skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Neuadd Dyfi, Aberdyfi, LL35 0NR

Cyswllt: Glynda O'Brien  01341 424301

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd i’r pwyllgor hwn am y flwyddyn  2016-17.

Cofnod:

Penderfynwyd:          Ail-ethol y Cynghorydd Dewi Owen yn Gadeirydd i’r Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2016/17.

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd i’r pwyllgor hwn am y flwyddyn  2016-17.

Cofnod:

Penderfynwyd:          Ail-ethol y Cynghorydd Anne Lloyd Jones yn Is-gadeirydd i’r Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2016/17.

 

 

3.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Y Cynghorydd Mandy Williams-Davies (Aelod Cabinet Economi), Mr Nick Dawson (Outward Bound), Mr Nigel Willis (Clwb Cychod Aberdyfi), Mr Llyr B. Jones (Uwch Reolwr Economi a Chymuned)

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.  

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o gysylltiad personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

5.

COFNODION pdf eicon PDF 252 KB

I gadarnhau cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 10 Mawrth 2016. 

 

(Copi’n amgaeedig)

Cofnod:

Cyflwynwyd:               Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi gynhaliwyd ar y 10 Mawrth 2016.

 

Penderfynwyd:           Derbyn a chymeradwyo’r cofnodion fel rhai cywir.

 

4.1       Materion yn codi o’r cofnodionEitem 2.1 (c) Cynnal a Chadw

 

Adroddodd Mr Des George ei fod yn parhau i ymchwilio i ddyluniad winsh bwrpasol ar gyfer defnydd gan gychod sy’n cael eu lansio ac yn glanio wrth y Clwb Hwylio.

 

6.

ADRODDIAD GAN Y SWYDDOG MORWROL A PHARCIAU GWLEDIG pdf eicon PDF 277 KB

I ystyried adroddiad gan y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig.

 

(Copi’n amgaeedig)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd:             Adroddiad y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig, Mr Barry Davies, yn diweddaru’r pwyllgor ar faterion rheolaethol yr Harbwr gyda chyfeiriad penodol at y canlynol:-

 

(a)          Yr Harbwr

 

·         Nodwyd mai haf eitha’ cymysglyd a fu o ran tywydd ond cafwyd cychwyn gwych i’r tymor yn ystod gwyliau Sulgwyn pryd fu’r traethau a’r harbyrau yn brysur iawn. 

·         Mai 24 cwch ymwelwyr a ddaeth i’r harbwr sydd yn ffigwr gweddol sefydlog

·         Bod cynnydd yn y nifer o gychod pŵer a badau dŵr personol

·         Bod 79 cwch wedi eu cofrestru ar angorfeydd er yn nifer llai na’r gorffennol ‘roedd hyn yn adlewyrchu effaith yr economi gan nodi bod 110 o lefydd gwag yn Hafan Pwllheli

·         Fodd bynnag roedd gan Aberdyfi fantais i ddenu ymwelwyr o safbwynt atyniad y traeth a’r gweithgareddau lleol

·         Bod cydweithrediad y contractwr lleol wedi gwella eleni a hyderir y byddir yn adeiladu ar y berthynas.  Fodd bynnag roedd angen cydweithrediad pellach ynglŷn â’r tystysgrifau angorfeydd perthnasol

·         Mewn ymateb i ymholiad ynglŷn â hysbysebu i ddenu mwy o ymwelwyr, esboniwyd nad oedd cyllideb ar gael a bod y Gwasanaeth Morwrol wedi buddsoddi yn sylweddol yn y gorffennol mewn cylchgronau megis “Practical Boat Owner” ond ni welwyd gwerth ychwanegol drwy hysbysebu.  Nodwyd ymhellach bod Gwynedd yn elwa o ran niferoedd cychod pŵer a badau dŵr personol ac nid oedd llithrfa Aberdyfi wedi ei ddylunio ar gyfer cymryd cynnydd yn y nifer o gychod.

·         Sicrhawyd nad oedd unrhyw broblemau wedi deillio gyda Badau Dŵr Personol yn lansio o Ynys Las eleni a chadarnhawyd bod staff yr harbwr wedi treulio mwy o amser ar y dŵr eleni

 

(b)          Cod Diogelwch

 

Nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig y byddai’n anfon copi electroneg i aelodau’r Pwyllgor ac os nad oedd gan Aelodau gyfeiriad e-bost iddynt adael iddo wybod.  Nodwyd nad oedd y cod yn statudol ond yn ymarferiad da.  Byddai archwilwyr o Harbwr yng Ngogledd Iwerddon yn archwilio’r cod a hyderir y gallent gael sgwrs gyda Chadeirydd y Pwyllgor Ymgynghorol hwn.  Apeliwyd ar yr Aelodau i ddatgan os oedd ganddynt unrhyw faterion sy’n creu pryder.

 

O safbwynt honiadau diweddar ynglŷn ag aflonyddwch ar y dolffiniaid, sicrhawyd bod yr Harbwr Feistr wedi trafod gyda pherchnogion y Badau Dŵr Personol ac ar y pryd nid oeddynt yn ymwybodol eu bod yn achosi unrhyw aflonyddwch na niwed.

 

Mewn ymateb i gais y Cadeirydd ynglŷn â threfniadau yswiriant ar gyfer cychod pŵer a Badau Dŵr Personol, esboniwyd bod yn rhaid i berchnogion gyflwyno tystiolaeth drwy gyflwyno’r wybodaeth ar ffurflenni cofrestru.  Nodwyd ymhellach na chaiff unigolion rhwng 16 - 18 oed yrru Badau Dŵr Personol oni bai bod ganddynt gymhwyster priodol.    O safbwynt Badau Dŵr Personol yn lansio o’r Leri, yn anffodus nid oedd Ceredigion wedi mabwysiadu ‘run cynllun a Gwynedd.

 

Nododd Aelod nad oedd pob Badau Dŵr Personol yn achosi pryder a bod y mwyafrif yn cydymffurfio a’r rheolau. 

  

Yn ystod y drafodaeth ddilynol  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

DYDDIAD CYFARFOD NESAF

I nodi y cynhelir cyfarfod nesaf ar 28 Chwefror 2017. 

Cofnod:

Penderfynwyd:          Nodi y cynhelir nesaf y Pwyllgor Ymgynghorol ar 28 Chwefror 2017.