Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Neuadd Dyfi, Aberdyfi, LL35 0NR. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Glynda O'Brien  Swyddog Cefnogi Aelodau a Chraffu

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd i’r Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2015-16.

Cofnod:

 

Penderfynwyd:       Ail-ethol y Cynghorydd Dewi Owen yn Gadeirydd i’r Pwyllgor hwn  am y flwyddyn 2015/16.

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd i’r pwyllgor hwn am y flwyddyn  2015-16.

Cofnod:

Penderfynwyd:       Ail-ethol y Cynghorydd Anne Lloyd Jones yn Is-gadeirydd i’r Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2015/16.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Cyng. Mike Stevens, Mr Paul Fowles (Siambr Fasnach Aberdyfi), Y Cynghorydd Mandy Williams-Davies (Aelod Cabinet Economi), Mr Llyr B. Jones (Uwch Reolwr Economi a Chymuned),

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o gysylltiad personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

5.

MATERION BRYS

I ystyried unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.  

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys.

6.

COFNODION pdf eicon PDF 276 KB

I gadarnhau cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 3 Mawrth 2015.

Cofnod:

Cyflwynwyd:                         Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi gynhaliwyd ar y 3 Mawrth 2015.

 

Penderfynwyd:       Derbyn a chymeradwyo’r cofnodion fel rhai cywir.

 

7.

ADRODDIAD GAN Y SWYDDOG MORWROL pdf eicon PDF 238 KB

I ystyried adroddiad gan Mr Barry Davies, Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd:                       Adroddiad y Swyddog Morwrol, Mr Barry Davies ar weithgareddau harbwr Aberdyfi gyda chyfeiriad penodol at y canlynol:-

(A)       Ffigurau angorfeydd Harbwr Aberdyfi

Cyflwynwyd y ffigurau ar gyfer 2015/16 ac fe nodwyd bod y nifer yn siomedig ond bod hyn yn deillio o dywydd anffafriol yr haf a sefyllfa fregus economi y sector forwrol. Nodwyd y pwyntiau canlynol:

 

-       Bydd y nifer llai yn cael effaith ar incwm ac felly bydd angen torri ar wariant a chyllidebau. Roedd y lleihad yma’n gyffredinol ar draws y wlad ac yn ehangach, tynnwyd sylw fod rhai marinas yn Ewrop gyda uchafswm o 30% mewn defnydd o angorfeydd.

-       Hyderir bod y crebachiad yn y sector forwrol bellach wedi dod i ben a rhagwelir na fydd lleihad pellach gyda’r farchnad yn araf dyfu dros y ddwy flynedd nesaf.

-       Mae ffurf yr adroddiad a gyflwynwyd wedi newid i fod yn llai hanesyddol ac yn fwy cryno, ond nodwyd bod manylion llawn ar gael i unrhyw un sydd eisiau ar ffurf electronig neu bapur.

-       Mae Gwynedd yn llwyddo i gadw nifer y cychod pŵer yn sefydlog. Mae defnydd uchel o fadau dwr yng Ngwynedd o’i gymharu â siroedd cyfagos Ceredigion, Ynys Môn a Chonwy. Un o’r ffactorau allweddol yw’r cyfleusterau a trefniadau croesawu sydd yn cael eu cynnig i ddefnyddwyr cychod yng Ngwynedd

-       Diolchwyd yn arbennig I Bwyllgor Gwelliannau a Hysbysebu Aberdyfi am Becynnau Ymwelwyr Aberdyfi a’u safon uchel.

-       Nodwyd awydd i ehangu’r arfer llwyddiannus yma i ardaloedd eraill o Wynedd.

-       Gwnaed cais gan y Cadeirydd i nodi’r nifer o ymwelwyr ag Aberdyfi yn yr adroddiad. Cytunodd y Swyddog Morwrol a Pharciau i wneud hyn yn yr adroddiad nesaf ar gyfer mis Mawrth 2016. 

 

Penderfynwyd:      

-       Derbyn a nodi’r uchod.

-       Swyddog Morwrol a Pharciau i nodi nifer ymwelwyr yn yr adroddiad nesaf ar gyfer mis Mawrth 2016. 

 

(B)       Cod Diogelwch Morwrol

 

-       Nodwyd bod y Cod Diogelwch Morwrol wedi’i fabwysiadu’n llawn yn dilyn trafodaethau yn y Pwyllgorau Harbwr a’i fod yn cael ei adolygu’n rheolaidd. Fe ddosbarthwyd copi i’r Aelodau eisoes ac mae ar gael ar wefan y Cyngor.

-       Mae mabwysiadu’r Cod yn ymarfer da, ond nodwyd ei fod yn gallu bod yn anaddas mewn rhai sefyllfaoedd gan fod y Cod yn gofyn am yr un fath o ofynion i Harbyrau cymharol fach fel Aberdyfi a Harbyrau mawr a llawer prysurach fel Dover. Byddai’n fuddiol cael canllawiau mwy cymwys a phwrpasol ar gyfer harbyrau llai eu maint.

-       Bydd y Swyddog Morwrol a Pharciau’n anfon linc electronig at Aelodau yn dilyn ymgynghoriad gan y Llywodraeth i ddeddfwraieth arfaethedig a fyddai yn addasu pwerau diddymu harbyrau ac harbyrau cymwys.

-       Anogwyd yr Aelodau i godi unrhyw bryderon ynglŷn â harbwr Aberdyfi cyn gynted â phosibl yn dilyn y digwyddiad a gallai aelodau wneud hyn drwy gysylltu gyda’r Harbwr Feistr neu’r Swyddog Morwrol a Pharciau.

-       Yn ogystal mae lle i wyntyllu’r materion yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

MATERION I'W HYSTYRIED AR GAIS AELODAU'R PWYLLGOR YMGYNGHOROL

Compownd y Pysgotwyr

9.

DYDDIAD CYFARFOD NESAF

I nodi y cynhelir cyfarfod nesaf y Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi ar 10 Mawrth 2016.

Cofnod:

Penderfynwyd:      

Nodi y cynhelir nesaf y Pwyllgor Ymgynghorol ar 10 Mawrth 2016.