Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Virtual Meeting

Cyswllt: Natalie Lloyd Jones  E-bost: NatalieLloydJones@Gwynedd.llyw.cymru

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd.

Penderfyniad:

Etholwyd y Cynghorydd Dewi Owen fel Cadeirydd y Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi ar gyfer y flwyddyn 2021/22.

 

Cofnod:

Etholwyd y Cynghorydd Dewi Owen yn Gadeirydd y Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2021/22.

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-Gadeirydd.

Penderfyniad:

 

Etholwyd Y Cynghorydd Anne Lloyd Jones fel Is-gadeirydd y Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi ar gyfer y flwyddyn 2021/22.

Cofnod:

 

Etholwyd Y Cynghorydd Anne Lloyd Jones fel Is-gadeirydd y Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi ar gyfer y flwyddyn 2021/22.

3.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Y Cynghorydd Gareth Thomas (Aelod Cabinet - Economi), Llŷr B Jones (Pennaeth Cynorthwyol Economi ac Chymuned).

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. 

Cofnod:

          Dim i’w nodi.

 

5.

MATERION BRYS

Ystyried unrhyw fater sy’n teilyngu sylw brys ym marn y Cadeirydd.

Cofnod:

Dim i’w nodi.

6.

COFNODION pdf eicon PDF 228 KB

I gadarnhau cofnodion cyfarfod blaenorol o Bwyllgor Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi a gynhaliwyd ar 12 Tachwedd 2019. 

Cofnod:

 

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 5ed o Fawrth, 2019, fel rhai cywir.

 

7.

DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETHOL YR HARBWR pdf eicon PDF 204 KB

I drafod adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn cynnwys yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.

 

Cofnod:

Rhoddwyd diweddariad ar faterion rheolaethol yr harbwr gan y Uwch Swyddog Harbyrau gan bwysleisio bod y pandemig wedi cael effaith ar ffigyrau ar bob harbwr yng Ngwynedd. Ategwyd hyn gan y Cadeirydd.

 

Parhaodd i ddiweddaru’r aelodau’r Pwyllgor ar y pwyntiau canlynol:

 

-        Adroddwyd ar yr angorfeydd blynyddol a’r lleihad a welwyd y flwyddyn 2020 sef bod 47 o gychod o gymharu â 68 yn 2019. Rhagdybiwyd bod llawer o bobl wedi penderfynu peidio defnyddio eu cychod yn ystod y cyfnod hwn.

-        Adroddwyd ar y niferoedd o gychod a chychod dwr personol y cofrestrwyd gan nodi bod cynnydd wedi bod yn niferoedd cychod dwr personol.

-       Cyfeiriwyd at yr adroddiad gan nodi bod yr holl ystadegau perthnasol wedi eu nodi fan hyn, a chroesawyd cwestiynau ar y rhain.

 

Trafodwyd y Cod Diogelwch Morwrol a gofynnwyd i’r aelodau i roi gwybod i’r Gwasanaeth os bydd unrhyw sylwadau ynghylch hyn. Parhawyd i drafod sefyllfa staff yr harbwr, gan ddiolch iddynt am eu gwaith dros y cyfnod clog. Nodwyd eu bod wedi parhau i weithio drwy gydol y pandemig er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd ag diogelwch yr harbwr.

 

Mewn perthynas ag sefyllfa rheoliadau Covid-19, nodwyd bod arwyddion o amgylch yr harbwr wedi eu gosod i helpu gyda chydymffurfiad ac i sicrhau iechyd staff.

 

Croeswyd yr Harbwrfeistr Cynorthwyol ar ei benodiad ar gytundeb parhaol erbyn hyn. Parhawyd i nodi bod ei gyfraniad wedi bod yn allweddol i gynorthwyo’r Harbwrfeistr dros y cyfnod anodd hwn. Ar ben y penodiad hwn, nododd yr Uwch Swyddog Harbyrau bod bwriad i benodi 2 swyddog traeth eleni gan eu bod yn rhagweld y bydd llawer iawn o bobl yno dros yr haf eleni.

 

Mewn perthynas â materion ariannol, nodwyd nad oedd ffigyrau cyfredol ar gael gan yr uned cyllid hyd hyn, fodd bynnag sicrhawyd y bydd y rhain ar gael i Aelodau yn fuan. Diweddarwyd ar y sefyllfa ariannol gan nodi bod incwm yn ddifrifol o ganlyniad i niferoedd llai o gychod a rhagwelid y bydd ansicrwydd teithio yn cael effaith ar hyn eleni. Ategwyd at hyn gan nodi bod aelodau’r Cyngor wedi cefnogi a gostwng targedau incwm i gymryd ystyriaeth heriau'r diwydiant morwrol.

 

Diolchwyd i’r Harbwrfeistr A’r Cymhorthydd Harbyrau am y gwaith llynedd mewn cyfnod prysur iawn er ei fod yn dymor byr. Atgyfnerthwyd pwysigrwydd eu swyddi mewn perthynas â chadw’r harbyrau a thraethau yn saff.

 

Yn ystod y drafodaeth cododd y sylwadau canlynol;

 

-        Diolchwyd i’r holl staff harbyrau gan Aelodau ABC.

-        Ategwyd bod yr ardal wedi profi nifer uchel iawn o ymwelwyr a rhagwelir y bydd hyn yn digwydd eto eleni  a bydd staff yr harbwr yn brysur iawn, pwysleisiwyd eu bod angen pob cefnogaeth.

-        Cydymdeimlwyd a’r adran gan fod incwm yn amlwg wedi lleihau oherwydd y cyfyngiadau sydd wedi bod.

-        Derbyniwyd bod angen codi incwm fodd bynnag cynigwyd byddai cadw ffioedd yr un fath yn cynyddu’r nifer fydd yn talu.

 

Mewn ymateb i rai sylwadau nodwyd;

 

-        Bod y Cyngor yn gefnogol iawn i sefyllfa ariannol yr harbyrau a bod  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

ADRODDIAD YR HARBWRFEISTR pdf eicon PDF 194 KB

I drafod adroddiad yr Harbwrfeistr.

Penderfyniad:

Derbyn cynnwys yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Harbwrfeistr yn nodi’r prif bwyntiau ar y materion gwiethredol fel a ganlyn:

-        Nodwyd bod staff wedi gweithio drwy’r cyfnod pandemig â'i fod yn eithriadol o brysur. Ategwyd bod heriau wedi codi wrth sicrhau bod pawb yn deall peryglon ar yr Aber.

-        Gwnaed llawer o wait hi sicrhau diogelwch y bobl drwy sicrhau pellter cymdeithasol a gosod arwyddion, ategwyd bod yr adran wedi darparu deunyddiau priodol o ran PPE i’r staff.

-        Cynigwyd dosbarthu fersiwn ddigidol o siart yr harbwr i weld lleoliadau'r AEC unwaith bydd fersiwn terfynol

-        Rhoddwyd trosolwg ar waith cynnal a chadw amrywiol sydd wedi digwydd dros y cyfnod.

-        Nodwyd bod partneriaeth cydweithio efo Outward Bounds a bod prosiect yn cael ei redeg ganddynt.

-        Mewn perthynas â Chanolfan Dyfi, nodwyd nad oedd newidiadau ond bod man addasiadau o fewn y ganolfan wedi bod er mwyn cwrdd ag anghenion.

-        Nodwyd bod yr adran yn disgwyl am newyddion efo codi cyfyngiadau gan fod ceisiadau gan PWC Gwynedd, Clwb Jetski, ayyb. Wedi dod i gynnal digwyddiadau.

-         

 

 

Yn ystod y drafodaeth cododd y sylwadau canlynol:

 

-        Diolchwyd i’r Harbwrfeistr am ei holl waith.

-        Holwyd a oes cynllun gwaredu a thywod eleni

-        Ategwyd aelod nad oes llawer o dywod eleni gan fod y gwynt wedi ei symud yn ôl, parhaodd i atgyfnerthu pwysigrwydd wal y cei gan ei fod wedi difrodi.

-        Diolchwyd am y cynlluniau ar y llithrfa gan fod lansio o Fae’r Eglwys wedi bod yn rhwystredig

-        Holwyd beth oedd cynlluniau ar gyfer trin y wal wrth yr hen lithrfa’r bad achub gan fod crac amlwg yno.

-        Gofynnwyd a oes unrhyw gynlluniau i glirio’r promenâd a’r maes parcio yn fuan.

-        Tynnwyd sylw’r swyddogion at gyflwr gwael y rheiliau rhwng y maes parcio a’r promenâd, gofynnwyd a oedd hyn yn fater i’r harbwr ynteu adran arall.

 

Mewn ymateb, nododd yr Harbwrfeistr y canlynol:

 

-        Nad oes cynlluniau tywod ar hyn o bryd gan nad ydy’n blaenoriaeth, fodd bynnag bydd adolygiad i’r sefyllfa os bydd yn gwaethygu. Ategodd bod arian wedi mynd ar amddiffyn wal y cei a bod diffyg cyllid.

-        Ategodd bod yr afon yn symud a thywod yn symud fel sydd wedi digwydd yn y gorffennol.

-        Nododd bod yr adran YGC yn rheoli’r gwaith adfer y cei ar ran y Cyngor ac mae’r cyflwr yn parhau i gael ei fonitro. Ategodd bod hyn wedi mynd allan i dendr unwaith eto.

-        Mewn perthynas â’r crac yn y wal, nododd mai adran YGC sy’n ei archwilio bob tri mis a'u bod yn gyfrifol am gynnal a chadw.

-        Bydd gwaith clirio yn digwydd yn gymharol fuan ar y promenâd a’r maes parcio.

-        Nododd bydd y rheiliau yn cael eu trin pan fydd cyllid ar gael, ond yn y cyfamser bydd hwn yn cael ei fonitro rhag gwaethygu.

 

 

9.

UNRHYW FATER ARALL

I drafod unrhyw fater arall sydd angen ystyriaeth gan y pwyllgor.

Cofnod:

Datgan bob cydymdeimlad ar golli’r Cynghorydd Brian Bates yn ddiweddar, un a fuodd yn aelod ffyddlon o’r pwyllgor ac yn cyfrannu’n sylweddol, bob tro yn sgwrsio a rhoi barn ac arbenigedd. Roedd yn wylwr y glannau am flynyddoedd a rhoddodd gyfraniad lleol sylweddol. Bydd colled ar ei hôl a’i gwasanaeth morwrol i’r gymuned Aberdyfi.

 

10.

DYDDIAD CYFARFOD NESAF

I nodi dyddiad nesaf cyfarfod o’r Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi.

Cofnod:

Tachwedd 2ail wedi ei glustnodi drwy Bwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth. Bydd y dyddiad yn cael ei gylchredeg unwaith fydd y calendr yn cael ei gadarnhau.