skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Dwyryd, Uned 2b, Parc Busnes Eryri, Minffordd, Penrhyndeudraeth, LL48 6LD. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Glynda O'Brien  01341 424301

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd i’r pwyllgor hwn am y flwyddyn 2018/19.

Cofnod:

PENDERFYNWYD:         Ail-ethol Mr Godfrey Northam yn Gadeirydd y Fforwm am y flwyddyn 2018/19.

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd i’r pwyllgor hwn am y flwyddyn 2018/19.

Cofnod:

PENDERFYNWYD:         Ail-ethol y Cynghorydd Gareth Thomas yn Is-gadeirydd y Fforwm am y flwyddyn 2018/19.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Iwan Trefor Jones (Cyfarwyddwr Corfforaethol), Garem Jackson (Pennaeth Addysg), Anest Gray Frazer (Yr Esgobaeth), Menna Wynne-Pugh (Ysgol Penybryn, Tywyn), Andrew Roberts (Ysgol y Berwyn).

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

5.

COFNODION pdf eicon PDF 113 KB

I gadarnhau cofnodion cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 5 Chwefror 2018.

 

(Copi’n amgaeedig)

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r Fforwm Cyllideb Ysgolion a gynhaliwyd ar 5 Chwefror 2018 fel rhai cywir.

 

 

6.

MATERION YN CODI O’R COFNODION

·         Cyllideb Addysg Anghenion Arbennig

Cofnod:

Eitem 6 – Cyllideb Cyngor Gwynedd 2018/19

 

Rhoddwyd diweddariad i’r Aelodau gan y Pennaeth Cyllid ynglŷn â’r newid i’r drefn arbedion a sut y bydd hyn yn effeithio ar gyllidebau ysgolion Gwynedd. Adroddwyd bod adroddiad “Paratoi ar gyfer sefyllfa ariannol aneglur o 2019/20” wedi mynd ger bron y Cabinet ar y 22 Mai 2018, a rhoddwyd crynodeb i'r aelodau o’r cynnwys.

 

Nodwyd bod y Llywodraeth yn debygol o barhau i gyfyngu arian llywodraeth leol, a bydd rhaid parhau i edrych am arbedion. Mae’r Strategaeth Ariannol tymor canol yn nodi bod angen unrhyw le rhwng £8.5 ac £17.5 miliwn o arbedion o 2019/20 ymlaen. Ni fydd y Cyngor yn gwybod beth fydd dyraniad grant 2019/20 y Cyngor cyn mis Hydref 2018, ond mae angen paratoi am y sefyllfa waethaf.

 

Amlygwyd bod y Cabinet wedi penderfynu dygymod gyda'r sefyllfa ariannol drwy:

§  Ofyn i benaethiaid adrannau barhau i ystyried lle byddent yn arbed, pe byddai angen iddynt wneud hynny ar fyrder;

§  Bod yn barod i restru cynlluniau arbedion yn ôl trefn ardrawiad ar drigolion Gwynedd;

§  Pan fydd gwybodaeth am beth fydd y bwlch cyllidol yn cael ei gyhoeddi ym mis Hydref, bydd gweithdai o holl aelodau’r Cyngor yn cael eu cynnal i ystyried a dethol y cynlluniau arbedion gyda’r ardrawiad lleiaf ar drigolion Gwynedd;

§  Y Cabinet i ystyried argymhellion y gweithdai a chynnwys rhestr o arbedion yn y Strategaeth Ariannol i’w gyflwyno i’r Cyngor.

 

Pwysleisir na fydd unrhyw ganran penodol o arbedion ar gyfer ysgolion, ond oherwydd yr amrediad eang iawn o bosibiliadau ariannol, dylai ysgolion baratoi trwy ystyried lle byddent yn medru arbed, pe byddai angen iddynt wneud hynny ar fyrder. 

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif bwyntiau canlynol:

§  Mynegwyd pryder bod ysgolion llynedd wedi gorfod tynnu arian allan o’u cytundebau er mwyn cyrraedd y gorwariant ar fyr rybudd - nid yw yn dderbyniol. A oes sicrhad y bod hwn ddim yn digwydd eto eleni? 

§  Nodwyd bod grŵp allanol wedi ei sefydlu i edrych ar y mater o orwariant ymhellach.

 

Penderfynwyd:    Derbyn a nodi’r uchod.

 

 

7.

CYFRIFON TERFYNOL YSGOLION 31/03/2018 pdf eicon PDF 62 KB

I dderbyn adroddiad ar yr uchod.

 

(Copi’n amgaeedig)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth, adroddiad gan y Pennaeth Addysg ar yr uchod a thywyswyd yr Aelodau drwy ei gynnwys gan y Rheolwr Cyllid gan nodi  yn gyffredinol bod balansau holl ysgolion Gwynedd wedi cynyddu £1,139,946 yn ystod 2017/18 i £4,018,478 sy’n cyfateb i 5.49% o’u dyraniad terfynol.

 

Ymhelaethwyd fel a ganlyn bod:

 

§  2 ysgol gynradd gyda chyfanswm diffyg -£7,891 (-£1,794 a -£6,097)

§  2 ysgol Uwchradd gyda chyfanswm diffyg -£173,691

§  1 Ysgol Arbennig  gyda diffyg -£124,811

 

O safbwynt ysgolion mewn diffyg, awgrymwyd y dylai’r Adran Addysg a’r Adran Gyllid gydweithio yn agos gyda’r ysgolion er mwyn sicrhau eu bod yn clirio’r diffyg cyn gynted â phosib.

 

Mynegwyd pryder bod balansau rhai ysgolion yn parhau yn i fod yn uchel sydd yn gwneud amddiffyn y gyllideb addysg, yn sgil y toriadau ariannol, yn anodd iawn. Er bod ysgolion yn croesawu arian gan y Llywodraeth, yr hyn sy’n anodd ydoedd pan nad oes canllawiau i gynghori sut dylasai’r arian gael ei wario. Deallir hefyd, fod rhai ysgolion yn derbyn arian ychwanegol gan y Llywodraeth ar gyfer cynnal a chadw adeiladau ond pwysleisiwyd bod y cynnydd yn y balans ar wahân i’r pres hwnnw.

 

Nodwyd bod gan yr Adran Addysg rym i gyfarwyddo’r corff llywodraethu sut i wario’r elfen o’u balansau sydd dros y trothwy o £50,000 (cynradd) neu £100,00 (uwchradd).

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y prif bwyntiau canlynol:

 

§  Bod ysgolion cynradd yn awyddus i aeddfedu sustemau presennol i gael darlun byw o’r sefyllfa - mae ffigyrau ariannol yn hen hanes ac nid yw’n rhoi'r darlun real. Mae penderfyniad wedi ei wneud i sefydlu grŵp i edrych ar hyn ym mhellach.

 

§  Mynegwyd pryder bod ysgolion yn derbyn rhai grantiau / cyfraniadau ariannol tan ddiwedd y flwyddyn ac yn annisgwyl, a ddim yn cael amser i gynllunio sut y bydd yn cael ei wario. Mae’n bwysig pwysleisio’r pwynt wrth i aelodau drafod y toriadau ariannol.

 

Penderfynwyd:    (i) Cymeradwy bod yr Adran Addysg a’r Adran Gyllid:

 

(a)  Yn cydweithio’n agos gyda’r ysgolion gyda diffyg ariannol er mwyn sicrhau eu bod yn clirio’r diffyg cyn gynted â phosib.

(b)  Yn parhau i fonitro cyllidebau ysgolion.

 

8.

GRANTIAU YSGOLION 2018/19 pdf eicon PDF 106 KB

I dderbyn adroddiad ar yr uchod.

 

(Copi’n amgaeedig)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Addysg ynghyd ag atodiad yn manylu’r prif grantiau sydd wedi’i datganoli i bob ysgol yng Ngwynedd am 2019/19, sef cyfanswm o £9.8 miliwn uwchben y £70 miliwn a ddyrannir gan y Cyngor.

 

Tywyswyd y fforwm drwy’r adroddiad - cyfeiriwyd at y grantiau unigol gan nodi:

 

§  Grant Datblygu Disgyblion - eleni dyrennir £2,322,350 o’i gymharu â £2,271,450 yn 2017/18. Nodwyd y bydd y grant yn seiliedig ar ystadegau cinio am ddim PLASC Ionawr 2016 ar gyfer y flwyddyn gyllidol 2018/19 a hefyd 2019/20. 

 

§  Grant Gwella Addysg (GGA) – eleni dyrennir £4,925,601 o’i gymharu â £5,217,001 yn 2017/18. Mae toriad sylweddol yn y grant ar lefel Cymru, -11% yn 2018/19 ac -8.5% pellach yn 2019/20.

 

§  Grant y 6ed Dosbarth - eleni dyrennir £3,182,291 o’i gymharu â £3,407,388 yn 2017/18.  Mae’r arian wedi lleihau am nifer o resymau; lleihad yn y nifer o ddisgyblion; lleihad yng nghyfartaledd nifer y cyrsiau mae disgyblion yn eu hastudio.

 

Er bod cyfanswm y grantiau, mwy neu lai wedi, aros yr un peth ers y llynedd, yn sgil y cynnydd yn y Cytundebau Tal Athrawon (5%) bydd ysgolion ar golled yn nhermau real. Nodwyd bod toriadau pellach eisoes wedi ei gyhoeddi gan y Llywodraeth ar gyfer 2019/20 sef -8.5% yn y GGA a -10% yn y Grant 6ed Disgyblion - nid yw’r ffigyrau yma wedi ffactori’r Cytundeb Tal Athrawon.

 

 

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y prif bwyntiau canlynol:

§  Mynegwyd yr Aelod Cabinet ei fod yn flin iawn gyda phenderfyniad y Llywodraeth i dorri grantiau addysg heb i’r Cyngor gael unrhyw ddweud yn y mater. Teimlwyd nad yw’r drefn o gyhoeddi’r toriadau yn dryloyw, bod y Llywodraeth yn gwneud y toriadau drwy ddrws cefn.

§  Nid yw’r penawdau newyddion ar hyn sy’n cael ei adrodd yn y wasg yn rhoi’r darlun real i’r cyhoedd o faint y toriadau.

§  Mae datganiadau ariannol y llywodraeth bob tro yn digwydd ar y dyddiad olaf ac mae’n amhosib rhagrybuddio ysgolion er mwyn iddynt roi cynlluniau yn ei lle.

 

Penderfynwyd:    Derbyn a nodi’r uchod.

 

 

9.

GRANT / CYLLIDEB GWISG YSGOL

I dderbyn adroddiad llafar ar yr uchod.

 

 

Cofnod:

Adroddodd Uwch Reolwr Adnoddau Addysg, er gwybodaeth, bod y Cyngor wedi penderfynu parhau darparu'r Grant Cyllideb Gwisg Ysgol yn dilyn penderfyniad y Llywodraeth i’w ddileu. Nodwyd bod y grant gan Gyngor Gwynedd yn ymestyn ymhellach na grant y Llywodraeth, gan ariannu gwisg ysgol ar gyfer disgyblion 7, 8, 9, 10 a 11, yn hytrach na ddisgyblion blwyddyn 7 yn unig.

 

Fodd bynnag, wedi i’r Cyngor wneud y penderfyniad hwn, cyhoeddodd y Llywodraeth bod y Grant Datblygu Disgyblion nawr yn cynnwys yr elfen o wisg ysgol i blant dosbarth derbyn – ddisgyblion blwyddyn 7. Bydd yr arian ar gael i blant sy’n derbyn cinio ysgol am ddim ac i blant mewn gofal. Nodwyd bod y Cyngor yn croesawu’r penderfyniad yma gan y Llywodraeth ac am barhau i ariannu gwisg ysgol i ddisgyblion blwyddyn 8, 9, 10 a 11.

 

Amlygwyd nad yw’r Cyngor wedi derbyn rhagor o wybodaeth ynglŷn ag amodau a thelerau'r grant eto, ond bydd y wybodaeth yn cael ei rannu cyn gynted â phosib.

 

Penderfynwyd:    Derbyn a nodi’r uchod.

 

10.

CYTUNDEBAU LEFEL GWASANAETH pdf eicon PDF 63 KB

I dderbyn adroddiad ar yr uchod.

 

(Copi’n amgaeedig)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan yr Uwch Reolwr Adnoddau Addysg ar y Cytundebau Lefel Gwasanaeth (CLG) i ysgolion ynghyd a’u hymatebion a sylwadau ar wahanol gytundebau.  

 

Tynnwyd sylw at CLG Cynnal Tiroedd gan nodi bod ei ffurf yn hollol newydd ar gyfer 2018-21 ac mae gwaith cyfrifo manwl ar gyfer anghenion pob safle ysgol unigol wedi’i wneud a’i anfon at yr ysgolion perthnasol. Ar gyfer 2018-19, mae pris y CLG Cynnal Tiroedd yn cyfateb i bris y llynedd ar ôl ychwanegu chwyddiant. Pwysleisiwyd bod rhaid edrych ar ail fodelu’r dyraniadau ar gyfer Cynnal Tiroedd i ysgolion yn y dyfodol fel eu bod yn adlewyrchu’n well ar ofynion cynnal tiroedd safleoedd unigol.

 

Amlygwyd mai dim ond 35 allan o 86 ysgolion cynradd a 6 allan o 13 ysgolion uwchradd sydd wedi dewis y CLG Cynnal Tiroedd eleni. Os yw ysgolion yn dewis mynd at gwmni arall i gynnal y gwasanaeth, nodwyd ei fod yn bwysig sicrhau bod y cwmni yn dilyn canllawiau penodol.

 

Bwriedir cynnig y CLG i ysgolion yn gynharach flwyddyn nesaf fel bod ysgolion yn cael mwy o amser i gynllunio ac i sicrhau eu bod yn weithredol o Ebrill y 1af. 

 

Penderfynwyd:    Derbyn a nodi cynnwys yr adroddiad.

 

11.

DYDDIADAU CYFARFODYDD Y FLWYDDYN ACADEMAIDD 2018/19

Cofnod:

PENDERFYNWYD:         Cynnal y cyfarfodydd nesaf:

 

(a)  Diwedd mis Tachwedd 2018 

(b) Diwedd mis Ionawr/dechrau mis Chwefror 2019

(c) Canol mis Mehefin 2019

 

Dyddiad yw pennu gyda Chadeirydd a swyddogion y Fforwm.