Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Hen Eglwys y Santes Fair, Tremadog

Cyswllt: Glynda O'Brien  01341 424301

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd i’r Fforwm am y flwyddyn  2016/17.

Cofnod:

Penderfynwyd:     Ail-ethol Mr Godfrey Northam yn Gadeirydd y          Fforwm am y flwyddyn 2016/17.

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd i’r Fforwm am y flwyddyn 2016/17.

Cofnod:

Penderfynwyd:     Ail-ethol y Cynghorydd Gareth Thomas yn Is-gadeirydd i’r Fforwm am y flwyddyn 2016/17.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cyng. Michael Sol Owen (Ysgol Glan y Môr), Esme Spencer (Ysgol Baladeulyn), Gwyn Howells (Ysgol y Gelli), Rhys Williams (Ysgol Cymerau), Geraint Evans (Ysgol Edern), Andrew Roberts (Ysgol y Berwyn), Dewi Lake (Ysgol y Moelwyn), Llinos Lloyd (Corff Cysgodol Dalgylch y Gader), Dafydd Meirion Roberts (Ysgol Brynrefail), Arwyn Thomas (Pennaeth Addysg), Dafydd Edwards (Pennaeth Cyllid),

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol.

5.

COFNODION pdf eicon PDF 313 KB

I gadarnhau cofnodion cyfarfod o’r Fforwm a gynhaliwyd ar 20 Ionawr 2016. 

 

(Copi’n amgaeedig)

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r Fforwm Cyllideb Ysgolion a gynhaliwyd ar 20 Ionawr 2016 fel rhai cywir.

 

 

6.

MATERION YN CODI O’R COFNODION

7.

CYFRIFON TERFYNOL YSGOLION 2015/16 pdf eicon PDF 213 KB

I ystyried adroddiad gan y Pennaeth Addysg ar yr uchod.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth, adroddiad gan y Pennaeth Addysg ar yr uchod a thywyswyd yr Aelodau drwy ei gynnwys gan yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Adnoddau Addysg gan nodi yn gyffredinol bod balansau holl ysgolion Gwynedd wedi gostwng £159,010 i £3,336,570 yn ystod 2015/16 sy’n cyfateb i 4.66% o’u dyraniad terfynol.

 

            Ymhelaethwyd fel a ganlyn bod:

 

·         16 ysgol gyda diffyg ariannol gwerth £447,692

·         11 ysgol gynradd gyda chyfanswm diffyg £96,263

·         4 ysgol Uwchradd gyda chyfanswm diffyg £297,238

·         1 Ysgol Arbennig gyda diffyg o £54,191

 

            Nodwyd bod balansau’r ysgolion cynradd wedi lleihau am y tro cyntaf ers 2010. Mynegwyd pryder bod balansau rhai ysgolion yn parhau yn uchel er bod cynllun cyfarwyddo wedi ei fabwysiadu o ran defnydd balansau ymddengys bod 14 ysgol gynradd a 5 ysgol uwchradd gyda balansau dros y trothwy £50,000 (cynradd) neu £100,000 (uwchradd).  Fodd bynnag, roedd trefn i roi sylw i’r mater hwn lle gwelir patrwm cyson o gadw balansau, gyda thrafodaeth yn mynd rhagddo gydag un ysgol benodol.  Yn 2016/17 lle bydd y toriadau ariannol yn taro y disgwylir i’r balansau leihau eto.

 

            O safbwynt ysgolion mewn diffyg, awgrymwyd y dylid derbyn adroddiad i gyfarfod nesaf y Fforwm yn amlinellu’r patrwm o dueddiadau a chamau dros y blynyddoedd ar ysgolion unigol.

 

            Yng nghyd-destun balansau ysgolion, mynegwyd pryder ynglyn a’r ysgolion hynny sydd yn cadw balansau ac yn derbyn gwarchodaeth ychwanegol.

 

            Mewn ymateb i’r uchod, esboniodd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Adnoddau Addysg bod gan yr awdurdod drefn o ganfod beth yw cynlluniau ysgolion o ran gwario balansau a bod gan ysgolion gynlluniau eithaf rhesymol a theg.  Yr hyn sy’n anodd ydoedd pan nad yw ysgolion yn gwireddu’r cynlluniau hynny a’i fod yn anodd i’r awdurdod eu herio, a’u bod o ganlyniad erbyn diwedd y flwyddyn ganlynol yn yr un sefyllfa o ran maint y balansau.

 

            Penderfynwyd:            (i)  Cymeradwyo bod yr Adran Addysg a’r Adran Gyllid:

 

(a)  yn cydweithio’n agos gyda’r ysgolion gyda diffyg ariannol er mwyn sicrhau eu bod yn clirio’r diffyg cyn gynted â phosib.

(b)  yn parhau i fonitro cyllidebau ysgolion

 

                                                (ii)   Gofyn i’r Rheolwr Cyllid gyflwyno adroddiad i gyfarfod nesaf y Fforwm yn amlinellu:

 

(a)  tueddiadau a phatrwm dros y blynyddoedd o ysgolion unigol sydd mewn diffyg ariannol. 

(b)  Ychwanegiad i’r  adroddiad uchod yn amlygu’r ysgolion unigol hynny sydd gyda gwarged o’u balansau.

           

 

8.

GRANTIAU YSGOLION 2016/17 pdf eicon PDF 239 KB

I ystyried adroddiad gan y Pennaeth Addysg ar yr uchod.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Addysg ynglyn a Grantiau Ysgolion 2016/17 a thywyswyd y Fforwm drwy’r cynnwys gan yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Adnoddau Addysg.

 

            Cyfeiriwyd at y grantiau yn unigol gan nodi:

 

            Grant Amddifadedd Disgyblion  - £2,203,350  - grant ar sail nifer disgyblion gyda hawl i ginio am ddim er mwyn gwella safonau llythrennedd, rhifedd a hefyd i gau’r bwlch rhwng plant difreintiedig a’u cyfoedion.

 

            Grant Gwella Addysg - £4,171,818 – grant i godi safonau addysgu.

 

            Grant 6ed Dosbarth (£3,277,221) - O’r 14 ysgol uwchradd, 7 yn darparu cyrsiau 6ed dosbarth gyda’r grant uchod yn cael ei ddyrannu ar sail cyfuniad o nifer disgyblion / nifer cyrsiau, amddifadedd, gwasgaredd ac addysg cyfrwng Gymraeg.

 

            Cadarnhawyd nad oedd y grantiau uchod yn ddibynnol ar arian Ewrop.

 

            Ychwanegodd y Rheolwr Cyllid o safbwynt y GGA mai un swm o arian a dderbynnir  yn rhanbarthol ac yn cael ei ddyrannu yn seiliedig ar ystadegau.

 

Cyfnod Sylfaen : fformiwla penodol yn bennaf ar sail disgyblion cyfnod sylfaen gyda gofyn i weithio tuag at cymhareb o 1:8 oedolyn i ddisgyblion yn y blynyddoedd meithrin a derbyn a chymharbe o 1:15 yn blynyddoedd 1 a 2.  Nodwyd bod gweddill y GGA yn cael ei ddyrannu ar sail 80% nifer disgyblion a 20% ar sail niferoedd cinio am ddim.

 

            Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.

 

 

 

9.

POLISI DYRANIAD YCHWANEGOL GWARCHODAETH LLEIAFSWM STAFFIO

I dderbyn adroddiad llafar ar yr uchod.

Cofnod:

Atgoffwyd y Fforwm o’r newid ym mholisi Dyraniad Ychwanegol Gwarchodaeth Lleiafswm Staffio er mwyn lleihau’r dyraniad gwarchodaeth gyfwerth â’r elfen balansau dros 5% o’r flwyddyn olaf a gyhoeddwyd (balansau ar ddiwedd 2014-15 mewn perthynas â dyraniad gwarchodaeth 2016-17).

 

Llythyrwyd â’r ysgolion a oedd â gwarged dros drothwy’r balansau gan eu gwahodd i gyflwyno cais i beidio lleihau’r warchodaeth lleiafswm staffio ar gyfer 2016/17.  Erbyn dydddiad y Fforwm derbyniwyd 11 cais gydag un cais hwyr sydd heb eu prosesu ac allan o’r 11 bydd 5 o’r ysgolion yn derbyn y warchodaeth gyfan yn ôl gyda rhan fwyaf o’r arian yn cael ei ddefnyddio ar gyfer staffio (sef Pennaeth/ Athro ymhob ysgol).

 

Mewn ymateb i’r uchod, amlygwyd anfodlonrwydd gan yr Aelod Cabinet Adnoddau nad oedd y sefyllfa yn dderbyniol o ystyried bod holl Wasanaethau’r Cyngor yn gorfod cydymffurfio â’u cyllidebau dynodedig.  Ychwanegodd y dylid bod yn gadarn gyda’r ysgolion ac y disgwylir gweld gwelliant sylweddol ym malansau’r ysgolion flwyddyn nesaf.  Nodwyd yr angen i bob dalgylch wynebu realiti’r sefyllfa gyda’r angen i brysuro ymlaen gyda threfniadaeth ysgolion. 

 

Ategodd yr Aelod Cabinet Addysg yr un pryder ac anfodlonrwydd gyda’r sefyllfa a’i fod yn anodd iddo mewn cyfarfodydd o’r Cabinet ddadlau achos y Gwasanaeth Ysgolion o safbwynt toriadau ariannol o ystyried bod swm eithaf sylweddol gan rhai ysgolion mewn balansau.   Awgrymwyd i’r Aelod Cabinet fynegi anfodlonrwydd y Fforwm wrth Benaethiaid mewn cyfarfod o’r GYDCA ynglyn a defnydd o falansau ac apelio arnynt i’w defnyddio er mwyn lliniaru’r sefyllfa ar gyfer flwyddyn nesaf.  

 

Penderfynwyd:          (a)        Derbyn a nodi’r uchod.

 

                                    (b)      Cymeradwyo i’r Aelod Cabinet Addysg gyfleu pryder y Fforwm ynglyn a defnydd o falansau ac i’w hannog i’w lleihau erbyn y flwyddyn nesaf.

 

 

 

10.

CYTUNDEB FFOTOCOPIO I YSGOLION

I dderbyn adroddiad llafar ar yr uchod.

Cofnod:

Adroddodd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Adnoddau Addysg bod gan y Cyngor gytundeb les ar gyfer llungopïo gyda Konica Minolta ac awgrymwyd y gall ysgolion fod yn rhan o drefniadau  canolog y Cyngor. Anogir Penaethiaid i gysylltu gyda Judith Ann Williams, Arweinydd Cynorthwyol Gwasanaeth Cefnogol, i drafod y manylion.  Fodd bynnag, dylai ysgolion fod yn wyliadwrus o delerau’r cytundeb presennol sydd ganddynt rhag ofn y byddai costau o dynnu allan o unrhyw gytundeb yn rhy fawr i gyfiawnhau newid cytundeb am y tro.

 

            Mewn ymateb i ymholiad ynglyn â pha mor gystadleuol yw cytundeb Konica Minolta, argymhellwyd i Benaethiaid holi ynglŷn â thelerau’r Cyngor a phwyso a mesur manteision / anfanteision i fod yn rhan o gytundeb canolog. 

 

            Eglurwyd ymhellach na fyddai ysgolion yn derbyn anfoneb yn unigol, yn hytrach byddai’r canol yn derbyn un anfoneb, a sicrhawyd nad oedd y Cyngor yn gwneud elw o’r cytundeb.

 

            Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.       

 

11.

DYDDIADAU AR GYFER CYFARFODYDD NESAF

I bennu dyddiadau ar gyfer y canlynol:

 

·         ?    Tachwedd 2016

·         ?    Chwefror 2017

Cofnod:

Penderfynwyd:          Gofyn i’r Swyddog Cefnogi Aelodau ymgynghori gyda’r Cadeirydd / swyddogion perthnasol ar gyfer pennu dyddiadau i’r cyfarfodydd nesaf tua chanol mis Tachwedd 2016, Chwefror 2017 a diwedd Mehefin 2017.