Lleoliad: Ystafell Glaslyn, Y Ganolfan, Porthmadog
Cyswllt: Annes Sion 01268 679490
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Iwan Trefor Jones
(Cyfarwyddwr Corfforaethol), Garem Jackson (Pennaeth Addysg), Anest Gray Frazer
(Yr Esgobaeth) ac Elen ap Gwilym (Llywodraethwr Ysgol Bro Tegid) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|
I gadarnhau
cofnodion cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 18 Mehefin 2018. (Copi’n amgaeedig) Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r Fforwm
Cyllideb Ysgolion a gynhaliwyd ar 18 Mehefin 2018 fel rhai cywir. |
|
MATERION YN CODI O’R COFNODION Cofnod: Eitem 7 – Cyfrifon Terfynol Ysgolion 2017/18 Nodwyd nad yw grŵp wedi ei sefydlu i
drafod aeddfedu systemau presennol yr ysgolion cynradd, ond y bydd yn cael ei
sefydlu cyn y cyfarfod nesaf. Penderfynwyd: Derbyn a nodi’r
uchod. |
|
SETLIAD DRAFFT - STRATEGAETH ARIANNOL CYNGOR GWYNEDD 2019/20 I dderbyn adroddiad llafar ar yr uchod. Cofnod: Cyflwynodd y
Pennaeth Cyllid yr adroddiad gan bwysleisio fod y setliad drafft sydd wedi ei
gyflwyno gan y Llywodraeth yn ansicr. Mynegwyd mai drafft yw’r setliad ar hyn o
bryd, a nodwyd gydag Arweinydd newydd i Lywodraeth Cymru ar ei ffordd mae
posibilrwydd efallai y bydd yn cael ei addasu. Ymhelaethwyd gan nodi fod bwlch
gyllido o £14m erbyn y flwyddyn nesaf. Amlinellwyd y ffactorau sy’n cyfrannu at
y pwysau ariannol erbyn 2019/20, yn cynnwys Setliad Grant y Cyngor -0.8%,
cytundeb tâl +2% a mwy i rai, ynghyd â chwyddiant yn parhau’n uchel, a'r galw
ychwanegol ar wasanaethau gofal cymdeithasol. Ychwanegwyd fod
gan y Cyngor gynlluniau ar sut y gellid cyfarch y bwlch yn 2019/20.
Ymhelaethwyd, gan nodi tebygolrwydd bydd cynnydd yn y Dreth Cyngor o 4.8% neu
fwy. Nodwyd y bydd angen cynhaeafu cynlluniau arbedion cyfredol, a
blaenoriaethu cynlluniau arbedion ychwanegol er mwyn sicrhau parhad gwasanaeth.
Mynegwyd fod pwysau ychwanegol o ganlyniad i gynnydd mewn cyfraniadau cyflogwyr
tuag at bensiynau athrawon. Ymhellach,
tra disgwylir i’r Llywodraeth gyfarch y bwlch yma, mae’n bosib bydd angen i’r
ysgolion ddygymod ag elfen ohono, pe na bai’r Llywodraeth yn ariannu’r cyfan
o’r gost £1.6m yn 2019/20. Ychwanegwyd fod y Cabinet yn cynllunio i basio mlaen
i’r ysgolion unrhyw arian a fydd yn dod i Wynedd ar gyfer pensiynau athrawon. Amlinellwyd y
drefn ar gyfer y cylch cyllideb / arbedion a gyflwynir i’r Cyngor Llawn ar 7
Mawrth. Nodwyd rhagolygon ar gyfer ysgolion Gwynedd, gan nodi y bydd
ychwanegiad chwyddiant llawn, a rhai addasiadau fel yr arbediad uwchradd a
ohiriwyd, ond ni fydd ‘toriad’ newydd i gyllideb ysgolion Gwynedd erbyn
2019/20. Tynnwyd sylw at ragolygon tebygol siroedd eraill sydd, ar hyn o bryd,
yn bygwth toriadau. Sylwadau yn codi
o’r drafodaeth -
Pwysleisiwyd, yn sefyllfa anodd y Cyngor, bod y tebygolrwydd o ddim
toriad newydd erbyn 2019/20 yn bur hael, ond esboniwyd na fydd modd gwarantu hynny
erbyn yn y blynyddoedd yn dilyn hyn. -
Nododd yr Aelod Cabinet dros Addysg, yn dilyn trafodaethau yng
Nghaerdydd, fod addewid yno y bydd arian yn cael ei drosglwyddo i ysgolion ar
gyfer Pensiwn Athrawon, ond er hyn fod yr arian ar gyfer hyfforddiant a grantiau
yn lleihau. -
Trafodwyd Pensiynau - a nodwyd fod yr arian mewn cronfa wrth gefn gan
Ganghellor Llywodraeth San Steffan ar hyn o bryd, ond gobeithir y bydd yn cael
ei ddyrannu yn fuan drwy Lywodraeth Cymru a’r awdurdodau lleol i’r ysgolion. |
|
GRANTIAU 2019/20 I dderbyn adroddiad llafar ar yr uchod. Cofnod: Penderfynwyd trafod y Grantiau gydag eitem 8 -
Rhagolygon 2019/20, 2020/21 a 2021/22. |
|
ADOLYGIAD ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL A CHYNHWYSIAD PDF 47 KB I dderbyn adroddiad ar yr uchod. (Copi’n amgaeedig) Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan yr Uwch Reolwr Adnoddau Dysgu Ychwanegol gan nodi fod y sefyllfa
o ran gorwariant yn argyfyngus. Ychwanegwyd fod cynnydd sylweddol yn y nifer o
blant sy’n derbyn cefnogaeth a bod arbenigwr annibynnol allanol wedi ei
gomisiynu i ymchwilio i mewn i’r gorwariant. Ychwanegwyd fod y gwaith o
ailstrwythuro’r Panel Cymedroli wedi ei gwblhau a bod adroddiad ar ddata ADY a
Chynhwysiad wedi ei gyflwyno i’r arbenigwr annibynnol allanol. Mynegwyd fod gwaith wedi ei gwneud ar
adolygu’r canllawiau. Ychwanegwyd fod
yn dilyn cyflwyno’r Adroddiad Ymchwil bydd argymhellion ar gyfer gweithrediad i
reoli’r sefyllfa yn cael eu nodi. Tynnwyd sylw ar
y faith er bod oriau cyfartalog fesul plentyn fesul wythnos wedi lleihau
ychydig ers 2015. Mynegwyd er bod y cynnydd yn y niferoedd wedi arafu mae risg
iddo godi eto, ond nad yw’r adran yn ymwybodol o faint y risg. Nodwyd fod
cynnydd amlwg mewn rhai ardaloedd a rhan amlaf fod y plant yn dod o un sector
sef Plant mewn gofal. Ychwanegwyd fod niferoedd sydd yn derbyn cefnogaeth
ychwanegol ar gynnydd yn genedlaethol. Mynegwyd fod y
sefyllfa yn un anodd, yn benodol gan fod y maes dan bwysau yn enwedig gyda
chludiant plant. Ymhelaethodd yr Aelod Cabinet ei bod yn anodd dod o hyd i
arian ychwanegol ac mae hi yn anodd gwybod ble i fynd ac i sicrhau lleihad mewn
gorwariant. Penderfynwyd: Derbyn
a nodi’r uchod. |
|
RHAGOLYGON 2019/20, 2020/21 A 2021/22 I dderbyn adroddiad llafar ar yr uchod. Cofnod: Nodwyd yn arferol nad yw rhagolygon fel arfer
yn dod i’r Fforwm Gyllideb ond o ganlyniad i gynnydd Pensiwn Athrawon eu bod yn
cael eu cyflwyno. Nodwyd er bod y Cyngor yn colli grant o £1.3m eto eleni,
ychwanegwyd ei fod yn fwriad i’r cyngor ariannu chwyddiant cyflogau yn llawn a
bydd yn costio £1.8m i’r Cyngor. Tynnwyd sylw at y rhagolygon yn benodol Grant
6ed. Mynegwyd ei bod yn ymddangos na fydd toriad ‘cash’ yn 2019/20, ond er hyn
mae costau yn cynyddu 5% ac o ganlyniad mae’n doriad sylweddol. Nodwyd nad oes unrhyw arweiniad ffurfiol wedi
bod ar gyfer y Grant Gwella Addysg hyd yma, ond fod y rhagolygon yn seiliedig
ar amcangyfrif o ddim toriad ‘cash’ a chynnydd mewn costau real. Ond
ychwanegwyd nad yw cynlluniau Llwybrau Dysgu ddim ar gael ar hyn o bryd. Nodwyd gwerthfawrogiad ysgolion o’r
rhagolygon cynhyrchwyd gan yr Adran Gyllid. Awgrymwyd posibilrwydd y bydd cwtogiad yng
nghyllideb y Canolfannau Iaith, oherwydd lleihad grant penodol gan Lywodraeth
Cymru, ac na fydd modd i’r Cyngor ddigolledu’r swm. O ganlyniad i hyn, nodwyd
fod ailstrwythuro yn bosib, a bod trafodaeth yn cael ei gynnal â staff.
Pwysleisiwyd na fydd yr ailstrwythuro yn amharu ar fynediad disgyblion i
Ganolfannau Iaith. Nodwyd fod angen sicrhau ansawdd i’r dyfodol, gan eu bod yn
bwysig o fewn y sir. Penderfynwyd: Derbyn a nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
DULL DYRANNU CYLLID CYNNAL TIROEDD YSGOLION PDF 61 KB I dderbyn adroddiad ar yr uchod. (Copi’n amgaeedig) Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Adnoddau Addysg gan nodi fod y cyllid
ar gyfer cynnal tiroedd yn cael ei ddyrannu i ysgolion ar sail hanesyddol ar
hyn o bryd. Ychwanegwyd yn ystod y rownd o gynnig cytundebau lefel gwasanaeth y
llynedd, fod angen ailfodelu’r dyraniad. Yn dilyn hyn, ychwanegwyd, fod gwaith
i adnabod anghenion pob safle wedi ei wneud ac wedi ei anfon at yr ysgolion.
Mynegwyd fod modd i’r dadansoddiad
nodi’r gwaith craidd a dewisol. Mynegwyd wrth
ailfodelu bydd arian a ddyrennir yn cyd-fynd â’r gwaith craidd sydd angen ei
wneud. Ychwanegwyd mai newid i sut mae’r arian yn cael ei ddyrannu mae’r
cynllun yma ac nid newid y ffordd mae’n cael ei ariannu. Pwysleisiwyd bod angen
edrych ar sut i gyflwyno’r newid os oes newidiadau sylweddol i ddyraniad
ysgolion unigol, yn enwedig mewn cyfnod mor ansicr. Nodwyd nad yw’r
fforwm yn anghytuno mewn egwyddor ond fod angen rhagrybuddio ysgolion os yn
cael llai o arian. Nodwyd y byddai angen ail-ymweld â chost y Cytundeb Lefel Gwasanaeth
Cynnal Tiroedd canolog wrth gyflwyno’r dull dyrannu newydd. PENDERFYNWYD: Derbyn yr
adroddiad |
|
GWASANAETH RHWYDWAITH YSGOLION PDF 39 KB I dderbyn adroddiad ar yr uchod. (Copi’n amgaeedig) Cofnod: Cyflwynodd y
Pennaeth Cyllid yr adroddiad, gan nodi fod Technoleg Gwybodaeth yn datblygu’n
gyflym. Ychwanegwyd fod y ddarpariaeth o ran rhwydwaith a chyswllt
cyfrifiadurol wedi gwella i safon gadarn yn holl ysgolion y sir. Mynegwyd o
ganlyniad i gaffael rhwydwaith a datblygiadau technolegol, bydd cost y
gwasanaeth yn lleihau, ac o ganlyniad bydd cyfanswm dyraniadau’r ysgolion yn
lleihau cymesur. Nodwyd y bydd
cyfnod o ymgynghori ag ysgolion am adolygu'r sail dyrannu. Bydd yr ymgynghoriad
yn cynnwys cynnig i symud yn agosach at ddosbarthu ar sail nifer disgyblion. PENDERFYNWYD: Derbyn
yr adroddiad |
|
CYTUNDEBAU LEFEL GWASANAETH I dderbyn adroddiad llafar ar yr uchod. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi fod 2 beth yn effeithio cytundebau lefel gwasanaeth sef Uned
Gefnogi Addysg Cefnogol a Chyflogau, Personél a Chyfreithiol. Nodwyd fod gwaith
yr Uned Gefnogi Addysg yn parhau i ddatblygu a gwnaed cais i’r cytundeb redeg
am flwyddyn arall. Gan fod
gor-gyffwrdd rhwng gwaith yr Uned Gefnogi Addysg â’r hyn a gynhwysir yn y
Cytundeb Lefel Gwasanaeth Cyflogau, Personél a Chyfreithiol, gwnaed cais i’r
cytundeb hwnnw redeg am flwyddyn arall yn ogystal. PENDERFYNWYD: Bod
y cytundebau Uned Gefnogi Addysg a Chyflogau, Personél a Chyfreithiol yn rhedeg
am flwyddyn arall. |
|
DYDDIAD CYFARFOD NESAF Cofnod: Dyddiad i’w
drefnu yn ystod mis Chwefror / Mawrth. |