Lleoliad: Zoom
Cyswllt: Rhodri Jones 01286 679326
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD Ethol
Cadeirydd ar gyfer 2022/23. Penderfyniad: Etholwyd
y Cynghorydd Robert Dewi Owen fel Cadeirydd y Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr
Aberdyfi ar gyfer y flwyddyn 2022/23. COFNODION: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Dewi
Owen yn Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer y flwyddyn 2022/23. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD Ethol
Is-gadeirydd ar gyfer 2022/23. Penderfyniad: Etholwyd
Y Cynghorydd John Pughe fel Is-gadeirydd y Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi
ar gyfer y flwyddyn 2022/23. COFNODION: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd John Pughe yn Is-gadeirydd y
Pwyllgor ar gyfer y flwyddyn 2022/23. |
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn
unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. COFNODION: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Y Cynghorydd
Anne Lloyd Jones ac William Arthur Stockford (Harbwrfeistr
Aberdyfi). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn
unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. COFNODION: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Ystyried unrhyw eitemau sy’n fater brys
ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. COFNODION: Dim i’w nodi. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y
cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 29 Mawrth, 2022 fel rhai cywir. COFNODION: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion
y cyfarfod blaenorol o’r cyfarfod hwn a gynhaliwyd ar 29 Mawrth 2022, fel rhai
cywir. |
|
DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETHOL YR HARBWR PDF 246 KB Cyflwyno
adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Nodi a derbyn yr adroddiad . COFNODION: Cyflwynwyd yr adroddiadau isod, a
gwahoddwyd yr Aelodau i gynnig sylwadau am eu cynnwys a gofyn cwestiynau. Adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau yn rhoi diweddariad cryno i’r pwyllgor
ar faterion yr harbwr ar gyfer y flwyddyn a ddaw i ben Mawrth 2023. · Atgoffwyd yr aelodau fod cylch gorchwyl
pwyllgorau’r harbwr wedi cael ei greu o dan Adran 102 Deddf Llywodraeth Leol
1972 a bod Cabinet y Cyngor yn cadarnhau’r aelodaeth. · Eglurwyd fod Aelod Cabinet
Economi a Chymuned yn cael gwahoddiad i fynychu’r cyfarfodydd er mwyn trafod
materion pwysig gyda’r aelodau, cyn adrodd yn ôl i’r Cabinet ble fydd angen. · Datganwyd fod lleihad yn y
nifer o gychod ar angorfeydd yr harbwr. Mae hyn yn achosi pryder gan fod
gostyngiad o tua 30% wedi bod yn y ffigyrau hyn yn y blynyddoedd diwethaf, Er
hyn, cadarnhawyd fod gwaith yn cael ei wneud er mwyn hysbysebu’r angorfeydd er
mwyn cynyddu’r nifer o ddefnyddwyr unwaith eto. · Pwysleisiwyd fod yr harbwr
dal i fod yn brysur iawn. Fe welir tystiolaeth o hyn yn y ffaith fod nifer
uchel iawn o bobl wedi cofrestru i gadw eu cychod ar yr harbwr. Nodwyd hefyd
fod defnydd cyffredinol o gychod yn uchel iawn. Er bod y ffigyrau wedi lleihau
ychydig, mae’r defnydd o’r harbwr yn uchel iawn o’i gymharu gyda harbyrau
eraill y sir. · Cadarnhawyd bod cyfarfod
herio perfformiad wedi cael ei gynnal ar 21ain Hydref 2022. · Mynegwyd diolchiadau i bawb
o fewn y Clwb Hwylio, Outward Bound, y Clwb Rhwyfo a’r Bad Achub am gydweithio
mor effeithiol gyda’r harbwr yn ystod y flwyddyn. · Canmolwyd y cwmni sydd wedi
bod yn brysur yn ddiweddar yn gwneud gwaith adeiladu o gwmpas yr harbwr drwy
adnewyddu wal y cei. Roedd aelodau yn falch iawn fod grisiau pwrpasol yn cael
ei ymgorffori fewn i wal y cei ac y bydd y grisiau hyn yn defnyddiol er mwyn
bod o gymorth i’r rhai fydd yn ceisio mynediad at ei cychod wrth ymweld ac
Aberdyfi. o
Nodwyd bod un cornel o adeilad yr harbwr yn disgyn 10mm ac mae gwaith
yn cael ei wneud er mwyn sicrhau fod strwythur yr adeilad yn parhau i fod yn
gadarn · Holiwyd am leoliad cywir y
grisiau. Yn wreiddiol, credwyd bod y ddau set o risiau yn mynd i’r lanfa er
mwyn cynorthwyo’r cychod. Bellach mae un set o’r grisiau ar y lanfa ger
swyddfa’r harbwr ac un arall o flaen y Clwb Hwylio. o Cadarnhawyd fod y grisiau yn cael eu
rhannu ar gyfer y defnydd gorau i’r holl ddefnyddwyr cyn decaf â phosibl. Bydd
cynllun y gwaith adeiladu yn cael ei rannu gyda’r aelodau fel rhan o grŵp
ffocws er mwyn iddynt allu gweld sut bydd yr harbwr yn edrych yn dilyn yr holl
waith adeiladu sy’n mynd yn ei flaen ar hyn o bryd. Côd Diogelwch Morol Phorthladdoedd · Manylwyd fod yr harbwr wedi cymryd rhan
mewn dau asesiad diweddar gan Wylwyr y Glannau. Mae’r canlyniadau o’r asesiadau
hynny yn dangos fod yr harbwr yn cydymffurfio â’r côd. · Cadarnhawyd bod holl asesiadau risg ... view the full COFNODION text for item 7. |
|
ETHOL SYLWEDYDDION I ethol
sylwedyddion i wasanaethu ar y canlynol: a) Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr
Porthmadog b) Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Abermaw c) Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Pwllheli Penderfyniad: Etholwyd
Desmond George a David Williams yn Sylwedyddion ar Bwyllgorau Ymgynghorol
Harbyrau Pwllheli, Abermaw a Porthmadog.
COFNODION: PENDERFYNWYD Etholwyd Desmond
George yn Sylwedydd ar Bwyllgorau Ymgynghorol Harbyrau Pwllheli, Abermaw a
Porthmadog, ac i David Williams fynychu yn ei le os nad yw’n gallu bod yn
bresennol. |
|
DYDDIAD CYFARFOD NESAF Nodi y cynhelir cyfarfod nesaf Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi ar 21 Mawrth, 2023. COFNODION: Cadarnhawyd bod y cyfarfod nesaf ar y 21ain o Fawrth 2023. Cymerwyd y cyfle i ddiolch yn
fawr i’r Rheolwr Harbyrau am flynyddoedd o waith
caled ac am ei ymrwymiad a’i angerdd tuag at harbyrau’r
sir. Rhannwyd dymuniadau gorau iddo yn ei ymddeoliad. |