn ymysg yr Aelodau o’i dynnu ai peidio gan nad oedd yn creu perygl o safbwynt mordwyo ond fel cyfaddawd gellid gosod bwi ar y safle. 

 

Yn dilyn pleidlais ar y mater:

 

Penderfynwyd:          I beidio tynnu’r polyn yn Harbwr Aberamffra.

 

(d)          Tywodbeth ellir ei wneud?

 

Adroddwyd gan gynrychiolydd y Clwb Hwylio bod tywod sylweddol i fyny ochr gogleddol o’r compownd ac ni welwyd cymaint â hyn yno o’r blaen ac y byddai’n creu trafferthion i gael y cychod allan.

 

Eglurodd y Cadeirydd y byddai’n rhaid bod yn rhagweithiol drwy gysylltu â  Mr Colin Jones, Rheolwr Parcio a Diogelwch Ffyrdd sydd yn gyfrifol am y maes parcio. Fodd bynnag hyderir y gellir datrys y broblem yn yr hir dymor.

 

 Penderfynwyd:         Derbyn a nodi’r uchod.

 

6.

DYDDIAD CYFARFOD NESAF

I nodi y cynhelir cyfarfod nesaf o Bwyllgor Ymgynghorol Harbwr Abermaw ar  8 Tachwedd 2016.

Cofnod:

Penderfynwyd:          Nodi y cynhelir nesaf y Pwyllgor Ymgynghorol ar ddydd Mawrth, 8 Tachwedd 2016.