skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Dwyryd, Canolfan gyswllt y Cyngor, Penrhyndeudraeth

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

Cofnod:

Dafydd Edwards (Pennaeth Cyllid), Arwyn Williams (Ysgol Tryfan), Alan Wyn Jones (Ysgol Nefyn), Richard Derwyn Jones (Ysgol Garndolbenmaen), Eleri Morgan Davies (Ysgol y Gorlan), Neil Foden (Ysgol Friars), Anest Gray Frazer (Esgobaeth), Gwenan Davies Jones (Cadeirydd Ffederasiwn Penaethiaid Cynradd), Ellen Williams (Cadeirydd Ffederasiwn Penaethiaid Uwchradd), Hefin Owen (Cyfrifydd Grŵp Datblygu) a Ffion Edwards Ellis (Pennaeth Cynorthwyol Anghenion Addysg Arbennig a Chynhwysiad).

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

3.

MATERION BRYS

I nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 91 KB

I gadarnhau cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2020.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Fforwm a gynhaliwyd ar 23 Ionawr, 2020 fel rhai cywir.

 

5.

MATERION YN CODI O’R COFNODION

I drafod unrhyw eitemau sydd yn codi o’r cofnodion.

 

Mae ‘Statistical First Release’ – balansau ysgolion wedi’i hanfon at aelodau’r Fforwm.

Cofnod:

Eitem 5 – Balansau Ysgolion 31/3/2020 dros £50,000 (Cynradd) neu £100,000 (Uwchradd)

 

Mewn ymateb i ymholiad, nodwyd na chafwyd cadarnhad hyd yma o’r sefyllfa gyfreithiol o ran statws ysgol ddilynol.  Holwyd ymhellach a fyddai’n bosibrhoi’r cynradd a’r uwchradd gyda’i gilydd am y tro.  Nodwyd nad oedd modd gwneud hynny gan ei fod yn fater cyfreithiol yn hytrach nag yn ddewis i awdurdod.

 

Nodwyd bod holl aelodau’r Fforwm wedi derbyn copi o’r datganiad ystadegol cyntaf ynglŷn â chronfeydd ariannol wrth gefn ysgolion ar 31 Mawrth, 2019.  Tynnwyd sylw at rai o’r prif bwyntiau, sef:-

 

·         Bod cyfanswm lefel y cronfeydd wrth gefn yn ysgolion Cymru yn £46m ar 31 Mawrth 2019, oedd yn gyfwerth â £102 y disgybl. 

·         Mai Abertawe oedd â’r lefel uchaf o gronfeydd wrth gefn fesul disgybl, sef £251, a Sir Fynwy yr isaf, gyda diffyg o £22 y disgybl.

·         Bod gan 151 o ysgolion cynradd, 77 o ysgolion uwchradd, 8 o ysgolion arbennig, 1 ysgol feithrin a 10 ysgol ganol yng Nghymru gronfeydd wrth gefn negyddol a oedd yn gyfwerth â £29m.  Roedd gan y 1,287 o ysgolion eraill gronfeydd wrth gefn mwy na 10% o gyfanswm y gwariant a glustnodwyd ar eu cyfer.

 

Nodwyd ymhellach bod Gwynedd yn eithaf agos i’r uchaf o ran lefel y cronfeydd wrth gefn fesul disgybl.

 

Mewn ymateb i ymholiad, nodwyd mai pryder mwyaf y swyddogion fyddai bod ysgolion yn mynd i ddiffyg, gan ei bod yn anodd iawn dod allan o’r sefyllfa honno.

 

Eitem 7 – Grantiau Ysgolion 2020/21

 

Mewn ymateb i ymholiad, nodwyd na chafwyd gwybodaeth hyd yma gan GwE ynglŷn â’r defnydd o’r Grant Datblygiad Proffesiynol.

 

Eitem 8 – Setliad DrafftStrategaeth Ariannol Cyngor Gwynedd

 

Mewn ymateb i ymholiad, nodwyd bod elfen o’r bid cludiant wedi ei ariannu a chadarnhawyd nad oedd hyn yn effeithio ar gyllid ysgolion beth bynnag.

 

Nodwyd y deellid bod Cabinet Cyngor Gwynedd wedi penderfynu peidio cynaeafu’r cynllun arbedion cyffredinol ar gyfer ysgolion eleni, a phwysleisiwyd, petai yna fwriad i newid hynny i’r dyfodol, y dylai’r Fforwm fod yn rhan o’r drafodaeth honno.

 

Mewn ymateb, nodwyd bod y sefyllfa’n dibynnu ar setliad Llywodraeth Cymru i gynghorau.  Cafwyd setliad gwell na’r disgwyl eleni, ond ni allai neb roi addewid i’r dyfodol a byddai ffactorau megis Brexit, y llifogydd diweddar a Coronavirws yn amlwg yn rhan o’r drafodaeth yn y dyfodol.  Cytunwyd y dylai’r Fforwm fod yn rhan o’r drafodaeth petai’r sefyllfa’n newid yn y dyfodol.

 

6.

DYRANIAD INTEGREIDDIO pdf eicon PDF 61 KB

Adroddiad gan Hefin Owen.

Cofnod:

Cyflwynwyd er gwybodaethadroddiad y Cyfrifydd Grŵp Datblygu yn rhoi dadansoddiad o’r Dyraniad Integreiddio ers sefydlu’r gyfundrefn ariannu gyfredol yn 2015/16.

 

Nododd Swyddog Addysg Ardal Dwyfor / Meirion fod y Pennaeth Cynorthwyol Anghenion Addysg Arbennig a Chynhwysiad wedi gofyn iddo adrodd ar rai pwyntiau yn sgil yr eitem hon.  Eglurodd:-

 

·         Y comisiynwyd arolwg allanol ynglŷn â’r defnydd o’r cyllid integreiddio fel rhan o Gwedd 2 o’r adolygiad strategol ym maes Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad (ADY a Ch). 

·         Mai’r bwriad ar y pryd oedd sefydlu is-grŵp fyddai’n edrych ar y dulliau gwahanol o ddatganoli’r cyllid integreiddio, ond ar draws hynny daeth cais gan y Bwrdd Rheoli i wneud adolygiad llawn o’r gwasanaeth ADY a Ch ar draws Gwynedd a Môn.

·         Bod y gwaith hwnnw wedi mynd rhagddo yn ystod yr wythnosau diwethaf.  Adroddwyd yn ôl ar hynny eisoes a byddai hynny’n cael ei rannu gyda’r Byrddau Strategol.

·         Bod y Pennaeth Cynorthwyol Anghenion Addysg Arbennig a Chynhwysiad yn dymuno pwysleisio bod yna fwriad a dymuniad i drafod opsiynau gwahanol o ran datganoli, a byddai’r is-grŵp yn edrych ar hynny yn ystod yr wythnosau nesaf.

 

PENDERFYNWYD bod yr is-grŵp fydd yn edrych ar y dulliau gwahanol o ddatganoli’n bwydo nôl i’r Fforwm nesaf.  Cytunwyd hefyd i rannu crynodeb o’r adolygiad annibynnol o’r Gwasanaeth ADY a Ch ar draws Gwynedd a Môn i’r grwpiau ymgynghorol cynradd ac uwchradd.

 

7.

STRATEGAETH DIGIDOL YSGOLION pdf eicon PDF 64 KB

Cyflwyniad gan Huw Ynyr a Gwern ap Rhisiart

Cofnod:

Nodwyd bod holl aelodau’r Fforwm wedi derbyn copi o adroddiad a baratowyd gan y Pennaeth Cynorthwyol Technoleg Gwybodaeth ar y cyd â Swyddog Addysg Ardal Dwyfor / Meirion ar y Cynllun Grant Seilwaith Mewn Ysgolion - Hwb.  Eglurwyd na lwyddwyd i gynnwys yr adroddiad ar raglen y Fforwm oherwydd na dderbyniwyd y ffigurau terfynol gan Lywodraeth Cymru tan yr unfed awr ar ddeg. 

 

Manylwyd ar gynnwys yr adroddiad.  Nodwyd:-

 

·         Yng Ngorffennaf 2019, y cyhoeddodd y Gweinidog Addysg raglen ariannu i helpu i drawsnewid Technoleg Addysg Mewn Ysgolion yng Nghymru. 

·         Y byddai’r fenter £50m yn defnyddio ‘catalog TGCh Cymru Gyfan’ newydd fel cyfrwng i helpu awdurdodau lleol i brynu’r cyfarpar addas angenrheidiol ar ran eu hysgolion.

·         Yn unol ag amodau’r cynllun, awdurdodau lleol fyddai’n gwasanaethu fel y partner cyflenwi strategol ar gyfer y rhaglen a byddai’n rhaid defnyddio’r cyllid yn briodol er mwyn sicrhau bod pob ysgol yn cael ei huwchraddio yn unol â’r safon cenedlaethol.

·         Bod Gwynedd wedi ymrwymo i fod yn gyswllt ar gyfer ysgolion y sir ac wedi cytuno i egwyddorion craidd safoni, cysondeb ac, yn bwysicaf oll, cynaliadwyedd.

·         Bod y grant yn galluogi adnewyddu rhwydwaith ysgolion Gwynedd er mwyn cyrraedd y safon genedlaethol, gan uwchraddio pwyntiau rhwydwaith diwifr a chabinetau rhwydwaith a gosod ceblau newydd lle bo angen.

·         Bod y caledwedd ar gyfer uwchraddio’r rhwydwaith wedi ei archebu, a byddai’r gwaith mewnosod yn digwydd dros y ddau dymor nesaf.

·         Gan fod y Cyngor wedi ymrwymo i gynaliadwyedd yr offer yma, ni fyddai yna oblygiadau cost ar yr ysgolion pan fyddai’r offer a osodid drwy’r grant yn cyrraedd diwedd ei oes.

·         Y buddsoddwyd yn agos i £1.4m o’r grant eleni ar galedwedd i uwchraddio’r rhwydwaith.

·         Bod asesiad o niferoedd a chyflwr y dyfeisiadau presennol ar draws ysgolion Gwynedd yn dangos bod ystod eang o ddyfeisiadau ar gael yn yr ysgolion, ond bod llawer ohonynt wedi dyddio.

·         Bod Strategaeth Addysg Ddigidol yr Adran Addysg wedi gosod uchelgais o ran cyfradd dyfais i blentyn o 1:4 yn y cyfnod sylfaen ac 1:1 yng nghyfnodau allweddol 2, 3 a 4, ynghyd â dyfais i bob athro/athrawes ac i nifer o’r staff cynhaliol.

·         Byddai peidio cynnal cyfradd 1:1 yn y sector uwchradd yn golygu cadw elfennau o’r hen system ac yn golygu cynnydd sylweddol mewn costau cynnal a chadw’r offer.

·         Amcangyfrifid bod angen 13,676 o ddyfeisiadau ar gost o £2,908,205.02.  Byddai’r grant yn ein galluogi i brynu’r dyfeisiadau hyn.

·         Yn seiliedig ar gylch adnewyddu o 5 mlynedd byddai’n rhaid canfod 20% o gost y dyfeisiadau hyn bob blwyddyn am y 5 mlynedd nesaf.  Ar ddiwedd y 5 mlynedd, byddai set newydd o ddyfeisiadau yn cael eu cyflwyno.  Byddai’r costau fel a nodir yn y tablau isod:-

 

 

Nifer

Disgyblion

Nifer cyfrifiaduron

(ar sail ratio)

Cost (ar

sail ratio)

Cyfraniad

Adnewyddu

Cost y Disgybl

CS

3,530

883

£293,431.25

£58,686.00

£16.62

CA2

5,150

5,150

£916,242.16

£183,248.43

£35.58

CA3 a 4

6,455

6,455

£1,017,759.85

£203,551.97

£31.53

Cyfanswm

15,135

12,488

£2,227,433.26

£445,486.65

£29.43

 

Athrawon

 

Nifer Athrawon

Nifer cyfrifiaduron (ar sail ratio)

Cost (ar

sail ratio)

Cyfraniad Adnewyddu  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

GWASANAETH ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL A CHYNHWYSIAD

Cyflwyniad gan y Gwasnaeth

Cofnod:

Nodwyd bod y Swyddog Addysg Ardal Dwyfor / Meirion eisoes wedi rhoi ei gyflwyniad ar hyn dan eitem 6 uchod.

 

9.

GRANTIAU YSGOLION 2020/21 - DIWEDDARIAD

Cyflwynir y wybodaeth gan Hefin Owen.

Cofnod:

Nodwyd y disgwylid mwy o wybodaeth cyn gallu rhoi diweddariad ar hyn i’r Fforwm.

 

10.

DYDDIAD CYFARFOD NESAF

Bydd dyddiadau’r cyfarfodydd nesaf yn cael ei gylchredeg.

Cofnod:

Cytunwyd i gynnal cyfarfod nesaf y Fforwm ym Mehefin, ar bnawn Llun os yn bosib’, gyda chyfarfod pellach i’w gynnal ar ôl y gwyliau haf.

 

Gofynnwyd am gynnwys Cynllun Absenoldebau Ysgolion Uwchradd fel eitem ar raglen y cyfarfod nesaf gan fod y ddarpariaeth bresennol yn dod i ben.  Awgrymwyd hefyd bod y mater yn cael ei drafod yn y cyfarfod penaethiaid cyn dod i’r Fforwm ym Mehefin.