skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd ar gyfer 2020/21

Penderfyniad:

Ail-ethol y Cynghorydd Gethin Glyn Williams yn Gadeirydd y Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2020/21.

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD ail ethol y Cynghorydd Gethin Williams yn Gadeirydd y Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2020/21

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is gadeirydd ar gyfer 2020/21

Penderfyniad:

Ail-ethol y Cynghorydd Eryl Jones- Williams yn Is-gadeirydd y Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2020/21.

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD ail ethol y Cynghorydd Eryl Jones-Williams yn Is-gadeirydd y Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2020/21.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Gareth Thomas (Aelod Cabinet Datblygu’r Economi), Cynghorydd Louise Hughes, Cynghorydd Brian Woolley (Cyngor Cymuned Arthog), Mr John Johnson (Cymdeithas Bysgota Abermaw a Bae Ceredigion) a Llŷr B Jones (Pennaeth Cynorthwyol Economi a Chymuned)

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

5.

COFNODION pdf eicon PDF 241 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 22.10.2019 fel rhai cywir  

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Pwyllgor hwn a gynhaliwyd 22ain Hydref, 2019, fel rhai cywir yn amodol ar gywiro: 5 (ch) Cyfleuster penodol ar gyfer beiciau dwr - Adroddwyd nad oedd beiciau dwr yn dod ag unrhyw incwm i’r harbwr > ‘bod beiciau dwr sydd wedi eu cofrestru yn dod ac incwm i’r harbwr’ a 8 (a) Cynllun Datblygu Harbwr Abermaw - ‘Amlygwyd dymuniad i lunio cynllun datblygu’ > ‘Amlygwyd yr angen i lunio cynllun datblygu’ 

 

Materion yn codi o’r cofnodion;

 

·         Grŵp Tasg Cynllun Datblygu Harbwr Abermaw
Amlygwyd nad oedd gwaith wedi symud yn ei flaen gyda hyn oherwydd bod pob dim ‘datblygolwedi cael ei roi i un ochr yn sgil argyfwng covid 19. Ategwyd bod blaenoriaeth yn cael ei roi ar ail agor y tymor ymweld. Awgrymwyd i’r Rheolwr Morwrol holi Pennaeth Cynorthwyol Economi a Chymuned ynglŷn â’r ffordd ymlaen.

 

Ategwyd mai ymarfer da oedd cynnal Pwyllgorau Harbwr Abermaw, Aberdyfi a Pwllheli gan mai Pwyllgor Harbwr Porthmadog oedd yr unig gyfarfod statudol o ran gofynion deddfwriaeth. Nodwyd petai deddfwriaethau yn gorfodi cynlluniau datblygu harbwr, y bwriad fyddai ceisio sicrhau cysondeb ar draws y pedwar Harbwr (Aberdyfi, Abermaw, Porthmadog a Pwllheli.) Gwnaed cais i Swyddog Morwrol ymchwilio i ofynion y Ddeddf sy’n rhoi arweiniad bod cael cynllun dablygu harbwr yn hanfodol.  

6.

DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETHOL YR HARBWR pdf eicon PDF 203 KB

I ystyried yr adroddiadau

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodi a derbyn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Croesawyd Brigitte Evans (Cymhorthydd Harbwr Abermaw) i’w chyfarfod cyntaf. Diolchwyd i’r swyddogion ac i staff yr harbwr am eu holl waith yn cynnal y gwasanaeth yn ystod blwyddyn eithriadol o anodd.

 

(a)          Adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau

                        Cyflwynwyd adroddiad gan yr Uwch Swyddog Harbyrau yn rhoi diweddariad cryno                       ar faterion yr Harbwr am y cyfnod yn diweddu Mawrth 2021

 

Angorfeydd

 

Adroddwyd bod gostyngiad sylweddol yn nifer yr angorfeydd o ganlyniad i gyfyngiadau yn gysylltiedig â covid 19. Nodwyd bod nifer o berchnogion cychod wedi dewis peidio defnyddio eu cychod yn 2020 - patrwm a welwyd yn gyffredinol ar draws Harbyrau Gwynedd.

 

Cod Diogelwch Morol Porthladdoedd

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chydymffurfio gyda’r cod ac os oedd hyn yn rhywbeth anodd ei weithredu, nodwyd mai’r agweddau diogelwch oedd y prif heriau ynghyd a chynnal asesiadau risg ac archwiliad allanol. Ategwyd bod y broses o ‘adeiladu’r’ cod yn un oedd yn datblygu yn raddol. Adroddwyd y byddai llythyr y cael ei anfon gan y Gwasanaeth i’r Asiantaeth Forwrol a Gwylwyr y Glannau ar ôl cynnal yr archwiliad allanol blynyddol o’r system rheoli diogelwch.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chawelli pysgotwyr yn cael eu gadael ar yr harbwr, nodwyd mai trefniant dros dro yn unig ydoedd ac fel bydd y tymor pysgota yn agosáu bydd y cawelli yn cael eu hail leoli.

 

Materion Staffio

 

Adroddwyd bod amryw o newidiadau staffio wedi digwydd yn ystod y flwyddyn gyda Mr Glyn Jones yr Harbwrfeistr wedi gadael i weithio gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru. Amlygwyd bod Bergitte Evans a Jordan Hewlett wedi eu penodi i gyflawni dyletswyddau yr Harbwr a’u bod yn parhau i gael eu hyfforddi a’u datblygu.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag adnoddau digonol i ymdopi gydag ymwelwyr i’r ardal yn ystod yr Haf, nodwyd bod yr Aelod Cabinet wedi amlygu pryder o’r sefyllfa a’r mater wedi ei drafod yn y Grŵp Twristiaid, o dan arweiniad y Prif Weithredwr. Yn dilyn trafodaethau pellach gyda’r Uned Forwrol, a chynllun effeithiol ar gyfer y gwaith wedi ei gytuno, awgrymwyd y byddai’r lefel staffio yn ddigonol ar gyfer yr Harbwr a’r traeth. Bydd staff o adrannau eraill hefyd ar gael i reoli materion yn y dref.

 

Materion Ariannol

 

Cyflwynwyd cyllideb yr harbwr i amlygu’r sefyllfa ariannol bresennol hyd at ddiwedd Mawrth 2021. Amcangyfrifwyd gorwariant o £8,061.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chyllid gan Lywodraeth Cymru i ddigolledu lleihad mewn incwm, adroddwyd bod £4,500 wedi ei dderbyn ac wedi ei gynnwys yn y gyllideb. Nodwyd y byddai ffioedd angorfeydd yn cynyddu yn unol â chwyddiant (2%) ond na fyddai cynnydd mewn ffioedd lansio, cofrestru ac ailgofrestru.

 

Gwaith Atgyweirio Traphont Abermaw

 

Cafwyd cyflwyniad gan Steve Richardson (Griffiths Engineering) ar y gwaith atgyweirio fydd yn cael ei wneud i draphont Abermaw dros y ddwy flynedd nesaf. Cyfeiriwyd at amserlen y gwaith oedd wedi ei gynnwys yn adroddiad yr Harbwr Feistr.

 

Prif bwyntiau yn codi o’r drafodaeth:

·         Ni fydd y bont yn agor – nid yw wedi cael ei ddylunio i agor

·         Nid  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

MATERION I'W HYSTYRIED AR GAIS AELODAU'R PWYLLGOR YMGYNGHOROL

I ystyried materion yn codi

Cofnod:

Dim i’w nodi

8.

DYDDIAD CYFARFOD NESAF

I nodi bydd cyfarfod nesaf yn Pwyllgor yn cael ei gynnal 19 Hydref 2021

Cofnod:

Nodwyd bod y cyfarfod nesaf wedi ei raglennu ar gyfer 19 Hydref 2021. Gwnaed cais ar ran yr Aelod Cabinet i ystyried dyddiad ac amser arall gan fod boreau dydd Mawrth yn gwrthdaro gyda chyfarfodydd y Tîm Arweinyddiaeth ac felly’n atal yr Aelod Cabinet rhag mynychu. Gwnaed cais i’r Aelodau ystyried diwrnod ac amser arall cyfleus.