Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Teams
Cyswllt: Einir Davies 01286 679 868
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol Is-Gadeirydd 2022/2023 COFNODION: PENDERFYNWYD ethol Donna Roberts,
Pennaeth Ysgol Hafod Lon, yn Is-Gadeirydd y Fforwm am 2022/23. |
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. COFNODION: Derbyniwyd ymddiheuriadau ymlaen llaw gan Dafydd Gibbard (Prif
Weithredwr), Richard Jones (Ysgol Garndolbenmaen), Menna Wynne-Pugh (Ysgol
Penybryn, Tywyn) ac Edward Bleddyn Jones (Llywodraethwr, Arfon) Derbyniwyd ymddiheuriadau hwyr gan Aled Williams (Ysgol Ardudwy) a Brian Jones (Llywodraethwr, Arfon) |
|
ENWEBIADAU NEWYDD I gadarnhau
enwebiadau newydd i’r Pwyllgor COFNODION: Croesawodd y Cadeirydd yr aelodau newydd i’w cyfarfod
cyntaf : Dr Diane Pritchard Jones Joanne Thomas Cynghorydd Gwynfor Owen Carys Eleri Fowles Brian Jones (yn ei absenoldeb) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. COFNODION: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. COFNODION: Dim i’w nodi. |
|
Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 12fed Rhagfyr 2022 COFNODION: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r
Fforwm a gynhaliwyd ar 12 Rhagfyr, 2022 fel rhai cywir, yn ddarostyngedig i’r
cywiriadau canlynol : ‘Roedd Eleri Davies yn bresennol yn y cyfarfod fel Aelod
ac fel Cadeirydd Ffederasiwn Penaethiaid Cynradd Mae angen cynnwys enw yr Ysgol mae R Jones yn ei gynrychioli |
|
MATERION YN CODI O’R COFNODION i.
Canolfannau Iaith ii.
Cytundebau Lefel Gwasanaethau COFNODION: Atgoffwyd y Fforwm bod cais am ragor o wybodaeth am y
Cynllun Buddsoddi i Arbed wedi ei wneud yn y cyfarfod blaenorol a chadarnhawyd
bod y Cynllun yn benodol i wasanaethau mewnol y Cyngor, ond bod croeso i
ysgolion wneud cais unai trwy y swyddogion addysg, neu yn uniongyrchol drwy y
Pennaeth Cynorthwyol Gwasanaethau Addysg. i.
Canolfannau Iaith Atgoffodd y Pennaeth
Addysg am y bwriad gwreiddiol i ofyn i ysgolion gyfrannu yn ariannol i’r
cynllun trochi, er nad oedd hon y flwyddyn fwyaf delfrydol i wneud hyn. Cadarnhawyd bod arian wedi ei ddarganfod ar
gyfer y flwyddyn gyllidol 2023/24 ac na fyddai yr Adran yn mynd ar ofyn ysgolion. Ategodd yr Aelod Cabinet Addysg ei balchder o
allu rhannu y newyddion hyn. Nododd y
Cadeirydd ei fod yn newyddion da i bawb, a nododd, yn sgil yr heriau mae
ysgolion yn eu hwynebu, tybed fyddai modd cael gwybod y sefyllfa am y
blynyddoedd ôl-2023/2024 cyn gynted â phosib? ii.
Cytundebau Lefel Gwasanaeth Adroddwyd bod y Cytundebau
Lefel Gwasanaeth yn amrywio a bod y Pennaeth Cynorthwyol Gwasanaethau Addysg yn
y broses o’u craffu. Yn arferol,
cadarnhawyd y byddai y cytundebau yn cael eu mabwysiadau gan ysgolion yn Ebrill,
ond er mwyn gallu gwneud y gwaith craffu arnynt fod bwriad ymestyn y cytundebau
presennol ar y tro. Nodwyd y gobaith o
ddenu mwy o ysgolion i ymrwymo iddynt. Nodwyd bod ambell i Gytundeb yn codi
cwestiwn, mae rhai ysgolion wedi gofyn am gyflwyniad ar rai Cytundebau a rhai Cytundebau
ble mae angen mwy o fanylder.
Cadarnhawyd y bydd yr Adran yn holi am y caniatâd i ymestyn
cytundebau. |
|
STRATEGAETH CYLLIDOL Y CYNGOR 2023/2024 Adroddiad
gan Dewi A Morgan, (Pennaeth Cyllid) COFNODION: Cafwyd cyflwyniad gan y Pennaeth Cyllid, o dan y penawdau
isod : Yr Amserlen o ran penderfynu ar a cheisio cael cytundeb ar
y Strategaeth Gyllidol Y Gyllideb Refeniw : Yr Hafaliad Rhagolygon Cyffredinol Cyllideb 2023/24 Chwyddiant Cyflogau o £14.2M Chwyddiant ar Wasanaethau a Chyflenwadau o £11.1m Cyfeiriwyd at y Demograffi Gofal ac Addysg, gan nodi bod
Gofal Plant yn £32k, ac Ysgolion yn £229K, hynny yw : Ysgolion
Cynradd (£135k) Ysgolion
Uwchradd £49 Ysgolion
Arbennig £315K Yn seiliedig at leihad (cynradd) / cynnydd
(uwchradd/arbennig) mewn nifer disgyblion Tynnwyd sylw hefyd at y : Setliad Grant 2023/2024, a’r Pwysau ar Wasanaethau, gan
nodi - Bidiau Refeniw Parhaol £2.7m - Adran Addysg - darparu cinio ysgolion
Cynradd, Dilynol ac Arbennig £285,580 Cyfeiriodd hefyd at benawdau : Bidiau Refeniw - Addysg yn £285,580 Cynlluniau Arbedion Cynlluniedig Rhagolygon Cyfredol Cyllideb 2023/24 Hafaliad 2023/24 Cyfeiriodd yn benodol at Arbedion Ysgolion, gan nodi
bod : Trafodaethau wedi
cychwyn ar 6% Paratoi ar
gyfer 3% Rhai ysgolion
yn wynebu gormodedd - ond nid oherwydd y toriad arfaethedig Hepgor
Ysgolion Arbennig Effaith y gyfundrefn
warchodaeth i ysgolion bychan = pawb arall yn gorfod cyfrannu mwy Rhai
ysgolion yn cael ei gwthio dros y 3% Felly
cynnig cap o 3% Arbediad
ar draws y sector felly yn 2.39% 1.39% a
0.99% dros ddwy flynedd Cynlluniau Arbed Newydd 23/24 24/25 cyfanswm Ysgolion
Cynradd 541,600 386,900 928,500 Ysgolion
Uwchradd 605,000 432,600 1,037,600 Ysgolion
Arbennig 0 0 0 Cyfanswm 1,146,600 819,500 1,966,100 Cynlluniau Arbed Newydd 2023/24 Arbedion Adrannau (heb gynnwys ysgolion) £3,097,370 Arbedion Ysgolion £1,146,600 Cynlluniau Arbed Newydd 2023/24 Addysg Ganolog yn £835,000 Nododd hefyd Treth Cyngor a Rhagolygon 2024/25 Diolchwyd am y cyflwyniad gan y Pennaeth Cyllid. Ymhelaethodd yr Aelod Cabinet Cyllid ar y
drefn a gymerwyd i ddod i benderfyniad ar y toriadau arfaethedig, gan nodi bod
y Cabinet wedi ceisio bod yn deg, ac wedi ystyried Adrannau y Cyngor i gyd, gan
edrych ar gynigion arbedion dros dri dydd.
Nododd bod rhai materion positif wedi codi megis y setliad wedi bod
mymryn yn well na’r disgwyl, bod swm wedi dod i law o ran ffordd y Cyngor o
ymdrin â benthyciadau, ac roedd yn teimlo fod y Cabinet wedi gwneud eu gorau
dros bob Adran. Nododd y Pennaeth Addysg bod sylw priodol a herio pob Pennaeth
Gwasanaeth wedi digwydd, ac mae nid ar chwarae bach yr ystyriwyd toriadau i
addysg. Nododd y Cadeirydd nad oes neb byth yn hoff o doriadau, a
chwestiynwyd beth yw effaith toriadau canolog ar ysgolion? Cadarnhawyd bod unrhyw ardrawiad ar ysgolion
wedi ei gadw i’r lleiafrif, ac y bydd
unrhyw effaith ar GwE yn cael ei drafod ar lefel Prif Weithredwyr. Ar gais y Cadeirydd cadarnhawyd bod y ffigyrau yn ymdrin â 2023/2024 a 2024/2025 a bod y Cyngor yn ceisio cynllunio fesul dwy flynedd. Nodwyd wrth gwrs nad yw yn wybodus beth fydd y ffigwr chwyddiant yn y dyfodol, ond bod yr Adran Gyllid yn gweithio ar sail y bydd y toriadau hyn yn ddigonol, ond wrth gwrs yn methu a gwarantu. ... view the full COFNODION text for item 8. |
|
INTEGREIDDIO 2023/24 Adroddiad gan Ffion Edwards Ellis (Pennaeth Cynorthwyol Anghenion Addysg
Arbennig a Chynhwysiad) COFNODION: Rhoddodd y Pennaeth Cynorthwyol Anghenion Addysg Arbennig
a Chynhwysiad grynodeb o’r sefyllfa bresennol, gan gadarnhau fod y dull dyrannu
presennol yn gweithio. Cadarnhaodd bod
gwaith tacluso y data a’r ffordd o gofnodi ar y gweill, ond ei bod yn disgwyl
PLASC ar gyfer 2023/23 ar hyn o bryd. Holodd y Cadeirydd am sgil-effaith hyn a chadarnhawyd
Ebrill 2023 fel dyddiad arfaethedig, ond y bydd materion yn symud yn
raddol. Cadarnhawyd os oes materion o
bryder gyda’r data, yna bydd yn cael ei symud i Fedi 2023. Cadarnhawyd bod y canllaw ar gyfer cwblhau y
PLASC eisoes wedi eu rhannu, a chadarnhawyd na ddylai dosbarthu mewn ffordd
wahanol gael effaith sylweddol ar ysgolion. Rhoddodd y Pennaeth Cynorthwyol Anghenion Addysg Arbennig
a Chynhwysiad grynodeb o’r sefyllfa bresennol, gan gadarnhau fod y dull dyrannu
presennol yn gweithio. Cadarnhaodd bod
gwaith tacluso y data a’r ffordd o gofnodi ar y gweill, ond ei bod yn disgwyl
PLASC ar gyfer 2023/23 ar hyn o bryd. Holodd y Cadeirydd am sgil-effaith hyn a chadarnhawyd
Ebrill 2023 fel dyddiad arfaethedig, ond y bydd materion yn symud yn
raddol. Cadarnhawyd os oes materion o
bryder gyda’r data, yna bydd yn cael ei symud i Fedi 2023. Cadarnhawyd bod y canllaw ar gyfer cwblhau y
PLASC eisoes wedi eu rhannu, a chadarnhawyd na ddylai dosbarthu mewn ffordd
wahanol gael effaith sylweddol ar ysgolion. PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chael diweddariad yn y
cyfarfod nesaf. |
|
UNRHYW FATER ARALL Cyfle i
Godi Unrhyw Fater Arall COFNODION: Dim yn codi. |
|
DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF I’w
gadarnhau COFNODION: Dyddiad y cyfarfod nesaf i’w gadarnhau Dechreuodd
y cyfarfod am 3.30 y.h. a daeth i ben am 4.25 y.h.. |