Lleoliad: Eglwys y Santes Fair Tremadog - SDO. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Glynda O'Brien 01341 424301
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol Cadeirydd i’r Fforwm ar
gyfer 2017/18. Cofnod: Penderfynwyd: Ail-ethol
Mr Godfrey Northam yn Gadeirydd i’r Fforwm am y flwyddyn 2017/18. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol Is-gadeirydd i’r Fforwm ar
gyfer 2017/18. Cofnod: Penderfynwyd: Ail-ethol y Cynghorydd Gareth Thomas
yn Is-gadeirydd i’r Fforwm am y flwyddyn 2017/18. |
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau
gan Y Cyng. Peredur Jenkins (Aelod Cabinet – Adnoddau), Iwan Trefor Jones
(Cyfarwyddwr Corfforaethol), Kerry Parry (Ysgol y Ganllwyd), Rhys Williams
(Ysgol Cymerau),Edward Bleddyn Jones (Llywodraethwr Ysgol Tregarth a
Bodfeurig), Neil Foden (Undebau Athrawon). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol. |
|
I gadarnhau cofnodion cyfarfod o’r Fforwm
a gynhaliwyd ar 7 Chwefror 2017. (Copi’n amgaeedig) Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r Fforwm Cyllideb Ysgolion a
gynhaliwyd ar 7 Chwefror 2017 fel rhai cywir. |
|
MATERION YN CODI O’R COFNODION Cofnod: Eitem 4 – Ymgynghoriad
ar newid geiriad Cynllun Ariannu Ysgolion mewn perthynas â throsglwyddo
balansau ysgolion sy’n cau Adroddodd yr Uwch Reolwr Ysgolion bod y Cabinet yn ei gyfarfod ar
7 Mawrth 2017 wedi cymeradwyo newid geiriad cymal 4.8 o’r Cynllun Ariannu
Ysgolion yn unol â’r geiriad isod: “Bydd gweddill unrhyw
ysgol sy’n cau (boed y gweddill hwnnw yn warged neu’n ddiffyg) yn eiddo i’r
awdurdod; ni ellir ei drosglwyddo fel gweddill i unrhyw ysgol arall, heblaw i
ysgol a sefydlwyd fel canlyniad i’r cau hwnnw.
Mewn sefyllfa o’r fath trosglwyddir y gweddill i’r ysgol newydd o dan ddarpariaethau
Rheoliadau Cyllido Ysgolion (Cymru) 2010. |
|
CYLLIDEB A DIFFYG ARIANNOL YSGOL TYWYN PDF 495 KB I ystyried adroddiad gan Uwch Reolwr
Ysgolion ar yr uchod. (Copi’n amgaeedig) Cofnod: Croesawyd y canlynol i’r Fforwm ar gyfer yr eitem hon: Eifion Jones - Ymgynghorydd
Annibynnol Arwel Pierce - Cadeirydd
Corff Llywodraethol Ysgol Uwchradd Tywyn David Thorp - Dirprwy Bennaeth Ysgol Uwchradd Tywyn Cyflwynwyd adroddiad arbenigwr annibynnol ar
waith ymchwil o gyllideb a diffyg ariannol Ysgol Uwchradd Tywyn. Tynnwyd
sylw’r Fforwm i gadw mewn cof bod y gwaith yn gychwyn tuag at gyflawni elfennau
o brosiect P1 yng Nghynllun y Cyngor sef:
(a)
Cymerodd
yr Ymgynghorydd Annibynnol y cyfle i ddiolch i Lywodraethwyr a staff yr
ysgol am eu cydweithrediad tra yn cynnal yr ymchwiliad a’r ffaith eu bod yn
hollol agored ac yn awyddus i symud ymlaen.
Ymhelaethwyd ar y cefndir, cyd-destun sefyllfa gyllidol yr ysgol, y
camau a weithredwyd eisoes a rhagolygon yr ysgol o 2017/18 ymlaen. Darganfuwyd
bod sawl rheswm o anallu yr ysgol i osod cyllideb cytbwys megis: ·
Cwymp
sylweddol yn nifer disgyblion dros y blynyddoedd ·
Colli
hanner yr arian oherwydd lleihad yn y niferoedd – fodd bynnag rhagolygon yn
awgrymu ychydig bach mwy o ddisgyblion ·
Lefel
y gefnogaeth yn lleihau ·
Trefniadau
gwarchodaeth gyllidol gyda niferoedd isel o ddisgyblion Mewn cyfnod o geisio gwarchod a chodi safonau addysgol, roedd yr ysgol
wedi gwneud camau breision gan gadw’r balans o
hygrededd staff a’r gymuned, ac yr un pryd yn cydnabod bod camau eraill i’w gyflawni. O ran camau gweithredu, nodwyd bod yr ysgol wedi: ·
Adolygu
cyfrifoldebau a lefel staffio yr ysgol ·
Lleihau
grwpiau dysgu’r ysgol yn y pynciau craidd ond yn parhau i ateb gofynion
statudol cwricwlwm CA3 a CA4 ·
Arfarnu
ac ail-strwythuro’r drefn taliadau CAD (Cyfrifoldebau Addysgu a Dysgu) i
reolwyr canol yr ysgol ·
Ad-drefnu’r
Uwch Dim Rheoli ·
Adolygu
a rhesymoli lefel o gyllid ym mhenawdau eraill y gyllideb Ochr yn ochr â’r uchod, bu i’r ysgol weithio’n galed i gynnal a chodi
safonau gan sicrhau cynnydd da. Tynnwyd
sylw bod defnydd o’r iaith Gymraeg yn cael blaenoriaeth yn y cwricwlwm gyda 95%
o ddisgyblion yn dilyn cwrs Cymraeg Iaith Gyntaf yn CA3 a CA4 er bod mwyafrif
sylweddol ohonynt yn siarad Saesneg ar yr aelwyd. Nodwyd ymhellach bod yr ysgol wedi dechrau
cynyddu nifer y disgyblion gan sicrhau bod holl ddisgyblion blwyddyn 6 y
dalgylch am fyncyhu’r
ysgol. Pe byddai’r ysgol wedi
gweithredu’n fwy llym o ran torri staff i greu arbedion cyllidol a thrwy hynny
allu gosod cyllideb cytbwys dros y tair blynedd diwethaf wedi golygu y byddai’r
cynnydd da yn y safonau a’r cynnydd yn nifer disgyblion wedi ei lesteirio. Fodd bynnag, mae angen cyflawni arbedion pellach ar gyfer gallu gosod a gweithredu cyllideb gytbwys yn gyson i’r dyfodol, ac fe restrodd yr Ymgynghorydd Annibynnol y prif newidiadau cyllidol real fesul blwyddyn dros y tair blynedd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
CYFRIFON TERFYNOL YSGOLION 2016/17 PDF 214 KB I ystyried adroddiad ar yr uchod.
(Copi’n amgaeedig) Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd, er gwybodaeth, fanylion balansau
ysgolion yn nodi bod cyfanswm balansau sydd dros 5%
wedi lleihau o £1,586,885 (66 ysgol) ar 31 Mawrth 2016 i £1,285,447 ar 31 Mawrth 2017. Nododd
y Rheolwr Cyllid bod bwriad i drafod ymhellach gydag oddeutu 17 ysgol a’r angen
i gydweithio gydag ysgolion. Bwriedir
cyflwyno adroddiad cynnydd i’r Fforwm ym mis Tachwedd yn deillio o’r
trafodaethau gyda’r ysgolion penodol. Anogir Penaethiaid i drafod gyda’r Uned Gyllid ynglyn
â phroblemau cyllideb fel bo modd bod yn rhagweithiol. Gwerthfawrogir bod rheolaeth eithaf da gan
ysgolion ynghyd ag ymdrechion gan y Penaethiaid a’r Llywodraethwyr i gadw lefel
y balansau yn isel. Penderfynwyd: Derbyn a
nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
GRANTIAU YSGOLION 2017/18 PDF 435 KB I ystyried adroddiad ar yr uchod.
(Copi’n amgaeedig) Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Addysg (Dros Dro) ynghyd ag atodiad yn
manylu’r prif grantiau sydd wedi’i datganoli i pob ysgol yng Ngwynedd am
2017/18, sef cyfanswm o £9.8miliwn uwchben y £71miliwn a ddyrennir
gan y Cyngor. Nodwyd
bod y Grant Amddifadedd Disgyblion (GAD) wedi’i ail-enwi i Grant Datblygu
Disgyblion (GDD) gyda’r arian yn cael ei ddyrannu yn seiliedig ar nifer
disgyblion gyda hawl cinio am ddim (£1,150 y pen ar gyfer disgyblion o oed
ysgol statudol a £600 y pen am yr elfen disgyblion dan 5 oed). Eleni dyrennir £2,271,450
o’i gymharu â £2,203,350 yn 2016/17. O
safbwynt y Grant Gwella Addysg (GGA) ar gyfer codi safonau addysgu dyrennir
£4,167,438 o’i gymharu â £4,171,818 yn 2016/17) Eglurwyd
bod dau brif ffactor i leihad yn y cyllid a dderbynnir sef: (a) Niferoedd disgyblion ac ystyriaeth i’r gyfradd
o ddisgyblion sydd yn aros i Blwyddyn 12
a bod cyfradd yng Ngwynedd yn isel (b) Faint o arian y pen a ddyrennir
ar gyfer disgyblion a bod Gwynedd wedi dioddef o leihad oherwydd cyfradd is y
disgybl oherwydd bod llawer o ddisgyblion Gwynedd yn dilyn 3 pwnc a’r BAC (sydd
ddim yn cyfrif fel pwnc) gyda llawer o ddisgyblion Gwynedd yn dilyn 3 pwnc a’r
BAC at ddibenion y grant Penderfynwyd: Derbyn a nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
CYTUNDEBAU LEFEL GWASANAETH PDF 99 KB I ystyried
adroddiad ar yr uchod. (Copi’n amgaeedig) Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Addysg (Dros Dro) ar y Cytundebau
Lefel Gwasanaeth i ysgolion ynghyd a’u hymatebion a sylwadau ar y gwahanol
gytundebau. Atgoffodd
yr Uwch Reolwr Ysgolion bod y Fforwm Cyllideb Ysgolion wedi rhoi sêl bendith ar
ymestyn y Cytundebau Lefel Gwasanaeth canlynol:
am flwyddyn ychwanegol. Nodwyd o ran cytundeb Cynnal Tiroedd bod dipyn o waith i’w gyflawni o ran
mapio allan safleoedd yr ysgolion, a.y.b. Mewn ymateb i gwestiynau ynglyn â gwasanaeth
rhwydwaith ysgolion, eglurwyd nad oedd yr uchod yn rhan o Gytundeb Lefel
Gwasanaeth ac ar hyn o bryd yn gytundeb cenedlaethol gan y llywodraeth. Er mwyn tryloywder, awgrymwyd gan aelodau’r Fforwm y byddai’n fuddiol
derbyn gwybodaeth cryno am y gwasanaeth a dderbynnir gan ysgolion am yr arian. Penderfynwyd: (a) Derbyn a nodi cynnwys yr adroddiad. (b) Gofyn i’r Rheolwr Cyllid ddarparu
gwybodaeth cryno i Aelodau’r Fforwm o’r hyn a dderbynnir fel rhan o’r |
|
TALU-AR-LEIN I dderbyn adroddiad llafar ar yr
uchod. Cofnod: Diweddarwyd y Fforwm gan yr Uwch Reolwr Ysgolion o’r gwasanaeth
talu-ar-lein am ginio ysgol mewn ysgolion cynradd ac arbennig y Sir. Erbyn hyn, nodwyd bod cwmni CYNNAL wedi gosod
meddalwedd ar sustemau ysgolion ac fe fyddir yn cynnig hyfforddiant maes o law,
ynghyd â lansiad swyddogol. Bydd
y cynllun yn galluogi rhieni i gael mynediad drwy dudalennau hunan wasanaeth y
Cyngor ac yn hyn o beth hyderir y byddai modd iddynt weld gwasanaethau eraill
sydd ar gael gan y Cyngor. Croesawyd
yr uchod yn fawr iawn gan gynrychiolydd o’r sector cynradd gan nodi y bydd yn
hwyluso trefniadau. O
safbwynt dyledion am ginio ysgol, dymuna’r gwasanaeth addysg i’r sustem sefydlu
cyn adrodd ymhellach ar ei lwyddiant, manteision ac anfanteision, a.y.b. Penderfynwyd: Derbyn, nodi a diolch am y wybodaeth uchod. |
|
YMGYNGHORIAD CLWB BRECWAST I dderbyn adroddiad llafar ar yr
uchod. Cofnod: Adroddodd yr Uwch Reolwr Ysgolion, er gwybodaeth, bod y ddarpariaeth
clybiau brecwast yn un o’r elfennau i’w ystyried fel rhan o ymgynghoriad Her
Gwynedd. Ar hyn o bryd gweithredir y clwb brecwast rhwng 8.00 y.b. a 8.50 y.b. Ystyrir dau
opsiwn i’r dyfodol sef: (a) Lleihau oriau y clwb brecwast presennol i
gychwyn am 8.25 y.b. (b) Peidio lleihau’r oriau ond codi ffi ar rieni
am yr elfen gofal y plant rhwng 8.00 y.b. a 8.25 y.b. Bwriedir anfon llythyr i rieni cyn
diwedd y tymor a bod modd i gwblhau holiadur ar lein gyda chopïau ar gael yn
Llyfrgelloedd y Sir a Siopau Gwynedd.
Awgrymir i Benaethiaid annog rhieni i gwblhau’r holiadur. Penderfynwyd: Derbyn a nodi’r uchod. |
|
DYDDIADAU Y CYFARFODYDD NESAF 13 Tachwedd 2017 Chwefror 2018 Cofnod: Penderfynwyd: (a) Cadarnhau
dyddiad cyfarfod nesaf y Fforwm sydd i’w gynnal am 2.00 p.m., dydd Llun, 13
Tachwedd 2017. (b) Cynnal cyfarfod ddiwedd mis Ionawr 2018 –
dyddiad i’w bennu gyda Chadeirydd a swyddogion y Fforwm. |