Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Dwyryd, Penrhyndeudraeth

Cyswllt: Annes Sion  01286 679490

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Cyng. Cemlyn Williams, Elen Williams (Ysgol Brynrefail) ac Annest Gray Frazer (Esgobaeth). Croesawyd aelodau newydd y Fforwm i’w cyfarfod cyntaf.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

3.

COFNODION pdf eicon PDF 91 KB

I gadarnhau cofnodion cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 24 Mehefin 2019.

(Copi’n amgaeedig)

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r Fforwm Cyllideb Ysgolion a gynhaliwyd ar 24 Mehefin fel rhai cywir.

 

4.

MATERION YN CODI O’R COFNODION

Eitem 7 – Nid oedd balansau ysgolion Gwynedd yr uchaf yng Nghymru 31/03/2019

Cofnod:

Mynegwyd o ran ystadegau cenedlaethol o falansau ysgolion nad oedd Gwynedd yn y man uchaf, a bod Abertawe wedi cyrraedd y brig. Nodwyd fod Gwynedd ar 4.5% ac ar gyfartaledd yn îs nac y 5% mae gofyn iddynt ei gyrraedd. Ychwanegwyd os yn edrych ar falansau uwchradd mae 12 o’r 22 awdurdod yng Nghymru yn y minws.

 

5.

BALANSAU YSGOLION 31/03/2020 DROS £50,000 NEU £100,000

Adroddiad llafar gan Owen Owens.

Cofnod:

Tynnwyd sylw at gofnod y cyfarfod blaenorol ble nodwyd fod holiadur am gael ei anfon i’r ysgolion sydd â balansau dros £50,000 (cynradd) neu £100,000 (uwchradd).

 

Nodwyd bod 20 ysgol yn disgyn i mewn i’r categori hwn a bod holiaduron wedi’u derbyn yn nodi beth fydd yr ysgolion yn gwneud gyda’r arian. Nodwyd bod rhaid mynd yn ôl at 3 ysgol er mwyn derbyn mwy o fanylder na’r hyn a gyflwynwyd yn eu holiaduron gwreiddiol.

 

Adroddwyd ymhellach bod:

 

 

  • Cynllunio ariannol yr ysgolion yn briodol ar sail y rhagolygon oedd ar gael i’r ysgolion adeg llenwi’r holiadur. Felly bod yr Awdurdod ddim am gyfeirio’r ysgolion at  unrhyw wariant penodol.

 

  • Roedd nifer o ysgolion yn nodi’r angen i ddefnyddio’r balansau ar gyfer gosod cyllideb y flwyddyn hon neu flynyddoedd ddilynol.

 

  • Roedd lleiafrif o ysgolion yn nodi gwariant un-tro penodol. Roedd hyn yn iawn cyn belled â bo’r gwariant yn cael ei wneud.

 

  • Nodwyd bod angen cadarnhau’r sefyllfa gyfreithiol o ran statws ysgol ddilynol. Ydy ysgol ddilynol yn cyfrif fel ysgol gynradd (efo hawl i gyfeirio balansau >£50k) neu’n cyfrif fel ysgol uwchradd (efo hawl cyfeirio balansau >£100k)?

 

  • Adnabwyd yr angen i holi’r gyfundrefn addysg yn ei gyfanrwydd, yn syth pan fo balansau terfynol ysgolion ar gael (h.y. mis Mai/Mehefin), os y dylai ysgol fod yn buddsoddi mewn rhywbeth penodol er mwyn gwella’r ysgol.

 

Penderfynwyd:         

Derbyn yr adroddiad llafar.

 

6.

RHAGOLYGON YSGOLION 2020/21, 2021/22 A 2022/23

Adroddiad llafar gan Hefin Owen

Cofnod:

Esboniwyd fod y flwyddyn hon yn flwyddyn unigryw gan nad oedd Fforwm Cyllideb wedi ei gynnal am fis Hydref gan fod y setliad gan Lywodraeth Cymru wedi bod yn hwyr. Amlygwyd fod y Cyngor wedi gofyn i holl adrannau i ddod o hyd i arbedion o hyd at £2miliwn ar draws y Cyngor. Er mwyn trafod a chraffu’r arbedion hyn esboniwyd fod trafodaethau wedi’u cynnal yn edrych ar arbedion yr holl adrannau. Esboniwyd fod yr Adran Addysg wedi amlygu toriadau amrywiol i ysgolion fel un o’r opsiynau ar gyfer dod o hyd i’w targed arbedion ond fod y Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi wedi gwrthod yr opsiwn hwn. Yn dilyn derbyn y setliad drafft, amlygwyd fod y Cabinet wedi penderfynu am eleni i beidio gweithredu’r toriadau.

 

Nodwyd o ran y Strategaeth Ddigidol nad oedd dim i’w nodi ac nad yw’r toriad yma yn cael ei weithredu bellach. Mynegwyd nad oes unrhyw ymrwymiad ariannol i ysgolion yn 2020/21. Ychwanegwyd fod rhai wedi meddwl fod yr arian Cynnal ar gael ar gyfer y strategaeth ddigidol ond mynegwyd ei fod yn arian ychwanegol. Pwysleisiwyd fod angen trafodaeth bellach ac i flaen gynllunio ar gyfer y flwyddyn nesaf. Felly nodwyd y bydd y Pennaeth Technoleg Gwybodaeth yn mynychu’r cyfarfod nesaf.

 

Mynegwyd fod Llywodraethwyr wedi derbyn rhagolygon am eleni ac esboniwyd yr addasiadau oedd i’w gweld. Mynegwyd fod ‘Integreiddio arall’ yn cael ei symud i’r canol rhag ofn y bydd mwy o angen am integreiddio datganiadau. Bydd yr adran yn ymgynghoriad ar opsiynau o beth i wneud gyda’r arian. O ran gwariant parhaol nodwyd y bydd yr ymatebion yn dod yn ôl erbyn 2 Mawrth ac yna ym mynd i drafodaeth yn y Cabinet. Eleni, ategwyd, fod £392,000 yn y canol a thymor y gwanwyn heb ei gyfri eto. Mynegwyd fod llythyr yn cael ei anfon yn egluro’r sefyllfa.

 

Amlygwyd y llinell newydd yn y rhagolygon ar gyfer ADY o ganlyniad i’r datblygiadau sydd yn digwydd. Er hyn pwysleisiwyd fod angen ei weld cyn gweld clir ei ystyr.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Mynegwyd fod angen anfon y llythyr rhagolygon i’r Ysgolion yn gynt, gan ei fod wedi cyrraedd pnawn cyn y cyfarfod strategol ac felly buasai ei dderbyn yn gynt yn galluogi trafodaeth o safon uwch.

¾     Trafodwyd ADY gan nodi fod rhai Penaethiaid yn cael mwy o wybodaeth ac eraill gan fod rhai ar hap yn cael ei gwahoddi gyfarfodydd. Pwysleisiwyd pwysigrwydd fod pawb yn cael y wybodaeth mewn digon o amser.

¾     Holwyd os oes bwriad gan yr adran i drafod ADY gyda’r holl benaethiaid ac Aelodau’r Fforwm gan fod plant yn cael eu hamlygu yn y datganiad ond fod arian yn cael ei dynnu oddi ar ysgolion ar gyfer 1:1. Nodwyd y bydd cyflwyniad ar y cyd a chyllid a’r arweinwyr maes i roi dealltwriaeth a mewnbwn ar sut y bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio.

 

Penderfynwyd:

Derbyn yr adroddiad a gofynnwyd am adroddiad pellach gyda dadansoddiad ar bapur er mwyn rhoi'r darlun ehangach o waith ADY.

 

7.

GRANTIAU YSGOLION 2020/21

Adroddiad llafar gan Hefin Owen

Cofnod:

Nodwyd o ran Grant y Chweched fod y rhagolygon yn ymddangos y bydd cynnydd o 8-9% i ymdopi gyda’r cynnydd mewn costau. Er hyn, amlygwyd y bydd angen mwy i ddelio a chostau yn 2020/21.Ychwanegwyd bydd adroddiad y cyfrifwyr ar y 5 Chwefror a bod yr adran yn ffyddiog y bydd arian ar gael.

 

O ran grant Gwella Addysg nodwyd nad oes bygythiad i’r grant ond nad yw’r adran wedi derbyn unrhyw wybodaeth yn ffurfiol.

 

Nodwyd fod Grant Ychwanegol ADY o £280,000.

 

O ran Grant Datblygiad Proffesiynol mynegwyd fod yr arian yn mynd yn ganolog i GwE. Ychwanegwyd y bydd GwE yn nodi sut i ddefnyddio'r arian yn ddibynnol ar ddisgwyliadau’r Llywodraeth.

 

8.

SETLIAD DRAFFT - STRATEGAETH ARIANNOL CYNGOR GWYNEDD 2020/21

Adroddiad llafar gan Dafydd L Edwards

Cofnod:

Pwysleisiodd yr Aelod Cabinet fod y penderfyniad ar Gyllideb y Cyngor yn cael ei wneud gan y Cyngor llawn, nid gan Aelodau’r Cabinet.

 

Nododd y Pennaeth Cyllid yn ystod yr haf diwethaf eu bod wedi i’r rhagamcan y bydd angen £2miliwn o arbedion ar draws y Cyngor. Amlinellwyd y prif bwyntiau megis y bydd swm uchel o dros 2% o gynnydd mewn chwyddiant. Nodwyd fod pwysau a galw yn uchel yn y maes gofal.

 

Er hyn mynegwyd fod y gyllideb yn eithaf positif o ganlyniad i setliad uwch na’r disgwyl, ond nad yw’r setliad grant Llywodraeth yn cyfarch y galw ychwanegol am wasanaethau gofal. Nodwyd o’r £2miliwn o arbedion fod gwerth £1m ohonynt yn arbedion effeithlonrwydd, ac i’w cynhaeafu, ond fod y £1m arall am gael effaith ar bobl Gwynedd, ac felly i’w osgoi. O ganlyniad i hyn mi fydd bwlch gweddilliol o £3miliwn i’w gyfarch drwy godi’r dreth Cyngor 3.9%. Pwysleisiwyd fod trafodaethau yn parhau am y gyllideb.

 

Esboniwyd fod bid cludiant wedi ei wneud gan yr adran er mwyn ariannu i’r lefel gwariant cyfredol. Eglurwyd fod y setliad grant Llywodraeth yn well nac beth oedd y Cyngor wedi ei ddisgwyl, ac yn cwrdd â chwyddiant, os nad yn cwrdd â’r twf mewn galw am wasanaethau, ac o ganlyniad fod y Cabinet wedi penderfynu peidio cynhaeafu’r cynllun arbedion cyffredinol ar gyfer Ysgolion.  Felly, bydd arbedion ddim yn amharu ar y gymhareb disgybl:athro yn y fformiwla dyrannu rhwng 2019/20 a 2020/21.

 

Esboniwyd nad oedd y sefyllfa yn glir ar gyfer 2020/21 eto, ond bydd rhaid cael penderfyniad y Cyngor llawn ar Gyllideb 2020/21 ar y 5ed o Fawrth 2020.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     O ran cyfraniadau pensiwn athrawon, eglurwyd fod y cynnydd o Fedi 2019, a ni ddisgwylir newid pellach o Fedi 2020.

¾     O ran cynlluniau arbedion i ysgolion, nodwyd nad oedd y Cabinet am gynhaeafu’r cynllun am Adnoddau staff dysgu. Ychwanegwyd fod Aelodau wedi cefnogi safbwynt ysgolion a bod y sefyllfa ariannol ddiweddaraf wedi galluogi’r Cyngor i allu osgoi’r arbedion hyn.

 

 

9.

CYTUNDEBAU LEFEL GWASNAETH pdf eicon PDF 75 KB

Adroddiad gan Owen Owens

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Tywyswyd y Fforwm drwy’r tablau sydd y cynigion ar gyfer y tair blynedd nesaf. Mynegwyd fod ymgynghoriad wedi ei gynnal ac amlygwyd addasiadau rhwng fersiynau newydd a hen y cytundebau. Mynegwyd fod yr adroddiad yn gofyn am sêl bendith i’r cytundebau.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Amlygwyd fod taenlen wahanol yn y Cyfrifoldebau Awdurdod / Ysgolion yn y cytundeb Eiddo. Mynegwyd fod hyn oherwydd ei fod yn wahanol yn yr Ysgolion Cynradd ac Uwchradd.

 

            Penderfyniad

Rhoddwyd sêl bendith ar gynnig y Cytundebau Lefel Gwasanaeth a oedd i’w gweld fel  atodiadau i’r adroddiad hwn i ysgolion.

 

10.

DYDDIAD CYFARFOD NESAF

Bydd y cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal yn Ystafell Dwyryd, Penrhyndeudraeth ar yr 2il o Fawrth 2020.

Cofnod:

Nodwyd y bydd y cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal ar yr 2il Mawrth ychwanegwyd y bydd y rhaglen yn cynnwys yr isod:

1.    Strategaeth Ddigidol

2.    Gwasanaeth ADY

3.    Dyraniad Intergreiddio