Lleoliad: Ystafell Dwyryd, Canolfan Gyswllt y Cyngor, Parc Busnes, Penrhyndeudraeth
Cyswllt: Glynda O'Brien 01341 424301 E-bost: glyndaobrien@gwynedd.llyw.cymru
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau
gan Iona Jones (Ysgol Bro Cynfal ac Ysgol Edmwnd Prys), Dewi Lake (Ysgol y
Moelwyn), Andrew Roberts (Ysgol Y Berwyn), Edward Bleddyn Jones (Llywodraethwr
Cynradd), Anest Gray Frazer (Yr Esgobaeth), Neil
Foden (Undebau Athrawon), Garem Jackson (Pennaeth Addysg). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Datganwyd buddiant personol gan y canlynol: ·
Pennaeth Cyllid oherwydd bod ei wraig yn gweithio
yn Ysgol Syr Hugh Owen ·
Uwch Reolwr
TG a Thrawsnewid gan ei fod yn
lywodraethwr ar ysgol Roeddynt o’r farn nad oedd yn
fuddiant a oedd yn rhagfarnu ac ni fu iddynt
adael y cyfarfod. |
|
I gadarnhau cofnodion cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 10 Gorffennaf 2017. (Copi’n amgaeedig) Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r Fforwm Cyllideb Ysgolion a
gynhaliwyd ar 10 Gorffennaf 2017 fel rhai cywir. |
|
MATERION YN CODI O’R COFNODION (a) Cefnogaeth ychwanegol i Ysgol Tywyn I dderbyn adroddiad llafar ar yr uchod gan Uwch Reolwr Gwasanaeth Adnoddau Addysg (b) Gwybodaeth cryno o wasanaeth rhwydwaith ysgolion I dderbyn adroddiad llafar ar yr uchod gan Uwch Reolwr Technoleg Gwybodaeth a Thrawsnewid (c) Diweddariad Talu-ar-lein I dderbyn adroddiad llafar ar yr uchod gan Uwch Reolwr Gwasanaeth Adnoddau Addysg (d) Diweddariad ymgynghoriad Clwb Brecwast I dderbyn adroddiad llafar ar yr uchod gan Uwch Reolwr Gwasnaeth Adnoddau Addysg Cofnod: (a) Eitem 5 – Cyllideb a Diffyg Ariannol Ysgol Tywyn Adroddodd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Adnoddau Addysg yn dilyn cais gan
Gadeirydd Corff Llywodraethol Ysgol Uwchradd Tywyn am gefnogaeth i’r sefyllfa o
ddiffyg ariannol hanesyddol, bod trafodaethau yn digwydd ar hyn o bryd ar y
ffordd ymlaen. Ychwanegwyd nad oedd y
mater hyd yma wedi ei drafod gan Tim Arweinyddiaeth y
Cyngor. Penderfynwyd: Derbyn
a nodi’r uchod. (b) Eitem 8 (b)
- Gwasanaeth Rhwydwaith Ysgolion Derbyniwyd cyflwyniad, ar ffurf sleidiau, gan
yr Uwch Rheolwr TG a Thrawsnewid, gan roi hanes y rhyngrwyd o’i ddyfodiad yn
1969 ac erbyn heddiw bod y defnydd wedi cynyddu a dyfeisiadau wedi symud yn eu
blaen yn aruthrol. O dan raglen grant
Dysgu yn y Gymru Ddigidol, darparwyd cysylltiad band eang ar gyflymder o 10Mbps
i ysgolion cynradd a 100Mbps i ysgolion uwchradd. Eglurwyd esblygiad y rhwydwaith i’r ysgolion a’r gwelliannau mae’r
rhwydwaith PSBA ar gyfer y sector gyhoeddus yng Nghymru wedi ei gael a
manteision cynyddol i’r dyfodol. O ran pwy sy’n gyfrifol am beth, eglurwyd fel
a ganlyn: ·
Bod CYNNAL yn darparu cefnogaeth i’r cyfarpar sy’n
cysylltu i’r rhwydwaith a gweinyddu’r hidlo ·
Bod y Cyngor yn gyfrifol am ddarparu cefnogaeth
rhwydwaith, rheoli cytundeb BT, di-wifr, diogelwch, hidlo a datblygu gwasanaeth
newydd (megis ffonau) ·
Bod BT yn gyfrifol am seilwaith y rhwydwaith PSBA O safbwynt dyraniad costau o £540,000,
byddai’n seiliedig ar y pedwar elfen isod: ·
Cyswllt uniongyrchol ·
Rhwydwaith ·
Cynnal a chadw i gynnwys meddalwedd ·
Cefnogaeth staff canolog – ymateb i broblemau ac i
ddatblygu’r rhwydwaith Yn ystod y drafodaeth ddilynol, ymatebodd yr
Uwch Reolwr TG a Thrawsnewid i’r ymholiadau fel a ganlyn: (i)
bod y Cytundeb Lefel Gwasanaeth bron iawn yn ei le,
a thrwy amlygu’r hyn a fwriedir hyderir y bydd ysgolion yn cytuno i
ddarpariaeth drwy’r awdurdod i gael at rwydwaith ddibyniadwy
ac yn hyn o beth fe ellir cydweithio gyda Llywodraeth Cymru i hwyluso rhaglen
Dyfodol Llwyddiannus (ii)
o safbwynt oedran y cyfarpar y byddai’n rhaid
ychwanegu ar ôl oddeutu 10 mlynedd (mae’r cyfarpar yn 4 oed yn barod) (iii)
yng nghyd-destun ariannu unrhyw ychwanegiad i’r
cyfarpar yn oddeutu 2021-2023, byddai’n ofynnol i ysgolion gynllunio ymlaen
llaw ar gyfer y costau Mewn ymateb i (ii) a
(iii) uchod, pwysleisiodd yr Aelod Cabinet Addysg yr
angen i roi cynllun at ei gilydd yn fuan a’r angen hefyd i rybuddio ysgolion
ymlaen llaw o debygolrwydd o gostau gan bod technoleg yn newid mor gyflym. Penderfynwyd: Derbyn,
nodi a diolch am y cyflwyniad. (c) Eitem 9 – Talu ar Lein Adroddodd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Adnoddau Addysg bod gwasanaeth talu-ar-lein bellach wedi ei gyflwyno i ysgolion cynradd a’r rhan helaeth o staff yr ysgolion wedi derbyn hyfforddiant. Croesawyd y gwasanaeth ac ychydig iawn o sylwadau a dderbyniwyd megis nad oedd rhieni yn gallu gweld balansau / credyd. Penderfynwyd i ddefnyddio cyfarpar “SIMS Dinner Money” gyda’r awdurdod yn ariannu’r modiwl. ‘Roedd oblygiadau i ail-hyfforddi Clercod Arian Cinio ond y byddai’r modiwl yn fanteisiol oherwydd y byddai’n lleihau’r gaith cyfrifo a ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4. |
|
GRANTIAU YSGOLION 2018/19 (a) Grant 6ed (b) Grant Datblygu Disgyblion (GDD – yr hen Grant Amddifadedd Disgyblion) (c) Grant Gwella Ysgolion - I dderbyn adroddiad llafar ar yr uchod gan Rheolwr Cyllid – Grwp Datblygu Cofnod: (a) Grant 6ed Adroddodd y Rheolwr Cyllid nad oedd llythyr
penodol wedi ei dderbyn oddi
wrth Lywodraeth Cymru ynglyn â’r
grant uchod o £9.8m ar gyfer 2018/19 ond deallir bod gostyngiad a oedd yn cyfateb
i leihad o 10% yn nhermau arian
parod ond mewn gwirionedd y byddai’n gostwng 12%. Fe fyddir yn anfon llythyr
i ysgolion yn dilyn derbyn
gwybodaeth gan Lywodraeth Cymru. (b) Grant Datblygu Disgyblion (GDD – yr hen Grant Amddifadedd Disgyblion Adroddodd y Rheolwr Cyllid nad oedd gwybodaeth
benodol wedi ei dderbyn oddi
wrth Llywodraeth Cymru ynglyn â’r
grant uchod (c)
Grant Gwella Addysg Yn ystod
y 2 flynedd diwethaf dyranwyd £26m ar gyfer y grant uchod, £133m ar lefel Cymru. Deallir bod gostyniad i’r grant dan sylw a olygai
19.5% yn nhermau arian parod a oedd
yn cyfateb i 23% mewn gwirionedd
yn nhermau real. Ar gyfer 2018/19, dyrannir
£15m sy’n cyfateb i 11.4% mewn arian
parod ond 14.3% yn nhermau real. Adroddwyd y bydd lleihad o 1% yn y grant uchod yn 2018/19 ac 1% pellach yn 2019/20. Nodwyd bod 60% o’r grant uchod yn ymwneud â’r
Cyfnod Sylfaen ar gyfer cymhorthyddion, a.y.b. (ch)
Grant Gwisg
Ysgol Deallir bod y grant uchod yn dirwyn
i ben ond hyd yma ni
dderbyniwyd eglurhad pellach. Penderfynwyd: Rhaeadru y cofnod uchod, fel mater o frys, i holl
ysgolion y Sir.
|
|
SETLIAD DRAFFT - STRATEGAETH ARIANNOL CYNGOR GWYNEDD 2018/19, 2019/20 ac 2020/2021 I dderbyn adroddiad llafar ar yr uchod gan y Pennaeth Cyllid. Cofnod: (a)
Setliad Llywodraeth Cymru i Lywodraeth Leol 2018/19 Adroddodd y Pennaeth Cyllid oddeutu blwyddyn yn ôl
crybwyllodd Llywodraeth Cymru
bod dyraniad “ychwanegol” o £58m,
ond nid oedd yn ychwanegol, oherwydd
bod y grantiau i awdurdodau lleol
yn lleihau’n sylweddol. Eleni, nodwyd bod datganiadau’r Ysgrifennydd
Cabinet yn sôn am £104m sydd ddim yn “ychwanegol” go iawn, gan fod dyraniad
Llywodraeth Leol i lawr 0.5% yn nhermau “arian”, heb ychwanegiad tuag at
chwyddiant na gofynion uwch anorfod. ‘Roedd £62m o’r dyraniad
“ychwanegol” ar gyfer ysgolion, ond does dim “arian”. Dywedir hefyd bod
rhai grantiau yn trosglwyddo i’r setliad, ond eto, does dim “arian” ychwanegol. Roedd bwriad i gynnal cyfarfodydd “Partnership
Council” a “Phwyllgor Llywodraeth Leol” ym Mae Caerdydd wythnos diwethaf ond
oherwydd y digwyddiadau trist bu i Lywodraeth Cymru gau am yr wythnos.
Hyderir y gellir derbyn eglurder am y grantiau mor fuan ag sy’n bosibl. Deallir bod gan Llywodraeth Cymru arian ychwanegol
ond bod yr arian hwn wedi ei flaenoriaethu i’r sector iechyd. (b)
Setliad Cyngor Gwynedd 2018/19 Derbyniodd awdurdodau lleol Cymru
doriad o 0.5% ar gyfartaledd, gyda Chyngor Gwynedd yn derbyn toriad o 0.1% mewn
amrediad rhwng 0 a 1%. Nodwyd bod y gwahaniaeth rhwng y 0.5% a’r
0.1% wedi’i ymrwymo eisoes gan y Cyngor er mwyn cyfarch gofynion gwario ar ofal
cymdeithasol mewn ardal wledig. Tynnwyd sylw bod setliad eleni yn un
anodd eto ar gyfer awdurdodau lleol Cymru, sydd yn barhad o effaith polisi
“caledi” Llywodraeth San Steffan a fydd yn cael effaith ar wasanaethau a
thrigolion ar draws Cymru. Pwysleiswyd mai mwy o newyddion drwg
sydd i ddod i’r dyfodol, gyda chwyddiant tua 2%, nodwyd bod setliad drafft 0.1% (i’w gadarnhau yn
Rhagfyr) yn doriad gwir o 2%, heb ddim i gwrdd â phwysau ychwanegol ar
wasanaethau gofal cymdeithasol i nifer uwch
o oedolion hŷn, a.y.b. (c)
Sefyllfa Posibl 2019/20 Erbyn 2019/20, nodwyd bod Llywodraeth
Cymru wedi cyhoeddi setliad “dangosol” o -1.5%. Yr un adeg, disgwylir chwyddiant tâl
sylweddol o gyfarch y targed “cyflog byw” ar gyfer staff y Cyngor a staff y
cyflenwyr. Gall hynny olygu effaith toriad real o oddeutu 5% erbyn
2019/20. (ch) Gofynion
Ariannol Corfforaethol a’r effaith ar gyllidebau ysgolion erbyn 2018/19 Erbyn 2018/19, nodwyd na fydd targed
arbedion ychwanegol i ysgolion, fel gweddill gwasanaethau’r Cyngor, OND: ·
Rhaid gweithredu ar gynlluniau
arbedion hanesyddol, sy’n cynnwys gwedill y £4.3m, lle roedd tua £200,000 i
ddod o arbedion trefniadaeth ysgolion ychwanegol erbyn 2018/19 ·
Gan nad yw hyn ar trac, diau y
bydd rhaid cwtogi’r cwantwm yn briodol,
sydd cyfwerth â thua 0.3%. (d)
Gofynion
Ariannol Adrannol a’r effaith ar gyllidebau ysgolion erbyn 2018/19 Adroddwyd bod gorwariant sylweddol (£260,000) ar gludiant i ddisgyblion, yn bennaf tacsis i blant ag anghenion dysgu ychwanegol. Nodwyd bod y Pennaeth Addysg wedi cyflwyno “bid” i’r Cyngor ariannu’r pwysau anorfod yma i’r dyfodol, ac yn ôl-syllol, ond mae’n annhebygol y bydd y Cyngor yn cymeradwyo’r cais. Gan y bydd rhaid ei ariannu o rhywle, diau y bydd raid cwtogi’r ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
ADOLYGIAD ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL A CHYNHWYSIAD I dderbyn adroddiad
llafar ar yr uchod gan
yr Uwch Reolwr
Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Uwch Reolwr Cynhwysiad. Cofnod: Derbyniwyd cyflwyniad gan yr Uwch Reolwr
Cynhwysiad ar yr opsiynau ar
gyfer dyrannu cyllideb ddatganoledig anghenion dysgu ychwanegol a chynhwysiad. Esboniwyd bod y gyllideb integreiddio ar gyfer 2017-18 yn £5.9m ac o dan bwysau oherwydd dwy elfen sef
cyllido darpariaeth Ysgol Hafod
Lon a’r galw am gefnogaeth yn cynyddu. O’r £5.9m dyranwyd £4.4m ar gyfer disgyblion gydag datganiadau neu Cynlluniau Datblygu Unigol Awdurdod ac yn gadael y gweddill (£1.5m) i’w ddosbarthu trwy ddyraniad “anghenion dysgu
ychwanegol cyffredinol” ar sail 80% nifer disgyblion a 20% disgyblion sy’n gymwys am ginio am ddim. Datganolir cyllideb i 14 ysgol
cynradd ac 14 ysgol uwchradd gyda’r gweddill yn derbyn
cyllideb drwy gytundeb lefel gwasanaeth. Nodwyd y byddai’r gyllideb yn lleihau er mwyn
cyflwyno arbedion o
£400,000. Adroddwyd bod y Bwrdd
Prosiect Gwynedd a Môn yn ymchwilio i ddulliau amgen
o ddatganoli cyllid ac yn cynnig yr
opsiwn canlynol fel cam cyntaf: 1.
Defnyddio data i adnabod disgyblion
darpariaeth statudol (datganiadau a CDU) ar sail gwir gost. Byddir yn cyfeirio drwy
Fforymau a Phaneli Cymedroli (lefel CDU awdurdod ac uwch) ar sail gofynion eu Cynllun Gweithredu
ac yn derbyn darpariaeth gan y Tim Integredig (yn ganolog) a chymorthyddion (ysgol). 2.
Cynnig adnabod a thynnu swm wrth gefn
ar gyfer Datganiadau CDU a ddaw i fewn yn
ystod y flwyddyn ar sail % o’r gyllideb
ddatganoledig.
Pe byddir ddim yn gwneud
defnydd o’r arian gellir ei
rannu hefo ysgolion yn dilyn
y cyfnod. 3.
Dyrannu gweddill yr arian (sef
Cyllideb ddatganoledig llai datganiadau/cdu llai % wrth
gefn llai arbedion) ar sail niferoedd a nifer disgyblion prydau ysgol am ddim. 4.
Ysgolion i ystyried trefn
glwstwr o benodi cymorthyddion. Yn ystod
y drafodaeth ddilynol, ymatebodd yr Uwch
Reolwr Cynhwysiad i gwestiynau fel
a ganlyn: (a)
Yng nghyd-destun amserlen, nodwyd mai’r bwriad
fyddai ei weithredu o fis Medi 2018. (b)
Cytunwyd na fyddai angen
ymgynhori ar y dyraniad gan ei
bod eisioes wedi cytuno ar drefn
i ddyrannu ar sail niferoedd a niferoedd plant sydd yn gymwys ar
gyfer prydau ysgol am ddim. (b) o safbwynt
adborth yng ngweithrediad y cynllun peilot Cyd lynydd
Clwstwr, eglurwyd ei fod yn
gynamserol ar hyn o bryd ond
y byddir yn pwyso a mesur unrhyw
adborth maes o law. Ni fyddai’r cynllun hwn yn effeithio
ar y drefn ddatganoli. cadarnhawyd bod angen ystyried cyfrifoldeb ynglyn â chostau pan fo plentyn anghenion addysgol ychwanegol yn symud o ysgol
i ysgol. Ychwanegwyd bod y gyllideb heb gael unrhyw
dŵf, ac er hynny, bod niferoedd y plant gydag anghenion yn cynnyddu a’r
anghenion yn rhai mwy dwys. Byddir yn parhau gyda’r
trefniadau dyraniad yn seiliedig ar
ginio am ddim a hefyd yn parhau
gyda’r gwaith PLASG. Penderfynwyd: Derbyn, nodi a diolch am y cyflwyniad. |
|
DYDDIAD CYFARFOD NESAF I gadarnhau y cynhelir cyfarfod nesaf y Fforwm am 9.30 a.m. ar 11 Ionawr 2018. Cofnod: Penderfynwyd: Cymeradwyo i gynnal cyfarfod nesaf y Fforwm
am 9.30 a.m. ar 11 Ionawr 2018. |