Lleoliad: Hen Eglwys y Santes Fair, Tremadog
Cyswllt: Glynda O'Brien (01341) 424301
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau oddi wrth Andrew Roberts (Ysgol y
Berwyn), Dylan Minnice (Ysgol Botwnnog), Dewi Lake
(Ysgol y Moelwyn), Dafydd Meirion Roberts (Ysgol Brynrefail), Menna Wynne Pugh
(Ysgol Penybryn, Tywyn), Trystan Larsen (Ysgol Rhostryfan), Gwilym Jones (Ysgol
Borth y Gest). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Derbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan
y Cynghorydd Peredur Jenkins a Mrs Llinos Lloyd yn Eitem 7 ar y rhaglen gan eu
bod yn llywodraethwyr ar gorff cysgodol Ysgol Bro Idris |
|
I gadarnhau cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 4 Gorffennaf 2016. (Copi’n amgaeedig) Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r
Fforwm Cyllideb Ysgolion a gynhaliwyd ar 4 Gorffennaf 2016 fel rhai cywir. |
|
MATERION YN CODI O’R COFNODION Cofnod: Adroddodd y Pennaeth Cyllid bod setliad
grant 2017/18 llywodraeth leol yn dangos cynnydd o 0.1% ar gyfartaledd i awdurdodau lleol Cymru, sydd wedi’w groesawu gan rai, er ei fod yn annigonol i gynnal
parhad ein gwasanaethau cyfredol oherwydd chwyddiant, yr ardoll prentisiaeth,
ayb, a bod costau annisgwyl ym maes gofal cymdeithasol hefyd yn taro’r
Cyngor. Fodd bynnag, atgoffwyd y Fforwm
bod gwaith cadarn wedi cael ei gyflawni flwyddyn yn ôl i wynebu’r toriadau, a chynlluniau ar droed, er bu llithriad ag ambell
strategaeth, megis anghenion dysgu ychwanegol.
Ni ragwelir gofyn am gyfraniad ychwanegol i’r £4.3m gan yr ysgolion yn
2017/18. Yn dilyn derbyn y setliad
drafft, gwnaethpwyd asesiad a rhagwelir y bydd rhaid i’r Cyngor gynllunio ar
gyfer arbediad o oddeutu £8m dros y blynyddoedd 2018/19 – 2019/20. Ychwanegwyd nad oedd rhai awdurdodau wedi bod
mor ddarbodus â Chyngor Gwynedd, a rhagwelwyd toriadau i ysgolion dros y ffin
yn 2017/18. Nododd Bennaeth Uwchradd bryder o safbwynt
rhagolygon y sector uwchradd yn 2017/18 a’u bod yn wynebu lleihad mewn
niferoedd disgyblion am un flwyddyn a olygai oddeutu £400k o golled ‘demograffi’ i’r sector a darganfod oddeutu £300k o
arbedion. Rhagwelir blwyddyn anodd iawn
i’r sector uwchradd ac amlygwyd yr angen i osgoi gorfod diswyddo staff ym Medi
2017 ac wedyn ail-gyflogi staff y flwyddyn ganlynol. Nodwyd ymhellach bod ysgolion wedi gwneud
toriad o oddeutu 14% i’r staff dysgu flwyddyn ddiwethaf a bod sefyllfa’r
niferoedd disgyblion yn ergyd i’r sector uwchradd. Gofynnwyd tybed a fyddai modd ystyried
cynllun pontio i gynorthwyo ysgolion mewn sefyllfaoedd ariannol anodd. Mewn ymateb, nododd yr Aelod Cabinet Addysg
nad oedd cynllun o’r fath ar hyn o bryd ond y gallasai
gyflwyno pryder y sector uwchradd i’r Cabinet bod ysgolion yn wynebu sefyllfa erchydus. Ychwanegodd yr Aelod Cabinet Adnoddau ni
ellir peidio ymgymryd â’r arbedion hir-dymor, ond y
byddai modd ystyried cynllun un-tro i gynorthwyo ysgolion uwchradd am y flwyddyn
anodd. Holodd y Cadeirydd os byddai
cynllun cymorth o’r fath yn ystyried balansau’r
ysgolion unigol, a cytunodd y swyddogion i edrych ar hynny. Penderfynwyd: (a) Derbyn a nodi’r uchod a gofyn i’r Adran
Gyllid ystyried cynllun pontio dros dro ar gyfer cynorthwyo ysgolion uwchradd
all fod yn wynebu trafferthion ariannol, gan ystyried gwarged balansau sydd dros 5%.
(b) Gofyn i’r Aelod Cabinet Addysg a’r Aelod
Cabinet Adnoddau gyfleu pryder y sector uwchradd yn deillio o’r uchod. |
|
YSGOLION GYDA DIFFYG BALANSAU PDF 323 KB I ystyried adroddiad gan y Pennaeth Addysg ar yr
uchod. (Copi’n amgaeedig) Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd, yn
unol â chais y Fforwm Cyllideb Ysgolion, adroddiad y Pennaeth Addysg yn
amlinellu cefndir ynghyd ag atodiad a oedd yn rhestru’r ysgolion hynny sydd
gyda diffyg balansau. Tynnwyd sylw bod
y nifer o ysgolion gyda diffyg wedi cynyddu a bod 4 ysgol wedi bod gyda diffyg
ar ddiwedd pob blwyddyn dros y tair blynedd diwethaf. Fodd bynnag, nododd
yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Adnoddau Addysg, bod amgylchiadau ysgolion yn
gallu amrywio yn flynyddol ac yn dilyn trafodaeth gyda’r ysgolion a oedd wedi
eu hamlygu’n felyn ar yr atodiad ynghlwm i’r adroddiad, nodwyd fel a ganlyn
ynghylch yr ysgolion isod: Llanrug - rhagwelir na fyddai diffyg ar ddiwedd
2016/17 Rhostryfan - rhagwelir na fyddai diffyg ar ddiwedd
2017/18 Hendre - rhagwelir na fyddai diffyg ar ddiwedd
2017/18 Y Berwyn - y byddai lleihad yn y diffyg erbyn
2016/17 Tynnwyd sylw bod
Ysgolion Y Berwyn a Thywyn yn derbyn gwarchodaeth staffio ac awgrymwyd y dylid
cynnal gwaith ymchwil pellach yng nghyd-destun ysgol Tywyn pam nad yw’r ysgol
yn gallu gosod cyllideb gytbwys o fewn y gyllideb. Rhagwelir y
byddai gweddill yr ysgolion (ac eithrio Ysgol Rhosgadfan yn seiliedig ar
gytundeb am gyfnod o amser) yn clirio’r diffyg. Yn ystod y drafodaeth ddilynol amlygwyd y
pwyntiau canlynol: (a) Byddai unrhyw
warged /diffyg o’r ysgolion hynny sydd yn cau yn trosglwyddo i’r awdurdod ac fe
fyddai’r ysgolion newydd yn derbyn un gyllideb (b) Ei bod yn annhebygol y byddai ambell ysgol yn
lleihau’r diffyg a bod ysgolion eraill
yn ymdrechu a brwydro i gynnal eu hysgolion (c) Awgrymwyd y
dylid anfon neges i’r ysgolion sydd gyda diffyg bod disgwyliad iddynt
ymdrechu’n galed i leihau’r diffyg Penderfynwyd: (a) Derbyn a nodi cynnwys yr adroddiad. (b) Gofyn i’r Uwch Reolwr Gwasanaethau Adnoddau
Addysg : (i)
anfon
llythyr yn cyfleu safbwynt y Fforwm Cyllideb Ysgolion y dylai’r ysgolion hynny
sydd â diffyg balansau ymdrechu’n galed i leihau’r
diffyg ariannol (ii)
drefnu
ymchwil pellach i gyllideb a chynnydd diffyg ariannol Ysgol Tywyn. |
|
YSGOLION GYDA GWARGED BALANSAU PDF 249 KB I ystyried adroddiad gan y Pennaeth Addysg ar yr
uchod. (Copi’n amgaeedig) Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd, yn
unol â chais y Fforwm Cyllideb Ysgolion, adroddiad y Pennaeth Addysg yn
amlinellu manylion ynglŷn â’r ysgolion hynny
sydd gyda gwarged balansau dros 5%. Tywyswyd yr
Aelodau drwy’r atodiad ynghlwm i’r adroddiad gan y
Rheolwr Cyllid gan nodi bod cyfanswm nifer ysgolion gyda gwarged dros 5% wedi
lleihau, gyda’r cyfanswm ariannol yr elfen gwarged dros 5% wedi cynyddu. Nodwyd bod 87 ysgol wedi bod gyda gwarged
dros 5% ar ryw bwynt yn ystod y tair blynedd diwethaf a 50 ysgol wedi bod gyda
gwarged dros 5% ar ddiwedd pob blwyddyn o’r cyfnod (yr ysgolion hynny amlygwyd
yn felyn yn yr atodiad). Roedd y Rheolwr
Cyllid o’r farn nad oedd y balansau
ar y cyfan yn peri pryder gan fod amgylchiadau ysgolion yn gallu newid a rhai
ysgolion yn cydweithio drwy orfod rhannu
penaethiaid ac felly nad oedd y balansau yn rhai
parhaol. Yn ystod y drafodaeth ddilynol amlygwyd y
pwyntiau canlynol: (a)
Mynegwyd pryder gan yr Aelod Cabinet Addysg bod cynnydd yn y nifer o
ysgolion sydd gyda gwarged o dros 10% a thra’n derbyn bod sefyllfaoedd pob
ysgol yn wahanol, roedd yn anodd iddo fel Aelod Cabinet ddadlau dros achos
ysgolion yn enwedig pan fo’r Cyngor o dan bwysau
aruthrol o safbwynt toriadau yn y
gyllideb. (b)
Dylai unrhyw warged sydd gan yr ysgolion gael ei ddefnyddio ar gyfer y disgyblion
cyfredol sydd yn yr ysgolion ac y dylid dwyn i gyfrif yr ysgolion hynny sydd
gyda balansau dros 20% (c)
Byddai’n werthfawr a
defnyddiol i ysgolion ar gyfer mantoli eu cyllidebau i wybod beth yw’r rhagolygon
/ faint sydd ar ôl fel bo modd iddynt gael gwell darlun o beth yw’r ffigwr real (d)
Mewn ymateb i ymholiad
ynglŷn â monitro'r ysgolion hynny sydd gyda balansau
dros y trothwy, eglurwyd bod proses mewn lle gydag ysgolion yn cyflwyno cynllun
a’r swyddogion perthnasol yn eu hystyried.
Penderfynwyd: (a) Derbyn a nodi cynnwys yr adroddiad. (b) Gofyn i’r Rheolwr Cyllid: (i)
Gyflwyno mantolen i gyfarfod nesaf y Fforwm Cyllideb Ysgolion ym mis Ionawr
yn nodi colofn ychwanegol ar gyfer rhagolygon balansau
ar ddiwedd 31 Mawrth 2017 er mwyn rhoi gwell darlun o faint yw’r ffigwr real
sydd gan ysgolion yn weddill ar ôl gosod eu cyllideb. (ii)
Gydweithio gydag ysgolion ar gyfer cyflawni’r uchod. |
|
METHODOLEG CYLLIDO YSGOL DDILYNOL PDF 285 KB I ystyried adroddiad gan y Pennaeth Addysg ar yr
uchod. (Copi’n amgaeedig) Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Addysg yn
amlinellu methodoleg ac egwyddorion ar gyfer cyllido Ysgol Ddilynol. Adroddodd y
Rheolwr Cyllid y bydd ysgol ddilynol newydd sef Ysgol Bro Idris yn agor ym mis
Medi 2017 a rhoddwyd ystyriaeth i sut y byddir yn ariannu’r ysgolion
dilynol. Eglurwyd ymhellach o safbwynt methodoleg y byddir yn mewnbynnu
ystadegau addysg Gynradd ar gyfer pob safle’r Ysgol Ddilynol a’u rhedeg yn
unigol drwy’r Fformiwla Cyllido Ysgolion
Cynradd. Yn yr un modd y byddir yn
mewnbynnu’r ystadegau addysg Uwchradd ar gyfer pob safle’r Ysgol Ddilynol a’u
rhedeg yn unigol trwy’r Fformiwla Cyllido Ysgolion
Uwchradd. Cyfanswm y symiau wedi’i
chyfrifo ar gyfer pob safle fydd cyfanswm dyraniad cyllido’r Ysgol Ddilynol. O safbwynt yr egwyddorion, eglurodd y Rheolwr
Cyllid ar sut y cyfrifir cyfartaledd cyflog Ysgol Ddilynol. Mewn ymateb i
ymholiad ynglyn a’r nifer o ysgolion o fewn dalgylch
yr Ysgol Ddilynol sydd yn derbyn gwarchodaeth lleiafswm nifer athrawon,
cadarnhaodd y Rheolwr Cyllid y byddai’r ysgolion hynny yn parhau i dderbyn y
warchodaeth ar gyfer ariannu Rheolwr / athro a bod y warchodaeth oddeutu
£600,000 yn y sector Gynradd. Eglurwyd ymhellach mai un gyllideb a sefydlir
i’r Ysgol Ddilynol a’r corff llywodraethol fyddai’n gyfrifol am fodelu’r
gyllideb. Nododd yr Aelod
Cabinet Adnoddau y byddai’r Ysgol Ddilynol yn un arloesol ac o safbwynt
llwyddiant i’r model pwysleisiwyd bod yn rhaid i’r gyllideb fod yn hyfyw i greu
sefydlogrwydd dros gyfnod o 3 / 4 blynedd. Mewn ymateb i
ymholiad ynglyn a gwerthu’r safleoedd sydd yn cau,
nodwyd posibilrwydd nad oedd modd eu gwerthu oherwydd amodau hanesyddol sy’n
bodoli ar yr adeiladau. Penderfynwyd: Derbyn a nodi cynnwys yr adroddiad a
chymeradwyo’r fethodoleg cyllido Ysgol Ddilynol. |
|
CYTUNDEBAU LEFEL GWASANAETH 2017/18 I 2019/20 I dderbyn adroddiad llafar ar yr
uchod. Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad llafar gan yr Uwch
Reolwr Gwasanaeth Adnoddau Addysg gan nodi mai’r bwriad eleni ydoedd symlhau’r cytundebau.
Byddir yn gofyn i’r swyddogion priodol gynllunio’r cytundebau ar gyfer
2017/18 am gyfnod o 3 blynedd, ymgynghori ar y cynnwys gyda’r ysgolion, ac fe
fyddir yn adrodd yn ôl i’r Fforwm Cyllideb Ysgolion gyda’r ymatebion yn
cyfarfod Haf 2017. Ychwanegwyd y byddir
yn gorfod rhoi ystyriaeth i fodel gwahanol eleni i gyfarch yr ysgolion dilynol
sef Bro Idris a’r Berwyn. Penderfynwyd: Derbyn, nodi a diolch am yr adroddiad. |
|
PENNU DYDDIADAU AR GYFER CYFARFODYDD ·
7
Chwefror 2017 ·
? Mehefin / Gorffennaf 2017 ·
?
Tachwedd 2017 Cofnod: Adroddwyd er bod 7 Chwefror 2017 wedi ei
bennu ar gyfer cyfarfod nesaf y Fforwm, teimlwyd y byddai’n fwy derbyniol i
gynnal cyfarfod ddiwedd mis Ionawr a gofynnwyd i’r Swyddog Cefnogi Aelodau
drefnu gyda’r Cadeirydd a’r swyddogion priodol ddyddiad cyfleus. Gwnaed cais
i gadw’n glir o brynhawniau Mawrth, os yn bosibl. Penderfynwyd: Derbyn a
nodi’r uchod. |