Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Teams
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb. COFNODION: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Y Cynghorydd
Ioan Thomas (Aelod Cabinet Cyllid), Dilwyn Williams (Prif Weithredwr), Dewi
Lake (Pennaeth Ysgol y Moelwyn), Alan Wynn Jones (Pennaeth Ysgol Cymerau) a
Donna Roberts (Ysgolion Arbennig). Nododd y Cadeirydd fod 2 sedd wag ar y
Fforwm o hyd – y naill ar gyfer llywodraethwr cynradd o Feirionnydd, a’r llall
ar gyfer llywodraethwr uwchradd o Ddwyfor.
Nododd hefyd nad oedd cynrychiolydd yr Esgobaeth yn mynychu cyfarfodydd y
Fforwm. Nododd y Swyddog Gwasanaethau
Democrataidd y byddai’n mynd ar ôl y materion hyn erbyn y cyfarfod nesaf. Nododd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Adnoddau
Addysg fod Neil Foden wedi rhoi’r gorau i’w rôl fel cynrychiolydd NEU ar y
Fforwm Undebau Athrawon, ac y gobeithid penodi olynydd iddo erbyn y cyfarfod
nesaf. Cytunwyd i anfon nodyn at Neil
Foden i ddiolch iddo am ei wasanaeth a’i gyfraniad i waith y Fforwm hwn. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw
ddatganiadau o fuddiant personol. COFNODION: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. COFNODION: Dim i’w nodi. |
|
Cadarnhau
cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 25 Ionawr, 2021. COFNODION: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod
blaenorol o’r Fforwm a gynhaliwyd ar 25 Ionawr, 2021 fel rhai cywir. |
|
MATERION YN CODI O’R COFNODION Trafod unrhyw
faterion yn codi o’r cofnodion. COFNODION: Eitem 5 – Materion yn codi o Gofnodion
Cyfarfod 28 Medi, 2020 ·
Materion
Ariannol COFID-19 Cadarnhawyd y
derbyniwyd ad-daliad o’r golled incwm prydau ysgol. Nodwyd y caewyd cyfrifon 2021/22 heddiw, a
bod tua £700,000 o gronfa Cofid yn dod i’r ysgolion, gyda £400,000 yn
digolledu’r sector uwchradd am golled incwm arlwyaeth i ddiwedd y flwyddyn
ariannol. ·
Cyllid
Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) Yn dilyn trafodaethau yn y Grŵp Strategol,
y penderfynwyd adrodd yn ôl erbyn Mawrth 2022, yn hytrach na 2021, ar
ganlyniadau’r trafodaethau ynglŷn â sail dyrannu dyraniad strategaeth
cynhwysiad yn y fformiwla, gan fod y penaethiaid yn awyddus i gael mwy o amser
i ystyried y gwahanol opsiynau. ·
Nodwyd
bod cyfran helaeth o’r grantiau dderbyniwyd angen eu gwario erbyn 31 Mawrth
eleni, ond bod Llywodraeth Cymru wedi caniatáu i’r cynghorau lithro’r rhan o’r
grant Cyflymu Dysgu a dderbyniwyd i’r haf. Eitem 6 – Rhagolygon Ysgolion Nodwyd y derbyniwyd arian effaith demograffi
a chwyddiant, fel sy’n arferol. Nid oedd
yn glir ar y pryd a fyddai rhai bidiau’n llwyddiannus, ac roedd yr ysgolion
wedi darganfod £160,000 o arbedion yn 2021/22 i gyfrannu tuag at fidiau addysg
aflwyddiannus. Codwyd lefel y Dreth
Gyngor i ariannu’r bid o tua £225,000 i gryfhau darpariaeth ADY blynyddoedd
cynnar, ac ni fu’n rhaid torri ar y gyllideb ysgolion i gyllido hyn. Nodwyd y parheid i ddisgwyl cadarnhad gan
Lywodraeth Cymru am grantiau 2021/22.
Derbyniwyd neges heddiw ynglŷn â’r grant datblygu disgyblion sy’n
cael ei ddyrannu ar sail nifer y disgyblion ysgol sy’n cael cinio ysgol am
ddim, ond ni fyddai Gwynedd yn derbyn y grant tan ar ôl yr Etholiad ar y 6ed o
Fai. Yn y cyfamser, byddai’n amcangyfrif
gwerth y grant fel y gellid symud ymlaen. Eitem 8 – Strategaeth Ddigidol Ysgolion Nodwyd bod y trafodaethau’n parhau ar lefel
Prif Weithredwr Cyngor Gwynedd ar y cyd â Chyngor Ynys Môn a Cynnal. Eitem 9 – Cytundebau Lefel Gwasanaeth
2021-24 Nodwyd, wrth egluro’r cytundebau lefel
gwasanaeth, y byddai’n rhaid edrych ar ail-ddyrannu’r arian sy’n mynd i
ysgolion ar sail wahanol. Roedd hyn
wedi’i gytuno mewn egwyddor eisoes, ond nid oedd yn glir eto beth fyddai’r
effaith ar yr ysgolion unigol, a byddai’n rhaid dod â hyn i’r Fforwm er mwyn
gweithredu erbyn y flwyddyn nesaf. Eitem 10 – Dyddiad y Cyfarfod Nesaf Nododd y Cadeirydd y canslwyd cyfarfod 1
Mawrth o’r Fforwm gan nad oedd yna unrhyw faterion i’w trafod, ond gan iddo
dderbyn cwyn ynglŷn â hynny gan ddau aelod, trefnwyd cyfarfod heddiw fel
cyfarfod ychwanegol o’r Fforwm.
Ychwanegodd na fu’n bosib’ cael dyddiad cynharach na hyn. |
|
CYTUNDEBAU LEFEL GWASANAETH - 2021-24 PDF 118 KB Adroddiad gan
Owen Owens (Uwch Reolwr Gwasanaeth Adnoddau Addysg) Dogfennau ychwanegol: COFNODION: Cyflwynwyd –
adroddiad gan yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Adnoddau Addysg yn nodi bod y
cytundebau canlynol wedi dod i ben ar 31/3/21:- ·
Arlwyo,
Glanhau a Gofalu a Chynnal Tiroedd (cynradd / uwchradd / arbennig a dilynol) ·
Canolfan
Fusnes Addysg (cynradd) Eglurwyd - ·
Y
cynigiwyd y cytundebau Arlwyo, Glanhau a Gofalu a Chanolfan Fusnes Addysg am y
cyfnod 1/4/21 i 31/3/24. ·
Y cynigiwyd
y cytundeb Cynnal Tiroedd am flwyddyn (1/4/21 i 31/3/22) gan fod y gwaith yn
parhau o fodelu dyraniadau ar gyfer Cynnal Tiroedd i ysgolion, fel eu bod yn
adlewyrchu gofynion cynnal tiroedd y safleoedd unigol yn well. ·
Y
cynhaliwyd proses ymgynghori gydag ysgolion parthed y Cytundebau Lefel
Gwasanaeth oedd yn cael eu cynnig iddynt yn Ebrill, 2021. ·
Y
derbyniodd yr ysgolion gopïau o’r CLGau drafft a gyflwynwyd gan y gwasanaethau,
gan amlygu’r newidiadau ynddynt o’u cymharu â’r CLGau blaenorol. Cyflwynwyd –
crynodeb o ymatebion yr ysgolion, a sylwadau’r ysgolion ar y gwahanol
gytundebau. Gan gyfeirio
at sylwadau’r ysgolion ar y cytundeb cynnal tiroedd, holwyd pam bod cynifer
ohonynt naill ai’n defnyddio, neu’n chwilio am gontractwr eu hunain. Mewn ymateb, nodwyd nad oedd y flwyddyn
ddiwethaf wedi bod yn flwyddyn arferol i allu rhoi barn ar y gwasanaeth, gan
fod y gwaith torri gwair wedi’i atal am gyfnod oherwydd y cyfnod clo. Nodwyd ymhellach bod y gwasanaeth canolog yn
cynnig gwarant o ran materion megis iechyd a diogelwch, ac yswiriant, ac ati,
yn wahanol i gontractau allanol, ond cydnabyddid bod angen i’r gwasanaeth
werthu ei hun yn well i’r ysgolion. Mynegodd y
Cadeirydd ei bryder fod Ysgol Dyffryn Ogwen yn gwario mwy ar gynnal y
gwasanaeth arlwyo nag ysgolion eraill.
Mewn ymateb, nodwyd bod yna amrywiaeth yn y fwydlen ar draws y sir, a
bod modd i ysgolion wneud mwy o elw drwy werthu prydau llawn, na
byrbrydau. Rhwng Cofid, ac amgylchiadau
eraill, ni fu’n hawdd cael cyfnod arferol i allu gweld beth yn union oedd y tu
cefn i hyn, ond bwriedid edrych ar y sefyllfa dros yr wythnosau nesaf. Mynegodd
Pennaeth Ysgol Tryfan ei werthfawrogiad o’r capasiti glanhau ychwanegol oedd
wedi bod ar gael i’r ysgolion yn ystod y cyfnod Cofid, gan nodi bod hyn wedi
hwyluso pethau’n fawr, ac wedi codi cynyddu hyder y staff a’r disgyblion. PENDERFYNWYD derbyn yr wybodaeth. |
|
EITEMAU AR GYFER Y CYFARFOD NESAF Ystyried eitemau
ar gyfer cyfarfod nesaf y fforwm. COFNODION: Gofynnwyd
i’r Fforwm ystyried eitemau ar gyfer y cyfarfod nesaf. Mynegwyd
dymuniad i roi’r cais am eitemau gerbron y cyfarfod penaethiaid. Mynegwyd
pryder bod cynifer o grantiau wedi cyrraedd ar y funud ddiwethaf, fel y bu’n
amhosib’ gwario’r arian cyn diwedd y flwyddyn ariannol. Pwysleisiwyd
pwysigrwydd cyfleu’r neges honno, rhag i bobl gamddehongli sefyllfa ariannol yr
ysgolion, a meddwl bod ganddynt falansau uwch nag sydd ganddynt mewn
gwirionedd. Ategodd y
Pennaeth Cyllid y sylw drwy nodi fod y Cyngor hefyd mewn sefyllfa debyg o ran y
grantiau a dderbynnir gan Lywodraeth Cymru, ac er y croesawid y grantiau
hynny’n fawr, eu bod yn datgan sefyllfa ychydig yn ffals ar ddiwedd blwyddyn
ariannol. Nododd ymhellach ei fod ef,
ynghyd â’r Aelod Cabinet, yn sicrhau bod y rheswm am hynny yn cael ei roi
drosodd yn glir ganddynt ym mhob cyfarfod roeddent yn ei fynychu. Nododd yr
Uwch Reolwr Gwasanaeth Adnoddau Addysg ei bod yn bwysig i ysgolion adnabod yr
adnoddau sydd wedi’u clymu yn yr holiadur wrth dderbyn y balansau diwedd
blwyddyn. Rhoddodd y
Cyfrifydd Grŵp Ysgolion fraslun o’r sefyllfa o ran balansau ysgolion, gan
nodi y byddai’n adrodd yn llawn ar hyn i gyfarfod nesaf y Fforwm ym mis
Mehefin. Nododd fod y balansau wedi
cynyddu o £4.3m i £10.7m hyd at 31 Mawrth, 2021. Derbyniwyd £3m o grantiau, ynghyd â £1m o GwE
at ddiwedd y flwyddyn ariannol. Yn y
sector cynradd, gan fod yr ysgolion wedi cau am bron i 6 mis o’r flwyddyn,
gwelwyd tanwariant o £400,000 yn y Cynllun Absenoldebau. Mewn ymateb
i gwestiwn, eglurwyd na fu trafodaeth am y trothwyon gwahanol, gan mai
Llywodraeth Cymru oedd wedi sefydlu’r trothwyon o £50,000 yn y cynradd, a
£100,000 yn yr uwchradd, ac mai sut rydym yn dehongli uwchben y trothwyon hynny
sy’n bwysig. Nododd y
Pennaeth Cyllid fod angen ystyried sut rydym wedi cyrraedd y sefyllfa sydd
ohoni. Fel corff ariannu, os nad oedd
Llywodraeth Cymru yn gwario’r arian yn y flwyddyn, roedd yn cael ei ddychwelyd
i Lywodraeth y DU, ac roedd yn well gweld yr arian yn cael ei gelcio gan y
Cyngor am flwyddyn, na’i fod yn cael ei golli. |
|
DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF Nodi y cynhelir
cyfarfod nesaf y fforwm am 3.30yp, ar ddydd Llun, 28 Mehefin, 2021. COFNODION: Nodwyd y
cynhelir cyfarfod nesaf y Fforwm am 3.30yp, ar ddydd Llun, 28 Mehefin, 2021. Eglurodd y
Cyfrifydd Grŵp Ysgolion fod y Fforwm wedi bod yn cyfarfod unwaith y tymor
yn hanesyddol, yn ddibynnol ar amserlen setliad Llywodraeth Cymru, gydag ail
gyfarfod yn ystod Tymor y Gwanwyn petai angen. Gofynnwyd
i’r aelodau ystyried rhwng hyn a’r cyfarfod nesaf beth sydd angen i’r Fforwm ei
drafod, a phryd, fel y gellir sefydlu rhaglen waith am y flwyddyn yng
nghyfarfod Mehefin. |