skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Parlwr Mawr, Theatr y Ddraig, Canolfan Cymunedol Abermaw, Jubilee Road, Abermaw, Gwynedd. LL42 1EF. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Glynda O'Brien  01341 424301

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd i’r Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2015-16.

 

Cofnod:

Penderfynwyd:          Ail-ethol y Cynghorydd Gethin Glyn Williams yn Gadeirydd y Pwyllgor hwn am  y flwyddyn 2015/16.

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd i’r Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2015-16.

Cofnod:

Penderfynwyd:          Ail-ethol y Cynghorydd Eryl Jones-Williams yn Is-gadeirydd y Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2015/16.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Y Cynghorwyr Louise Hughes, Mandy Williams-Davies (Aelod Cabinet - Economi), Cyng. Rob Williams (BRIG), Dr John Smith (Grŵp Mynediad Traphont Abermaw),

Mr Barry Davies (Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig).   

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

Derbyniwyd datganiad o gysylltiad personol gan yr aelodau isod am y rhesymau a nodir:  

 

(i)            Cyng. Julian Kirkham – yn perthyn i un o’r gweithredwyr fferi 

(ii)           Cyng. Gethin Williams – yn aelod o’r Clwb Hwylio 

(iii)          Cyng. R. Triggs – yn aelod o’r Clwb Hwylio  

(iv)         Mr Mike Ellis – yn aelod o’r Clwb Hwylio 

(v)          Mr Martin Paroutyyn aelod o’r Clwb Hwylio ac yn weithredwr masnachol yn yr Harbwr

(vi)         Mr John Johnson – gweithredwr masnachol yn yr Harbwr.

 

 

5.

COFNODION pdf eicon PDF 352 KB

I dderbyn a nodi cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Abermaw gynhaliwyd ar y 19 Mawrth 2015.

Cofnod:

Cyflwynwyd:             Cofnodion cyfarfod o Bwyllgor Ymgynghorol Harbwr Abermaw a gynhaliwyd ar 19 Mawrth 2015.

 

Penderfynwyd:          Derbyn a chymeradwyo’r cofnodion fel rhai cywir.  

 

6.

ADRODDIAD Y SWYDDOG MORWROL pdf eicon PDF 209 KB

I dderbyn ac ystyried adroddiad y Swyddog Morwrol, Mr Barry Davies.  

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd:                         I aelodau yn ystod y cyfarfod, adroddiad ysgrifenedig gan y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig ar weithgareddau yn Harbwr Abermaw. 

 

Darllenodd yr Uwch Swyddog Harbyrau yr adroddiad i’r aelodau a gwnaed cyfeiriad penodol i’r isod: 

 

(a)          Cofrestru Cychod Pŵer

 

Mewn ymateb i ymholiad gan Aelod am gofrestru’r holl gychod drwy drefniadau gwahanol, adroddwyd fod mwyafrif y cofrestriadau o safleoedd carafanau wedi eu cyfeirio at Swyddfa’r Harbwr Feistr ac roedd yr asesiadau risg yn cael eu cynnal gan yr Harbwr Fesitr a’u hadolygu gan y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig a /neu Uwch Swyddog Harbyrau. Rhoddwyd sicrwydd fod popeth mewn llaw.

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.

 

(b)          Mordwyo

 

Adroddwyd fod gwaith yn mynd rhagddo gyda’r cymhorthion mordwyo ar ôl yr oedi pan roedd y contractwr lleol i ffwrdd.  Roedd dau fwi newydd yn y broses o gael eu prynu yn ogystal â goleuadau newydd, a sicrhawyd fod y Gwasanaeth Morwrol yn awyddus i gael y cymhorthion mordwyo i’r safon gorau gan eu bod yn flaenoriaeth o ran iechyd a diogelwch.  Dywedodd yr Uwch Swyddog Harbyrau ei fod yn gobeithio y byddai’r gwaith wedi ei gwblhau cyn pen y 2/3 wythnos nesaf.  Nodwyd ymhellach fod y bwi bar yn agored i ryferthwy’r tywydd ac roedd y Gwasanaeth Morwrol mewn trafodaethau gyda Hydrosphere i gael math addas. 

 

Gofynnodd cynrychiolydd Grŵp Defnyddwyr Harbwr Abermaw pam fod y cymhorthion mordwyo wedi eu hamwybyddu am gymaint o amser.  Atebodd yr Uwch Swyddog Harbyrau ers iddo fod yn ei swydd ym mis Chwefror nid oedd yn ymwybodol eu bod wedi eu diystyru.  Atgoffodd y Cadeirydd y Pwyllgor fod Grŵp Defnyddwyr yr Harbwr yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwn wedi llongyfarch y Gwasanaeth Morwrol am safon y cymhorthion mordwyo. 

 

Dywedodd yr Uwch Reolwr – Economi a Chymuned nad oedd unrhyw ateb hawdd ynglŷn â esgeuluso’r cymhorthion mordwyo, ond roedd yna nifer o ffactorau cysylltiedig.  Roedd Tŷ’r Drindod yn archwilio holl gymhorthion mordwyo’r harbwr ac o ran Harbwr Abermaw roedd gwersi i’w dysgu a hyderir y bydd y rhain yn cael eu cywiro yn y dyfodol agos.

 

O safbwynt y goleuadau ar y bwiau oedd mewn cyflwr gwael, ac yn arbennig dydd Sadwrn diwethaf (10.10.15), dywedodd yr Harbwr Feistr fod y cymhorthion mordwyo wedi dod i’r lan i’w trwsio a chyflwynwyd Rhybudd i Forwyr ynglŷn â hyn (dosbarthwyd copi o’r rhybudd er gwybodaeth yn ystod y cyfarfod).  O ran bwi’r sianel fordwyo, roedd y golau wedi cael ei godi i'r uchafswm ac roedd golau newydd wedi ei archebu i'r bwi bar a sicrhawyd y byddai'r goleuadau mordwyo yn gweithio cyn gynted â phosib.

 

Nodwyd ymhellach fod sianel gyda bwiau da yn arbennig o bwysig yn enwedig i annog mwy o bobl i ymweld â’r Harbwr.

 

Derbyniodd yr Uwch Reolwr – Economi a Chymuned y sylwadau a wnaed ac erfyniwyd ar aelodau’r  pwyllgor a defnyddwyr i gysylltu â’r Harbwr Feistr os oedd ganddynt unrhyw bryderon am y cymhorthion mordwyo.  

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.

 

(c)  Rhaglen Waith

 

Rhestrodd yr Uwch Swyddog Harbyrau y  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

MATERION I'W HYSTYRIED AR GAIS AELODAU O'R PWYLLGOR YMGYNGHOROL

I dderbyn adroddiadau llafar gan y swyddogion priodol ar y materion canlynol:

 

·         Lansio o Pwynt PenrhynStatws Yswiriant.  Trefniadau monitro.

·         Dyddodiad tywod a siltio parhaus

·         Marciau Mordwyo

·         Pontwn

·         Cau Pont Abermaw i gerddwyr

Cofnod:

(a)  Lansio o Bwynt Penrhynstatws yswiriant.  Sut mae hyn yn cael ei fonitro?

 

Diolchodd y Cyng Julian Kirkham, ar ran Cyngor Cymuned Arthog, i’r Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig am ddatrys y problemau ym Mhwynt Penrhyn o ran biniau sbwriel, arwyddion ac ati.  Er hynny, roedd pryder o hyd gyda lansio o Bwynt Penrhyn ac yn enwedig felly heb yswiriant.  Gofynnwyd a fyddai’r cwch patrol yn cadw golwg yn fwy aml ar hyn.

 

Penderfynwyd:                Cytunodd yr Uwch Swyddog Harbyrau i drafod y mater ymhellach gyda’r Harbwr Feistr o ran mwy o ymweliadau â Phwynt Penrhyn.

 

(b)  Dyddodiad a chasgliad tywod a chael gwared ohono 

 

Roedd yr Uwch ReolwrEconomi a Chymuned yn ymwybodol o’r pryder am dywod yn casglu yn arbennig ar y sarn.  Roedd yn wir dweud fod nifer o gwynion wedi eu derbyn yn ystod yr haf a bod y Gwasanaeth Morwrol wedi ymdrechu i ddelio gyda’r sefyllfa ond roedd hon yn broses naturiol.  Trefnwyd cyfarfod rhwng Cadeirydd y Pwyllgor hwn, Prif Wethredwr yr Awdurdod ac Ymgynghoriaeth Gwynedd ac fe gydnabuwyd fod yna broblem ond nad oedd yn hawdd ei datrys.  Yn y cyfarfod cytunodd Ymgynghoriaeth Gwynedd i ymchwilio i’r dewisiadau oedd ar gael yn y tymor hir.  Roedd Cyngor Tref Abermaw hefyd wedi nodi pryder am y mater ac roedd safle cyfarfod wedi ei drefnu gyda chynrychiolwyr o Gyfoeth Naturiol Cymru oedd hefyd o blaid ymchwilio i’r dewisiadau tymor hir.  Hyderir y cynhelir cyfarfodydd lleol eraill er mwyn ceisio’r farn leol.

 

Penderfynwyd:                Nodi a derbyn yr uchod.

 

(c)  Pontŵn 

 

Mynegodd Grŵp Defnyddwyr Harbwr a Moryd Abermaw ddiolch i’r Cyngor am atgyweirio’r pontŵn, ased gwerthfawr i’r harbwr oedd yn gwella ei apêl fel cyrchfan i gychod oedd yn ymweld.

 

Dywedodd Uwch Swyddog yr Harbyrau fod ychydig o faterion oedd angen eu cywiro o ran cynnal a chadw a gorfodaeth ac ati.

 

(d)    Cau Pont Abermaw i gerddwyr

 

Penderfynwyd:                Y dylai’r mater yma gael ei gyfeirio i ymgynghoriad Her Gwynedd ynglŷn â pharhau i dalu ffi i Network Rail i ganiatáu i gerddwyr, beicwyr a rhai ar feic modur i ddefnyddio pontdroed Abermaw.  

 

 

8.

DYDDIAD CYFARFOD NESAF

I nodi y cynhelir cyfarfod nesaf y Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Abermaw ar 22 Mawrth 2016.

Cofnod:

Penderfynwyd:          Nodwyd y cynhelir cyfarfod nesaf y Pwyllgor Ymgynghorol ar 22 Mawrth 2016.