Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Teams
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD Ethol Cadeirydd
ar gyfer 2020/21. Cofnod: PENDERFYNWYD ail-ethol
Mr Godfrey Northam yn Gadeirydd
y Fforwm am y flwyddyn
2020/21. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD Ethol
Is-gadeirydd ar gyfer 2020/21. Cofnod: PENDERFYNWYD ail-ethol y Cynghorydd Cemlyn Williams yn Is-gadeirydd y
Fforwm am y flwyddyn 2020/21. |
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Y Cynghorydd Cemlyn Williams (Aelod Cabinet – Addysg), Dilwyn Williams (Prif Weithredwr), Dafydd Edwards (Pennaeth Cyllid), Gwilym Jones (Llywodraethwr – Ysgol Borthygest), Anes Gray Frazer (Yr Esgobaeth) a Garem Jackson (Pennaeth
Addysg). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau
o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. |
|
Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 2 Mawrth, 2020 (ynghlwm). Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Fforwm
a gynhaliwyd ar 2 Mawrth, 2020 fel rhai cywir, yn
amodol ar y cywiriad isod:- Nododd y Cadeirydd, er iddo ofyn
ar gychwyn y cyfarfod diwethaf fod llythyr yn
cael ei anfon
at y bobl oedd yn absennol o’r
cyfarfod, nid oedd yn credu
iddo ddatgan bod angen gofyn beth
oedd y rheswm dros yr absenoldebau
hynny. |
|
MATERION YN CODI O’R COFNODION Trafod unrhyw
faterion yn codi o’r cofnodion. Cofnod: Mewn ymateb i gwestiynau gan
y Cadeirydd ynglŷn ag aelodaeth y fforwm,
nodwyd:- ·
Nad
oedd unrhyw un wedi datgan nad oeddent yn dymuno parhau i fod ar y fforwm. ·
Y
trafodwyd y bylchau yn yr aelodaeth gyda’r Uned Llywodraethwyr a bod bwriad i
ofyn i’r Gymdeithas Llywodraethwyr benodi i’r seddi gweigion erbyn cyfarfod
nesaf y fforwm. |
|
CYFRIFON TERFYNOL YSGOLION BLWYDDYN GYLLIDOL 2019-20 PDF 218 KB Adroddiad gan Kathy Bell (Cyfrifydd Grŵp Ysgolion) (ynghlwm) Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd er gwybodaeth – adroddiad gan y Cyfrifydd Grŵp Ysgolion yn manylu
ar gyfrifon terfynol ysgolion am y flwyddyn gyllidol 2019/20. Nododd y Cadeirydd fod sefyllfa
Ysgol Uwchradd Tywyn wedi newid
yn syfrdanol o ddiffyg o -£49,045 ar 31 Mawrth 2018 i falansau
o £115,668 ar 31 Mawrth eleni, a’i bod yn amlwg bod gweithredu
wedi bod ar ran y llywodraethwyr, y pennaeth a’r swyddogion. Nodwyd nad oedd
y sefyllfa yn gyson ar draws y sector a bod y cynnydd o tua £450,000 ym malansau’r ysgolion
uwchradd i’w briodoli bron yn
gyfan gwbl i ddwy ysgol. Nododd y Cyfrifydd Grŵp Ysgolion fod cyfrifwyr
ysgolion Cymru wedi cyflawni ymarferiad
ar falansau ysgolion, oedd yn gwahaniaethu rhwng y balansau a’r diffygion, a’i bod yn syndod
gweld bod cymaint o ysgolion yn cario
diffygion mor sylweddol yn eu
cyfrifon o flwyddyn i flwyddyn. Roedd beirniadaeth yn flynyddol ar ysgolion
am gario balansau, ond roedd cymryd
y diffygion roeddent yn gario i
ystyriaeth yn dod â’u sefyllfa net i lawr. Nododd yr Uwch Reolwr
Ysgolion fod yna stori y tu
ôl i bron
bob achos o falansau uchel, ac nad
achosion unigol o’r fath oedd
yn ei bryderu,
eithr balansau cyson uchel. PENDERFYNWYD (a) Y
dylai’r Adran Addysg a’r Adran
Gyllid gydweithio’n agos gyda’r ysgolion
gyda diffyg ariannol er mwyn
sicrhau eu bod yn clirio’r diffyg
cyn gynted â phosib’. (b) Y
dylai’r Adran Addysg a’r Adran
Gyllid barhau i fonitro cyllidebau
ysgolion. |
|
GRANTIAU YSGOLION 2020-21 PDF 294 KB Adroddiad gan Kathy
Bell (Cyfrifydd Grŵp
Ysgolion) (ynghlwm) Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd
er gwybodaeth – adroddiad gan y Cyfrifydd Grŵp Ysgolion yn manylu ar
sefyllfa grantiau ysgolion 2020/21. Holodd y
Cadeirydd a oedd dyfodiad y Grant Rhaglen Cyflymu Dysgu newydd wedi arwain at
docio rhai grantiau eraill. Mewn ymateb,
eglurodd y Cyfrifydd Grŵp Ysgolion mai’r Grant Datblygu Proffesiynol oedd
yr unig un oedd wedi ei leihau. PENDERFYNWYD derbyn yr wybodaeth. |
|
MATERION ARIANNOL COVID-19 Adroddiad llafar
ar:- · Wariant ychwanegol · Lleihad incwm · Arall Cofnod: Cyflwynwyd – diweddariad ar lafar ar y materion
canlynol yn sgil Covid-19:- ·
Gwariant
ychwanegol ·
Lleihad incwm ·
Arall Nododd y Cyfrifydd Grŵp Ysgolion:- ·
Bod
Llywodraeth Cymru wedi rhannu’r arian y gall awdurdodau ei hawlio, sef costau
ychwanegol a cholled incwm yn sgil methu gweithredu yn ôl yr arfer. ·
Bod
y math o wariant ychwanegol a hawliwyd ar lefel ysgolion tua £50,000, a bod yr
Adran Addysg wedi bod yn cyflwyno ceisiadau hefyd. ·
Mai’r
prif gostau oedd costau paratoi prydau am ddim, gyda rhywfaint o gostau
cludiant hefyd. ·
Bod
yr ysgolion wedi wynebu costau glanhau ychwanegol hefyd, ynghyd â dros £20,000
ar gyfer arwyddion cadw 2 fetr o bellter, ac ati. ·
Mai’r
prif incwm a hawliwyd gan Lywodraeth Cymru oedd prydau ysgol. Roedd y Cyngor wedi methu gweini prydau am 5
mis, ond yn dal yn gorfod cyflogi’r staff. ·
Y
byddai’r Pennaeth Cyllid yn adrodd i Gabinet y Cyngor ar 13 Hydref ar y monitro
diweddaraf a sefyllfa Gwynedd erbyn hynny. ·
O
ran y cynllun ffyrlo, dim ond y gwasanaethau hynny
oedd yn colli incwm oedd yn gallu hawlio, felly nid oedd yn berthnasol i
sefyllfa ysgolion, ac eithrio dwy ysgol oedd yn paratoi bwyd eu hunain neu’n
darparu chwaraeon. Derbyniwyd grant ffyrlo ar gyfer rhai staff, a byddai mwy o wybodaeth ar
gael yn dilyn cyfarfod y Cabinet. Nodwyd bod yr ysgolion yn
wynebu costau o’r newydd ers
yr haf, e.e.
sgriniau ac ail-ffitio’r ffreutur. Mewn ymateb, eglurodd
y Cyfrifydd Grŵp Ysgolion bod bwriad i’r ysgolion fedru
hawlio ar gyfer hynny tan 30 Medi. Holwyd sut roedd yr
ysgolion am fedru hawlio incwm prydau
ysgol. Mewn ymateb, eglurodd
y Cyfrifydd Grŵp Ysgolion fod hyn
yn digwydd ar lefel yr
awdurdod ac yn rhan o adroddiad y Pennaeth Cyllid i’r Cabinet ar 13 Hydref. Gofynnwyd a fyddai’r arian yn
dod i gyllidebau’r
ysgolion, ac atebodd y Cyfrifydd Grŵp Ysgolion ei bod yn mawr obeithio
y byddai. |
|
STRATEGAETH DDIGIDOL YSGOLION GWYNEDD PDF 453 KB Adroddiad gan Gwern
ap Rhisiart (Swyddog Addysg Ardal Dwyfor/Meirionnydd) a Huw Ynyr (Pennaeth
Cynorthwyol - TG) (ynghlwm). Cofnod: Cyflwynwyd – adroddiad gan Gwern
ap Rhisiart
(Swyddog Addysg Ardal Dwyfor / Meirion) a Huw Ynyr (Pennaeth Cynorthwyol Technoleg Gwybodaeth) yn rhoi diweddariad
i aelodau’r Fforwm ar Strategaeth
Ddigidol Ysgolion Gwynedd ers y cyfarfod diwethaf ar 2 Mawrth,
2020. Nododd y Pennaeth Cynorthwyol Technoleg Gwybodaeth na dderbyniwyd
ymateb gan bawb hyd yma
i’r llythyr yn gofyn am ddarlun
cynhwysfawr o fwriadau’r ysgolion a gallu eu cyllidebau i
fuddsoddi mewn cyfarpar. Bwriedid gofyn i’r penaethiaid a chadeiryddion llywodraethwyr yr ysgolion ymateb
erbyn diwedd yr wythnos, fel
y gellid adrodd yn ôl i’r
Cabinet, a fyddai’n mabwysiadu’r
strategaeth yn derfynol. Nid oedd unrhyw
gwestiwn penodol wedi codi o ran y strategaeth ddigidol, heblaw’r cwestiwn mawr o ran sut i’w ariannu. Ategodd Swyddog Addysg Ardal Dwyfor / Meirion sylwadau’r Pennaeth Cynorthwyol Technoleg Gwybodaeth gan nodi hefyd
y bu’n rhaid rhoi’r archeb am y dyfeisiadau i mewn
ym mis Medi,
er bod y drafodaeth yn parhau. Nododd rhai penaethiaid:- ·
Bod yr holiadur
yn rhoi penaethiaid mewn sefyllfa anodd. Roedd yn golygu bod rhaid
rhoi ateb pendant i’r cwestiwn o gyfrannu’n llawn, ond er na ddymunid peryglu’r strategaeth, roedd llawer o ysgolion yn mynd
i’w chael yn anodd ymrwymo
i gyfrannu’n llawn tuag at gostau
adnewyddu’r offer. ·
Er y croesawid y buddsoddiad yn gyffredinol, bod gan yr ysgolion
bryderon, e.e. nid oedd sgriniau
gwyn rhyngweithiol
wedi'u cynnwys, a byddent yn dod
i ddiwedd eu hoes ar yr
un pryd â’r dyfeisiadau. Mewn ymateb, nododd
y Pennaeth Cynorthwyol Technoleg Gwybodaeth efallai bod offer fel sgriniau yn fater
i ail-edrych arno. PENDERFYNWYD derbyn
yr wybodaeth. |
|
CYLLID ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL PDF 460 KB Adroddiad gan Ffion
E.Ellis (Pennaeth Cynorthwyol Anghenion Addysg
Arbennig a Chynhwysiad) (ynghlwm). Cofnod: Cyflwynwyd, er gwybodaeth – adroddiad gan Ffion E.Ellis (Pennaeth Cynorthwyol Anghenion Dysgu Ychwanegol) yn manylu ar
waith y Gweithgor Cyllid Anghenion Dysgu Ychwanegol yng nghyswllt yr
Adolygiad Strategol Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad. Nododd Swyddog Addysg Ardal Dwyfor / Meirion fod y gweithgor
wedi’i sefydlu ac wedi cyfarfod, ond, oherwydd y pandemig, nid oedd
y drafodaeth wedi mynd rhagddi fel
y byddai pawb wedi dymuno, a bod yr amserlen ar
gyfer gweithredu wedi’i hadolygu. PENDERFYNWYD derbyn
yr wybodaeth. |
|
DYDDIADAU CYFARFODYDD Y FLWYDDYN ACADEMAIDD 2020-21 Cofnod: Nododd sawl aelod fod
cyfarfod am 3.30yp ar ddydd Llun yn
gyfleus iddynt. Gan hynny, cytunwyd i gynllunio dyddiadau
ar y sail honno ar gyfer y flwyddyn
academaidd, gyda’r cyfarfod nesaf i’w gynnal yn
ystod mis Tachwedd. Nododd yr Aelod Cabinet Cyllid fod 2020/21 wedi bod yn flwyddyn
ariannol heriol, a’i bod bellach yn amser cychwyn
edrych ar gyllideb 2021/22. Ychwanegodd, er na allai
warantu hynny, ei fod yn
mawr obeithio na fyddai’n rhaid
torri ar addysg yng nghyllideb
y flwyddyn nesaf. |