Lleoliad: Ystafell Dwyryd, Penrhyndeudraeth
Cyswllt: Annes Sion 01286 679490
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Cyng. Cemlyn
Williams, Elen Williams (Ysgol Brynrefail) ac Annest Gray Frazer (Esgobaeth).
Croesawyd aelodau newydd y Fforwm i’w cyfarfod cyntaf. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd
unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|
I
gadarnhau cofnodion cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 24 Mehefin 2019. (Copi’n amgaeedig) Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r Fforwm Cyllideb Ysgolion a
gynhaliwyd ar 24 Mehefin fel rhai cywir. |
|
MATERION YN CODI O’R COFNODION Eitem 7 –
Nid oedd balansau ysgolion Gwynedd yr uchaf yng
Nghymru 31/03/2019 Cofnod: Mynegwyd o ran ystadegau cenedlaethol o falansau
ysgolion nad oedd Gwynedd yn y man uchaf, a bod Abertawe wedi cyrraedd y brig.
Nodwyd fod Gwynedd ar 4.5% ac ar gyfartaledd yn îs nac y 5% mae gofyn iddynt ei
gyrraedd. Ychwanegwyd os yn edrych ar falansau uwchradd mae 12 o’r 22 awdurdod
yng Nghymru yn y minws. |
|
BALANSAU YSGOLION 31/03/2020 DROS £50,000 NEU £100,000 Adroddiad
llafar gan Owen Owens. Cofnod: Tynnwyd sylw at gofnod y cyfarfod blaenorol ble
nodwyd fod holiadur am gael ei anfon i’r ysgolion sydd â balansau dros £50,000
(cynradd) neu £100,000 (uwchradd). Nodwyd bod 20 ysgol yn disgyn i mewn i’r categori
hwn a bod holiaduron wedi’u derbyn yn nodi beth fydd yr ysgolion yn gwneud
gyda’r arian. Nodwyd bod rhaid mynd yn ôl at 3 ysgol er mwyn derbyn mwy o
fanylder na’r hyn a gyflwynwyd yn eu holiaduron gwreiddiol. Adroddwyd ymhellach bod:
Penderfynwyd: Derbyn yr adroddiad
llafar. |
|
RHAGOLYGON YSGOLION 2020/21, 2021/22 A 2022/23 Adroddiad
llafar gan Hefin Owen Cofnod: Esboniwyd fod y flwyddyn hon yn flwyddyn unigryw
gan nad oedd Fforwm Cyllideb wedi ei gynnal am fis Hydref gan fod y setliad gan
Lywodraeth Cymru wedi bod yn hwyr. Amlygwyd fod y Cyngor wedi gofyn i holl
adrannau i ddod o hyd i arbedion o hyd at £2miliwn ar draws y Cyngor. Er mwyn
trafod a chraffu’r arbedion hyn esboniwyd fod trafodaethau wedi’u cynnal yn
edrych ar arbedion yr holl adrannau. Esboniwyd fod yr Adran Addysg wedi amlygu
toriadau amrywiol i ysgolion fel un o’r opsiynau ar gyfer dod o hyd i’w targed
arbedion ond fod y Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi wedi gwrthod yr opsiwn
hwn. Yn dilyn derbyn y setliad drafft, amlygwyd fod y Cabinet wedi penderfynu
am eleni i beidio gweithredu’r toriadau. Nodwyd o ran y Strategaeth Ddigidol nad oedd dim
i’w nodi ac nad yw’r toriad yma yn cael ei weithredu bellach. Mynegwyd nad oes
unrhyw ymrwymiad ariannol i ysgolion yn 2020/21. Ychwanegwyd fod rhai wedi
meddwl fod yr arian Cynnal ar gael ar gyfer y strategaeth ddigidol ond mynegwyd
ei fod yn arian ychwanegol. Pwysleisiwyd fod angen trafodaeth bellach ac i
flaen gynllunio ar gyfer y flwyddyn nesaf. Felly nodwyd y bydd y Pennaeth
Technoleg Gwybodaeth yn mynychu’r cyfarfod nesaf. Mynegwyd fod Llywodraethwyr wedi derbyn
rhagolygon am eleni ac esboniwyd yr addasiadau oedd i’w gweld. Mynegwyd fod
‘Integreiddio arall’ yn cael ei symud i’r canol rhag ofn y bydd mwy o angen am
integreiddio datganiadau. Bydd yr adran yn ymgynghoriad ar opsiynau o beth i
wneud gyda’r arian. O ran gwariant parhaol nodwyd y bydd yr ymatebion yn dod yn
ôl erbyn 2 Mawrth ac yna ym mynd i drafodaeth yn y Cabinet. Eleni, ategwyd, fod
£392,000 yn y canol a thymor y gwanwyn heb ei gyfri eto. Mynegwyd fod llythyr
yn cael ei anfon yn egluro’r sefyllfa. Amlygwyd y llinell newydd yn y rhagolygon ar
gyfer ADY o ganlyniad i’r datblygiadau sydd yn digwydd. Er hyn pwysleisiwyd fod
angen ei weld cyn gweld clir ei ystyr. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾
Mynegwyd fod angen anfon y llythyr rhagolygon
i’r Ysgolion yn gynt, gan ei fod wedi cyrraedd pnawn cyn y cyfarfod strategol
ac felly buasai ei dderbyn yn gynt yn galluogi trafodaeth o safon uwch. ¾
Trafodwyd ADY gan nodi fod
rhai Penaethiaid yn cael mwy o wybodaeth ac eraill gan fod rhai ar hap yn cael
ei gwahoddi gyfarfodydd. Pwysleisiwyd pwysigrwydd fod pawb yn cael y wybodaeth
mewn digon o amser. ¾
Holwyd os oes bwriad gan yr
adran i drafod ADY gyda’r holl benaethiaid ac Aelodau’r Fforwm gan fod plant yn
cael eu hamlygu yn y datganiad ond fod arian yn cael ei dynnu oddi ar ysgolion
ar gyfer 1:1. Nodwyd y bydd cyflwyniad ar y cyd a chyllid a’r arweinwyr maes i
roi dealltwriaeth a mewnbwn ar sut y bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio. Penderfynwyd: Derbyn yr adroddiad a gofynnwyd am adroddiad
pellach gyda dadansoddiad ar bapur er mwyn rhoi'r darlun ehangach o waith ADY. |
|
GRANTIAU YSGOLION 2020/21 Adroddiad
llafar gan Hefin Owen Cofnod: Nodwyd o ran Grant y Chweched fod y rhagolygon
yn ymddangos y bydd cynnydd o 8-9% i ymdopi gyda’r cynnydd mewn costau. Er hyn,
amlygwyd y bydd angen mwy i ddelio a chostau yn 2020/21.Ychwanegwyd bydd
adroddiad y cyfrifwyr ar y 5 Chwefror a bod yr adran yn ffyddiog y bydd arian
ar gael. O ran grant Gwella Addysg nodwyd nad oes bygythiad i’r grant
ond nad yw’r adran wedi derbyn unrhyw wybodaeth yn ffurfiol. Nodwyd fod Grant Ychwanegol ADY o £280,000. O ran Grant Datblygiad Proffesiynol mynegwyd fod
yr arian yn mynd yn ganolog i GwE. Ychwanegwyd y bydd GwE yn nodi sut i
ddefnyddio'r arian yn ddibynnol ar ddisgwyliadau’r Llywodraeth. |
|
SETLIAD DRAFFT - STRATEGAETH ARIANNOL CYNGOR GWYNEDD 2020/21 Adroddiad
llafar gan Dafydd L Edwards Cofnod: Pwysleisiodd yr Aelod Cabinet fod y penderfyniad
ar Gyllideb y Cyngor yn cael ei wneud gan y Cyngor llawn, nid gan Aelodau’r
Cabinet. Nododd y Pennaeth Cyllid yn ystod yr haf
diwethaf eu bod wedi i’r rhagamcan y bydd angen £2miliwn o arbedion ar draws y
Cyngor. Amlinellwyd y prif bwyntiau megis y bydd swm uchel o dros 2% o gynnydd
mewn chwyddiant. Nodwyd fod pwysau a galw yn uchel yn y maes gofal. Er hyn mynegwyd fod y gyllideb yn eithaf positif
o ganlyniad i setliad uwch na’r disgwyl, ond nad yw’r setliad grant Llywodraeth
yn cyfarch y galw ychwanegol am wasanaethau gofal. Nodwyd o’r £2miliwn o
arbedion fod gwerth £1m ohonynt yn arbedion effeithlonrwydd, ac i’w cynhaeafu,
ond fod y £1m arall am gael effaith ar bobl Gwynedd, ac felly i’w osgoi. O
ganlyniad i hyn mi fydd bwlch gweddilliol o £3miliwn i’w gyfarch drwy godi’r
dreth Cyngor 3.9%. Pwysleisiwyd fod trafodaethau yn parhau am y gyllideb. Esboniwyd fod bid cludiant wedi ei wneud gan yr
adran er mwyn ariannu i’r lefel gwariant cyfredol. Eglurwyd fod y setliad grant
Llywodraeth yn well nac beth oedd y Cyngor wedi ei ddisgwyl, ac yn cwrdd â
chwyddiant, os nad yn cwrdd â’r twf mewn galw am wasanaethau, ac o ganlyniad
fod y Cabinet wedi penderfynu peidio cynhaeafu’r cynllun arbedion cyffredinol
ar gyfer Ysgolion. Felly, bydd arbedion
ddim yn amharu ar y gymhareb disgybl:athro yn y fformiwla dyrannu rhwng 2019/20
a 2020/21. Esboniwyd nad oedd y sefyllfa yn glir ar gyfer
2020/21 eto, ond bydd rhaid cael penderfyniad y Cyngor llawn ar Gyllideb
2020/21 ar y 5ed o Fawrth 2020. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾
O ran cyfraniadau pensiwn
athrawon, eglurwyd fod y cynnydd o Fedi 2019, a ni ddisgwylir newid pellach o
Fedi 2020. ¾
O ran cynlluniau arbedion i
ysgolion, nodwyd nad oedd y Cabinet am gynhaeafu’r cynllun am Adnoddau staff
dysgu. Ychwanegwyd fod Aelodau wedi cefnogi safbwynt ysgolion a bod y sefyllfa
ariannol ddiweddaraf wedi galluogi’r Cyngor i allu osgoi’r arbedion hyn. |
|
CYTUNDEBAU LEFEL GWASNAETH PDF 75 KB Adroddiad
gan Owen Owens Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Tywyswyd y Fforwm drwy’r
tablau sydd y cynigion ar gyfer y tair blynedd nesaf. Mynegwyd fod ymgynghoriad
wedi ei gynnal ac amlygwyd addasiadau rhwng fersiynau newydd a hen y
cytundebau. Mynegwyd fod yr adroddiad yn gofyn am sêl bendith i’r cytundebau. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾
Amlygwyd fod taenlen wahanol yn y Cyfrifoldebau
Awdurdod / Ysgolion yn y cytundeb Eiddo. Mynegwyd fod hyn oherwydd ei fod yn
wahanol yn yr Ysgolion Cynradd ac Uwchradd. Penderfyniad Rhoddwyd sêl bendith
ar gynnig y Cytundebau Lefel Gwasanaeth a oedd i’w gweld fel atodiadau i’r adroddiad hwn i ysgolion. |
|
DYDDIAD CYFARFOD NESAF Bydd y cyfarfod nesaf yn cael ei
gynnal yn Ystafell Dwyryd, Penrhyndeudraeth ar yr 2il o Fawrth 2020. Cofnod: Nodwyd y bydd y cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal ar yr 2il Mawrth
ychwanegwyd y bydd y rhaglen yn cynnwys yr isod: 1.
Strategaeth
Ddigidol 2.
Gwasanaeth
ADY 3.
Dyraniad
Intergreiddio |